Home Up

TREMADOG

 

PYTIAU DIFYR . . .

 

FFYNHONNAU’R GEST YN EIFIONYDD

gan Alltud Eifion

(Mae’r erthygl gyfan i’w chael dan y pennawd uchod)

Ffynnon Bartlett: y mae hon o dan y graig gerllaw y turnpike gate, Tremadog. Gwnaed hi gan un Bartlett, (is-oruchwyliwr i Mr Alexander Maddocks) tua chan mlynedd yn ôl. Y mae hon yn ffynnon o ddwfr iachusol a chyflawnder ohono bob amser ac yn cyflenwi angen preswylwyr y pen gorllewinol o Dremadog. Ffynnon Llidiart yr Ysbyty: y tu uchaf i’r hen dŷ ger y lle lle a elwir Brynffynnon, Tremadog. Ffynnon Cil y Llidiart: y mae hon tu ôl i’r Maddock Arms Hotel, Tremadog. Yr ydoedd hon yn cyflenwi ei dwfr iachusol i holl drigolion Market Square gynt wrth fod ffos ohoni yn rhedeg at y Groes a phwmp ohoni at iws y trefedigion. Yn ddiweddar roedd pipes ohoni a phwmp wrth y Market Hall yr hwn sydd yn gymwynas fawr i’r trigolion nas gallai fforddio i gael y dwfr cyhoeddus ac mae hen ferched y dysgleidiau yn dywedyd y gwna well te na dwfr y pipes.

Ffynnon Penrhynheliy mae hon ar y dde i gatehouse Tanrallt, y ffordd yr eir i risiau yr allor dderwyddol. Tua 70 mlynedd yn ôl syrthiodd plentyn iddi a bu iddo foddi, ond deallaf ei bod wedi ei hagor yn awr. Y mae yno ddwfr pur, grisialog ac ni welir hi’n hesp. Ffynnon Corlan y Geifr: Mae hon y tu uchaf i Tanrallt, Tremadog, gerllaw y lle y dywedir fod hen dŷ gynt. Y mae gwaith yn y ffynnon hon ac fe rhoid pibellau ohoni i gynorthwyo y dwfr o Lyn Cwmbach i gyflenwi dwfr i Gwmni Dwfr Porthmadog.

Tremadog

Ffynnon Bartlett SH?

Ffynnon Cili Llidiart SH562403

Ffynnon Corlan y Geifr SH565405

Ffynnon Llidiart yr Ysbyty SH558403

Ffynnon Penrhynheli SH568405

 

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 19 Nadolig 2005

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Home Up