Home Up

IS-COED

 

FFYNHONNAU MAIR

(SJ 49517 41370)

Howard Huws

Ceir dwy ffynnon i’r de o’r eglwys hon ym Maelor Saesneg. Mae’r naill , â chaead metel arni, yn y cae main nesaf at y fynwent; a’r llall yn y cae nesaf, â ffens o’i chylch. Awgrymir eu  harwyddocâd hanesyddol gan enw’r pentref, ‘Whitewell’.

Mae’n debyg mai’r Forwyn Fair fu nawddsantes yr eglwys ers cyn y Diwygiad Protestannaidd. Cyfeiria’r London Gazette (25.5.1880) at ‘gapel anwes (i blwyf Malpas) yn Whitewell, a gysegrwyd ym 1822 tan yr enw “Eglwys y Santes Fair, Whitewell” ’. Mam Duw, felly, oedd nawddsantes yr eglwys ddu a gwyn hynafol o bren a phlastr a ddymchwelwyd ym 1829 neu 1830. Dengys Cofrestrau Plwyf Malpas, yn ogystal â map Saxton o Sir Ddinbych a Sir y Fflint (1577), fod Capel Whitewell eisoes yn addolfa sefydledig ym 1570. Rhesymol yw tybio hefyd nad newyddbeth ym 1822 oedd y cysylltiad â’r Forwyn Fair. Nid oedd y cysegriad ond yn cydnabod arfer y gorffennol.

Mae’r cysylltiad hynafol rhwng ffynhonnau a’r Forwyn Fair yn ddiddorol o ran goleuo peth ar darddiad anhysbys eglwys Whitewell. Yn ystod y 12fed ganrif a’r 13eg cynyddodd poblogrwydd parchu’r Forwyn i raddau eithriadol. Mae’r ffynhonnau sanctaidd a gysegrwyd yn ei henw yn lluosocach o lawer na’r eiddo unrhyw sant neu santes arall yng Nghymru, a gellid priodoli hyn i gynnydd cysegru (neu ailgysegru) ffynhonnau yn ystod y cyfnod hwnnw. Dengys map dosbarthiad ffynhonnau Mair ledled Ynysoedd Prydain yn The Living Stream, James Rattue, (Boydell Press 1995, t.71) eu bod ar eu hamlaf yn hen Sir y Fflint, a chadarnheir hynny gan fap Francis Jones, The Holy Wells of Wales, (Gwasg Prifysgol Cymru 1954 t. 220).

 

Cyfrifodd Francis Jones 76 ‘Ffynnon Fair’ yng Nghymru, ond ni chynhwysodd y rhai uchod, namyn crybwyll ‘Whitewell’ (tt.46 a 179). Gallai’r enw Saesneg darddu o enw Eingl-Seisnig ‘Whyte’, yn enw pa un (ar y ffurf ‘Candida’) y cysegrir Whitchurch Canonicorum yn Swydd Dorset (gw. Rattue tt. 70, 146-7, 175). Yn ôl Farmer (The Oxford Dictionary of Saints), y mae’r ‘Whyte’ hon yn santes Gymraeg o’r enw Gwen, y cyflwynodd y Brenin Athlestan ei chreiriau i’r eglwys yn Swydd Dorset. Eithr honnir hefyd ei bod hi’n ferthyres a laddwyd yng nghyflafan Dockum, ger Utrecht yn 755; mai hi yw’r Santes Blanche o Lydaw, tan enw arall; neu wraig leol (meudwyes efallai) a lofruddiwyd gan y Daniaid. Pan archwiliwyd ei harch blwm ym 1990, cafwyd arni’r arysgrif ‘Hic requiescunt reliquie Sancte Wite’ (Yma y gorffwys gweddillion / greiriau Wite Sanctaidd), ac ynddi esgyrn gwraig fechan tua 40 oed.

Ceir Ffynnon Whyte ym mhentref Morecombelake yn Dorset . Y mae’n gafn carreg petryal, tua throedfedd a hanner o led, a throedfedd o hyd: gwelir llun ohoni ar www.hensleighhotel.co.uk/Morecombelake.  Dywed llechen ddiweddar gerllaw ei bod ‘yn iachau llygaid ers yr unfed ganrif ar bymtheg, o leiaf ’. Bendithiwyd y ffynnon adferedig gan Esgob Caersallog ar 24.7.1985. Mae William Worcestre a John Gerard yn crybwyll y santes hon, a dywed Thomas More yr arferid offrymu cacennau neu gaws ar ei dydd gŵyl.

Dywedir y dylai ffynnon sanctaidd Gristnogol lifo tua’r dwyrain, cyfeiriad Caersalem. Mae eglwysi’n wynebu’r cyfeiriad hwnnw, ac â’u traed tua’r dwyrain y cleddir Cristnogion, fel y gallant godi â’u hwynebau tua gwawr yr Atgyfodiad. Mae ffynhonnau Whitewell ym Maelor Saesneg yn goferu i nant (Elk) sy’n llifo tua’r dwyrain, ac yn gyflin â’r eglwys: ac o gofio’r wawr gellid maddau tybio fod a wnelo’r enw ‘White’ yma hefyd â’r gair Eingl-Seisnig ‘hwit’, sef disglair. Rhaid dweud y ceir sawl ‘ Whitewell’ neu ‘Whitwell’ yn Lloegr o Swydd Efrog i Ynys Wyth. Yr enwocaf, ond odid, yw ffynhonnau iachusol ‘White Wells’ uwchlaw Ilkley.

Nodweddiadol hefyd fyddai ffordd orymdeithio rhwng capel a ffynnon, ac yn achos Whitewell efallai y goroesodd hon ar ffurf y llwybr troed sy’n mynd o’r eglwys, ar draws y cae main, heibio i’r ffynnon amgaeëdig ac ymlaen i’r cae tu hwnt. Mae’r grisiau sy’n arwain i lawr at ddŵr y ffynnon hon yn awgrymu y bu cryn ddefnyddio arni. Cofnodwyd un ffynnon sanctaidd hysbys arall ym Maelor Saesneg, sef  Ffynnon Chad yn Hanmer.

Codwyd rhannau helaeth o’r wybodaeth uchod o daflen Paul Winchester, St Mary’s Wells, Whitewell (1996)

Cyferinodau Arolwg Ordnans
Ffynhonnau Whitewell, Maelor Saesneg: SJ 49517 41370
Eglwys Whitchurch Canonicorum, Dorset: SY 39675 95442
Ffynnon Whyte, Morecombelake, Dorset: SY 39954 93756
White Wells, Ilkley, Gorllewin Swydd Efrog: SE 118 468

Gwefannau defnyddiol eraill:
www.dorsethistoricchurchestrust.co.uk/Whitchurchcanonicorum
www.thedorsetpages.com/locations/place/W210
www.people.bath.ac.uk/liskmj/living-spring/sourcearchive

LLYGAD Y FFYNNON Rhifyn 25 Nadolig 2008

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

DIFRODI FFYNHONNAU SANCTAIDD WHITEWELLS, Sir Wrecsam 

gan Howard Huws (Cadeirydd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru)

Dymunaf roi gwybod i holl aelodau Cymdeithas Ffynhonnau Cymru bod ffynhonnau Whitewell yn Sir Wrecsam wedi eu difrodi’n fwriadol. Mae dwy ffynnon yng nghyfeirnod grid SJ 49506 41376 (ar lan yr afon gerllaw’r eglwys) a’r llall yn SJ 49482 41337 (mewn cae gyferbyn â’r eglwys, yr ochr draw i’r nant). Mae’r gyntaf wedi’i chladdu rhywbryd n y gorffennol gweddol ddiweddar, efallai gan y ffermwr sy’n dal y tir wrth iddo geisio codi lefel y cae. Mae’r ail wedi’i chladdu yn ystod y misoedd diwethaf gan ffarmwr gwahanol, oherwydd bod y ffynnon “yn y ffordd” wrth iddo geisio lladd gwair. Credaf na allwn fforddio colli’r henebion hyn, sy’n dyddio o gyfnod cyn y Diwygiad Protestannaidd. Credaf hefyd eu bod yn henebion rhestredig, nad rhyddid neb eu difrodi yn ôl eu dymuniad, a dymunaf i’r Ymddiriedolaeth ymyrryd er mwyn eu hadfer. Gallaf ddarparu lluniau o leiaf un ffynnon os oes angen. Rwyf wedi cysylltu â CADW ar y mater yma.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 31 Nadolig 2011

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

DIWEDD FFYNHONNAU SANCTAIDD MAELOR SAESNEG?
Howard Huws

FFYNHONNAU MAIR- IS-COED

Tynnwyd sylw at Ffynnon Chad, Hanmer yn rhifyn 20 (Haf 2006) o Llygad y Ffynnon,

ac at Ffynhonnau Mair, Is-coed (Whitewell) yn rhifyn 25 (Nadolig 2008) o’r cylchgrawn hwn.

 Un o flynhonnau Is-coed, wedi ‘i ffensio ond wedi ’i orchuddio â thyfiant.

Gan fy mod i yn y cyffiniau, achubais gyfle i ymweld a’r ffynhonnau hyn hefyd. Yn ôl taflen St Marys Well, Whitewell, (Paul Winchester, 1996) ”Roedd dwy ffynnon sanctaidd. Y naill islaw’r eglwys, wrth lan y nant sy’n llifo hyd ymyl deheuol y fynwent (SJ 49504 41376): a’r llall mewn cae‘r ochr draw i’r nant, myrnryn ychwaneg i’r de-orllewin (SJ 49481 41340) Gwelir y ddwy yn eglur ar fap Ordnans 1:4,000 y fro.

Dywed taflen Winchester fod clawr metel ar y ffynnon gyntaf, yr un agosaf at yr eglwys: ond er chwilio a chwalu nid oedd lliw ohoni. O gamu’r nant i’r cae gyferbyn, gellid gweld yr ail ffynnon yn ddigon eglur. Neu o leiaf safle’r ffynnon: twll go fychan yn y ddaear yn llawn tyfiant. Ond wedi’i leinio â gwaith cerrig, a’i amddiffyn gan bedwar postyn pren a rhwyll wifrog o amgylch. Y syndod oedd bod ffynnon arall fyth yn y cae hwnnw, tua SJ 496 414. ‘Roedd honnon yn fwy sylweddol o lawer, wedi’i leinio â gwaith brics, a chyda phwmp haearn gerllaw. Nid yw hon i’w gweld ar fap Ordnans i gwbl, ond mae’n amlwg y bu yno ers degawdau. Felly ‘doedd fawr ddim i’w weld, ond o leiaf yr oeddwn i wedi gweld bod o leiaf un o ddwy ffynnon sanctaidd Is-coed yn parhau i dystio i ffydd ein tadau yng ngalluoedd ei dyfroedd rhinweddol.

Fis Tachwedd diwethaf y rhoddwyd gwybod imi fod yr ail ffyrmon wedi diflannu: wedi’i llenwi â phridd, a’i hau â glaswellt, oherwydd ei bod hi “yn y ffordd wrth aredig”. Ffermwr y tir a’i dinistriodd, gan nad oedd hi, yn ei farn ef, ond twll sych yn y ddaear. Ymddengys mai’r un fu tynged y ffynnon wrth yr eglwys, hefyd: bod y sawl sy’n trin y lle hwnnw (ffermwr arall) wedi penderfynu codi lefel y tir trwy orchuddio’r cyfan â rhagor o bridd. Nid rhyfedd na fu imi’i chanfod.

F’ymateb cyntaf fu i e-bostio Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd- Powys a CADW. Bûm wythnosau heb glywed : hwyrach y byddai neges Saesneg wedi ennyn ymateb. Yna ysgrifennais atynt, ac ymhen hir a hwyr cefais wybod gan yr Ymddiriedolaeth a chan CADW nad oedd dim y gallent ei wneud. Yn ôl CADW nid oedd na’r naill ffyrnnon na’r llall wedi’i dynodi’n Heneb Restredig. Dywed CADW y ceir disgrifiad o’r ffynnon gyntaf, yr un efo clawr metel, wrth yr eglwys, yn adroddiad Comisiwn Brenhinol Henebion Sir y Fflint 1912. Ni chofnodir unrhyw ddeunydd canoloesol na chynharach yn yr un o’r ddwy ffynnon. Er mwyn eu cofnodi’n henebion byddai’n rhaid iddynt “fodloni meini prawf trylwyr.”: ond gan fod y ddwy wedi’u claddu, nid oes modd eu hasesu rŵan. Y cwbl y gallai CADW ei wneud oedd gofyn imi a oedd gennyf unrhyw luniau o’r lle cyn y difrodi fel y gellid cynnig sylwadau.

Yn ôl yr Ymddiriedolaeth, cynhwyswyd “y Ffynnon Wen” (honno wrth yr eglwys, eto) yn ei harolwg 2002/03, pryd y penderfynwyd nad oedd yr olion yn debyg o fod yn hynafol iawn, Ceir llifddor hynafol yn ymyl yr ail ffynnon (honno yn y cae): ond gan nad yw’r ffynhonnau’n Adeiladau Rhestredig nac yn Henebion Cofrestredig, ’does dim y gellir ei wneud. Mor hawdd yw difrodi’r gorffennol. Oedd, yr oedd y ffynhonnau’n niwsans gan rywrai, a na, nid oedd neb yn eu defnyddio. Bach o dystiolaeth sydd gennym yn eu cylch: taflen a ysgrifennwyd byrntheg mlynedd yn ôl, a chofnod a wnaed ganrif yn ôl. Gallai hanes y ffynhonnau ymestyn ymhell yn ôl i’r gorffennol, ac efallai y bu iddynt arwyddocad ysbrydol : ond nid oedd “gallai” nac “efallai” nac “ysbrydol” yn ddigon i oedi dim ar eu dileu er mwyn gwerth ychydig geiniogau o gnwd ychwanegol. Ac felly y difethir y cwbl o’n cof ni, yn y pen draw, onid oes yna rywrai sy’n fodlon cadw golwg cyson ar y safleoedd hyn, a throsglwyddo’r wybodaeth a’r cyfrifoldeb at y dyfodol.

Dwi ddim yn hollol anobeithiol. Mae palu pridd allan o ffynnon yn fwy trafferthus na’i llenwi, ond hwyrach fod modd darbwyllo. Efallai y byddai cofrestru swyddogol wedi atal y fandaliaeth: felly onid ydi’ch hoff ffynhonnau chi wedi’u cofrestru’n Henebion swyddogol erbyn hyn, mynnwch eu bod nhw felly.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 32 Haf 2012

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up