TRYLEG (Trelech)
Roedd cynllun carthffosiaeth yn bygwth y Ffynnon Rinweddol (Virtuous Well) yn Nhrelech. Bu Wellsprings yn gweithredu i sicrhau nad oedd dim yn digwydd i’r ffynnon hon nac i nifer o ffynhonnau eraill yn yr ardal. Mae posibilrwydd y gall y ffynhonnau hyn gael eu glanhau os ceir caniatâd gan y perchennog.
Mae Wellsprings wedi gweithio ar nifer o ffynhonnau yn siroedd Brycheiniog, Maesyfed a Morgannwg. Byddant yn trefnu i gyfarfod mewn lleoliad arbennig gerllaw ffynnon ac yn mynd ati i lanhau’r safle a harddu’r amgylchedd.
Oes ffynnon yn eich hardal sydd o ddiddordeb arbennig i chi? Rhowch wybod i’r Golygydd fel y gallwn sôn amdani yn rhifyn nesaf Llygad y Ffynnon.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 6 Haf 1999
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
FFYNHONNAU
GWENT
FFYNNON ANN
(SO 504052)
Eirlys Griffydd
Flynyddoedd
yn ôl, y tro diwethaf y bu’r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghasnewydd, aethom
fel teulu i ymweld â nifer o ffynhonnau’r fro. Eleni gobeithiwn fedru gwneud
rhywbeth tebyg gan ei bod yn hen bryd bellach i’r drydedd gyfrol yn y gyfres Ffynhonnau
Cymru – Ffynhonnau’r De ymddangos. Dyma hanes rhai o ffynhonnau’r fro
a’r traddodiadau sy’n perthyn iddynt.
Buom
yn ymweld â Threlech a synnu a rhyfeddu at y tair carreg anferth sydd i’w
gweld yno ond mae ffynhonnau’r ardal yn hynod ddiddorol hefyd. Yn ôl
traddodiad roedd yma unwaith naw o ffynhonnau a phob un yn cael eu bwydo gan
darddiadau gwahanol ac yn gwella amrywiaeth o afiechydon. Erbyn hyn dim ond
pedair ffynnon sydd yn bodoli. Roedd Edward Lhuyd yn gwybod amdanynt gan fod
llawer o bobl yn tyrru atynt i wella scyrfi, colic ac anhwylderau eraill a daeth
y ffynhonnau haearn yn enwog yn y ddeunawfed ganrif.
Mae’r
pedair ffynnon yn weddol agos i’w gilydd a Ffynnon Ann neu’r Ffynnon
Rinweddol (SO504052) yw’r enwocaf ohonynt. Ffynnon â haearn yn ei dŵr yw
hi ac yn y mur o’i chwmpas mae seddau i bobl eistedd arnynt a dau gilfan
Mae’r tarddiad yn codi oddi mewn i fwa o gerrig dwy droedfedd o led a silff
o’i gwmpas a basn crwn dwy droedfedd ar draws i ddal y dŵr. Mae gwaith
cerrig cywrain a chadarn o gwmpas y ffynnon. Yma roedd yn arferiad i daflu
carreg i’r dŵr a gwneud dymuniad. Pe na ddeuai ond ychydig o swigod i’r
wyneb byddai’n rhaid aros cryn dipyn cyn i’r dymuniad gael ei wireddu. Pe
bai llawer o swigod yn ymddangos deuai’r dymuniad yn ffaith mewn fawr ddim o
amser. Pe
na ddeuai swigod o gwbl yna ofer y dymuno a’r dyheu.
Roedd
yn gred gyffredinol bod amhuro dŵr ffynnon yn sicr o ddwyn cosb i’w
ganlyn. Ceisiodd ffermwr a oedd yn berchennog ar y tir lle tarddai’r
ffynhonnau eu cau, ar wahân i un, a’i defnyddio i’w fantais bersonol ef ei
hun. Un diwrnod, fodd bynnag, daeth wyneb yn wyneb â dyn bychan o gorffolaeth
yn ymyl y ffynnon a dywedodd hwnnw wrtho y câi ei gosbi am wneud hynny ac na
fyddai dŵr yn llifo ar ei dir byth wedyn. Ailagorodd y dyn y ffynhonnau a
llifodd y dŵr ar ei dir unwaith yn rhagor. Nid yw’n syndod clywed fod
cred yn bodoli yn ardal Trelech fod y Tylwyth Teg yn dawnsio o gwmpas y
ffynhonnau ar noswyl Gŵyl Ifan ac yn yfed y gwlith o flodau cloch yr eos a
oedd yn tyfu o gwmpas y ffynhonnau.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 16 Haf 2004
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
GWEITHGAREDD WELLSPRINGS
FFYNNON ANN
Yng nghylchlythyr Wellsprings – The
Eye in the Landscape – ceir gwybodaeth am nifer o ffynhonnau. Mae sawl
cymdeithas wedi dod at ei gilydd i warchod a datblygu safle Ffynnon y Santes
Anne, neu’r Ffynnon Rinweddol yn Nhrelech, Mynwy. Yno mae nifer o ffrydiau’n
tarddu oddi mewn i furiau ar siâp pedol ac yn llifo i faddon y ffynnon. Mae’r
ffynnon wedi bodoli ar ei ffurf bresennol er 1689. Yn ffodus mae’r gymuned
leol wedi sylweddoli gwerth y ffynnon ac maent wedi creu llwybr o ganol y
pentref gan godi pont dros nant i hwyluso’r ffordd ati. Gosodwyd peipiau er
mwyn sychu’r safle ac i gario’r dŵr oedd yn goferu o’r ffynnon i greu dau
lyn a fydd yn denu bywyd gwyllt.
FFYNNON TRELECH (SO503051)
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 22 Haf 2007
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
CYNHADLEDD CAERLEON
Ffynhonnau Tryleg
Bellach daeth yn arferiad i gael cynhadledd
flynyddol sy’n tynnu pawb sy’n
ymddiddori mewn ffynhonnau sanctaidd yng Nghymru at ei gilydd.
Ar ddydd Sadwrn Medi’r 15fed cafwyd
diwrnod o ddarlithoedd hynod ddiddorol. Gan yr Athro Raymond Howell cafwyd
gwybodaeth am
ffynhonnau Tryleg, man a fu’n bwysig iawn fel lle i gynhyrchu
haearn ar un adeg ond sy bellach yn bentref cysglyd yn Sir Fynwy. Un o’r
ffynhonnau mwyaf amlwg yn Nhryleg yw
Ffynnon y Santes Ann (SO504052)
Yn yr ail ddarlith bu Tristan Grey-Hulse yn trafod
tarddiad yr enw Ann. Awgrymodd y gallai fod yn hen dduwies Geltaidd Annes
neu Anno. Ychydig o ffynhonnau yng Nghymru sy wedi eu cysegru i Ann. Ni
allai Tristan ddarganfod cyfeiriad at y santes yn hŷn 1689 lle mae ei henw wedi ei gerfio ar ddeial haul
yn yr eglwys. Mae amheuaeth a oedd hon yn ffynnon sanctaidd. Fe’i galwyd yn virtious
well sef fynnon rinweddol ac mae nifer o ffynhonnau yn cario’r enw yna yn
yr ardal Roedd hefyd yn ffynnon ofuned a gellid gwneud dymuniad
wrth y ffynnon . Pe byddai swigod yn ymddangos yn y dŵr cai'r person ei
ddymuniad. Mae’n bosib hefyd mai rhyw Ann oedd yn gofalu am y ffynnon ers
talwm ac mai hi rhoddodd ei henw
i’r ffynnon. Mae blas sylffwr i’r dŵr a dywedir ei fod yn dda am wella
colig. Gwelwyd fod carpiau wedi eu clymu i’r coed ger y ffynnon felly mae
cyrchu ati hyd heddiw. Hefyd roedd eicon bychan o’r Forwyn Fair wedi ei osod
uwchben y dŵr. Anna oedd enw mam Mair.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 33 Nadolig
ccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc