Home Up

YSTRAD-FFLUR

ANNWYL OLYGYDD ….

Cefais fy magu yn ffermdy Pantyfedwen ar bwys Ystrad-fflur a chawsom ein dŵr o Ffynnon Llygaid. Y traddodiad oedd fod y ffynnon wedi cael ei darganfod gan fynachod  a'i bod yn gwella clwyfau llygaid. Rwyf bellach yn byw mewn tŷ a fu unwaith yn dafarn ac roedd ffynnon o dan y tŷ i gadw'r cwrw'n oer. Yn anffodus llanwyd y seler i mewn ac mae'r dŵr nawr yn rhedeg mewn pibau plastig dan y seler newydd ac allan i'r cae. Hoffwn hefyd dynnu eich sylw at fap a baratowyd gan fy nhad, John Jones, a fu'n fforestwr dros Tywi Fechan (o Ystrad-fflur i Randir-mwyn) Paratowyd y map i'r Comisiwn Coedwigaeth ar ymddeoliad fy nhad. Roedd wedi ei farcio a thyddynod a ffynhonnau a oedd yn y goedwig.

Jenny Heney, Merthyr Tudfil.

ANNWYL OLYGYDD ….

Dyma wybodaeth am nifer o ffynhonnau o ogledd Ceredigion.  Mae lleoliad Ffynnon Dyffryn Tawel rhyw hanner milltir yr ochr uchaf i'r fynachlog fawr yn yr un ardal. Ar un adeg roedd llidiart ar draws y ffordd a rhwng hwnnw a'r afon roedd y ffynnon. 

Erwyd Howells, Capel Madog, Aberystwyth.

 LLYGAD Y FFYNNON   Rhif 11 Nadolig  2001

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Home Up