WIGFAIR
ger Llanelwy
FYNNON FAIR
Iorwerth
Hughes.
Nid nepell o fy nghartref mae
ffynnon hynafol- Ffynnon Fair yn ardal Wigfair ym mhlwyf Cefnmeiriadog, tua dwy
filltir i'r de-orllewin o ddinas Llanelwy. Mae'r ffynnon wedi ei lleoli mewn
llecyn diarffordd a dymunol, led cae o afon Elwy. Mae hanes cynnar y ffynnon
hon, fel pob ffynnon hynafol arall, yngholl yn niwl yr amseroedd ond mae'n
debygol ei bod yn dyddio yn ôl
i'r cyfnod paganaidd. Wrth ochr y ffynnon mae adfail
hen eglwys o'r bymthegfed ganrif, ond ymddengys bod yma eglwys gynharach yn
dyddio yn ôl
i'r ddeuddegfed ganrif. Y tebygrwydd yw bod yr eglwys
wreiddiol ar ffurf croes a bod y ffynnon i mewn yn yr asgell orllewinol, ond bod
olion muriau y rhan yma o'r adeilad wedi dif1annu'n gyfangwbl.
Mae adeiladwaith y ffynnon yn
dyddio o'r bymthegfed ganrif, o gerrig nadd ar ffurf polygon.
Yn y gorffennol, dywedir bod
canopi drosti oedd yn cael ei ddal gan bileri addurnedig. Mesuriadau mewnol y
ffynnon yw saith troedfedd, chwe modfedd sgwâr a phedair troedfedd chwe modfedd
o ddyfnder gyda dyfnder y dŵr tua dwy droedfedd. Mae'r dŵr yn llifo
o'r ffynnon i faddon a ychwanegwyd yng nghyfnod Victoria, ac yna mae'n llifo o'r
baddon mewn sianel drwy asgell ddeheuol yr eglwys ac ymlaen mewn ffos i afon
Elwy. Mae cynllun y ffynnon yn debyg iawn i ffynnon adnabyddus Gwenffrewi yn
Nhreffynnon a noddwyd gan Margaret Beaufort, mam Harri'r Seithfed, ac mae rhai
haneswyr yn awgrymu'r posibilrwydd mai hi ddaru noddi adeiladwaith y ffynnon hon
hefyd. Nid oes sôn fod yna rinweddau iachusol i ddŵr y ffynnon, ond mae'r
ffaith i'r baddon gael ei ychwanegu yn awgrymu bod defnydd i'r cyfeiriad yma yn
rhan o'r hanes. Dywedir bod cynnwys y dŵr yn bur uchel mewn calch, ac nid
oes syndod am hyn gan fod yn yr ardal greigiau o galchfaen ac ogofâu lle
darganfuwyd olion archeolegol pwysig iawn.
Am flynyddoedd lawer ar ôl
y Diwygiad Protestannaidd ymddengys bod y fangre yn
ganolfan i ddilynwyr yr hen ffydd Gatholig - lle delfrydol i gynnal gwasanaethau
cudd. Hefyd, mae Pedr Roberts o Lanelwy (1578 - 1645) yn ei lyfr Y Cwta Cyfarwydd
yn cofnodi bod
priodasau cyfrinachol yn cael eu gweinyddu yma mor bell yn ôl â 1640. Erbyn
cyfnod Parochialia Edward Lhuyd yn
1695-98, cofnodir bod yr eglwys yn adfail. Erbyn hyn mae aelodau o Gymdeithas
Hanes Cefnmeiriadog yn gofalu am y safle ac fe ymgymerodd CADW â gwaith
atgyweirio gweddillion yr eglwys yn 1993.
Teimlaf ryw brofiad arbennig
wrth ymweld â'r fangre gysegredig hon, a rhyfeddaf fod adeiladau mor hardd wedi
eu codi mewn man mor ddiarffordd . Rhaid bod arbenigrwydd y ffynnon wedi
teilyngu hynny. Heddiw mae'r ffynnon ar dir preifat, ond gelir cael caniatâd i
ymweld â'r lle oddi wrth Jones Peckover, 47 Stryd y Dyffryn, Dinbych. LL16 3AR;
(01745812127).
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 2 Haf 1997
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff
MAE FFYNNON O
DAN Y CAPEL…
Ffynnon Fair
Nid peth anarferol yw cael ffynnon oddi mewn i gapel. Wrth addasu hen gapel yn Llangïan, Llŷn i fod yn gartref, daeth y Prifardd Elwyn Roberts ar draws ffynnon. Adeiladwyd Capel Als, Llanelli ar safle Ffynnon Alis, a dyna sut y cafodd ei enw. Mae Ffynnon Drillo oddi mewn i eglwys fechan Trillo Sant ar lan y môr yn Llandrillo-yn-Rhos, ger Bae Colwyn. Ar un adeg roedd adeilad yr eglwys yn ddigon eang i gynnwys ,Ffynnon Fair yn Wigfair, ger Llanelwy. Ym mhlwyf Llanddarog, sir Gaerfyrddin roedd ffynnon oddi mewn i gapel anwes bychan o'r enw Capel Begewdin. Felly hefyd ym mhlwyf Llanarthne yn yr un sir. Yno roedd ffynnon gref yn codi oddi mewn i adeilad a adnabyddid fel Capel Herbach. Mae'n siŵr fod ffynhonnau a fu gynt oddi fewn i adeilad capel anwes neu eglwys bellach y tu allan i'r adeilad o ganlyniad i adnewyddu'r adeilad. Tybed a wyddoch chi am enghreifftiau eraill o ffynhonnau oddi mewn i gapel neu eglwys, neu dŷ annedd hyd yn oed?
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 8 Haf 2000
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
Crwydro
Gorllewin Dinbych
Yn ei gyfrolau Crwydro Gorllewin Dinbych (1969) a Crwydro Dwyrain Dinbych ( 1961 )
mae'r
diweddar Frank Price Jones yn cyfeirio at nifer o ffynhonnau'r sir.
Ffynnon
Fair, Wigfair, Llanelwy (tud 196-7)
Adeilad
diweddar yw'r plas presennol yn Wigfair, wedi ei godi o frics coch ryw ganrif yn
ôl… Y Cyrnol Howard oedd y sgweiar olaf i fyw yn y plas, a phan fu farw
trefnodd i'w lwch gael ei chwalu o gwmpas yr hen gapel yng ngwaelod yr allt o
dan y plas. Codwyd yr eglwys fach hon, eglwys Fair, dros ffynnon y priodolid
galluoedd nerthol iddi, a bu'r eglwys, er yn adfail, yn un boblogaidd i briodi
ynddi am ganrifoedd…Saif adfeilion yr hen eglwys mewn dôl fras ar lan afon
Elwy, ac ar draws y ddôl gwelir olion y ffrwd a wnaed i droi rhod y felin. Os
bu erioed ddarluniad o'r 'mieri lle bu mawredd' dyma'r fan: y mae'r rheiliau o
gwmpas yr eglwys wedi eu bylchu a chrwydrai nifer o wartheg du a gwyn yn yr
anialwch o fieri a brwyn a guddiai'r adfeilion. Ond gellir gweld yr hen faddon o
dan bistyll y ffynnon a dilyn y gwter a drefnwyd i'r dŵr redeg ohoni trwy'r
ran o'r eglwys ac allan i'r cae. Prun y credai neb heddiw y gallaî'r ffynnon
hon iacháu neb na dim.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 10 Haf 2001
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
Rhan o erthygl FFYNHONNAU THOMAS PENNANT
gan Eirlys Gruffydd
Ffynnon Fair
Y ffynnon nesaf y cyfeiria ati yw Ffynnon
Fair, Wigfair, ger Llanelwy
(SJ028711) Meddai:
‘Mae
Ffynnon
Fair
yn ffrwd gref wedi ei amgylchynu gan waliau onglog. Roedd to drosti
ers talwm. Gerllaw mae adfeilion capel ar ffurf croes ond bod yr adeilad yn
adfail ag eiddew yn tyfu drosto. Yn nyddiau’r pererindota byddai llawer yn
cyrchu ati.’
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 26 Haf 2009
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
CYNHADLEDD TREFFYNNON
Cafwyd dau ddiwrnod cofiadwy a phleserus yn Nhreffynnon dros benwythnos Medi 17eg a 18fed 2011.
Hon oedd y bedwaredd gynhadledd ffynhonnau flynyddol i’w chynnal ac mae’n mynd o nerth i nerth.
Ffynnon Fair
Dydd Sul cychwynnwyd o Dreffynnon gan ymweld yn gyntaf â Ffynnon Beuno, Tremeirchion. (SJ083724).
Yna ymlaen at Ffynnon Fair,
Wigfair ger Llanelwy (SJ028711).
Roedd pawb wrth eu bodd gyda ffurf chwe ochr y ffynnon. Roedd Tristan wedi
paratoi sylwadau cynhwysfawr ar
bwysigrwydd
y ffynnon a darllenwyd y rheini i bawb fedru gwerthfawrogi arwyddocâd y safle
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 31 Nadolig 2011
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc