FFYNHONNAU
GWENT
gan Eirlys Gruffydd
Flynyddoedd
yn ôl, y tro diwethaf y bu’r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghasnewydd, aethom
fel teulu i ymweld â nifer o ffynhonnau’r fro. Eleni gobeithiwn fedru gwneud
rhywbeth tebyg gan ei bod yn hen bryd bellach i’r drydedd gyfrol yn y gyfres Ffynhonnau
Cymru – Ffynhonnau’r De ymddangos. Dyma hanes rhai o ffynhonnau’r fro
a’r traddodiadau sy’n perthyn iddynt.
Buom
yn ymweld â Threlech a synnu a rhyfeddu at y tair carreg anferth sydd i’w
gweld yno ond mae ffynhonnau’r ardal yn hynod ddiddorol hefyd. Yn ôl
traddodiad roedd yma unwaith naw o ffynhonnau a phob un yn cael eu bwydo gan
darddiadau gwahanol ac yn gwella amrywiaeth o afiechydon. Erbyn hyn dim ond
pedair ffynnon sydd yn bodoli. Roedd Edward Lhuyd yn gwybod amdanynt gan fod
llawer o bobl yn tyrru atynt i wella scyrfi, colic ac anhwylderau eraill a daeth
y ffynhonnau haearn yn enwog yn y ddeunawfed ganrif.
Mae’r
pedair ffynnon yn weddol agos i’w gilydd a Ffynnon Ann neu’r Ffynnon
Rinweddol (SO504052) yw’r enwocaf ohonynt. Ffynnon â haearn yn ei dŵr yw
hi ac yn y mur o’i chwmpas mae seddau i bobl eistedd arnynt a dau gilfan
Mae’r tarddiad yn codi oddi mewn i fwa o gerrig dwy droedfedd o led a silff
o’i gwmpas a basn crwn dwy droedfedd ar draws i ddal y dŵr. Mae gwaith
cerrig cywrain a chadarn o gwmpas y ffynnon. Yma roedd yn arferiad i daflu
carreg i’r dŵr a gwneud dymuniad. Pe na ddeuai ond ychydig o swigod i’r
wyneb byddai’n rhaid aros cryn dipyn cyn i’r dymuniad gael ei wireddu. Pe
bai llawer o swigod yn ymddangos deuai’r dymuniad yn ffaith mewn fawr ddim o
amser. Pe
na ddeuai swigod o gwbl yna ofer y dymuno a’r dyheu.
Roedd
yn gred gyffredinol bod amhuro dŵr ffynnon yn sicr o ddwyn cosb i’w
ganlyn. Ceisiodd ffermwr a oedd yn berchennog ar y tir lle tarddai’r
ffynhonnau eu cau, ar wahân i un, a’i defnyddio i’w fantais bersonol ef ei
hun. Un diwrnod, fodd bynnag, daeth wyneb yn wyneb â dyn bychan o gorffolaeth
yn ymyl y ffynnon a dywedodd hwnnw wrtho y câi ei gosbi am wneud hynny ac na
fyddai dŵr yn llifo ar ei dir byth wedyn. Ailagorodd y dyn y ffynhonnau a
llifodd y dŵr ar ei dir unwaith yn rhagor. Nid yw’n syndod clywed fod
cred yn bodoli yn ardal Trelech fod y Tylwyth Teg yn dawnsio o gwmpas y
ffynhonnau ar noswyl Gŵyl Ifan ac yn yfed y gwlith o flodau cloch yr eos a
oedd yn tyfu o gwmpas y ffynhonnau.
Mae
yna dri lle o’r enw Llangybi yng Nghymru: yng Ngwynedd (SH4241), yng
Ngheredigion (SN6053) ac yng Ngwent (ST3796) ac mae ffynnon wedi ei chysegru
i’r sant yn y tri lle. Mae hanesion am
Cybi Sant a ffynhonnau sy’n gysygredig iddo ym Môn hefyd. Gellir dod o hyd i
Langybi (Gwent) wrth ddilyn y ffordd B4596 am dair milltir i’r de o Frunbuga.
Mae’r ffynnon yno gerllaw’r eglwys ac mae pwmp o’i blaen. Gall fod yn
anodd i’w darganfod gan fod tyfiant drosti ac mae’n edrych fel rhan o’r
clawdd wrthi i chi gerdded i lawr y ffordd gyda mur deheuol y fynwent. O edrych
arni’n fanwl gwelir bod gwaith cerrig cywrain iddi a’i bod ar ffurf bwa. Hyd
y gwyddom nid oes hanes na thraddodiadau am y ffynnon hon wedi goroesi ond
mae’n debygol iawn mai ohoni hi y ceid dŵr i fedyddio yn yr eglwys a’i
bod hefyd wedi diwallu angen y pentrefwyr am ddŵr ar un adeg gan fod pwmp
wedi ei osod yn ei hymyl.
Gellir
gweld Ffynnon Dewdrig (ST524912) ger cornel ogledd-ddwyreiniol Mathern House ym
mhentref Matharn (Mathern) ar y tir gwastad ger aber afon Hafren rhwng Casnewydd
a Chas-gwent. Brenin Morgannwg a sant oedd Tewdrig a’i fab Meurig hefyd yn
frenin ac yn sant. Pan oedd Tewdrig yn hen trosglwyddodd frenhiniaeth Morgannwg
i Meurig ac aeth i fyw i Dyndyrn (Tintern) fel meudwy. Yno ymddangosodd angel
iddo gan ddweud bod gelynion i Gristnogaeth, y Sacsoniaid, wedi dod i’r ardal
a bod angen iddo fynd i ganol y
Ym
mhlwyf Matharn, dim ond rhyw filltir a hanner i’r de-orllewin o Gas-Gwent, mae
lle o’r enw Pwll Meurig (ST5192) ac yma mae Ffynnon
Meurig. Yn ôl un
traddodiad hynafol roedd boncyff go fawr yn arfer bod yn y ffynnon a’r bobl yn
sefyll arno i olchi eu hwynebau. Pan ddeuai llanw uchel y gwanwyn byddai dŵr
o afon Hafren yn dod i fyny i’r ffynnon ac yn cludo’r boncyff i’r môr ond
ymhen pedwar diwrnod dychwelai’r boncyff yn wyrthiol i’r ffynnon unwaith
eto! Er mwyn ceisio gwrthbrofi fod rhywbeth y tu hwnt i’r cyffredin yn digwydd
i’r boncyff cymerodd rhyw ddyn lleol y pren o’r ffynnon a’i gladdu, ond o
fewn pedwr diwrnod roedd y boncyff wedi dychwelyd i’r ffynnon ac ymhen mis
roedd y dyn a fu mor haerllug â chladdu’r boncyff wedi marw.
Ar
dir Plas Llanofer roedd Ffynnon Gofer (SO31 08) ac roedd ganddi’r enw o fedru
gwella cloffni. Byddai’n arferiad i gleifion adael eu baglau a’u ffyn ger y
ffynnon fel arwydd o’u gwellhad. Yn agos i Lanofer roedd Ffynnon Angoeron ac
arferid taflu pinnau wedi eu plygu yn ogystal â botymau fel offrwm i’r
ffynnon cyn gwneud dymuniad ond nid oedd cadw’r dymuniad yn gyfrinach neu ni
châi ei gwireddu. Yn ardal Llandeilo Bertholau (SO3116) roedd nifer o
ffynhonnau pwerus a rhinweddol yn ôl Edward Lhuyd. Roedd rhai ar y bryniau ac
eraill ar y dolydd a gallent wella amrywiaeth o afiechydon ac anhwylderau megis
clwyfau a doluriau crawnllyd a lludiog yn ogystal â symud defaid a brychni haul
oddi ar y croen.
Mae
llawer o ffynhonnau diddorol yng Ngwent megis Ffynnon Ffraid ger eglwys
Ynysgynwraidd (Skenfrith) (SO4520) a gysegrwyd i’r santes, a Ffynnon
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 16 Haf 2004
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc