Tremeirchion
CYNHADLEDD
TREFFYNNON
Cafwyd dau ddiwrnod
cofiadwy a phleserus yn Nhreffynnon dros benwythnos Medi 17eg a 18fed
2011. Hon oedd y bedwaredd gynhadledd ffynhonnau flynyddol i’w chynnal ac
mae’n mynd o nerth i nerth.
Dydd Sul cychwynnwyd o Dreffynnon gan ymweld yn
gyntaf â Ffynnon Beuno, Tremeirchion. (SJ083724) gan edmygu’r baddon helaeth
a’r cerflun carreg o ben dynol lle
mae’r dŵr yn llifo allan.
LLYGAD
Y FFYNNON Rhif 31 Nadolig 2011
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
Atgof
ynghylch Ffynnon Feuno, Tremeirchion (1856).
“Y
tu hwnt i’r pentref [Tremeirchion], ac wedi disgyn tua milltir i lawr yr allt,
heibio i gellïoedd ffynidwydd, a choed deiliog Plas Brynbela, deuthum at droed
yr allt, ac ychydig lathenni o ymyl y ffordd safai’r dafarn, y siop groser,
a’r ffermdy a elwid yn Ffynnon Beuno...O’i chymharu â ffynnon enwog y
Santes Wenfrewi yn Nhreffynnon, mae’r eiddo Beuno Sant yn eithaf dinod, heb
rinweddau y tu hwnt i burdeb a chroywder. Cesglir y dŵr mewn tanc carreg yn
nesaf at dŷ Ffynnon Beuno, a chaniateir iddo ddianc, er budd y pentrefwyr,
trwy geg agored portread anghelfydd o ben dynol, sydd wedi’i osod yn y wal
flaen.” Stanley, H. M., a Stanley, D. The
Autobiography of Sir Henry Morton Stanley. Santa Barbara: The Narrative
Press, 2001, t. 50.
LLYGAD
Y FFYNNON Rhif 43 Nadolig 2017
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc