Home Up

TREFFYNNON

 

FFYNNON BEUNO, 

(SJ1876)  

DIOLCH i Alun L. Jones, Clerc Cyngor Bro Llangeler, am ddanfon yr englyn yma i ni am Ffynnon Gwenffrewi, Treffynnon, Sir y Fflint. Meddai:

'Bum ar daith adeg un o Steddfodau Cenedlaethol y North a galw heibio i Ffynnon Gwenffrewi, ac fe luniais englyn. Mae digon o wybodaeth ar gael am y ffynnon yma, ond y ffaith odiaf ynglŷn â hi ydy mai dŵr tap sydd yn ei diwallu bellach. Mae'n hysbys bod y nant wreiddiol wedi sychu ers blynyddoedd meithion.'

FFYNNON GWENFFREWI

Er nad o rawd Iachawdwr, - ni dderfydd Hirfaith eli'r glasdwr;

Gras y Deyrnas sy'n ei dŵr

O fôr y Pen-Adferwr.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 1 Nadolig 1996

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

FFYNNON BEUNO, TREFFYNNON

(SJ1876)

Mae pawb yn gwybod am Ffynnon Gwenfrewi yn Nhreffynnon ond faint tybed sy’n ymwybodol bod ffynnon i Feuno Sant yno hefyd? Mae safle’r ffynnon ar dir uchel uwchben Ffynnon Gwenfrewi, ychydig islaw’r fan a elwir o hyd yn Gerddi Beuno. Mae Roberta Owen o Dreffynnon yn awyddus i dynnu sylw at y potensial o ddiogelu’r rhan hon o’r dref a’i hagor fel man cyhoeddus o ddiddordeb hanesyddol a diwylliannol. Ar hyn o bryd dim ond twll go fawr mewn anialdir yw safle’r ffynnon ond credir mai yma y dienyddiwyd Gwenfrewi. Am ganrifoedd byddai’r pererinion a ddeuai i Dreffynnon, neu Lanwenfrewi i roi i’r lle ei enw gwreiddiol, yn dringo’r bryn tuag at Ffynnon Beuno ac yn taro darnau o arian i goeden gysegredig fel offrwm cyn mynd ymlaen at y ffynnon. Lladdwyd y goeden oherwydd yr holl ddarnau arian a ddyrnwyd iddi ac fe’i dymchwelwyd gan Gyngor Sir y Fflint yn y pumdegau. Nhw yw perchnogion y safle. Bellach mae pwyllgor wedi cael ei sefydlu i edrych ar y posibilrwydd o ddenu arian loteri i weddnewid y safle, creu llwybrau a chael cloddfa archeolegol ar safle’r ffynnon. Gan fod cynrychiolaeth o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru ar y pwyllgor byddwn yn cael gwybod am y datblygiadau diddorol hyn. Gall cymunedau eraill sy’n awyddus i ddatblygu safle o gwmpas ffynnon sanctaidd hefyd elwa o brofiad cyfeillion Treffynnon.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 21 Nadolig 2006

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff

 

BRENHINES Y FFYNHONNAU

FFYNNON GWENFREWI , TREFFYNNON

(SJ185763)

 

FFYNNON GWENFREWI 

Eleni mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn Sir y Fflint. Wrth i deithwyr gyrraedd Treffynnon gwelant ar yr arwydd fod cyfeiriad at y dref fel Lourdes Cymru. Yma mae ffynnon sydd wedi goroesi’r Diwygiad Protestannaidd ac sy’n dal i fod yn gyrchfan i bererinion. Mae llawer yn tystio i rinwedd ei dŵr hyd heddiw. Does ryfedd iddi gael ei henwi’n un o saith rhyfeddod Cymru, yn enwedig o gofio fod ei bwrlwm wedi troi melinau oedd yn rhoi pwer i’r ffatrïoedd yn nyffryn Maes Glas. Os cewch gyfle yn ystod wythnos yr Eisteddfod i ymweld â Threffynnon fe welwch frenhines ffynhonnau Cymru. Cewch hefyd flas ar ddylanwad y ffynhonnau ar y werin mewn gwlad Babyddol ble’r oedd cwlt y seintiau yn rhan hanfodol o addoliad y bobl. Os hoffech wybod mwy am Ffynnon Gwenfrewi a ffynhonnau eraill y sir, dewch i Babell y Cymdeithasau ar faes yr Eisteddfod am dri o’r gloch brynhawn Mercher, Awst yr 8fed. Bydd sgwrs ar y testun yn dilyn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Ffynhonnau Cymru.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 22 Haf 2007

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

GWYRTHIAU GWENFREWI

Eirlys Gruffydd  

Y Santes Gwenfrewi fel y'i darlunnir mewn ffenestr liw yn eglwys Llandyrnog, Dyffryn Clwyd.

Mae pobl wedi bod yn cyrchu at Ffynnon Gwenfrewi yn Nhreffynnon (SJ185763) ers cannoedd o flynyddoedd, a llawer wedi derbyn gwellhad wrth gerdded drwy’r dyfroedd neu wrth yfed y dŵr.  Hyd yn oed heddiw, pan fo gennym eli at lawer clwyf, mae rhai achosion na all meddygaeth fodern eu gwella, ac mae pobl eto'n troi at ddyfroedd rinweddol y ffynnon hon. Dyma hanes rhai o wyrthiau Gwenfrewi.

Bu’r flwyddyn 1894 yn un eithriadol yn hanes y ffynnon. Rhwng dechrau Mai a diwedd Hydref - y tymor pan fyddai’r tyrfaoedd yn ymweld â’r ffynnon- cawn hanesion yn y papurau newydd am amryw yn cael iachad yno. Diddorol yw sylwi mai o Sir Gaerhirfryn y deuai’r ymwelwyr, a bod nifer o’r rhai a iachawyd yn Babyddion. Yn y County Herald am Fai 18ed cawn hanes adfer lleferydd Alice Woods, merch ifanc o Preston oedd yn fud ers dwy flynedd. Cafodd wellhad ar yr union adeg y cerddodd i ddyfroedd y ffynnon. Roedd wedi gwario llawer o arian ar feddygon, ond i ddim pwrpas. Bu yn yr ysbyty yn Preston am chwech wythnos, ac yn derbyn triniaeth dyddiol. Roedd y driniaeth yn un boenus gan y rhoddid sioc drydanol bwerus i’w thafod, taflod ei genau a phob un o’i dannedd. Yn ôl y papur roedd dyfroedd y ffynnon wedi bod yn fwy effeithiol na holl ddyfeisiadau’r meddygon.

Ar Fehefin 8fed arweiniwyd gwraig ddall at y ffynnon. Golchodd ei llygaid yn y dŵr a chusanodd grair y santes a roddwyd i gyffwrdd a’i gwefusau gan yr offeiriad. Toc rhyfeddodd pawb wrth ei chlywed yn dweud ei bod yn gallu gweld wyneb yr offeiriad a’r papur oedd ganddo yn ei law. Cyn mynd adref gallai ddarllen y print mân ar ei thocyn tren. Dywedwyd fod y wraig wedi bod yn ddall ers sawl blwyddyn oherwydd pilen ar ei llygad. Roedd wedi derbyn triniaeth lawfeddygol yn y Liverpool Eye Infirmary ar fwy nag un achlysur, ond heb lwyddiant.

Yn rhifyn Mehefin 29ain o’r papur cawn hanes dyn o Fanceinion a fu'n dioddef gan  tyfiant ar ei dafod, a’r meddygon wedi dweud wrtho y byddai’n rhaid torri ei dafod allan i gael gwared o’r cancr. Aeth i’r dŵr yn y ffynnon ar fore Sadwrn, a’r eiliad honno daeth llifeiriant o waed o’i geg. Ar ôl hynny gallai fwyta bwyd fel pawb arall a siarad yn glir- pethau nad oedd wedi gallu eu gwneud ers tro byd.Yn ystod mis Awst bu cymaint o gyrchu at y ffynnon nes nad oedd modd cael llety yn y dref. Yn rhifyn Awst 10fed o’r County Herald cawn hanes am Miss Taylor o Wigan oedd wedi bod yn dioddef o hernia- torlengid- ers rhai blynyddoedd. Aeth i ddyfroedd y ffynnon ar y Sul, a theimlo fel pe bai’r rhan boenus o’i chorff ar dân. Wedi dod allan o’r dŵr dywedodd ei bod yn teimlo’n gryf ac yn iach.

Roedd cannoedd o ymwelwyr wedi dod at y ffynnon ar y dydd Mawrth canlynol i weddio ac addoli. Yng nghanol y defosiwn digwyddodd gwyrth arall. Roedd Christopher Kilbridie o 23 Pit St , Rock Ferry wedi bod yn ddall yn ei lygaid dde am un mlynedd ar ddeg, ac wrthi'n golchi ei lygaid yn nŵr y ffynnon pan adferwyd ei olwg. Ar yr un diwrnod, bu James Allen o 57 Myrtle Buildings, Wood St, Penbedw yn golchi ei lygaid yn y ffynnon. Roedd wedi colli ei olwg ers y Nadolig, ac wedi cael triniaeth yn ofer gan dri meddyg. Bu’n rhoi dŵr y ffynnon ar ei lygaid yn fodd adfer ei olwg. Drannoeth roedd nifer fawr o ymwelwyr o Formby wedi dod am drip at y ffynnon, ac yn eu plith ferch a fu'n fyddar ers deng mlynedd o ganlyniad i’r dwymyn coch- y scarlet fever. Wedi iddi fynd i’r ffynnon gallai glywed unwaith eto.

Ar ddiwrnod olaf Awst daeth gwraig o Leeds i’r ffynnon. Roedd wedi colli defnydd ei braich chwith ac wedi cael triniaeth lawfeddygol arni, ond yn ofer. Wedi bod yn y ffynnon gallai symud ei braich a’i defnyddio fel cynt. Mewn achos arall, cawn hanes am un Rose Anne Duffy o Newcastle , oedd wedi  dioddef gan wendid yn ei chlun am bum mlynedd, ac wrth ei baglau ers teirmlwydd. Roedd meddygon yn yr ysbyty yn Newcastle wedi methu â’i gwella, ac wedi dweud wrthi nad oedd dim y gallent ei wneud i’w chynorthwyo. Cafodd wellhad y tro cyntaf yr aeth i’r dŵr, a gallai gerdded o’r ffynnon heb gymorth ei baglau.

Yn y papur am Fedi y 7fed cawn wybodaeth am Miss Sarah Murphy o Stubbles ger Rambsbottom. Roedd wedi dioddef gan y cancr ers y Nadolig cynt, ac wedi cael gwybod gan nifer o feddygon nad oedd modd iddynt ei gwella os nad oedd yn barod i wynebu triniaeth fawr yn yr ysbyty Brenhinol ym Manceinion. Nid oedd sicrwydd y byddai’r driniaeth yn llwyddiannus, fodd bynnag. Penderfynodd fynd i Dreffynnon i geisio gwellhad. Aeth i’r dŵr am y tro cyntaf ar Awst 21ain, a nifer o weithiau wedyn:  a phan adawodd  am adref, roedd yn temlo’n  gryf ac iach ac mewn hwyliau da.  Yn rhifyn Medi’r 14eg cawn hanes am griw o bobl yn dod i Dreffynnon o eglwys Gatholig yr Holl Eneidiau yn Collinswood Rd , Lerpwl. Yn eu plith roeddd dyn dall y dywedir iddo dderbyn ei olwg ar ôl golchi ei lygaid yn y ffynnon.

Yn y rhifyn nesaf o’r papur a ymddangosodd ar Fedi’r 21ain, croniclir hanes dyn o’r enw William Harris oedd wedi mynd i swyddfa’r County Herald i ddweud wrthynt ei fod wedi cael iachad yn y ffynnon. Roedd ei goes dde wedi ei pharlysu ers dwy flynedd. Wedi iddo fod yn y dŵr dair gwaith adferwyd iddo ddefnydd ei goes. Oherwydd hynny gallai nawr ennill ei fywoliaeth, lle nad oedd wedi gallu gweithio cynt.  Roedd yn llawen iawn wrth ddweud yr hanes wrthynt, gan ddiolch i Dduw am ei iachad. Yn rhifyn Medi 28ain cawn hanes am dyrfaoedd o Lerpwl, Manceinion a Wigan , wyth gant i gyd, yn cyrchu at y ffynnon. Roedd nifer ohonynt yn dod o’r Liverpool Catholic Blind Asylum ac yn ei plith roedd merch ifanc a gafodd ei golwg ar ôl bod yn y ffynnon.

Er bod y cyfnod ymweld â’r ffynnon yn dirwyn i ben am y flwyddyn, cafwyd adroddiad am un arall yn derbyn iachad yn y ffynnon, yn rhifyn Hydref 26 y papur. William Lewis oedd ei enw, ac roedd yn byw yn rhif deg, David St , yn Warrington . Roedd yn 41 oed ac yn ddyn cydnerth, ond bod ôl dioddefaint ar ei wyneb. Roedd wedi cael stroc ysgafn un mlynedd ar ddeg yng nghynt: roedd ei goes a’i fraich dde wedi eu heffeithio, ac ni fedrai wneud gwaith trwm ers hynny. Bu’n gwerthu llaeth am gyfnod, ond yna gwaethygodd ei gyflwr. Ni allai weithio, a phrin y gallai gerdded o gwbl. Effeithiwyd ar ei leferydd. Bu am gyfnod yn Ysbyty Brenhinol Manceinion ac yna mewn cartref nyrsio yn Cheadle, ac roedd rhywfaint yn well. Yna dwy flynedd yn ôl bu rhaid iddo fynd i’r tloty am na allai ofalu amdanoi’i hun. Penderfynodd ymweld â Threffynnon. Cafodd gryn drafferth i gerdded o’r tren i’r llety, a syrthiodd dair gwaith ar y ffordd.  Bu yn nŵr y ffynnon chwech o weithiau, ac wedi hynny roedd y nerth wedi dychwelyd i’w goes a’i fraich, a gallai siarad yn fwy eglur. Bellach gallai gerdded heb ffon.

O’r Liverpool Daily Post am Awst 17eg 1894 y daw’r hanes canlynol. Roedd Joseph Egan o 76 Claughton St, St Helens, ond yn wreiddiol o Athlone yn Iwerddon, wedi cael iachad yn Ffynnon Gwenfrewi yn ystod mis Gorffennaf 1894. Pan yn fachgen ifanc yn ei famwlad roedd wedi torri ei lengid wrth weithio ar y tir, ac wedi gorfod gwisgo truss neu gwasgrwym byth ers hynny. Daeth i Preston yn 1839 ac yna i St Helens , lle cafod gryn sylw gan y meddygon. Roeddynt wedi ei anfon i Fanceinion i gael truss gan arbenigwyr yn y fan honno, ond roedd y teclyn hwnnw yn boenus ac anifyr. Daeth i Dreffynnon i aros am gyfnod o ddeg diwrnod, a mynd i’r ffynnon bob dydd. Wrth fynd i’r dŵr byddai’n gweddio am wellhad. Teimlai’n gryfach bob dydd. Aeth adref ar Orffennaf yr 28ain, a dau ddiwrnod yn ddiweddarach tynnodd y truss ac nid oedd wedi ei wisgo ers hynny. Gallai godi pwysau a gweithio’n gorfforol galed heb unrhyw boen na thrafferth. Roedd wedi mynd i Dreffynnon ar ôl darllen am y ffynnon, gan nad oedd help arall i’w gael. Roedd yn Babydd a chanddo ffydd yn y gweddiau, a hoffai pe bai eraill yn cael gwybod am effeithiolrwydd y dyfroedd. Tystiodd meddyg oedd yn ei adnabod yn dda nad oedd wedi gweld dyn o oed Mr Egan yn gwella o dorlengid erioed o’r blaen.

Ar ddiwedd y tymor ymwelwyr mae’r County Herald ddechrau Tachwedd 1894 yn cynnwys hanes iachad anhygoel a welwyd gan nifer fawr o dystion. Enw’r claf oedd Miss Mary Ann Foley a’i chyfeiriad 101 Merton Road , Bootle . Roedd yn 46 oed ac arferai weithio yn shop ddillad cwmni Frisk Dyke yn Lerpwl. Am bum mlynedd roedd wedi bod yn analluog i symud ac yn treulio cyfnodau mewn ysbyty yn Lerpwl, lle dywedwyd wrthi bod asgwrn ei chefn wedi crymu o dan effaith arthritis ac nad oedd dim y galai’r meddygon ei wneud i liniaru ei phoen. Clywodd am Ffynnon Gwenfrewi a’r gwyrthiau iachaol oedd wedi digwydd yno, a phenderfynodd wneud y daith anodd i’r dref. Cyrhaeddodd westy’r King’s Head mewn cyflwr truenus ar nos Lun, a bu rhai ei chludo i’w hystafell. Aed â hi ym mws y gwesty at y ffynnon fore Mawrth, a’i chludo i’r baddon. Cafodd ei gollwng i’r baddon hirsgwar yn yr awyr agored i ddechrau, ac yna yn y baddon dan do lle mae’r dŵr yn byrlymu o’r ddaear. Dywedodd wedyn iddi deimlo fel pe bai ei holl esgyrn yn llosgi wrth iddi fynd i’r dŵr, gallai glywed rhywun gerllaw yn gweddio, ac roedd yn teimlo fel pe bai mewn byd arall. Pan  aeth pobl ati i’w chodi o’r ffynnon gwrthododd eu cymorth gan ddweud y allai gerdded ei hun. Dringodd heb gymorth i fyny’r grisiau o’r ffynnon i’r ystafell newid lle gallodd wisgo dillad sych heb gymorth, yna cerddodd bob cam i fyny’r allt serth o’r ffynnon yn ôl i’r gwesty er mawr syndod i bawb. Cytunodd pawb fod ei hadferiad yn un o’r ddigwyddiadau mwyaf rhyfeddol y buont yn dystion iddo.

Rhag ofn eich bod yn meddwl mai pethau a ddigwyddodd dros ganrif yn ôl yw gwyrthiau Gwenfrewi, clywch dystiolaeth dau sy’n fyw ar hyn o bryd, dau rwyf wedi eu gweld a siarad efo nhw. Yn y rhifyn o’r Chester Chronicle a gyhoeddwyd ar Orffennaf 21ain, 1995 mae llun o Tristan Grey Hulse. Mae’n arbenigwr ar Ffynnon Gwenfrewi ac mae ganddo diddordeb mawr mewn ffynhonnau yn gyffredinol. Byddaf yn ei weld yn achlysurol yn y cyfarfodydd i geisio adfer safle Fynnon Feuno yn Nhreffynnon. Pan y blentyn arferai ei nain fynd ag ef i weld Ffynnon San Steffan yn y goedwig yn Utkinton ger Tarporley. Mae’n Babydd, ac fel glaslanc ymunodd â’r dyrfa oedd yn ymweld â Threffynnon un haf i ddathlu dydd  gŵyl y santes. Wedi rhai blynyddoedd aeth i aros gyda mynachod urdd yr Ieseuwyr, ac un diwrnod wrth gywain gwair llithrodd a throi ei gefn yn ddrwg. Wedi cyfnod gadawodd y fynachlog a gwaethygodd ei gyflwr, gan bod arthritis wedi gafael yn asgwrn ei gefn. Aeth i Dreffynnon ar ddydd gŵyl y santes. Cafodd gryn drafferth i gerdded i fyny’r bryn i’r ffynnon o’r orsaf rheilffordd yn y Maesglas. Cerddodd i mewn i’r dŵr yna goleuodd gannwyll a gweddio. Ymhen chwech wythnos deffrodd un bore heb boen o gwbl ac felly mae wedi bod ers hynny. Dywedodd yr hanes yma wrthyf y tro cyntaf i ni sgwrsio ar y ffôn.

Yn  rhifyn Tachwedd y pumed, 1996 y Chester Chronicle cawn hanes rhyfeddol Lolita L’Aiguille oedd yn  Babydd 46 oed ac yn dod o Lundain.  Doedd hi erioed wedi clywed am Dreffynnon. Roedd ganddi lid yn ei chlun a byddai’n byw mewn poen beunydd fel pe bai rhywbeth yn llosgi’n barhaus yn ei hochr. Roedd yn ei chael hi’n anodd i wneud y pethau mwyaf syml, fel gwisgo ei sannau am ei thraed. Un noson cafodd freuddwyd ei bod yn teithio drwy dirwedd ddieithr, ond ni feddyliodd mwy am y peth. Ymhen ychydig amser aeth hi a’i chwaer am daith benwythnos i ogledd Cymru, ac wrth deithio sylweddolodd  Lolita mai dyma’r union ardal a welodd yn ei breuddwyd. Pan gyrhaeddodd Dreffynnon aeth yn syth at y ffynnon a cherdded i mewn i’r dŵr gan weddio am gymorth i leihau’r boen. Aeth i’r ffynnon y ddau ddiwrnod dilynol, ac yn raddol sylweddolodd fod y teimlad llosg yn ei hesgyrn yn lleihau. Pan gyrhaeddodd adref i Lundain ar ôl y penwythnos, roedd y boen wedi diflannu’n gyfangwbl. Aeth i weld y meddyg, ac ni allai hwnnw gredu’r hanes nes iddi ddangos iddo ei bod yn gallu symud yn ystwydd heb boen yn y byd. Dywedodd y meddyg wrthi nad oedd bosib i’w chyflwr fod wedi newid mewn modd mor ddramatig dros un penwythnos, ond ni allai wadu tysiolaeth ei lygaid ei hun. Ysgrifennodd ar ei nodiadau meddygol” Gwellwyd gan y Santes Gwenfrewi”. Os ewch at y ffynnon heddiw, cewch gwrdd â Lolita. Hi sy’n gofalu am y siop a’r swyddfa tocynnau gweld y ffynnon. Dywedwch beth a fynnoch – does yr un  ffynnon arall yn debyg i hon yng Nghymru- hon yw brenhines ein ffynhonnau, ein Lourdes ni.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 23 Nadolig 2007

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

PYTIAU DIFYR...PYTIAU DIFYR...PYTIAU DIFYR

Dyma gyfieithiad o’r hyn welwyd yn y Flintshire Standard ar Ddydd Iau Ebrill 10fed, 2008:

DŴR O FANGRE CYSEGREDIG NODEDIG AR WERTH AR eBAY

Mae dŵr sanctaidd o un o fannau enwocaf a mwyaf cysegredig Sir Y Fflint ar werth ar eBay. Am ganrifoedd bu pererinion yn teithio i Ffynnon Santes Gwenfrewi yn Nhreffynnon i ymweld â chreirfa’r santes y dywedir iddi gael ei dienyddio yn y seithfed ganrif. Yn ôl yr hanes gwrthododd gael cyfathrach rywiol gyda Charadog, pendefig lleol, ac yn ei ddig torrodd ei phen i ffwrdd gyda’i gleddyf. Ond lle syrthiodd y pen tarddodd ffynnon gref o’r ddaear. Cafodd Gwenfrewi ei hadfer i lawn iechyd gan ei hewythr Beuno Sant a daeth y ffynnon yn enwog ac yn fagned i Gristnogion o bedwar ban byd. Dywedir mai’r fangre hon yw Lourdes Cymru oherwydd grym iachusol a bwrlwm y dyfroedd. Nawr mae technoleg fodern yn chwarae rhan yn yr hanes a pherson o’r Alban yn ceisio gwerthu potelaid o’r dŵr ar safle ocsiwn ar y we. Mae llawer o ymwelwyr yn defnyddio poteli i gario dŵr o’r ffynnon adre efo nhw. Mae’r dŵr ar  y we ar werth i’r un sy’n cynnig y pris uchaf.  Yr isafswm y gellid ei gynnig oedd 50 ceiniog a £3 am y cludiant neu gellid prynu’r botel ar unwaith am £4.99. Nid oes sicrwydd a gafodd y dŵr ei werthu ai peidio.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 25 Nadolig 2008

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Rhan o erthygl FFYNHONNAU THOMAS PENNANT gan Eirlys Gruffydd

Ffynnon Wenfrewi (SJ185763)

Darlun Moses Griffith o Ffynnon Wenfrewi yng nghyfrol gyntaf y Tours of Wales

Ar ddechrau 1778 cyhoeddwyd y gyntaf o dair cyfrol Tours in Wales, gan Thomas Pennant (1726-1798) o Downing ym mhlwyf Chwitffordd, Sir y Fflint. Gan fod ei gartref yn y plwyf agosaf at Dreffynnon does dim syndod i Ffynnon Wenfrewi (SJ185763) yno gael gryn sylw ganddo. Meddai:

‘Mae’r ffynnon wrth droed gallt serth islaw Treffynnon a’r dŵr yn berwi allan o graig i ffynnon hardd ar ffurf amlochrog (polygon) gyda bwa o garreg hardd drosti sy’n cael ei chynnal gan bileri. Mae’r to wedi ei gerfio’n gywrain. Dros y ffynnon mae capel o bensaernïaeth othig.’

Yna mae’n olrhain hanes Gwenfrewi a’r modd y daeth y ffynnon i fodolaeth. Mae’n sôn hefyd am y llu o bobl a gafodd iachâd yn y ffynnon dros y canrifoedd, yn cynnwys Pabyddion a Phrotestaniaid fel ei gilydd. Bu’r lle yn fan i bererinion ymweld ag ef ond mae’n nodi bod y niferoedd wedi lleihau yn ddiweddar, serch hynny roedd pobl yn dal i gyrchu at y ffynnon.

‘Yn yr haf gellir gweld rhai yn y dŵr mewn defosiwn yn gweddïo’n ddi-baid ac yn cerdded nifer o weithiau o gwmpas y ffynnon. Heb amheuaeth mae rhinwedd arbennig yn y dŵr oer a llaweroedd wedi derbyn bendith ohono. Yn sicr dyma’r ffynnon orau yn y deyrnas gan fod un dunnell ar hugain o ddŵr yn llifo ohoni bob munud. Nid yw byth yn rhewi. Ger y ffynnon mae mwsogl ag arogl melys yn tyfu ac mae’r un peth i’w weld ger Ffynnon Llanddeiniolen yn Sir Gaernarfon.

LLYGAD Y FFYNNON - Rhif 26 Haf 2009

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFYNNON WENFREWI, TREFFYNNON

 (SJ 185763)

Mae diddordeb yn cynyddu yn hanes y ffynnon arbennig hon. Rhoddwyd darlith ar y testun yn ddiweddar i Gymdeithas Hanes Sir y Fflint gan Yr Hybarch T.W. Pritchard, offeiriad yn yr Eglwys Wladol. Erbyn hyn mae wedi ymddeol ac wrthi’n ysgrifennu cyfrol ar y santes a’i ffynnon. Mae cofnod wedi ei wneud o bawb sydd wedi cael iachâd yn y ffynnon ers blynyddoedd maith. Un a fu’n cadw’r cofnodion oedd y Tad Ryan ac mae ei ddyddiaduron yn ddiddorol iawn. Rhwng 1896 a 1914 cofnodwyd manylion cryn hanner dwsin o bobl a dderbyniodd iachâd. Un ohonynt oedd cyn-filwr o’r enw Cowell oedd yn byw yn Blackburn. Cafodd wellhad drwy ddŵr y ffynnon er nad ymwelodd â’r fan o gwbl. Roedd wedi cael ei glwyfo yn Rhyfel y Böer ac fel canlyniad wedi colli ei allu i glywed a siarad. Ofer fu pob ymdrech gan feddygon ac ysbytai i wella ei gyflwr, yna death gwraig o’r enw Mrs McGill i Dreffynnon a chymryd potelaid o ddŵr o’r ffynnon adref efo hi i Fanceinion. Aeth i weld Cowell a thaenellu’r dŵr dros ei ben a’i ysgwyddau. Cafodd adferiad y foment honno gan fedru clywed a siarad ag aeth ar ei union i Cumberland i siarad efo’i fam.

Ar 5 Mawrth 1906 cymerwyd bachgen o’r enw Augustine Malone, 13 oed, o Crewe i’r hosbis yn Nhreffynnon gan ddyn o’r enw Mr Hobin, Mr Malone, (y tad) a nain y bachgen. Ymddangosai yn ddigalon a gorffwyll. Ar ei ffordd i’r hosbis aeth Mr Hobin a’r bachgen i’r ffynnon a’i rhoi yn y dŵr. Ar ddydd Mawrth roedd yn anodd ei drin a gofynnwyd i’w gyfeillion ei symud oddi yno. Ar fore dydd Mercher rhedodd i ffwrdd o’r hosbis a’r noson honno gadawodd ef a’i ffrindiau Dreffynnon. Ar fore dydd Iau gwelwyd ei fod yn holliach ac aed ag ef at Dr Lowe oedd wedi dweud cyn hyn nad oedd modd i’r bachgen wella. Cytunodd y meddyg ei fod bellach yn gwbl normal. Ym mis Mehefin 1913 daeth Jane Smith, o 50 Irish Street, Dumfries i Dreffynnon. Roedd ganddi lwmp mwy na maint wy yn ei gwddw. Wedi bod yn y ffynnon ac edrych ar greiriau Gwenfrewi ar 20 Mehefin gwelwyd fod y tyfiant wedi diflannu.

Yn 1918 daeth lleian o’r enw Cecilia o St Vincent’s, Mill Hill, Llundain i Dreffynnon. Nid oedd gobaith iddi wella ac roedd wedi bod yn orweddiog ers dechrau 1914. Daeth i Dreffynnon a chael ei chario i’r ffynnon bob dydd o 15 hyd 24 Ionawr. Ar y pumed dydd gallai sefyll, yna llwyddodd i gerdded, ac erbyn iddi adael am adref gallai eistedd a phlygu heb unrhyw anhawster. Gobeithiai y gallai fyw bywyd llawn fel aelod o’r gymuned yn y cwfaint erbyn Sul y Pasg, 31 Mawrth.

Yn yr un flwyddyn ym mis Medi daeth Kathleen Coyne oedd yn 19 oed ac yn byw yn 62 Stryd Queensland, Lerpwl, i’r ffynnon. Roedd yn dioddef o’r dicáu, ac wedi bod mewn sanatoriwm am bump mis dywedwyd wrthi nad oedd gobaith iddi wella. Fel aelod selog o Eglwys St Anne, Edgehill, Lerpwl, roedd ganddi ffydd ddi-gwestiwn yn y Santes Gwenfrewi a’i ffynnon. Wedi mynd ac ymdrochi yn y dŵr am saith diwrnod yn olynol, cafodd wellhad llwyr. Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd yn y Daily Dispatch o enau Miss Coyne ei hun, roedd wedi bod y wan ei hiechyd ers ei geni. Yna yn 1917 cafodd y pliwrisi ac effeithiwyd ei hysgyfaint yn ddrwg yn ôl ei meddyg. Bu’n wael am dair wythnos yn y Consumption Hospital yn Lerpwl ond wedi pump mis roedd ei chyflwr wedi gwaethygu a chan na allai’r ysbyty gynnig triniaeth bellach iddi fe’i hanfonwyd adref. Roedd ganddi besychiad drwg ac roedd yn fyr iawn o wynt. Gan fod ganddi ffydd yn y santes a’r ffynnon teithiodd i Dreffynnon yn Awst 1918. Ni allai gerdded heb gymorth ond wedi bod yn y dŵr am ychydig funudau gallodd gerdded am y tro cyntaf ers misoedd. Aeth i’r ffynnon bob bore wedi hynny ac ar y seithfed dydd cafodd ei gollwng i’r dŵr hyd at ei gen. Wrth i’r dŵr godi dros ei hysgyfaint teimlodd rhyw losgi rhyfedd ynddynt (a stinging sensation) ac ar ôl dod allan o’r dŵr llwyddodd i glirio’i brest. Ers hynny nid oedd wedi cael unrhyw anhwylder a gallodd fynd yn ôl at ei gwaith fel teipyddes mewn swyddfa. Cafodd ei harchwilio gan ddau feddyg a dywedodd y naill fel y llall nad oedd arwydd o’r dicáu arni. Roedd ei gwellhad yn wyrthiol a chredai hithau’n siŵr fod gwyrth wedi digwydd iddi. Ymddangosodd yr hanes yma yn y papur newydd ar 18 Ionawr 1919.

Cafwyd hanes diddorol yn y papur newydd ym mis Gorffennaf 1919 hefyd. Roedd Joseph Culshaw o Burnley wedi bod yn ddall am bedair blynedd fel canlyniad i shell shock a chalch ac wedi bod yn byw mewn cartref arbennig o’r enw St Dunstan. Daeth i Dreffynnon ar Orffennaf y 6ed gyda’i gyfaill Joseph Ashworth oedd yn ei arwain o gwmpas. Aeth i’r ffynnon ar fore Llun ac wrth ddod allan o’r dŵr dywedodd y gallai weld blodau ar y llawr. Roedd yn sefyll o flaen yr allor ac roedd y blodau a roddwyd yno wedi syrthio o’i lle ac yn gorwedd ar y llawr. Aeth i’r ffynnon bob dydd yr wythnos honno ac erbyn dydd Gwener roedd ei olwg wedi cryfhau yn sylweddol Aeth i swyddfa’r papur newydd i ddweud wrthynt am ei iachâd a rhoddwyd profion iddo yno oedd yn cadarnhau ei fod yn gallu gweld yn reit dda. Yn y dyddiau dilynol fe’i gwelwyd yn cerdded ar ben ei hun o gwmpas strydoedd y dref a’i gerddediad yn sicr a hynny yng nghanol tyrfa o bobl.

Ar ddiwedd ei ddarlith gwnaeth y Parchedig T.W. Pritchard ddatganiad a syfrdanodd y gynulleidfa. Roedd person wedi cael iachâd yn y ffynnon o fewn y mis diwethaf (Mawrth 2009). Roedd yn amlwg oddi wrth adwaith y gwrandawyr nad oedd yn hawdd ganddynt dderbyn bod y ffynnon yn dal i gynnig gwellhad i bobl heddiw ond mae gormod o dystiolaeth i’r gwrthwyneb. Beth yw’r esboniad am hyn? Mae’r dŵr yn eithriadol o bur ac yn dod o grombil y ddaear, nid o’r gronfa leol fel yr awgrymodd rhai pobl. Ai ffydd sy’n rhoi iachâd? Ond mae pobl di-gred a phobl nad ydynt yn credu yng ngalluoedd y santes hefyd wedi derbyn iechyd wrth fynd i’r ffynnon. Onid hon yw rhyfeddod mwyaf Cymru?

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 26 Haf 2009

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Crybwyllir FFYNNON GWENFREWI, TREFFYNNON mewn erthygl gan Howard Huws dan y teitl

FFYNHONNAU SANCTAIDD CYMRU

 Linc 30 Haf 2011

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 30 Haf 2011

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

FFYNNON BEUNO, TREFFYNNON (SJ 185 763)

Ym mis Mehefin bydd Cloddfa archeolegol yn digwydd ar safle’r ffynnon sy ar y bryn uwchben Ffynnon Wenffrewi. ’Roedd cyrchu at y ffynnon hon yn y gorffennol. Yn agos ati ’roedd hen bren derw’n tyfu ac arferai pererinion fynd a tharo arian i foncyff y pren fel offrwm i’r ffynnon. Torrwyd y goeden i lawr gan Gyngor y Dref ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bydd yn ddiddorol gweld beth gaiff ei ddarganfod yn y ffynnon ac adeiladwaith y ffynnon ei hun. Edrychwn ymlaen at gael adroddiad am y gwaith ar y ffynnon gan Roberta Owen, Treffynnon yn ein rhifyn nesaf.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 32 Haf 2012

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff

 

 

Home Up