TRAP
HANESYN ALLAN O TALES OF SOUTH WALES
gan Ken Radford.
Roedd unwaith ffarmwr canol oed yn byw yn ardal Llangadog.
Wedi diwrnod caled o waith byddai'n mynd adref ac yn eistedd gyda'i wraig wrth y
tân. Yng ngolau'r canhwyllau sylwai fod ei chroen wedi crychu a'i gwallt yn
gwynnu ac er ei bod yn ei charu o hyd byddai'n dyheu am y ferch ifanc landeg a
briododd gynt. Gwyddai mai swyngyfaredd yn unig a allai adfer ei hieuenctid
iddi.
Un diwrnod ar ei ffordd adref o farchnad Llandeilo aeth i
adfeilion Castell Carreg Cennen. Cerddodd ar hyd y twnel hir at y ffynnon ac
edrychodd i ddyfnder y dŵr tywyll a deisyf 'O pe bai fy ngwraig yn ieuanc
ac yn deg eto'. Yna, yn ôl yr arfer, taflodd hoelen rydlyd a oedd wedi bod mewn
pren derw am dri gaeaf i'r dŵr.
Aeth adref ac er mawr syndod iddo gwelodd fod merch ieuanc hardd yn aros amdano. Gwyddai mai y ferch a briododd ydoedd. Am gyfnod bu'r ddau yn byw yn hapus ond buan y blinodd y ferch ifanc ar yr hen ddyn a eisteddai gyferbyn a hi yng ngolau'r gannwyll fin nos. Cyfarfyddodd â dyn ifanc golygus yn y ffair yng Nghaerfyrddin ac aeth i ffwrdd gydag ef er mawr ofid i'w gŵr.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 8 Haf 2000
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
Rhan
o BYTIAU
DIFYR
Rhywbeth yn debyg i
Ffynnon Antwn
yw
Ffynnon Carreg
Cennen
hithau. Ffynnon ddymuno ydyw. Yn ystod yr haf daw ymwelwyr o lawer rhan
o'r byd yno i ollwng eu gloyw binnau i'r dŵr gan obeithio cael yr hyn oll a
ddymunant. Am barhad y ffynnon, ni raid pryderu am hynny, herwydd yn ôl y goel
cymysgwyd y morter a defnyddiwyd i adeiladu'r castell gan waed pobl y fro. Hyn
felly'n sicrhau na ddiddymir fyth mohono.
Dywedir mai merched Brychan Brycheiniog oedd y tair
santes Tybie, Lleian a Gwenlais. Mewn lleiandy o'r enw Gelliforynion y
treuliai’r tair chwaer eu bywyd mewn myfyrdod sanctaidd. Yn ôl y goel,
lladdwyd hwy gan haid baganaidd o Saeson neu Wyddelod, ac yn y mannau lle
tywalltwyd eu gwaed tarddodd tair ffynnon â'u dwr yn meddu galluoedd
meddyginiaethol.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 36 Haf 2014
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc