YN
EISIAU: SWYDDOG CYHOEDDUSRWYDD
Mae ar Gymdeithas Ffynhonnau Cymru angen Swyddog Cyhoeddusrwydd er mwyn
cynyddu diddordeb y cyhoedd ym mhwnc ffynhonnau Cymru’n gyffredinol, ac yn eu
harwyddocâd hanesyddol a diwylliannol. Hynny er mwyn ceisio diogelu ein
ffynhonnau, a chadw a lledaenu gwybodaeth yn eu cylch. Gwaith y Swyddog fydd:
·
Tynnu sylw at ffynhonnau lleol, eu hanes a’u
traddodiadau, gan ysgogi casglu gwybodaeth amdanynt;
·
Codi ymwybyddiaeth ynghylch ffynhonnau ymysg cynghorau
lleol a chymdeithasau bro;
·
Annog ysgolion i gyflwyno ffynhonnau lleol i blant yn rhan
o’u gweithgareddau addysgiadol;
·
Diogelu ffynhonnau rhag eu difrodi, eu hanghofio neu’u
colli;
·
Hyrwyddo Cymdeithas Ffynhonnau Cymru a chynyddu ei
haelodaeth.
Swydd ddi-dâl, wirfoddol fydd hon, ond byddai’n
ychwanegiad gwerthfawr at grynodeb gyrfa unrhyw unigolyn sy’n amcanu gweithio
ym meysydd cadwraeth, addysg, hanes neu gymdeithaseg.
Y mae’n swydd ddelfrydol at gyfer unigolyn
brwdfrydig a gweithgar o unrhyw oedran, ac yn neilltuol ar gyfer rhywun sydd am
brofiad gwaith cyn mynd ymlaen i addysg bellach neu swydd arall.
Y mae’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, a
byddai trwydded yrru yn fanteisiol iawn. Dylai’r sawl sydd â diddordeb
gysylltu â’r Ysgrifennydd yn cyfarchiad@yahoo.co.uk neu trwy alw 07870 797655 / 01248 351503.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 44 Haf 2018
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc