Home Up

Y WERN, PORTHMADOG

 

PYTIAU DIFYR . . .

 

FFYNHONNAU’R GEST YN EIFIONYDD

gan Alltud Eifion

(Mae’r erthygl gyfan i’w chael dan y pennawd uchod)

Ffynnon y RhianodBron y Foel: y mae dwy o’r rhain yn tarddu ar lethr y foel, y naill yn uwch na’r llall. Dywedir fod Rhianod o lys Bron y Foel yn yfed ohonynt wrth fyned i ben y foel. Ffynnon Cefn Cyfanedd: y mae sefyllfa hon i’r gogledd a’r dwfr yn gryfhaol a digonedd ohonno. Ffynnon Brynmelyn: y mae hon islaw i’r capel a’i gwyneb i’r gorllewin. Yr oedd gwraig a anesid yn Tŷ Capel, Brynmelyn, ac aeth i fyw flynyddau yn ôl i ardal Clwtybont, a phan yn sâl iawn ac ar ei gwely angau, meddyliodd ond cael dwfr o hen ffynnon Brynmelyn y medniai. Felly cafodd rhywun i fyned (dros ugain milltir) i gyrchu costreliaid ohono ond yr oedd dwfr yr Iorddonen hen yn analluog i’w gwella. 

Y Wern, Porthmadog

Ffynnon Brynmelyn: SH541393

Ffynnon Cefn Cyfanedd:SH544395

Ffynnon y Rhianod SH546389

 

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 19 Nadolig 2005

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up