TREGARON
FFYNNON GARON
(SN 675595)
Gyda chryn drafferth y cafwyd hyd i’r ffynnon hon a hynny
ar ôl cael ein cyfeirio ati gan un a fu’n ei glanhau’n gyson am rhai
blynyddoedd. Mae yng nghanol tyfiant ar ochr dde y ffordd sy’n arwain i mewn i
Dregaron o gyfeiriad Llambed. Mae i lawr ar waelod llethr serth bron gyferbyn â’r
goleuadau sy’n fflachio ar adegau prysur i ddangos bod Ysgol Uwchradd Tregaron
gerllaw. Arbedwyd ac adnewyddwyd y ffynnon gan Gyngor Sir Dyfed yn 1991, pan
wnaed gwelliannau i’r ffordd. Cyngor Cymuned Tregaron sy’n berchen ar y
ffynnon ac ar un adeg gwnaed llwybr ati, ond erbyn hyn mae’r llwybr wedi
diflannu’n llwyr o dan y tyfiant. Wedi cyrraedd at y ffynnon gwelwyd bod ei
hadeiladwaith yn ddiddorol a’i bod mewn cyflwr da. Mae’r dŵr yn llifo
ohoni drwy sianel o waith cerrig cywrain ond eto mae tyfiant o wair trwchus wedi
cau’r sianel ac mae’r ffynnon wedi gorlifo. Mae angen gofal cyson arni i
gadw’r gofer yn glir ac ysgrifennwyd at y Cyngor i ofyn i hyn gael ei wneud.
Diddorol oedd sylwi bod ceiniog wedi ei thaflu i’r ffynnon yn ddiweddar. Yn y
gorffennol roedd plant yn arfer dod at y ffynnon i yfed y dŵr wedi ei
felysu â siwgwr ar Fawrth y pumed, dydd gŵyl Sant Caron. Hefyd byddai
cariadon yn dod ati ar Sul y Pasg i rhoi anrheg o fara gwyn i’w gilydd ac i
yfed y dŵr. Byddai’r ffynnon yn gyrchfan i nifer fawr o bobl ar yr adegau
hyn.
Yng nghyfrol ddiddorol Bethan Philip, Rhwng Dau Fyd, sy’n sôn am hanes Joseph Jenkins, Trecefel,
Tregaron, a fu’n swagman yn Awstralia am bum mlynedd ar hugain, cafwyd
cyfeiriad at Ffynnon Garon a nifer o ffynhonnau eraill. Roedd Joseph Jenkins yn
cadw dyddiaduron ac ynddynt ceir gwybodaeth am ffynhonnau’r ardal. Meddai am
Ffynnon Garon:
Swains and maids used to resort on Easter Day… To
drink the mother of all liquors produced by this spring.
Ysgrifennwyd at Gyngor Cymuned Tregaron i ofyn iddynt lanhau’r gofer yn Ffynnon Garon a hwyluso’r ffordd ati. Holwyd hefyd am gyflwr Ffynnon Einon a Ffynnon Elwad. (Gol.)
Ffynnon Elwad a Ffynnon Einon
Mae’n cyfeirio hefyd at Ffynnon Elwad ger Allt Ddu.
Darganfuwyd y ffynnon hon gan fynachod Ystrad-fflur ac roedd yn arbennig o dda
at wella bronnau poenus. Gerllaw Pont Einon
mae Ffynnon Einon yn tarddu.
Ailddarganfuwyd y ffynnon hon yn 1855 a’i hailagor mewn seremoni fach. Nododd
Joseph Jenkins yn ei ddyddiadur:
The company assembled at the well, and having drunk several pints of the
clear water,
sang the verses.
Roedd yntau wedi cyfansoddi englynion i nodi’r digwyddiad.
FFYNNON EINON
Mae Ffynnon Einon yn anwyl – i glaf
Dan glwyfau mhob perwyl.
Ond mae’n hynod, mewn anhwyl
Gyr bob haint, egyr bob hwyl.
Gwrol y tardd o gariad – o law Ner
I le noeth daw’r llygad
O! ffoi i’r wledd, wnaffo’r wlad,
Ac oddef ei dadguddiad.
O gyrrau, tua Tregaron – O dewch
Rai sydd dan archollion.
Golwg hoff – rhed y cloffion –
Heibio
i ffwrdd heb eu ffon.
.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 7 Nadolig 1999
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
FFYNNON GARON
Derbyniwyd llythyr gan y Cyngor Tref yn nodi fod plant Ysgol Sul Bwlchgwynt wedi gofyn am ganiatâd i ymgymryd â phrosiect i lanhau ardal y ffynnon. Mae'r Cyngor wedi ysgrifennu at yr adran briodol yn y Cyngor Sir.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 8 Haf 2000
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff
FFYNNON GARON
Unwaith eto, drwy haelioni Cyngor Sir Ceredigion, mae swm o arian wedi cael ei glustnodi er mwyn glanhau'r ffynnon, a mynedfa amlwg a diogel iddi yn cael ei chwblhau. O dan arweiniad swyddog ieuenctid lleol, a chymorth plant Ysgol Sul Capel Bwlchgwynt, bydd y gwaith yn mynd rhagddo yn fuan.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 9 Nadolig 2000
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
O
GWMPAS Y FFYNHONNAU
FFYNNON GARON
Mae nifer o ieuenctid Tregaron wedi mynd ati i ailgodi’r hen arferiad o fynd at Ffynnon Garon i yfed dŵr a siwgwr. Yn y gorffennol byddai pobl ifanc yn ymgynnull wrth y ffynnon ar yr wyl fabsant ar y pumed o fis Mawrtha hefyd adeg y Pasg. Roedd yn arferiad hefyd i gariadon dod ag anrhegion o fara i’w gilydd, ei fwyta ac yna ei olchi i lawr gyda dŵr y ffynnon. Mae arwydd i’w osod ar y briffordd uwchwchben y ffynnon yn dangos y fynedfa i’r llwybr sy’n arwain ati. Mae’r gwaith sydd wedi ei wneud eisoes yn wych a phont o bren wedi ei chodi dros y nant sy’n goferu ohoni. Er bob gofal mae tyfiant yn tueddu i dagu’r llwybr a bydd angen gwaith cyson i’w gadw ar agor, ond diolch am bob ymgais i ddiogelu’r ffynnon a’r tir o’i chwmpas. (Gweler mwy am Ffynnon Garon ar yr erthygl Ffynhonnau Ceredigion ISOD yn y rhifyn hwn.)
FFYNHONNAU
CEREDIGION
(Addaswyd y detholiad canlynol o gyfrol Mary Jones, Ddoe, eto drwy caniatâd caredig y cyhoeddwr, Gwasg Gomer, Llandysul.)
FFYNNON GARON
Gelwid y llall yn Ffynnon
Caron ac mae Gŵyl Sant Caron ar y pumed o fis Mawrth. Arferai plant yr
eglwys fynd i'r ffynnon yma ger Glanbrenig ar Ŵyl Sant Caron i yfed dŵr a
siwgwr brown. Roedd pob un yn dod â photel fach a thipyn o siwgwr brown yn ei
gwaelod. Wedi cyrraedd y ffynnon byddent yn ffurfio yn hanner cylch oddi amgylch
a phob un yn ei dro yn llanw ei botel a dŵr. Byddai pob un wedyn yn siglo'r
botel nes toddi'r siwgwr ac yna yfed pob diferyn gyda'i gilydd a dyna'r seremoni
drosodd am flwyddyn arall.
FFYNNON Y GORS
Hen
fod ymhell o Langeitho mae tref fechan Tregaron. Yn naturiol roedd amryw o
ffynhonnau yn y cylch a gelwid un ohonynt yn Ffynnon y Gors. Credid bod
meddyginiaeth yn ei dyfroedd i'r gwan a'r afiach. Dyma sut y canodd un bardd
iddi:
Ar lan y Teifi lonydd
y tardda ffynnon fwyn,
O gellau'r Fannog
Beunydd heb gysgod craig na llwyn.
Hen ffynnon goch Cors
Caron yw enw'r darddle lon,
Ac ni rydd haf na
gaeaf fyth glo ar enau hon.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 12 Haf 2002
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
FFILMIO’R FFYNHONNAU
Eirlys
Gruffydd
Yn ystod mis Gorffennaf eleni gofynnwyd i Ken a minnau fynd gyda chwmni Teleg
i ffilmio ffynhonnau ym Mon, Arfon, Llyn, Eifionydd, Powys, Ceredigion a
Chaerfyrddin. Buom yn ymweld a ffynhonnau a oedd yn gyfarwydd i ni, yn edrych ar
eu cyflwr ac yn digalonni o weld cyflwr truenus rhai ohonynt ond yn llawenhau
wrth weld fod eraill yn amlwg yn cael gofal. Llwyddwyd hefyd i ymweld ag un
ffynnon newydd. Mawr yw ein diolch i Michael Bailey Hughes a’i fab Sion am eu
cwmni a’u caredigrwydd i ni yn ystod y dyddiau y buom yn ffilmio.
Ymlaen a ni a chyrraedd Tregaron yn y gobaith o fedru ymweld a Ffynnon
Garon
LLYGAD Y FFYNNON Rhifyn 17 Nadolig 2004
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc