YNYS ENLLI
Lle rhamantus i fyw arni yw ynys, ac eto rhaid bod yn fath
arbennig o berson i fedru byw heb y cyfleusterau sylfaenol y byddwn yn eu cymryd
mor ganiatáol. Ar Ynys Enlli rhaid wrth ffynhonnau, a mwynhad pur i mi oedd
darllen cyfrol H.D.Williams, Ynys Enlli.
Yno mae’n rhestru ffynhonnau’r ynys ac yn rhoi eu lleoliad.
Prif ffynnon yr ynys yw FFYNNON
CORN. Mae hon ar odre’r
mynydd ar ochr ogleddol yr ynys ger y capel. y ffynnon fwyaf diddorol yw FFYNNON
BARFAU. Mae hon ar graig ar ochr y mynydd ac mae ar ffurf dau dwll yn y graig
sy’n llawn dŵr croyw. Dywedir i’r ddau dwll yma gael eu ffurfio gan
ddwy droed dyn gryfach na’r cyffredin wrth iddo neidio o’r fan yma i Faen
Bugail, craig yn y Swnt. Dywedir i’r ffynnon cael ei henw am fod y seintiau yn
arfer mynd ati i dorri eu barfau gan ddefnyddio’r dŵr clir fel drych a
chadw eu harfau ar gyfer y gwaith mewn twll yn y graig. Enw arall arni yw
Ffynnon Arfau. Bydd y ddwy ffynnon yn llawn o ddŵr haf a gaeaf. Dywed
Myrddin Fardd yn ei gyfrol werthfawr Llên
Gwerin Sir Gaernarfon (1908) fod ‘y ddwy ffynnon yma, y naill yn oddeutu
ugain modfedd o hyd wrth naw o led a dwy droedfedd o ddyfnder, a’r llall
oddeutu ugain modfedd o hyd wrth saith o led a dwy droedfedd o ddyfnder.’
Ffynnon arall sy’n weddol agos at Ffynnon Barfau yw
FFYNNON OWAIN ROLANT ac mae i’r dŵrrinweddau meddyginiaethol. Roedd y
pererinion yn dod i Enlli ar ôl teithio am filltiroedd lawer a hawdd deall bod
eu traed a’u coesau’n ddolurus. Iddynt hwy doedd dim byd tebyg i ddŵr
FFYNNON BAGLAU. Yma byddai’n arferiad i olchi traed a choesau poenau a chael
gwellhad i’w briwiau. Yn wir roeddynt yn gwella cymaint fel nad oedd angen eu
baglau arnynt mwy ac arferid eu gadael ar Fryn Baglau gerllaw. Credaf mai at yr
un ffynnon y mae Myrddin Fardd yn cyfeirio ond fe elwir y ffynnon yn FFYNNON
DALAR. Meddai:
Ar lechwedd bryncyn o’r enw
Bryn Baglau, ac ar yr aswy i’r ffordd sydd yn arwain o’r Cafn, porthladd
Enlli, i gyfeiriad yr hen Fynachlog, y mae ffynnon
Dalar, yr hon, gynt, a
ystyrid mor anffaeledig at iachau cryd cymmalau, fel yr elai y rhai a flinid gan
yr anhwylder hwnw ar ôl ymolchi ynddi, yn hollol iach yn y fan; ac fel
tystiolaeth o hynny, gadawent eu ffyn-maglau ar y dalar ger y ffynnon; a’r
llecyn, hyd heddyw, o’r achos, a adnabyddir wrth yr enw Bryn Baglau.
Wrth edrych ar adroddiad Comisiwn Henebion am sir
Gaernarfon a gyhoeddwyd yn 1963, gwelir y canlynol am ffynnon ar Enlli:
Well, unnamed, at the north end of the west slopes
of Mynydd Enlli; it stands at about 200ft above O.D and is a short distance from
that known as Ffynnon Corn. It is built in a cleft at the foot of a rock outcrop
and consists of a stone basin 2 ft 3 ins by 3ft 6 ins. The surviving masonry is
very well built and includes sone thin slab of yellow gritstone. There is a step
or shelf at the back beneath which is a large slab containing the rounded inlet.
This step and side ledges are now covered by water, which may be at a higher
level than originally. A considerable quantity of fallen stone suggests that
there was a superstructure of some kind, although there are now no dateable
feature, its character and the fact hat this is the islands most reliable source
of water point to the masonry being early, probably medieval. Condition; ruined.
Hyd y gwelaf nid yw’r disgrifiad yma yn cyfateb i un
o’r ffynhonnau uchod. Tybed a oes rhywun yn gwybod pa ffynnon yw hon? Ffynnon
Owain Rolant o bosib?
Roedd yn rhaid i’r tai a’r ffermydd gael ffynhonnau i
ddiwallu eu hanghenion hefyd a dyma’i henwau: FFYNNON DOLYSGWYDD, FFYNNON
WEIRGLODD BACH, FFYNNON UCHAF, FFYNNON DALA, FFYNNON DDIARANA, FFYNNON WAEN
CRISTIN, FFYNNON CAE DŴR, FFYNNON CARREG, FFYNNON DEFAID, FFYNNON
TAN’RADELL.
Tybed a oes un o ddarllenwyr Llygad y Ffynnon wedi bod yn byw ar Enlli? Os oes, beth am ychwanegu mwy at ein gwybodaeth am ffynhonnau’r seintiau. (GOL.)
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 4 Haf 1998
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc