Home Up

TREFRIW

 

FFYNHONNAU PERYGLUS SIR GAERNARFON

YN Y DDEUNAWFED GANRIF!

gan Ken Lloyd Gruffydd

Ffynnon Llywarch

Ym mhapurau Cwrt y Sesiwn Fawr am dymor yr haf 1782 down ar draws y crwner a'i reithgor yn arwyddo tystysgrif i'r perwyl fod Robert William, bachgen bach tair oed, wedi boddi mewn pistyll o'r enw Ffynnon Llywarch a safai yng nghanol pentref Trefriw (SH7863). Yn iaith swyddogol yr ymchwiliad dywedid 'nid oedd marc wedi ei achosi gan drais ar ei berson.' Datgelwyd hefyd fod y bychan yn chwarae gyda phlentyn arall o'r un oed pan ddigwyddodd y drychineb [5].

5.     Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cymru 4/276/2/34. G. A.G., Cofrestr Plwyf Trefriw.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 15, Nadolig 2003

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff

 

FFYNNON CAE COCH

(SH 7863)

 

Cyfeiriadau at FFYNHONNAU yn y cylchgrawn CYMRU

(Casglwyd gan Ken Lloyd Gruffydd. Cadwyd at y sillafu gwreiddiol)

Elfyn; Trefriw ac Oddeutu; CYMRU XXXVI (1909) tudalen 62:

Un o’r prif at-dyniadau i Drefriw, yn arbennig yn yr amseroedd hyn ydyw Ffynnon Cae Coch, yr hon a gyrhaeddir ar hyd y ffordd at Gonwy mewn chwarter awr o’r pentref. Yn Faunula Grustensis, yr hwn a gyhoeddwyd mor ddiweddar a’r flwyddyn 1830, yr holl a ddywedir am y ffynnon ydyw ei bod yno, ac mai Mr. E.T.Griffith, llawfeddyg, ddaeth o hyd iddi. Yn ddiweddar, mewn cydmariaeth. Fe ddaeth rhinweddau meddyginiaethol y ffynnon hon yn glodfawr ac yn adnabyddus trwy Brydain, ac ymhellach na hynny. Er y flwyddyn 1873, mae tŷ cyfleus a lleoedd pwrpasol i chwaraeu, adloni, ac i gadw cyfarfodydd, wedi eu darparu yn ymyl y ffynnon, am yr hon y canodd Trebor Mai –

O flaen Cae Coch a’i riniawl ddwfr
Yn llwfr aiff angen llym;

  ac y canodd Gwilym Cowlyd –

Dŵr i’w yfed i’r afiach
     Yn creu ffordd i gael corff iach.

 Hefyd Dewi Arfon –

       Clywch, y mae dwfr Cae Coch – yn iachau pob
                    Rhyw nych pan ddaw arnoch;
                Fe all adfer claf llwydfoch;
                Wele’r fan i liwio’r foch.

            O ddrws y bedd i ris ban, – drwy’i yfed
                    Yr afiach ddaw’n fuan
                I adfyw: – mewn dinod fan
                Caiff rinwedd cyffyr arian.

Mae’n ddiameu na fyn y darllenydd sydd yn ddieithr i’r dwfr hynod hwn dderbyn testimonials y beirdd, gan fod y brodyr hynny, druain, yn euog o dynu gyda digwilydd-dra pleserus ar eu dychymyg ynglŷn â phopeth ymron. Ond os na chymerir gwyr braint a defod yr awdurdodau, ni fydd i’r teulu deimlo’n sur a dolurus o’r herwydd gan fod rhai o feddygon mwyaf adnabyddus y wlad wedi rhoddi sel eu cymeradwyaeth i rinwedd dŵr Cae Coch, yn arbennig at gryfhau y gwan, at ddiffyg treuliad a meithriniad gwaed. Er deugain mlynedd a mwy yn ôl, awdurdodau uchel, ar ddefnyddio y dŵr, drwy ei yfed ac wedi ymolchi ynddo, oedd y diweddar Doctor W.E. Hughes (Cowlyd), Llanrwst, a Doctor Pierce, Dinbych, dau feddyg galluog ag y cyrchai cleifion llawer ardal hyd atynt. Ar ôl hynny ysgrifennodd Dr. Hayward, Lerpwl, lyfr adnabyddus yn trafod rhagoriaethau arbennig Ffynnon Cae Coch. Mae y llyfr hwn yn eithaf hawdd ei gael; myned y darllenydd olwg arno. Ceir tystiolaeth i’r un perwyl gan y meddyg adnabyddus Dr. T.E. Jones, Henar, Llanrwst. Yn ôl dadansoddiad Dr. Hassall, y ffynnon hon yw y dwfr haiarn goreu ym Mhrydain fawr. Mae cannoedd lawer o gleifion, o bryd i bryd, wedi eu bendithio â nerth ac iechyd drwyddo. Mae pythefnos neu fis o yfed dŵr Trefriw, ac o sugno awelon iach yr ardal, wedi rhoddi gwrid newydd mewn llawer grudd lwyd, ac efallai gipio ambell un megis o borth y fynwent. O does rhywun yn wan o gorff neu feddwl, gadawed i Drefriw a’i dŵr dreio llaw arno.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 18, Haf 2005

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

PYTIAU  DIFYR  

FFYNHONNAU TREFRIW  

( Allan o Rhys Lewis gan Daniel Owen.)

‘Yr oeddwn yn gwanychu. Euthum i Drefriw a derbyniais lawer o les yno, a chyn ymadael mwynhawn ychydig ar y difyrwch diniwed wrth y ffynhonnau, a thybiais fy mod ar droi i wella, ac nis gallaf fynegu fy llawenydd, a’r dedwyddwch dwys a dwfn a deimlwn yn fy mynwes. Pan ddeuthum yn ol adref yr oedd y cyfeillion yn synu at y cyfnewidiad ynof ac yr oeddynt yn llawen.’  

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 24, Haf 2008

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff

 

FFYNHONNAU DYFFRYN CONWY A’R GLANNAU

gan Gareth Pritchard

(Mae Gareth wedi bod yn ymchwilio i hanes ffynhonnau Dyffryn Conwy a’r glannau ers peth amser ac mae erthyglau am y ffynhonnau yn ymddangos yn rheolaidd yn y papur bro- Y Pentan. Piti na fase gan bob papur bro yng Nghymry ohebydd tebyg. Diolch iddo am y lluniau hefyd.

FFYNHONNAU CAE COCH, 

TREFRIW (SH 7786530)

Y Rhufeiniaid, mae’n debyg, a ddarganfu’r ffynhonnau yn Nhrefriw rhwng 100 a 250 OC pan oeddynt yn Conovium (Caerhun). Mae rhai yn honni mai gŵr bonheddig a daeth o hyd iddynt pan oedd allan yn hela a thorrodd ei syched drwy yfed o ffrwd fechan. Bu ond y dim iddo farw o ganlyniad i hynny. Hanes arall am eu darganfod yw’r un am adeiladu ffordd newydd i fferm Cae Coch tua 1820. Torrwyd i mewn i hen lefelau a darganfuwyd tarddle’r ffynhonnau. Mewn taflen wybodaeth am y ffynhonnau nodir mai dyma’r ffynnon haearnol fwyaf cyfoethog yn y byd a bod y dŵr wedi cael ei gofrestru fel moddion yng ngorllewin yr Almaen. Nid y dŵr yn unig sydd o ddiddordeb ond hefyd pensaernïaeth y baddondy a ddisgrifir fel cyclopean (am fod cerrig mawr wedi eu defnyddio i’w adeiladu), gyda’r gorau sy’n bodoli. Credir mai'r Arglwydd Willoughby de Eresbur a’i hadeiladodd yn 1763. Mae llechi anferth ar do’r adeilad ac oddi mewn iddo mae baddon o lechen Gymreig. Gydag adeiladu’r baddonau daeth pentref Trefriw yn le poblogaidd i dreulio gwyliau. Addaswyd adeiladau yn y pentref ar gyfer ymwelwyr a chodwyd gwesty pwrpasol ar eu cyfer. Deuai gweithwyr o ardal y chwareli yn ogystal â boneddigion cefnog i geisio gwellhad yn nyfroedd Ffynhonnau cae Coch.

Yn 1872 cyhoeddwyd cyfeirlyfr i bentref Trefriw gyda manylion ar sut y dylid defnyddio’r dŵr. Rhaid oedd eu dilyn yn ofalus gan fod yfed gormod o’r dŵr yn gallu bod yn niweidiol. Dylid ei yfed yn syth o’r graig ac aros am awr cyn bwyta. Llond gwydraid gwin y dydd y dylid ei yfed ar y dechrau. Wedi hynny gellid dyblu cyfaint y dŵr. Arferai’r ymwelwyr fynd i’r ffynhonnau yn y bore i flasu’r dŵr ac yn y prynhawn byddent yn ymdrochi yn y dŵr yn y baddon. Gyda’r nos cynhelid cyngherddau i ddiddanu’r ymwelwyr. Ceiniog y dydd oedd y gost am fynediad i’r ffynhonnau ond ceid gwydraid o ddŵr yn y pris. Ar adegau byddai cymaint â thri chant o ymwelwyr yn aros yn y pentref. Erbyn 1874 daeth y ffynhonnau i ddwylo preifat am y tro cyntaf. Rhwng 1875 a 1959 fe gai’r dŵr ei roi mewn poteli a’i werthu ar draws y byd ar gyfandiroedd fel Awstralia, Canolbarth Affrica, De America yn ogystal ag ar draws Ewrop.

Yn 1908 teulu Adamson o ardal Lerpwl oedd yn gofalu am y ffynhonnau ac adeiladwyd baddonau newydd mewn adeilad urddasol ar fin y ffordd. Cludid pobl yma o Drefriw mewn cart a cheffyl ar gost o dair ceiniog. Wedi’r Ail Ryfel Byd gwerthwyd y ffynhonnau i ŵr o’r enw Cyrnol Cockroft ac roedd y dŵr yn dal i gael ei botelu a’i werthu. Yn anffodus collodd y ffynhonnau iachusol eu hygrededd am na chawsant eu cynnwys eu cynnwys yng nghynlluniau’r awdurdodau iechyd swyddogol. I bob ymddangosiad roedd oes aur Ffynhonnau Cae Coch wedi mynd heibio. Tua 1970 prynwyd y lle gan Alf Ineson, perchennog cwmni moduron o ogledd Lloegr ac ail agorwyd ym 1972. Byddai ymwelwyr yn dal i alw heibio a chaent weld y baddonau am ugain ceiniog. Gwerthid y dŵr mewn poteli plastig ac roedd cleifion yn dal i gael iachâd wedi iddynt yfed y dŵr. Mae’r ffynnon gyntaf yn gryf iawn mewn haearn. Mae ynddi hefyd silica, sylffwr, magnesia, soda, calsiwm, alwminiwm, sodiwm a manganîs. Mae tymheredd y dŵr yn sefydlog tua 48 i 50 gradd ffarenheit. Byddai’r dŵr yn y baddon yn gymysgedd o ddŵr y ddwy ffynnon ac yn cael ei gynhesu i tua 100 gradd ffarenheit. Yn yr wythdegau daeth y ffynhonnau yn eiddo i Toni Rowlands a fagwyd yn Llandudno. Fe fuddsoddodd filiwm o bunnau yn y fenter a gwerthid cynnyrch y ffynhonnau mewn siopau drwy Brydain, Ewrop ac Affrica. Nid yw’r corff dynol yn gallu storio haearn ac felly mae angen cyflenwad cyson ohono i gadw’n iach. Nid mewn poteli y gwerthir y dŵr bellach ond mewn pacedi. Daeth tro ar fyd. Nid yw’n bosibl ymweld â’r ffynhonnau na’r baddondy, ond yn ôl ffigyrau’r cwmni (Nelson) , yn 2009 cynhyrchwyd a gwerthwyd dros 12 miliwn o bacedi o’r dŵr o dan yr enw Spatone ar draws y byd.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 34 Haf 2013

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Rhan o FFYNHONNAU CYMRU A’R SIPSIWN

Rhestrir rhai ffynhonnau eraill, hefyd, a’u henwau Romani yn aml yn gyfieithiadau o’r Gymraeg:

I gozhvali cheni (y ffynnon swyn): Ffynnon hud, tarddell iachaol; yn enwedig honno yn Llandrillo-yn-Rhos.

Glanimoraki cheni (ffynnon Glan-y-môr): Tarddell iachaol ddirgel yng Nglan-y-môr.

I cali cheni (y ffynnon ddu): Ffynnon Ddu, yn ymyl y Drenewydd.

I loli cheni (y ffynnon goch): Cae Coch, yn ymyl Trefriw (ffynnon ddurllyd).

Saraci cheni (ffynnon Sara): Ffynnon Sara, Clawddnewydd.

I iŵzhi cheni (y ffynnon bur): Ffynnongroyw, yn ymyl Mostyn.

I chenako gaf (lle’r ffynnon): Treffynnon.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 41 Nadolig 2016

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

 

 

Home Up