Home Up

LLANLLAWER

 

GOHEBIAETH

Derbyniwyd llythyr oddi wrth Gareth Richards, perchennog Ffynnon Cwmwdig ger Berea, tua phedair milltir i’r gogledd o Dyddewi yn sir Benfro. Yn y gyfrol The Holy Wells of Wales mae Francis Jones yn dweud fod capel dros y ffynnon a bod cyfeiriad mewn dogfennau o’r Oesoedd Canol at Eglwys Cwmwdig. Tan yr ail ganrif ar bymtheg roedd to bwaog dros y ffynnon. Dywedir bod dyn tua naw deg oed a oedd yn fyw yn 1715 yn cofio gweld drws yn ochr orllewinol y capel; bod gwraig dduwiol yn mynd at y ffynnon bob dydd Iau i gymryd y dŵr; a bod bwa hardd o gerrig yn cysgodi’r tarddiad.

Mae’n amlwg felly fod hon yn ffynnon sanctaidd ac mae cyfeiriad ati yng nghyfrol y Comisiwn Brenhinol ar henebion Penfro. Yn ôl Gareth, ‘Mae’r ffynnon mewn cyflwr truenus, fel y gwelwch o’r llun, ac fe hoffwn, yn y dyfodol, ei hailadeiladu. Mae gennyf ychydig wybodaeth ysgrifenedig amdani ond, yn anffodus, dim hen lun o unrhyw fath sy’n dangos ei ffurf gwreiddiol.’ Yr unig gymorth ychwanegol y gallem ei gynnig i Gareth oedd anfon lluniau o ddwy ffynnon arall o sir Benfro iddo – Ffynnon Non, Tyddewi (SM751243) a Ffynnon Gapan, Llanllawer, Cwm Gwaun, (SM987360), gan fod bwa o gerrig dros y ddwy ffynnon yma.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 22 HAF 2007

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

FFYNHONNAU PERERINDOD

Yn ystod yr haf 2009 aeth nifer o bobl o ardal Llanelli, Sir Gaerfyrddin, ar bererindod o Ffald y Brenin i Dŷ Ddewi. Cymerodd y daith dri diwrnod ac ar flaen gorymdaith y pererinion wrth iddynt gerdded, roedd croes fawr yn cael ei chario a hyn yn tynnu sylw llawer o bobl ar y daith. Buont yn cysgu ar lawr dwy neuadd a Chanolfan Ieuenctid. Ymarfer oedd y daith hon ond yn 2010 bydd y bererindod ei hun yn digwydd. Mae’n eciwmenaidd a gallwch gerdded rhan o’r daith yn unig os dymunwch.

 FFYNNON GAPAN, LLANLLAWER

Mae’r ffynhonnau yr ymwelwyd â hwy yn Sir Benfro. Mae Ffynnon Gapan,(SM 9836) yn Llanllawer, Cwm Gwaun. Hawdd gweld sut y cafodd yr enw am fod yr adeiladwaith dros y ffynnon ar ffurf capan neu foned. Er ei bod yn ffynnon sanctaidd ac yn enwog am fedru gwella’r dwymyn a’r ffliw, mae hefyd yn ffynnon lle gellir defnyddio’r dŵr i felltithio. Diddorol iawn oedd sylwi fod nifer o ddiliau gwellt- corn dollies- wedi eu clymu wrth y giât haearn o flaen y ffynnon. Mae’r doliau hyn yn symbol o ffrwythlondeb ac wrth gwrs, heb ddŵr byddai’r tir yn ddiffrwyth. Mae’n amlwg fod diddordeb arbennig gan rhai pobl yn y ffynnon hon.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 27 NADOLIG 2009

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up