SWYNFFYNNON
FFYNNON Y SANTES FFRAID
( SN675671)
J.
Meurig
Jones
Saif y ffynnon ar dir fferm
Cynhawdref Uchaf (hen gartref Ieuan Fardd 1731-1788) ger pentref Swyddffynnon
(Ffynnon-oer y gelwid y lle yn yr hen amser) ym mhlwyf Lledrod uchaf, ym
maenor Mefennydd, Ceredigion.
Cysegrwyd y ffynnon i Ffraid oherwydd bod y santes yn gysylltiedig ag Urdd y Sistersiaid, sef perchnogion y tir yn yr Oesoedd Canol. Santes Wyddelig oedd Ffraid ac roedd y Sistersiaid yn berchen ar dir sylweddol yn Iwerddon a Chymru. Roedd gan yr ardal i'r de-orllewin o'r afon Ystwyth hen gysylltiad â 'r Demetae llwyth Gwyddelig Celtaidd - ac yno goroesodd yr iaith Wyddeleg tan yr unfed ganrif ar ddeg. Gwelwn dystiolaeth o hyn ar garreg goffa o'r nawfed ganrif yn eglwys Gwnnws, Llanwnnws:
QUINCUNQUE EXPLICAVERIT HOC NOMEN DET BENEDIXIONEM PRO ANIMA HIROIDL FILIUS CAROTINN
(Pwy bynnag sy'n medru egluro'r enwau yma roddent weddi dros enaid Hiroedl mab Carodyn(?)
Mae cysylltiad rhwng y santes a'r ddiod feddwol oherwydd bod yna ddywediad am 'Gwrw Sant Ffraid'. Cyfeirir ato yn Llyfr Coch Llanelwy:
'Quaedam consuetudo vocata corw Sanfrait '.
Yn ôl traddodiad pan oedd Ffraid yn ifanc, ei dyletswydd hi oedd godro'r gwartheg a gwneud ymenyn yn yr hafod, sef preswylfa'r haf i drigolion ardaloedd mynyddig Cymru. Diddorol yw sylwi felly, mai ar dir fferm Cynhawdref (Cynhafdref yn gywir) y mae Ffynnon Ffraid. Roedd lleiandy i 'r Santes Ffraid rhwng pentrefi Llanrhystud a Llansanffraid ar yr arfordir yn ôl Lives of the British Saints gan Baring-Gould a Fisher. Yn anffodus collwyd unrhyw draddodiadau gwerin a fu unwaith yn gysylltiedig â'r ffynnon, ond gwyddom ei bod yn hen iawn am fod cyfeiriad ati yn y gyfrol Map of South West Wales and the Border in the Fourteenth Century gan W Rees. Er i'r traddodiadau llafar gael eu colli ni ellir peidio â rhyfeddu at bensaernïaeth y ffynnon. Mae ar ffurf cwch gwenyn, ffurf brin yng Nghymru , unigryw yn y de-orllewin . Dylai gael ei diogelu pe bai ond am hynny yn unig. Bu llwyn yn tyfu drwy gerrig y ffynnon am flynyddoedd ac roedd ei wreiddiau yn dal y cerrig yn eu lle, ond gwywodd y llwyn a bellach mae'r cerrig yn symud a'r dirywiad i'w weld yn waeth ar ôl tywydd oer iawn yn y gaeaf.
YR YMGYRCH I ACHUB
FFYNNON FFRAID
Ers pedair blynedd bellach mae Anwen Davies, a’i mam Jasmine Jones, perchnogion Cynhawdref Uchaf ac Isaf wedi ymdrechu i achub y ffynnon rhag dadfeilio. Dyma fanylion yr ymgyrch fel y’i cafwyd gan Anwen:
Ebrill 9ed 1992 - Ffonio A.J. Parkinson, Comisiwn Brenhinol Henebion yng Nghymru.
Ebrill15ed Ateb yn ôl gan Mr. Parkinson yn ein cynghori i ysgrifennu at CADW. Dangoswyd tipyn o ddiddordeb yn y siâp cwch gwenyn. Daeth CADW allan i gofnodi'r ffynnon, tynnu lluniau a rhoi cyfeirnod map. Dyma ddisgrifiad dynion y Comisiwn o'r ffynnon:
Ffynnon wedi ei hadeiladu o gerrig sychion yng nghornel o'r orglawdd yng ngardd Cynhawdref Uchaf tua 14m i'r de o'r ffermdy. Mae'r ffynnon bron yn sgwâr o ran cynllun. Mae'r ochr sy'n wynebu'r dwyrain yn codi i 2.15m o led a saif 2.3m o daldra. Mae'n blaenfeino i'r pen ac yn edrych fel siâp pyramid ond heb fod yn bigfain. Mae'r agoriad i'r ffynnon yn 660mm o led a 740 mm o uchder ac mae'r siambr lle mae'r dŵr ar ffurf pedol. Mae lefel y dŵr ynddi yn gyson, sef tua 100mm o dan y garreg yn y fynedfa. Mae hanes lleol yn cofnodi fod y mynachod yn defnyddio'r ffynnon wrth deithio o Ystrad Fflur, tua 7km i'r dwyrain, ac mai dyma pam y defnyddir y term 'sanctaidd' i ddisgrifio'r ffynnon. Ond nid yw Cynhawdref ar unrhyw lwybr dwyrain i'r gorllewin. Yn llyfr Frandis Jones, The Holy Wells of Wales, nid oes sôn am y ffynnon yma yn Cynhawdref ond mewn man arall yn ymyl Swyddffynnon.
Medi
1 1993 Ysgrifennu eto at CADW
Medi
18 Ateb - nid yw'r ffynnon wedi ei rhestru fel heneb . Fy nghynghori i
gysylltu â Chyngor Dosbarth Ceredigion. Digalonni braidd.
Mai
3 1994
Ysgrifennu
eto at CADW i holi am gofrestru'r ffynnon.
Mai
15 Diddordeb. Holi am gyfeirnod map
Mehefin
29 Danfon y wybodaeth iddynt. Yn ystod yr haf daeth pobl CADW allan i
archwilio'r ffynnon.
Medi
27 Llythyr gan CADW yn egluro'r camau i gofrestru'r ffynnon.
Hydref
10 Derbyn rhif cofrestredig CADW - Cd 157
Hydref 21 Derbyn ffurflen grant yn cynnig talu 50% o gost diogelu'r ffynnon. Cael
dau arbenigwr ar atgyweirio hen ffynhonnau allan i roi amcan bris a sgets o'r
ffynnon orffenedig. Roedd cost un yn £950 a'r llall yn £1100
Erbyn hyn
rwy'n siŵr eich bod yn holi pam nad aethom ymlaen gyda' r gwaith
adnewyddu. Yn anffodus nid oedd ein cyllid personol yn medru ymestyn hyd yn
oed i £500 neu efallai ychwaneg o gost os byddai pethau yn mynd o le neu
angen mwy o arian i orffen y gwaith.
Hydref
16 1994 Ysgrifennu at Gyngor Dosbarth Ceredigion a'r Cyngor Cymuned yn holi am
help ariannol.
Ionawr
1 1995 Ateb o'r Adran Gyllid Cyngor Dosbarth Ceredigion. "Nid ydych yn
gymwys am gymorth o dan Gynllun Grant Datblygu Cymdeithasol."
Mai
24 Ysgrifennu at yr Arglwydd Geraint i roi hwb i'r Cyngor. Hefyd at Dai
Lloyd Evans a Gethin Bennet. Ysgrifennu at JIGSO a Bwrdd Datblygu Cymru.
Mehefin
6 Ateb o'r Bwrdd Datblygu - wedi gorffen rhoi grantiau ar gyfer
prosiectau cymdeithasol.
Mehefin
7 Ateb gan yr Arglwydd Geraint - roedd wedi ysgrifennu at Brif
Gyfarwyddwr Ceredigion ac roeddwn yn ddiolchgar iawn iddo am wneud hynny.
Mehefin 16 Ateb gan CDC yn cyfeirio at ein llythyr ac yn dilyn llythyr yr Arglwydd
Geraint. Wedi cyfarfod Gorffennaf 13 mi fydd yr Adran Gyllid mewn gwell
sefyllfa i weld os bydd arian ar gael yn y flwyddyn 1995-96. Hefyd yn ein
hatgoffa i beidio dechrau'r gwaith neu ni fyddai cymorth ariannol (Dyma reswm
arall pam nad aethom ymlaen i atgyweirio.)
Awst18 Llythyr oddi wrth CDC. Dim cymorth ariannol dan gynlluniau grant mae'r
Adran Gyllid yn eu gweithredu.
Hydref
17 Llythyr o CDC o'r Adran Gynllunio. Nid oes arian gan yr adran ar gyfer
prosiectau preifat.
Dyma
ni - digalondid eto, ond gobeithio y cewch chi fel Cymdeithas fwy o lwc. Mewn
undeb mae nerth.
NODYN GOLYGYDDOL Nid yw'n bosib darllen y manylion
hyn heb deimlo rhwystredigaeth Anwen a Jasmine. Dyma'r math o anawsterau sy'n
wynebu unrhyw un sydd am achub hen ffynhonnau. Gwelwch fod gwir angen
Cymdeithas fel hon i gynorthwyo unigolion i roi pwysau ar awdurdodau i
ddiogelu'r ffynhonnau yn eu hardaloedd. Eisoes llythyrwyd â Chyngor Dosbarth
Ceredigion i ofyn am gymorth ariannol. Cewch wybod am unrhyw ddatblygiad yn yr
hanes yn y rhifyn nesaf o Lygad y Ffynnon.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 1 Nadolig 1996
FFYNNON FFRAID, SWYDDFFYNNON, CEREDIGION.
Fe gofiwch fod yna erthygl am y ffynnon arbennig hon yn y rhifyn cyntaf o Llygad y Ffynnon. Ceisiodd y Gymdeithas weithredu ar ran perchenogion y ffynnon. Gofynnwyd unwaith eto i Gyngor Ceredigion am gymorth ariannol ond nid oeddynt mewn sefyllfa i gynorthwyo. Llythyrwyd â Dwr Cymru gan ofyn am nawdd ond yn ofer. Anfonwyd at Gyngor Cymuned Ystrad Meurig ond hyd yn hyn ni chafwyd ymateb.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 2 Haf 1997
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff
ADFER
FFYNHONNAU
Yn ystod yr haf eleni adferwyd Ffynnon
Ffraid, Swyddffynnon, Ceredigion. Mawr
obeithiwn gynnwys yr hanes yn y rhifyn nesaf.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 7 Nadolig 1999
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff
ADFER FFYNNON FFRAID, SWYDDFFYNNON
Yn y rhifyn cyntaf o Llygad y Ffynnon, Nadolig 1996, soniwyd am ymgyrch Annwen Davies i adfer y ffynnon unigryw sydd yng ngardd ei chartref, Cynhawdref, Swyddffynnon, Ceredigion. Mae'r ffynnon wedi ei chysegru i'r Santes Ffraid a dywedir bod mynachod Ystrad-fflur yn arfer galw heibio i'r ffynnon i dorri eu syched wrth deithio. Ar yr arfordir roedd lleiandy ac eglwys wedi ei chysegru i'r santes yn Llansantffraid. Nid oes traddodiadau am y ffynnon wedi goroesi ond mae'n dyddio'n ôl i'r bedwaredd ganrif ar ddeg, ac mae ei phensaernïaeth yn un hynod iawn. Mae ar ffurf cwch gwenyn, ffurf brin iawn yng Nghymru. Roedd Annwen a'i mam, Jasmine, yn sylweddoli bod ganddynt drysor amhrisiadwy yn eu meddiant a dechreuwyd ymgyrch i achub y ffynnon yn 1992 pan ysgrifennwyd at y Comisiwn Henebion yng Nghymru. Cyngor y Comisiwn oedd y dylid cysylltu â CADW a daeth dynion draw i dynnu lluniau a chofnodi lleoliad a nodweddion y ffynnon. Yn eu hadroddiad maent yn nodi ei harbenigrwydd pensaernïol ond yn dweud nad oes sôn amdani yn llyfr Francis Jones, The Holy Wells of Wales. Ar yr olwg gyntaf mae hyn yn wir, ond wedi ailedrych yn fanwl ar y gyfrol gwelir y cyfeiriad hwn ar dudalen 158:
Mae'n siŵr mai at Ffynnon Ffraid, Cynhawdref, y mae'n cyfeirio. Gwelir felly ei bod yn o ffynhonnau sanctaidd Cymru.
Aeth blwyddyn heibio ac ym mis Medi 1993, ysgrifennwyd eto at CADW i weld a allent wneud rhywbeth i ymgeleddu'r ffynnon a oedd yn raddol ddirywio a'r gwaith cerrig yn ansefydlog mewn mannau. Gan nad oedd y ffynnon wedi ei rhestru fel heneb ni allent wneud dim i helpu ac fy gynghorwyd Annwen i gysylltu â Chyngor Dosbarth Ceredigion. Er ei digalondid daliodd Annwen i ofyn am eu cymorth ac ym mis Mai 1994 gofynnwyd iddynt edrych eto ar y ffynnon gyda'r gobaith o’i chofrestru. Yn ystod yr haf daeth dynion i archwilio'r ffynnon ac erbyn mis Hydref roedd wedi ei chofrestru. Cynigiodd CADW dalu 50% o'r gost o tua £1000 i adfer y ffynnon ond ar y pryd nid oedd cyllid y teulu yn caniatáu gwario £500 ar y gwaith adnewyddu. Aeth Annwen ati i geisio cael cymorth ariannol gan Gyngor Dosbarth Ceredigion a'r Cyngor Cymuned. Ym mis Ionawr 1995 daeth ateb o Adran Gyllid y Cyngor i ddweud nad oedd y gwaith adfer yn gymwys i dderbyn cymorth o dan Gynllun Grant Datblygu Cymdeithasol.
Drwy gydol 1995 bu Anwen yn llythyru â mudiadau fel JIGSO a Bwrdd Datblygu Cymru, yn ogystal â chyda nifer o unigolion, gan gynnwys yr Arglwydd Geraint, a ysgrifennodd at Brif Gyfarwyddwr Ceredigion i geisio cael arian, ond nid oedd dim grantiau ar gael yn unman. Cofnododd Anwen ei siom yn Llygad y Ffynnon gan ddweud, 'Gobeithio y cewch chi fel Cymdeithas fwy o lwc.' Cofnodwyd ein hymdrechion i gael cyllid yn y rhifynnau dilynol. Anfonwyd at Gyngor Dosbarth Ceredigion ddiwedd 1996 a chafwyd ar ddeall ddechrau 1997 nad oedd arian ar gael. Ysgrifennwyd at Gyngor Cymuned Ystradmeurig fis Mawrth a mis Rhagfyr 1997 ond heb unrhyw ymateb ganddynt. Ym mis Ebrill y flwyddyn honno ceisiwyd ennyn diddordeb Dŵr Cymru yn y ffynnon a gofyn iddynt noddi'r fenter ond negyddol oedd eu hateb. Yn Ebrill 1998 ysgrifennwyd eto at y Cyngor Cymuned ond i ddim diben gan na chydnabwyd y llythyr.
Nawr dyma weddill yr hanes gan Annwen ei hun:
Ym mis Tachwedd 1998 eisteddom i lawr a phenderfynu ariannu ailadeiladu y ffynnon ein hunain. Ysgrifennais at Horne Stonework Dry Walling yn Aberhonddu gan mai nhw roddodd y pris gwreiddiol. Yn naturiol, roedd wedi codi ers 1994. Anfonwyd y ffurflenni a'r gwaith papur angenrheidiol i CADW gan eu bod yn dal i gynnig grant i dalu am hanner y gost. Daeth swyddog i weld cyflwr y ffynnon ac yna ym mis Mai 1999, gyda’r tywydd yn caniatáu, dechreuwyd ar y gwaith.
Daeth Paul a Brandon i ddadfeilio'r ffynnon garreg wrth garreg a Helen, swyddog CADW yn gwylio'r holl waith. Synnwyd pa mor dda a chadarn oedd cyflwr y cerrig y tu mewn i'r ffynnon a'r dŵr mor lân. Darganfuwyd man bethau rhwng y cerrig - potel blastig, darn o wydr, plât, clawr tebot a darnau eraill o grochenwaith o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif.
Anwen a rhai o'r pethau a ddarganfuwyd wrth atgyweirio'r ffynnon.
Dechrau ar y gwaith o dynnu'r cerrig.
Y gwaith yn mynd rhagddo.
Adeiladwaith hynafol y ffynnon i'w weld yn glir.
Y ffynnon wedi ei hadfer a'i diogelu.
Uwchben y ffynnon
Ymhen tridiau roedd y ffynnon wedi ei hailadeiladu ac yn edrych, gobeithio, fel yr oedd yn nyddiau Glyndŵr. Am ychydig fisoedd roedd y cerrig ar wyneb y ffynnon yn annaturiol o lân ond yn raddol, gydag amser, mae'r mwsog a'r rhedyn wedi dychwelyd.
Mae'r ymwelwyr hefyd wedi cynyddu, rhai yn dod mor bell ag
Awstralia ac America a hyd yn oed fyfyrwyr, yn cerdded o un ffynnon i'r llall.
Gyda'r biliau wedi eu talu a'r grant gan CADW wedi ei dderbyn, daeth rhodd annisgwyl o £100 gan Cymdeithas Ffynhonnau Cymru. Rydym yn gwerthfawrogi hyn yn fawr iawn. Yn y dyfodol byddaf yn gosod plac i ddiolch i chi ac i CADW am eich cymorth i adfer y ffynnon. Rwyf hefyd yn gobeithio argraffu taflenni yn sôn am Ffynnon Ffraid a'u gadael yng nghanolfannau'r Bwrdd Croeso a mannau tebyg. Efallai hefyd y byddwn yn gallu creu cardiau post i'w gwerthu i dalu am y gwaith. Wrth edrych yn ôl, rwy'n siŵr inni wneud y penderfyniad iawn i sicrhau fod adeiladwaith y ffynnon yn ddiogel a'i bod ar gael i ymwelwyr ei mwynhau. Gan fod Eirian a minnau wedi ein bendithio â mab, Ieuan, yn ystod y cyfnod hwn, teimlwn fod dyfodol y ffynnon yn ddiogel ar droad yr unfed ganrif ar hugain.
Ffynnon Ffraid CYNHAWDRE-UCHAF
SWYDDFFYNNON, CEREDIGION
BLAENLUN
TRYCHLUN
CYNLLUN
Graddfa -1 - +5 troedfeddi
Ken Lloyd Gruffydd., Awst 1999
Cymdeithas Ffynhonnau Cymru]
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 9 Nadolig 2000
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff
FFILMIO’R FFYNHONNAU
Eirlys
Gruffydd
Yn ystod mis Gorffennaf eleni gofynnwyd i Ken a minnau fynd gyda chwmni Teleg
i ffilmio ffynhonnau ym Mon, Arfon, Llyn, Eifionydd, Powys, Ceredigion a
Chaerfyrddin. Buom yn ymweld a ffynhonnau a oedd yn gyfarwydd i ni, yn edrych ar
eu cyflwr ac yn digalonni o weld cyflwr truenus rhai ohonynt ond yn llawenhau
wrth weld fod eraill yn amlwg yn cael gofal. Llwyddwyd hefyd i ymweld ag un
ffynnon newydd. Mawr yw ein diolch i Michael Bailey Hughes a’i fab Sion am eu
cwmni a’u caredigrwydd i ni yn ystod y dyddiau y buom yn ffilmio.
Ar ol siom wrth Ffynnon Garon a seibiant i gael bwyd yn y dref ymlaen a
ni i Swyddffynnon ac i fferm Cynhawdre (Gwenhafdre) i weld Ffynnon Ffraid (
SN675671). Cafodd ein cymdeithas y fraint o fedru helpu i adfer y ffynnon
arbennig hon sy’n wyth cant oed. Mae ar ffurff cwch gwenyn a chafwyd tipyn
o’i hanes yn ol-rifynnau Llygad y Ffynnon.
Mae ei chyflwr yn parhau yn dda a nifer o ymwelwyr yn dod ati i gael dwr ohoni
ac amryw yn teimlo fod yna awyrgylch arbennig o’i chwmpas. Bu rhai yma’n
ddiweddar yn cymryd y dwr i’w ddefnyddio i fedyddio baban. Roedd y teulu
newydd ddychwelyd ar ol bod yn y sioe yn Llanelwedd ac roedd Anwen Davies yn
falch o’r cyfle i gael sgwrsio am y ffynnon sy’n golygu cymaint iddi.Roedd
ymwela a Ffynnon Ffraid unwaith eto yn goron ar ddau ddiwrnod bendigedig o hel
ffynhonnau.
Ffynnon Ffraid,
Swyddffynnon, Ceredigion.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 17 Nadolig 2004
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff