Home Up

TRYCHINEBAU YN FFYNHONNAU SIR BENFRO

YN Y DDEUNAWFED GANRIF

Ken Lloyd Gruffydd

Casglwyd y wybodaeth ganlynol o ddogfennau Cwrt y Sesiwn Fawr.

Rhywbryd ar fore 6 Ebrill 1751 crwydrodd bachgen bach pedair oed o’r enw John Beddow o dŷ ei rieni i ffynnon gyfagos er mwyn cael torri ei syched. Pan na ddaeth adref dechreuodd y teulu boeni ac aethant i chwilo amdano. Daethant o hyd iddo yn y ffynnon. Mae’n amlwg oddi wrth yr hyn a ddywedodd y rheithgor nad oedd neb wedi cadw llygad ar y plentyn oherwydd diflannodd “Sometime in the Forenoon of the said Day.” Digwyddodd hyn ym mhlwyf Johnston .

Baban blwydd a hanner oedd Thomas Griffith o blwyf Rudabuxton pan gollodd ei fywyd yn 1755. Roedd y teulu’n byw ar fferm ac ar y diwrnod tyngedfennol  gadawodd y fam ei phlentyn mewn cae a elwid Tangior ger man yn dwyn yr enw Veilhy bush tra’r aeth hi i yrru’r gwartheg i gae arall.  Pan ddaeth yn ôl roedd y bychan wedi crwydro at ffynnon a disgyn dos ei ben i’r dŵr. Hanesyn tebyg yw’r un am foddi John Webb o blwyf Llanisan yn Rhos, nid pell o Hwlffordd. Roedd ef tipyn yn hŷn ond ni ddatgelir ei oed. Cyfeirir ato fel infant, ond yn y llysoedd y pryd hynny, dyna sut y disgrifir pwb oedd o dan un ar hugain  oed! Rhwng tri a phedwar y prynhawn gadawodd John Webb ei ddau ffrind yn eistedd wrth ddrws tŷ yn Nunton ac aeth i ffynnon gyfagos. Rhywfodd neu gilydd syrthiodd i’r dŵr a oedd yn ddwy droedfedd o ddyfnder, a boddodd. Pan ddiflannodd baban David Charles ym Maenordeifi ar 25 Tachwedd 1784 doedd dim golwg ohono yn unlle ac aeth peth amser heibio cyn iddynt ddarganfod ei gorff mewn ffynnon a ddisgrifir fel winch well, sef un oedd yn ddigon dwfn  nes bod rhaid cael peiriant neu winch i godi’r dŵr mewn bwced o’r gwaelod.

O blwyf Cas-wis daw’r wybodaeth nesaf. Ar ddydd Mercher, 21  Ebrill 1784 , crwydrodd Thomas Hughes ddeuddeg llathen o ddrws ei dŷ at ffynnon y teulu. Anodd gwybod yn union beth ddigwyddodd ond barn y rheithgor oedd i’r bachgen bach weld powlen yn arnofio ar wyneb y dŵr. Yn ei ymdrech i gael gafael ar y bowlen estynnodd ei freichiau allan i’w cheisio. Aeth yn rhy bell dros y dŵr, collodd ei falans a disgynnodd i mewn. Yr unig ffynnon sy’n cael ei henwi yn benodol yw Ffynnon Rhys ym mhlwyf Cilgerran. (Nid oes cyfeiriad ati yn nghyfrol Francis Jones, The Holy Wells of Wales.) Yno, yn 1797, boddwyd baban o’r enw Thomas Morris. Ni chafwyd manylion pellach am y digwyddiad. Diddorol yw sylwi mai bechgyn oedd pob un o’r rhai a gollodd eu bywydau yn y ffynhonnau. Hwyrach eu bod yn fwy mentrus na merched!

Rhag ofn eich bod yn meddwl mai dim ond plant oedd yn boddi mewn ffynhonnau, dyma i chi ddau hanesyn am oedolion a gollwyd yn yr un ffordd. Rhaid cofio mai ychydig iawn o’r boblogaeth, gan gynnwys morwyr, oedd yn gallu nofio yr adeg honno.  Ym mhlwyf Slebets yn 1795 boddwyd David Webb pan aeth i lenwi jwg o grochenwaith mewn ffynnon ger ei gartref. Un arall a gollodd ei bywyd pan ddisgynnodd i ffynnon oedd Lavita Charles o Manordeifi. Digwyddodd hynny yn 1797.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 24 Haf 2008

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff

Home Up