Home Up

LLYGAD Y FFYNNON

Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Rhif 11  Nadolig  2001

.

FFYNNON SANTES MALING, SWYDD WEXFORD

 DEWI LEWIS

Mae'n debyg mai ffynnon enwocaf Swydd Wexford, Gweriniaeth Iwerddon, yw Ffynnon Dewi Sant yn Ballinaslaney. Mae cannoedd os nad miloedd yn heidio i'r ffynnon honno mewn pererindod i geisio iachâd o salwch corfforol a meddyliol.

Tua phum milltir ar hugain i'r gogledd o Ballinaslaney mae Ffynnon Santes Maling ym mhentref Ferns, ar y briffordd o Wexford i Ddulyn. Er mai pentref bychan o ran maint yw Ferns mae yno gadeirlan, abaty a ffynnon sanctaidd ac mae’n llecyn delfrydol i dreulio munud o dawelwch. Gellir parcio'n hwylus o flaen y gadeirlan cyn cerdded i lawr yr allt i ymweld â'r ffynnon.

Mewn un ystyr gellir dweud bod dwy ffynnon yma neu o leiaf dau adeilad. Mae'r adeilad cyntaf, sef y mwyaf trawiadol, ar ochr y ffordd fawr. Dyma safle'r ffynnon wreiddiol. Bendithiwyd y ffynnon hon gan y Santes Maling, a fu farw yn 691, er clod i'r Santes Acoan Maedog a fu farw yn 632. Gellir gweld felly bod y safle yn un hynafol iawn. Wrth gwrs nid yw'r adeilad presennol yn rhan o'r ffynnon wreiddiol. Fe'i codwyd yn 1847 er mwyn diogelu purdeb y cyflenwad dŵr a'i gadw rhag llygredd a allai achosi afiechyd. Yn ddiddorol defnyddiwyd cerrig o Gapel Clones, a adeiladwyd yno yn y drydedd ganrif ar ddeg, a cherrig o'r gadeirlan gerllaw er mwyn creu tŵr twt o gwmpas y ffynnon. Erbyn heddiw mae'r gwaith cerfio oedd ar y cerrig wedi gwisgo oherwydd y tywydd. Yn anffodus nid yw'n bosibl mynd i lawr at y ffynnon gan fod giât fawr ar ben y fynedfa. Wrth edrych drwy'r giât gellir gweld bod rhaid disgyn sawl gris er mwyn cyrraedd y dŵr. Nid yw'n bosibl gweld y dŵr ond gellir ei glywed yn llifo.

 

Saif yr ail adeilad tua hanner can llath i lawr yr allt y tu ôl i'r adeilad cyntaf. Mewn gwirionedd dyma'r gofer o'r ffynnon wreiddiol. Mae'r adeilad yma yn un llawer mwy modern ond dyma'r fan lle gellir yfed a theimlo'r dŵr. Mae'n risialaidd a chlir ac yn oer iawn i'w yfed ac yn byrlymu allan mewn pant bach wrth droed yr adeilad. Taflwyd darnau arian i'r dŵr, yn wir roedd yna ffortiwn go lew o hyd braich. Tybiai fy mab, Sion, mai'r peth doethaf i'w wneud oedd cymryd y pres cyn i neb arall ei gael! Mae'n siŵr gen i fod y Gwyddelod yn genedl llawer mwy gonest. Ar ben yr adeilad ceir croes ac oddi tani gilfach er mwyn gadael llun neu grair. Roedd llun yno pan ymwelais â'r lle ac arno ysgrifennwyd y geiriau Sister Winifred, Wells Pilgrimage, August 2001. Mae'n ymddangos, felly, bod pererinion yn ymweld â'r ffynnon hon a rhai eraill yn yr ardal, mae'n siŵr.

Holais sawl un yn yr ardal am wybodaeth am y ffynnon ond nid oedd neb yn gallu dweud fawr ddim amdani dim ond ei bod yno. Dyna'r stori hefyd mewn siop lyfrau yn Kilkenny ond rhaid dweud fod gan y perchennog dipyn mwy o ddiddordeb mewn ffynhonnau gan ei bod wedi byw yng Nghymru am gyfnod. Yn ei barn hi roedd y Gwyddelod, ar y cyfan, yn amharchu'r ffynhonnau sanctaidd - mater o farn, dybiwn i, ond mae'n siŵr fod yna wersi i'w dysgu ym mhob maes. Os am fynd am daith i swydd Wexford gellir ymweld â safle'r ddwy ffynnon o fewn hanner diwrnod a chael amser i fyfyrio ar arwyddocad safleoedd o'r fath.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNHONNAU PLWYF LLANGELER 

A PHENBOYR

 Dau blwyf yn sir Gaerfyrddin, ger y ffin â Cheredigion, yw Llangeler a Phenboyr. Yn 1899 ysgrifennwyd llyfr ar hanes y ddau blwyf gan David E. Jones. Dyma ddetholiad o'r hyn sydd ganddo i'w ddweud am ffynhonnau'r ardal ar dudalennau 11 -14.

Y mae'r ddau blwyf yn gyfoethog o ffynhonnau. Ceir ffynnon ragorol yn byrlymu yn ymyl pob pentref ac ni raid i bobl unrhyw ffermdy na bwthyn fynd ymhell, hyd yn oed yn yr haf, i chwilio am ddwfr at eu gwasanaeth. Y ffynhonnau mwyaf grymus ydynt Ffynnon yr Orfa a Ffynnon Christmas ar ros Llangeler. Byrlyma nentydd yn ffrydlif hoyw o'r ffynhonnau hyn. Mae ffynhonnau parhaol ar y rhai yr ymddibynir gan drigolion y pentrefi a'r cymdogaethau sydd nesaf atynt. Nid yw y nifer fwyaf ohonynt byth yn pallu. Saif Ffynnon Capel gerllaw Capel Bach neu Capel Drindod rhwng Drefach a Felindre. Mae Ffynnon Cybyddion yn allt y Goitre ac yn ôl traddodiad dywedir fod yr hen ffordd i Gaerfyrddin yn mynd heibio iddi yn yr amser gynt. Flynyddoedd yn ôl roedd Ffynnon Ffald ym mhentref Felindre ar safle ffald berthynol i Gwrt-Clyd, Maenor Emlyn Uwch Cuch. Arferai trigolion Llangeler dynnu dwfr o Ffynnon Dderw a Ffynnon Geler. Nid oes un o'r ddwy yn awr yn agored i'r cyhoedd. Mae y naill yn eiddo i berchennog Castell Geler a'r llall wedi ei chau i fyny i gyflenwi plas Llysnewydd a dwfr. Roedd Ffynnon Wichell ar odre rhiw Aberlleiniau yn ffynnon gryf iawn. Nid anaml y gwelwyd rhai o Gastellnewydd, ar dymhorau sychion, yn dod i gyrchu dwfr ohoni.

Mae rhai ffynhonnau yn y plwyfi a ystyrid yn gysegredig a cheir eraill sydd a'u henwau yn awgrymu eu bod, un amser, yn cael eu hystyried yn ffynhonnau o'r fath. Roedd Ffynnon Geler ar ddarn o dir oedd, un amser, yn perthyn i eglwys Llangeler. Yr oedd y ffynnon hon yn gysegredig i Geler Ferthyr a dywed traddodiad fod cleifion ac anafusion o bellterau yn talu ymweliad â hi ac yn ymolchi yn ei dyfroedd a chael iachad a llawer o weithredoedd nerthol a wnaud drwy rinwedd ei ffrydiau yn yr amser gynt. Mae Ffynnon Llawddog mewn gallt gerllaw eglwys Penboyr a elwid yn Bron Llawddog. Ffynnon gysegredig ydoedd hon i Lawddog, nawdd sant eglwys Penboyr. Y mae amryw o ffynhonnau yma a thraw yng Nghymru yn dwyn ei enw, a diamheu fod ei dyfroedd yn cael eu hystyried yn feddyginiaethol.

Mae Ffynnon Fair ar dir Llwynffynnon ac mae Capel Mair yn sefyll heb fod ymhell o'r ffynnon yma. Yng ngallt Ffynnon-y-Forwyn ger Llysnewydd mae Ffynnon-y -Forwyn. Ceir Ffynnon Beder yng Ngwmpengraig. Enwa y prifathro John Rhys Ffynnon Dudur hefyd fel yn perthyn i'r dosbarth hon o ffynhonnau.

Mae rhai Ffynhonnau Metalaidd (Chalybeate Springs) i'w cael yn y plwyfi hyn i'r rhai y cyrchir gan lawer o ddieithriaid yn ystod misoedd yr haf. Nid yw y Cynghorau Plwyfol a Dosbarthol na'r plwyfolion hyd yn hyn wedi cymeryd y drafferth lleiaf i wneud y ffynhonnau hyn yn hysbys na'u haddurno mewn un modd er mwyn eu gwneud yn atyniadol, onide, diamheu y buasent yn gyrchfannau llawer rhagor o ddieithriaid. Y ffynhonnau metalaidd ydynt Ffynnon Beca gerllaw Felindre. Dywed Carlile yn ei Topographical Dictionary taw tua diwedd y ganrif ddiwethaf y darganfuwyd y ffynnon hon. Saif mewn dyffryn hynod o dlws a theg ond erys, o bosib, mor ddiaddurn os nad mwy felly, nag oedd bedwar ugain mlynedd yn ôl. Saif Ffynnon y Geulan (Goulan) Ddu ar ros Llangeler, gerllaw Brwynduon. rhad ei dwfr i afon Shedi. Yn y blynyddoedd diwethaf y darganfuwyd Ffynnon Llanwrtyd neu Ffynnon y Beca y Rhos. Mae hon yn ffynnon rhagorol a saif ar ochr y ffordd newydd sy'n croesi Rhos Llangeler o Bwlchygroes i Brwynduon, heb fod ymhell o'r Garn Wen. Llifa ei dwfr i Nant Einon.

Enwau meysydd yn Cwmtywyll a Phantyporthmon yw Cae Ffynnon Floiddast a Bron Ffynnon Floiddast. Mae ffynnon o'r enw ar y cae ar ben y bryn. Gall taw bloeddwest ydy'r ffurf cywir lle y canai y corn i giniaw.

Tybed a oes plwyfi eraill yng Nghymru a'r fath gyfoeth o ffynhonnau wedi eu cofnodi? Mae yma faes ymchwil bendigedig i rywun ifanc sydd am astudio daearyddiaeth a hanes lleol ei fro. Ganrif wedi i'r gyfrol gael ei chyhoeddi nid oes dim, hyd y gwyddom, wedi ei wneud gan gynghorau lleol i gadw i'r oesoedd a ddêl y ffynhonnau a fu.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

 

Mae'r ffynnon arbennig hon wedi ei lleoli islaw'r eglwys, uwchlaw'r afon. Mae arwydd yn dangos ei lleoliad a grisiau yn arwain i lawr ati. Cafodd y safle ei adnewyddu yn 1990 ac mae'n amlwg yn brosiect a gostiodd gryn lawer i'w gwblhau. Ers talwm roedd y ffynnon yn enwog am wella'r crud cymalau ac anhwylderau ar y croen. Roedd hefyd yn ffynnon a allai amddiffyn pobl rhag cael eu rheibio a'u melltithio gan wrachod gan fod rhinwedd arbennig yn perthyn i'r dŵr. Fe'i defnyddid fel dŵr swyn. Cariwyd y dŵr o'r ffynnon i'r eglwys ar gyfer bedyddio plant. Mae pensaerniaeth y ffynnon yn diddorol gan ei bod ar siâp anarferol. Codwyd sedd gerllaw iddi ac mae'n amlwg fod angen cryn ofal i gadw'r lle yn ddestlus. Gan fod y ffynnon yn un ddofn rhoddwyd grid metal dros y dŵr ond nid yw hyn yn amharu at y mwynhad o eistedd gerllaw'r dyfroedd tawel a gwrando ar furmur yr afon yn y dyffryn islaw. Mae'n ffynnon ddiddorol sy'n hawdd dod o hyd iddi ac yn werth ymweld â hi.

 FFYNNON NONNI, Llanllwni, sir Gaerfyrddin

Yn ystod mis Awst buom yn chwilio am olion y ffynnon hon. Yn ôl yr wybodaeth yng nghyfrol Francis Jones, The Holy Wells of Wales, roedd ar dir ffarm Maes Nonni nid nepell o olion Castell Nonni. I gyrraedd y ffarm rhaid oedd troi i ffordd gul gyda thalcen Capel Nonni, sef addoldy'r Annibynwyr. Wedi croesi mwy nag un pentwr o wellt a oedd yn llawn diheintydd i rwystro llediad clwy'r traed a'r genau, daethom i fuarth ffarm Castell Nonni. Ni wyddai'r ferch ifanc o Gymraes yno ddim am y ffynnon ond roedd ganddynt gae y credid bod olion lleiandy yno yn rhywle o dan y pridd. Cyfeiriodd ni at dŷ ar ochr y ffordd rhwng Castell Nonni a'r briffordd. Teulu o Saeson oedd wedi ymgartrefu yma ac roedd y castell ar eu tir ond nid oedd sôn am ffynnon yn unman. Serch hynny, credent fod y cyn-berchennog wedi dweud wrthynt fod ffynnon yno unwaith a'i bod yn diwallu anghenion y rhai a adeiladodd y tŷ ar ddechrau'r ugeinfed ganrif ac a fu'n ffermio'r tir gerllaw'r castell. Gallwn ddweud gyda pheth sicrwydd felly fod lleoliad y ffynnon arbennig hon wedi ei cholli.

FFYNNON DEILO, Llandeilo, sir Gaerfyrddin

(Diolch i Rhobert ap Steffan o Langadog am dynnu ein sylw at y wybodaeth ganlynol o'r Carmarthen Journal, Awst 16 a 22 eleni)

Gorffenwyd y rhan gyntaf o'r cynllun i adnewyddu eglwys y plwyf, Llandeilo, ar gost o £56,000. Bydd yr holl waith yn costio £250,000. Mae CADW wedi rhoi 40% o'r cyllid ar gyfer y cynllun a'r gynulleidfa leol yn codi'r gweddill. Mae'r rhan o fur y fynwent, sy'n cynnwys Ffynnon Deilo, wedi ei hailadeiladu. Ar ôl glaw trwm ymddangosodd craciau yn y wal yn Stryd yr Eglwys ac roedd pryder y gallai adeiladwaith y ffynnon ei hun, sydd mewn cilfach ddofn yn y wal, ddymchwel. Mae twnel 40 troedfedd o hyd yn cysylltu Ffynnon Deilo a siambr danddaearol o dan y fynwent lle mae bedyddfaen hynafol. Roedd y siambr yn rhan o'r hen abaty ac mae'n bur debyg mai yma, yn y chweched ganrif, y bedyddiodd Teilo Sant y rhai cyntaf i dderbyn Cristnogaeth trwy ei bregethu.

FFYNNON TWROG, LLANDDAROG, sir Gaerfyrddin.

Yn y rhifyn blaenorol o Llygad y Ffynnon ceir adroddiad diddorol iawn gan Meurig Voyle, Dinbych, am Ffynnon Cae Person ger yr eglwys yn Llanddarog, pentref rhyw chwe milltir o Gaerfyrddin i gyfeiriad Llanelli. Aethom i ymweld â'r ffynnon yn ystod mis Awst a sylweddoli heb unrhyw amheuaeth mai ffynnon gysegredig Twrog Sant ydyw. Gallwn ddweud hyn oherwydd ei lleoliad cyfleus i'r eglwys a gysegrwyd i Twrog, a'r ffaith fod llwybr yn arwain gyda mur y fynwent at y ffynnon. Yn anffodus, oherwydd tyfiant trwchus, nid oedd modd mynd ati i'w harchwilio. Teimlwn bod angen ceisio argyhoeddi'r awdurdodau eglwysig o bwysigrwydd y ffynnon arbennig hon a rhai tebyg iddi. Maent yn rhan o'n treftadaeth sy'n prysur ddiflannu oherwydd esgeulustod.

FFYNNON CYNGAR, LLANGEFNI, MÔN

Gorffennwyd y gwaith o adfer y ffynnon ac fe'i hail gysegrwyd. Addurnwyd y ffynnon mewn dull tebyg i'r hyn a wneir yn Swydd Darby drwy wasgu petalau i mewn i ffram o glai ac amlinelliad o lun y sant arno. Mae'r ffynnon gerllaw'r eglwys lle mae'r llwybr yn arwain i lawr drwy'r coed i gyfeiriad yr afon. Ewch yno i'w gweld os cewch gyfle. Dyma enghraifft o beth all un gangen o Sefydliad y Merched gyflawni gyda dyfalbarhad a chymorth crefftwyr lleol.

FFYNNON FAIR, LLANFAIR-IS GAER, ger Caernarfon

Ers peth amser mae Cledwyn Williams, Llanrug, wedi bod yn ceisio adfer y ffynnon arbennig hon. Cafodd ei chladdu wrth i ffordd osgoi'r Felinheli gael ei hadeiladu. Mae Cledwyn wedi cysylltu â Mr Daimond, Syrfwr Cyngor Sir Gwynedd, er mwyn trafod y trefniadau i ymweld â'r safle ac i'r awdurdodau wybod lle yn union roedd y ffynnon wreiddiol. Mawr obeithir wedyn y gellir adeiladu ffynnon newydd i gronni gofer y dŵr sy'n dal i lifo o Ffynnon Fair. Diolch i Cledwyn am ei frwdfrydedd.

FFYNNON TYSILIO, YR WYDDGRUG, sir y Fflint.

 

Mae cangen yr Wyddgrug o gylch cyd-enwadol CYTUN wedi penderfynu gwneud pererindod flynyddol at Ffynnon Tysilio ar dir ystad Rhual ger yr Wyddgrug. Mae'r ffynnon ar y cae a ddefnyddiwyd fel maes carafannau i Eisteddfod Bro Delyn yn 1992. Adnewyddwyd y ffynnon ar gyfer yr achlysur hwnnw ond erbyn hyn mae wedi llanw â dail a brigau unwaith eto. Heb amheuaeth mae hon yn hen ffynnon a chredir mai Tysilio oedd sant gwreiddiol yr Wyddgrug cyn i'r Normaniaid ail-gysegru llawer o'r eglwysi i Fair a Phedr. Yn yr Oesoedd Canol roedd delw o Grist ar y groes yn yr eglwys a dywedir fod y ddelw yn wylo ac fe'i galwyd yn Ddelw Fyw. Credir bod pererinion yn ymweld â'r ffynnon wedi iddynt fod yn yr eglwys. Yn ddiweddarach defnyddiwyd y ffynnon fel man bedyddio gan Fedyddwyr yr ardal, felly bu mwy nag un enwad yn gysylltiedig a'r fan arbennig yma. Syniad gwych yw cynnal y bererindod flynyddol. Bydd hyn yn sicrhau fod y ffynnon yn cael ei glanhau'n rheolaidd ac y bydd pawb yn gwybod amdani. Beth am i eglwysi mewn ardaloedd eraill efelychu'r Wyddgrug?

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn dangos diddordeb yng ngwaith ein cymdeithas ac yn barod i ddiogelu'r ffynhonnau sydd ar y tiroedd o dan ei gofal. Dyma beth yw newyddion da o lawenydd mawr. Ceir mwy o fanylion yn y rhifyn nesaf o Llygad y Ffynnon.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

EICH LLYTHYRAU

Annwyl Olygydd.

Cefais fy magu yn ffermdy Pantyfedwen ar bwys Ystrad-fflur a chawsom ein dŵr o Ffynnon Llygaid. Y traddodiad oedd fod y ffynnon wedi cael ei darganfod gan fynachod Ystrad-fflur a'i bod yn gwella clwyfau llygaid. Rwyf bellach yn byw mewn tŷ a fu unwaith yn dafarn ac roedd ffynnon o dan y tŷ i gadw'r cwrw'n oer. Yn anffodus llanwyd y seler i mewn ac mae'r dŵr nawr yn rhedeg mewn pibau plastig dan y seler newydd ac allan i'r cae. Hoffwn hefyd dynnu eich sylw at fap a baratowyd gan fy nhad, John Jones, a fu'n fforestwr dros Tywi Fechan (o Ystrad-fflur i Randir-mwyn) Paratowyd y map i'r Comisiwn Coedwigaeth ar ymddeoliad fy nhad. Roedd wedi ei farcio a thyddynod a ffynhonnau a oedd yn y goedwig.

Jenny Heney, Merthyr Tudfil.

Annwyl Olygydd…

Dyma wybodaeth am nifer o ffynhonnau o ogledd Ceredigion. Mae Ffynnon Goch ar y ffordd i fyny i Lynnoedd Teifi ger Bwlch Graig Fawr. Roedd yfed o hon yn achosi i rhai gael y 'bib wyllt'! Mae yna Ffynnon Mitchell heb fod ymhell o Fwlch-Gwynt yng Nghwmystwyth. Mae'n ffynnon dda iawn ac yn dal i rhoi dŵr i dŷ Pant-y Fedwen ym Mhont Rhyd Fendigaid. Mae lleoliad Ffynnon Dyffryn Tawel rhyw hanner milltir yr ochr uchaf i'r fynachlog fawr yn yr un ardal. Ar un adeg roedd llidiart ar draws y ffordd a rhwng hwnnw a'r afon roedd y ffynnon. Rhwng ffermdy Lovesgrove a phentref Capel Dewi (Aberystwyth) mae cae o'r enw Cae Ffynnon Wen ac yn y saithdegau roedd dŵr yn dal i lifo lawr i'r fferm. Ar dir Pont ar Gamddwr, Swyddffynnon, mae ffynnon mewn cae o'r enw Cae Pistyll. Roedd ffynnon a arferai roi dŵr i drigolion Ponterwyd y tu ôl i lle mae'r siop a'r swyddfa bost heddiw ac mae'n dal i redeg yn gryf. Roedd ty o'r enw Ffynnon Afan yn Llanafan, Aberystwyth. Bellach Llwyn Onn yw enw'r tŷ.

Mae yna ffynnon, neu yn hytrach lle wedi ei naddu yn y graig yn dal llond het o ddŵr i deithiwr neu geffyl, ger Coed y Bongam yng Nghwm Ceulan, Tal-y-bont, ar dir Carreg Cadwgan. Roedd wedi ei llwyr orchuddio ond glanheuais hi tua deunaw mlynedd yn ôl ac rwy'n dal i wneud o hyd yn achlysurol. Roedd fferm o'r enw Ffynnon Oer yng Nghapel Seion, Aberystwyth ond nid oes sicrwydd bod y ffynnon a roddodd enw i'r lle ar gael yn awr. Mae yna dŷ o'r enw Ffynnon Ddewi yn Ffos y Ffin ger Aberaeron.

Dyma hanes dwy ffynnon o ardal Dolgellau. Roedd Ffynnon y Cwpan Haearn ar dir ystad Nannau. Yn ôl hanes roedd yr hen syr wedi rhoi cwpan a tsiaen wrtho ger y ffynnon er mwyn i'r bobl gael yfed y dŵr. Ffynnon rinweddol o'r un ardal yw Ffynnon Gwenhydiw. Bydd ei dŵr yn cadw'r cymalau yn ystwyth. Tywysoges neu foneddiges oedd Gwenhydiw a oedd yn arfer mynd â'i geifr yno bob dydd i yfed gan gredu bod y rhinwedd yn dod allan yn y llaeth. Flynyddoedd lawer wedyn aeth rhywun i gloddio am y ffynnon gan obeithio gwneud lle i ymdrochi ynddi. Digiodd y ffynnon ac ymddangosodd dros ffin y perchennog ar dir rhywun arall. Mae Ffynnon Cnydiw gerllaw.

Erwyd Howells, Capel Madog, Aberystwyth.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CROESO I AELOD NEWYDD

Jenny Heney, Merthyr Tudfil.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

PYTIAU DIFYR

FFYNNON BROFFWYDOL MILFFORDD.

Codwyd yr hanes yma o gyfrol Brian John, Pembrokshire Ghost Stories:

Yn 1770 daethpwyd o hyd i garreg yn Ffynnon Priordy'r Pill ger Milffwrdd, sir Benfro. Roedd arysgrif mewn Lladin arni oedd yn dweud fel a ganlyn:

Pan fydd y rhan uchaf o'r dwyrain wedi ei godi yn nhŷ Duw bydd tref fawr yn cael ei hadeiladu. I'w harbwr daw, gyda phob gwynt a phob llanw, farsiandiwyr o bob gwlad fel genyn ar flodau.

Erbyn 1790, pan adeiladwyd tref Milffwrdd, dechreuodd pobl gredu fod yr hyn a ysgrifennwyd ar y garreg yn fath o broffwydoliaeth.

Yn 1798 suddwyd y llong ryfel Ffrengig L'Orient (Y Dwyrain) gan yr Arglwydd Nelson ym Mrwydr y Nil. Un o'r pethau a gludwyd adref o'r frwydr oedd y darn uchaf o hwylbren y llong honno. Fe'i rhoddwyd gan Nelson i'w gariadferch, Lady Emma Hamilton, ac fe roddodd hithau'r pren i Eglwys y Santes Catherine ym Milffwrdd, ar achlysur gosod carreg sylfaen yr adeilad yn 1802. Pan orffennodd y gwaith adeiladu yn 1808 ceisiodd Charles Greville, adeiladydd tref Milffwrdd, osod y darn o'r hwylbren ger llestr pridd anferth o'r hen Aifft oedd i'w defnyddio fel bedyddfaen yn yr eglwys. Gwrthododd yr esgob ganiatâd i wneud hyn. Credai nad oeddynt yn bethau addas i'w cael mewn eglwys am y deuai'r llestr o gefndir paganaidd ac roedd y darn o'r hwylbren yn atgoffa pawb o'r gwaed a'r bywydau a gollwyd yn y frwydr. Rhaid fu i Charles Greville fodloni ar adael y ddau beth ym mynedfa allanol yr eglwys.

O gwmpas 1830 diflannodd y darn o'r hwylbren ond fe'i darganfuwyd yng nghanol hen breniau y clochdy yn 1908 a'i adfer i'w le. Yna, yn 1820, fe'i cymerwyd i Lundain a rhoddwyd darn yr un fath yn union, wedi ei gwneud gan grefftwr lleol, yn ei le. Ni chafodd y darn o'r hwylbren fawr o barch gan drigolion Milffwrdd a hyn, medd rhai, sy'n gyfrifol am na fu fawr o lewyrch ar y lle. Ond tybed o ble y daeth y garreg a'r ysgrifen arni yn y lle cyntaf a pham ei bod?

FFYNNON LLANBEDR-GOCH, Môn

Yng nghylchlythyr cyfredol y Cyngor Archeoleg Prydeinig sy'n sôn am ddatblygiadau yng Nghymru, nodir bod ffynnon o'r Oesoedd Canol wedi cael ei darganfod yn Llanbedr-goch. Cafodd ei chloddio ddiwedd Awst a dechrau Medi 2001.

 FFYNNON EILIAN, LLANEILIAN YN RHOS, uwch Bae Colwyn

Gwelwyd y dyfyniad hwn o hanes achos llys yn erbyn John Evans neu Jac Ffynnon Eilian yn Cymru Cyfrol 3, tudalen 100. Mae'r erthygl yn dyfynu o'r Gwyliedydd, 1831, tud 216. Cadwyd y sillafu a'r orgraff wreiddiol.

John Davies a gyhuddwyd o dderbyn saith swllt oddiar Elizabeth Davies drwy gymmeryd arno y gallai iachau ei gwr, Robert Davies, o'r afiechyd a'i blinai wrth dynu ei enw o'r ffynnon.

Elizabeth Davies a dystiodd fel hyn: Y mae fy ngwr wedi bod yn afiach am lawer o flynyddoedd. Clywais am rinweddau Ffynon Eilian. Teithiais 22 filltir i ymgynghori a'r carcharor, yr hwn oedd oruchwyliwr y ffynon. Gofynais iddo a oedd enw fy ngwr yn y ffynon; atebodd, na wyddai yn iawn, ond yr anfonai i edrych. Danfonodd eneth fechan, yr hon a ddychwelodd gyda dysgliad o gerig bychain, a llechau wedi eu nodi ag amrywiol lythrenau. Edrychodd arnynt, a dywedodd nad oedd enw fy ngwr yn eu plith. Anfonodd yr enethig yr ail dro a dychwelodd gyd ag ychwaneg, y rhai a daflwyd ar y bwrdd; gwelais gareg a'r llythyrenau R.D. a thri croes arni. Dywedais, ai hwn yw enw fy ngwr? atebodd yntau, ie. Dywedais nad oeddwn i ddim wedi fy moddloni, a gofynais a oedd enw fy ngwr mewn llyfr. Atebodd y carcharor "Ni roddais i mo enw eich gwr yn y ffynon, onide buasai hefyd yn y llyfr, ond dangosai y dwfr pa un ai enw ef oedd efe ai peidio." Aethom at y ffynon, yr hon sydd yn yr ardd yn agos at dy y carcharor. Cymerodd ychydig o ddwfr allan o'r ffynon, a dywedodd, "Y mae y dwfr yn troi ei liw, enw eich gwr ydyw yn ddigon sicr." Gofynais pa faint a gostiai i mi dynu enw fy ngwr allan o'r ffynon: dywedodd mai deg swllt oedd y pris isaf. Dywedais wrtho nad oedd genyf ddim arian, ond y gallwn ddyfod a hwynt drachefn. Gofynais genad i fyned a'r gareg adref, rhoddodd ganiatad i mi; ond nid oeddwn i'w dangos hi i neb yn y byd. Gofynais pa beth a wnawn a hi, atebodd, "Rhaid i chwi ei malurio hi, a'i rhoddi hi gyda ag ychydig halen yn y tan!" Wedi hynny aethum adref.

Ymhen deufis aethum yno drachefn gyda W. Davies, fy mrawd y'nghyfraith. Yr oedd y carcharor yn groes iawn am fy mod wedi hysbysu yr amgylchiad i Mr. Clough, Ynad Heddwch; ond dywedodd y gwnai rywbeth imi er mwyn fy mrawd y'nghyfraith. Dywedodd y byddai raid i mi gael costrelaidd o ddwfr y ffynon, a rhoddi naw swllt am dano. Cytunais ag ef am am saith swllt: 'Yr hyn (ebef) raid i chwi roddi i'r ffynon." Rhoddais yr arian i'r ffynon, ond cymerodd y carcharor hwynt, a dododd hwynt yn ei logell. Yna swniodd y carcharor rhyw eiriau, y rhai oeddynt yn debyg i Ladin, ond ni allwn ddeall dim ond enw St. Elian. Y carcharor a ddywedodd fod yn rhaid i fy ngwr gymmeryd y dwfr dair noswaith olynol, a'r un pryd darllen allan ran o'r 38 Salm. Gofynais iddo pwy a roddodd enw fy ngwr yn y ffynon, ond ni fynegodd i mi; eithr dywedodd, os dymunwn i, y rhoddai efe y gwr hwnw yn y ffynon, ac y dygai arno pa glefyd bynag yr ewyllysiwn i. Telais y saith swllt iddo.

Y carcharor yn ei amddiffyniad a ddywedodd na ddarfu iddo ef erioed anfon am neb i ddyfod i'r ffynon ac ni ddywedodd fod unrhyw rinwedd yn y dwfr; ond os oedd rhyw un yn credu fod, ac yn ewyllysio rhoddi arian iddo ef, derbynai gymmaint ag a roddent hwy. Cafwyd ef yn Euog. Y Barnydd a ofidiai yn fawr fod dynion mor ofer-goelus ac mor anwybodus ag i gredu y gallai dyn drwg y fath foddion leihau neu drymhau clefyd ar ddyn arall. Dyfarnwyd y carcharor i Chwe mis o garchar, a llafur caled.

 FFYNNON COED LLAN, LLANFYLLIN , Powys.

Ar yr un dudalen yn Cymru Cyfrol III ceir yr wybodaeth a'r gerdd ganlynol gan fardd o'r enw Henri Myllin :

Y mae Ffynnon Coed y Llan, neu Ffynnon St. Myllin, mewn craig ar fin y ffordd sy'n arwain o reithordy Llanfyllin i Ben Coed Llan. Yn ei dyfroedd iachusol yr arferai Myllin Sant fedyddio ei ganlynwyr drwy drochiad - y cyntaf ym Mhryden, meddir, i fedyddio felly. Perthyn llawer o lên gwerin i'r ffynnon henafol hon.

Hyfryd yw ffynnon Coed Llan                        Chwedleuwyd Cryn lawer erioed

Hyfryd yw'r graig y llon dardda;                     Yn ymyl y ffynnon risialog,

Cynnes a swynol yw'r fan,                               Gan brydferth rianod bob oed

Cynnes yn hanes hen Walia;                             Am eu cariadau godidog;

Yma bu Myllin y sant,                                      Ac eto chlybuwyd 'rioed fod

Tystia yn gyfiawn hen gofion,                           Y ffynnon yn adrodd hen chwedlau,

Yn hyfryd bedyddio ei blant                             Na byth yn rhoi gormod o glod

Yn nyfroedd grisialaidd y ffynnon;                   Nac anghlod i'r mwynion lancesau.

 

                                    Hyfryd yw Ffynnon Coed Llan,

                                    Llifa er's cannoedd o flwyddi,

                                    Dioda y nerthol a'r gwan,

                                    Dioda yr henaidd a'r heini;

                                    A phara i redeg wna hon

Am oesau sydd eto i ddyfod,

Pryd byddo y dewraf ei fron

Yn tewi ar waelod y tywod.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

MENTER MALDWYN A'R FFYNHONNAU

Yn ystod mis Awst cyfarfu swyddogion Cymdeithas Ffynhonnau Cymru, a Nia Rhosier, Pontrobert, un o'n haelodau mwyaf gweithgar, efo Arfon Hughes o Menter Maldwyn. Y gobaith yw y bydd taflen ddeniadol yn cael ei chynhyrchu yn dangos taith gerdded o gwmpas rhai o ffynhonnau Maldwyn erbyn y bydd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod yn Awst 2003. Mae'r prosiect yma yn un cyffrous iawn ac mae'n golygu ymweld â ffynhonnau'r fro, nodi eu lleoliad a'u cyflwr a chofnodi popeth fel bo modd i gerddwyr, yn bartion, unigolion neu'n deuluoedd ymweld â nhw. Bydd hefyd yn cynnwys cyfarwyddiadau ar lle i barcio'n gyfleus er mwyn ymweld â'r ffynhonnau. Eisoes mae Nia wedi dechrau ar y gwaith. Meddai mewn llythyr atom ddechrau mis Hydref:

Gair i'ch sicrhau 'mod i'n gyrru 'mlaen efo trefniadau i ymweld â ffynhonnau'r ardal hon ynghyd a thri chyfaill, Jill Turner o Lanfair Caereinion a Nigel Wallace a Paul Wigmore o Lanerfyl. Dysgwyr ydynt ac yn frwdfrydig iawn dros y syniad o daith gerdded o gwmpas y ffynhonnau yn Awst 2003. Bydd Jill a minnau'n dechre trefnu un daith, sef Ffynnon Fair a Ffynhonnau Maddox yn Llanfair, o fewn y mis nesaf, a bydd Nigel a Paul yn canolbwyntio ar ffynhonnau Llanerfyl a Garthbeibio (a Llangadfan o bosib). Gobeithiwn gyd-gyfarfod ym mis Chwefror i drafod ymhellach.

Mae'n braf iawn gweld y fath frwdfrydedd heintus ac mae hwn yn ddatblygiad cyffrous a diddorol iawn. Onid da o beth fyddai i ardaloedd eraill efelychu ein cyfeillion ym Maldwyn? Gallai teithiau cerdded fel hyn fod yn fodd i ddenu twristiaid i ardal yn ogystal â diogelu lleoliad a hanes ffynhonnau Cymru. Diolch i Arfon am y syniad a diolch i Nia a'i chyfeillion am fod mor barod i wneud y gwaith maes. Byddwn yn edrych ymlaen yn eiddgar at weld sut mae'r prosiect yn datblygu yn y dyfodol. (Gol.)

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNHONNAU PORTHMADOG

Dyma restr o ffynhonnau a fu unwaith yn diwallu anghenion trigolion Porthmadog cyn i ddŵr Llyn Tecwyn gyrraedd y tai. Diolch i Dewi Lewis am eu cofnodi. Tybed a oes rhywun sy'n gwybod am leoliad hen ffynhonnau mewn trefi eraill yng Nghymru? Os oes, beth am anfon gwybodaeth amdanynt i'r Llygad.

FFYNHONNAU MORFA LODGE: Roedd dwy ffynnon yma. Lleolid y gyntaf tua hanner ffordd i fyny'r drive ar y chwith ac roedd llwybr yn mynd ati. Gellid dod o hyd i'r llall ar yr ochr tu ôl i'r Eglwys Gatholig wrth fynd i fyny'r rhiw.

FFYNNON CARREG SAMSON: Roedd ar y dde wrth fynd am y golf links.

FFYNNON LÔN CEI: Mae hon dros y ffordd i'r slipway, wrth y graig. Flynyddoedd yn ôl byddai pobl yn mynd yno i olchi eu llygaid.

FFYNNON MOEL-Y-GEST: Roedd hon ger yr ochr allan i giât y fynwent gyhoeddus ar lôn Cricieth. Roedd ar bobol ofn mynd ati gan eu bod yn credu bod ysbryd yn symud o gwmpas y fynwent!

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

NADOLIG LLAWEN

 A BLWYDDYN NEWYDD DDA I CHI I GYD

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Anfonwch eich gohebiaeth at Y Golygydd, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 1TH.

Is-olygydd: Esyllt Nest Roberts, 4-5 Ffordd Ffrydlas, Carneddi, Bethesda, Gwynedd. LL57 3BH

Cyhoeddir LLYGAD Y FFYNNON gan GYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

Argreffir gan H.L. Boswell a’i Gwmni, Stad Ddiwydiannol Pinfold, Bwcle, Sir y Fflint.

 

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Home Up