Home Up

CAERGYBI

 

Rhan o'r PYTIAU DIFYR

Ffynhonnau Caegybi

Y GWAITH DWFR

Allan o Nodion O Gaergybi gan R.T. Williams (Trebor Môn) , Caergybi, a gyhoeddwyd yn 1877.

(Detholiad o dudalen 95 a 96. Cadwyd y sillafu gwreiddiol)

‘Diwallir trigolion Caergybi â digonedd o’r “elfen denau ysplenydd” â phibellau haiarn tanddaearol, yn a cherllaw eu handedd-dai o “ffynon y Wrach,” ger amaethdy’r Twr, ac o’r Gronfa Newydd helaeth a gwerthfawr a geir cydrhwng y Twr a Phen-y-bonc, am y swm isel o ddwy geiniog yn wythnosol. Ffynnon Cybi (sugnedydd yn awr) yn Nghybi Place, a fu’n” ystên Duw i estyn dŵr” i bobl Cybi am lawer oes, ac yn hynod ar gyfrif ei theithi cyfareddol fel ereill o hen fynonau Cymru. Prysurai dyn ati i ddial ar ei gyd-ddyn, a chredai’r bobl pan roddid dernyn o bapyr ag enw y sawl a ddymunid ei felldithio arno o dan un o’i cheulennydd, y cai ei felldigeiddio yn y fan! Hyhi hefyd a wasanaethai gleifion cariad, a hi oedd Falentine ieuengctyd y gymdogaeth!!’

Dyma sydd gan Gwilym T. Roberts a Tomos Jones i’w ddweud am Ffynnon Gybi, Caergybi (SH 247829) yn eu cyfrol Enwau Lleoedd Môn (1996). Tudalen 72. Lleoliad: rhyw chwarter milltir i’r gogledd o Eglwys Cybi Sant, Caergybi.

‘Dengys map (1873) lecyn yn dwyn yr enw Cae Ffynnon Cybi wedi ei leoli y tu cefn i Swyddfa Bost y dref heddiw. Defnyddid ei dŵr yn yr hen ddyddiau gan gleifion yn dioddef o afiechydon megis ‘scrofula’ a chryd cymalau. Cartrefai llysywen ddwyfol yn nyfroedd y ffynnon a chanddi’r gallu yn ôl traddodiad i eiriol tros y claf gyda Sant Cybi ei hun. Myn traddodiad hefyd fod grym iachusol y dŵr yn gallu sicrhau gwellhad mor gyflym a disymwth i’r anabl fel y gwelid, ar adegau, gasgliad helaeth o eitemau megis berfâu a baglau wedi eu bwrw ymaith gerllaw y ffynnon. Yn ogystal, câi’r ffynnon ei hystyried yn un addas ar gyfer dial a melltith a hefyd yn un a allai gynnig swcr a chymorth i gleifion cariad. Ymddengys ei bod hefyd yn ffynnon gref a dibynadwy, gyda chyflenwad helaeth a sicr o ddŵr croyw ynddi ar bob achlysur, bu’n gwasanaethu trigolion yr ardal am rai canrifoedd. Datblygodd rhwydwaith o strydoedd yng nghyffiniau’r ffynnon yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Safai’r ffynnon ei hun ar gyffordd Stryd Cybi. Dynodwyd un stryd a arweiniai ati yn Stryd-y-Ffynnon (Well Street) ac ym 1908 gosodwyd pwmp trosti (‘Ystên Duw i estyn dŵr’ yn ôl un o drigolion y dref), a rhoddwyd yr enw ‘Pump Street’ ar un o’r ffyrdd eraill a arweinia at y ffynnon.’

LLYGAD Y FFYNNON - Rhif 26 Haf 2009

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff

 

Crybwyllir Ffynnon Gybi mewn erthygl gan Howard Huws dan y teitl

FFYNHONNAU SANCTAIDD CYMRU

Lluniodd yr Arglwydd Gymru’n wlad fryniog â’i hwyneb tuag awelon Iwerydd, gan ei bendithio â glaw a dyfroedd croywon lawer. Cynysgaeddwyd hi hefyd ag etifeddiaeth Gristnogol helaeth, felly ni ddylid synnu fod ffynhonnau sanctaidd mor amlwg yn y dirwedd ddaearol ac ysbrydol. Hyd yn oed o gyfyngu diffiniad “sanctaidd” i’r rhai y gwyddom y perchid ac y defnyddiwyd hwy yn enw Duw, Ei Fam a’i saint, mae yma sawl can ffynnon o’r fath, gydag ymchwil dyfal yn dwyn rhagor fyth i’r amlwg.1 Er eu dirmygu gynt yn wrthrychau ofergoeliaeth, maent bellach yn destunau diddordeb cynyddol. Rhaid wrth ddŵr croyw, ond y mae’n drwm ac yn anodd ei gludo. O’r herwydd, rhaid byw o fewn cyrraedd cyfleus i ffynhonnell ddigonol a dibynadwy, nad oes iddi flas neu aroglau annymunol, na thuedd i achosi salwch.

Delid fod rhai ffynhonnau’n dda anghyffredin at wella anhwylderau penodol. A chrybwyll rhai o Fôn yn unig, credid fod Ffynnon Faelog yn gwella’r crydcymalau; Ffynnon Wenfaen, y felan; Ffynnon Gybi (Caergybi), y crydcymalau, y llwg a chlefyd y brenin; a Ffynnon Badrig, y crydcymalau, golwg gwan, anhwylderau’r stumog, y gymalwst, pendduynnod a’r ddannodd.22 A barnu yn ôl amlder a dosbarthiad, ymddengys y bu rhai anhwylderau un ai’n neilltuol gyffredin neu rhwydd eu trin: y crydcymalau, llygaid dolurus a defaid, ag enw tri yn unig. Gan yr oedd triniaethau meddygol y gorffennol yn ddrud, yn aneffeithiol ac yn beryglus, buasai’r newid amgylchedd, yr ymarfer corfforol a chyd gyfeillach pererindota, neu o leiaf newid dŵr yfed, cystal ag unrhyw driniaeth arall oedd ar gael ar y pryd. Buasai ffydd yn ewyllys da Duw yn rhan ganolog o’r iachau, yn ogystal.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 30 Haf 2011

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff

 

Home Up