LLANFECHELL
FFYNHONNAU STAD Y BRYNDDU
| Ffynnon Padric (Badrig) -Llanbadrig (SH4094) | Ffynnon     
Fechell    
        Llanfellech ( SH 369913)  |    
    
| Ffynnon     
Eilian - Llaneilian(SH 466934) |    
      Ffynnon     
Tal–y-Bont,     
Llanfechell (SH3694) |    
    
| Ffynnon     
Trinculo  -   
Llanfellech(SH368898)     
 |    
      Ffynnon     
Ty Hen,     
Mynydd Mechell (SH3689) |    
    
[Diolch     
i’r Parch Emlyn Richards, Cemaes,Ynys Mon, am ganiatau i ni ddyfynu’r     
wybodaeth ganlynol am ffynhonnau  ar     
stad y Brynddu, o’i gyfrol ddifyr Bywyd Gwr Bonheddig (Gwasg Gwynedd)]
Gwyddom     
ninnau yng Nghymru yn dda am ddylanwad llen gwerin a thraddodiad ardal ar ein     
gwybodaeth am hanes ac enwau ffynhonnau (sydd ymysg yr enwau hynaf mewn unrhyw     
iaith, yngyd ag enwau afonydd a llynoedd). Nid yr Iddew yn unig a ganai i’r     
ffynnon a’i bendithion a’i rhamant hen, ac yn wir roedd i’r ffynnon     
swyddogaeth drifflyg: economaidd, cymdeithasol a chrefyddol. Gan bwysiced oedd y     
ffynnon roedd yn ffactor  bwysig     
ynglyn a lleoliad ferm neu dyddyn ac, yn wir, yn rheswm dros adeiladu sawl     
treflan. Gwelwn yn nyddiadur gwr y Brynddu bwysiced oedd y ffynhonnau.
Yr oedd dwy ffynnon gyhoeddus ym mhentre Llanfechell a chan fod gan bob     
tyddyn a fferm eu ffynhonnau hefyd nid rhyfedd y ceir sawl cae ar stad y Brynddu     
gyda’r enw ‘Cae ffynnon’. Mae’n amlwg ddigon y sefydlwyd sawl eglwys     
gerllaw ffynhonnau a cheir enghreifftiau o hyn ym Mon, ac yn sgil codi eglwys     
byddai’n naturiol i anheddau eraill gael eu codi. Daeth y ffynhonnau eglwysig     
hyn yn atyniad i grefyddwyr yr oesoedd a’r traddodiadau yn gymysg o baganiaeth     
a Christnogaeth. Yr oedd  dwy     
ffynnon eglwysig o fewn cylch a chwmwd William bwcle, sef  Ffynnon Padric  a      
Ffynnon Eilian   (neu  Ffynnon y  
Cawr). O roi enw’r sant arni credid bod yn ei     
dyfroedd  ryw rin wyrthiol. Tua     
chanol y ddeunawfed ganrif y cydiodd y gred yn rhinwedd iachusol dwr y mor a     
thyrrwyd yno i     
ymolchi, rhai i yfed ei ddyfroedd hallt. Yn yr un modd credid bod dwr ambell   
ffynnon yn iachusol, os nad yn wyrthiol.
Ond     
i werin Cymru yn y ddeunawfed ganrif yr oedd ystyriaethau pwysicach o lawer nag     
unrhyw ystyr crefyddol, neu’n wir, feddyginiaethol. Yr oedd y ffynnon fel     
anadl einioes iddynt a dwr gloyw glan yn eu disychedu hwy a’u hanifeiliaid. Yr     
oedd mor gyffredin iddynt ag y mae’r tap dwr i ni heddiw. Go brin y byddai     
William Bwcle wedi son amdanynt o gwbl oni bai ei bod yn rhan gyson o     
ddyletswyddau’r dynion i ‘lanhau’r ffynnon’.Yr oedd yn ffactor bwysig     
bryd hynny hefyd i ‘gadw’r dwr rhag y baw’. Wrth fynd heibio ar ddamwain y     
cyfeiriodd at enw’r ffynnon honno yng Nghae Lloriau, Coeden, sef ‘Ffynnon  
Trinculo’. A dyna agor y drws i ddyfalu o ble y daeth yr enw hwn. Hen elyn     
gwyllt, i gwr eithaf Mon ar ganol y ddeunawfed ganrif? Dyma’r cofnod ar 30     
Mehefin 1736:’I have people at work in clearing water – course of   
 Ffynnon     
Trinculo   
 in Coyden from the said well to the Bridge.’ Fe red afonig o’r llyn     
malu yng Nghoeden heibio i’r ffynnon hon gan gymryd ei gofer oer. Yn ddiddorol     
iawn mae’r ffynnon yno o hyd a’r gwaith cerrig celfydd yn cylchynnu ei     
dyfroedd clir. Mae hen wartheg powld wedi rhoi hergwd i’w chapan o faen a’i     
ogwyddo ar ochr ei phen fel dyn meddw. Un o dafelli’r graig o Gae’r Lloriau     
yw’r cap, brethyn cartre os bu un erioed! Fe fynn rhai yn ardal Llanfechell o     
hyd na sychodd ac na fu pall erioed  ar     
ddyfroedd y Trinculo; aiff ambell un mor hyf a dweud na sychith hon fyth!
Ni ddywed William Bwcle iddi sychu chwaith yn ei gofnod am18 Awst 1741:
Yn   
ol cof ardal yr oedd haf 1911 yn eithriadol o sych ac fe sychodd y ffynhonnau,   
ond yn ol y son, yr oedd   
 Ffynnon Trinculo   
 yn goferu trosodd. Eto, ym 1959,   
bu’n haf anhygoel o sych. Ni chafwyd yr un diferyn o law o fis Mai hyd   
ddechrau Hydref, ac yn wir, yn ol y son eto, ni hysbyddodd y Trinculo:
                  
This     
summer and Autumn exceeds in heat and dryness all the summers
             
in     
memory of man, for not only all the fresh water mills dryed thro’   
             
the     
country but also in a manner all the rivers and most of the springs. My 
            
well by     
the Kiln that never was known to fail, now stands still and does not
            
run out  and many other wells so that there is a great scarcity of water 
            
especially     
for cattle throughout the country.                  
A     
dyna ddigon i gefnogwyr Trinculo ddweud nad yw’n enwi eu ffynnon fel un a     
sychodd. Yn ol disgrifiad y dyddiadurwr daeth y sychdwr mawr hwnnw i ben ar ol     
iddi‘Rained prodigious’ ar 7-8 Medi 1941. Dechreuodd fwrw tua deg o’r     
gloch ar 7 Medi a’i harllwys hi hyd bump ar yr wythfed gan adael afonydd yn     
rhedeg hyd y caeau. Wedi haf crasboeth 1976 daeth glaw direol ar ddyddiau cyntaf     
mis Medi’r flwyddyn honno hefyd.
Ond   
beth am yr enw – Trinculo? O ble y daeth hwn a phwy a’i bedyddiodd a dod a   
hi i amlygrwydd? Yn ol awduron Enwau Lleoedd Mon mae’r enw yn un cwbl   
unigryw ac yn cyfateb yn union i enw cymeriad yn y ddrama enwog The Tempest   
gan William Shakespeare. Yn ol F.G. Stokes mae enw’r cymeriad wedi ei   
fabwysiadu o’r gair Eidaleg ‘trincare’, sef ‘llymeitian’. Ar   
sail hyn mae’n naturiol tybied fod yma ryw flas neu werth arbennig i ddwr y   
ffynnon hon. Mae pob lle i gredu y byddai   
William Bwcle yn hyddysg yn nramau Shakespeare. Gwyddom y byddai’r dyddiadurwr   
yn ymwelydd cyson a’r theatr yn Nulyn ac fe allasai fod wedi mwynhau   
perfformiad o’r Tempest yno. Tybed ai ef a roddodd yr enw ar y ffynnon?   
Tybed ai ysfa gellweirus William Bwcle sydd ar waith yma? Gwyddom am ei hoffter   
o lasenwau a’i gellwair parhaus. Neu tybed a oes i’r enw ryw ystyr gyfrin   
nas gwyddom ac na chawn fyth wybod? Pam na fyddai’r dyddiadurwr hwn fel sawl   
un arall wedi ychwanegu gair neu ddau o eglurhad?
Ond   
beth bynnag am ystyr yr enw, byddai cryn amrywiaeth yn ansawdd dyfroedd y   
gwahanol ffynhonnau. Yr oedd dwr ambell un yn llawer pereiddiach na’r llall.   
Byddai cryfach tarddell i ambell ffynnon a ddaliai’r sychder yn well. Byddai   
trai a llanw’r mor yn effeithio ar ddwy ffynnon ym mhlwyf Llanfechell a hefyd   
ar ffynhonnau Bodelwyn a Tros y Mynydd ar stad y Brynddu. Yr oedd gan bob tyddyn   
a fferm eu ffynhonnau o fewn cyrraedd i’r ty a chai’r ffynhonnau hyn gryn   
sylw gan y perchnogion. Fe gawn gofnod diddorol iawn gan y ddyddiadurwr ynglyn   
a’i ffynnon ei hun yn y Brynddu, sy’n dangos y meddwl mawr a’r gofal a   
oedd gan bob teulu o’i ffynnon. Ar 28 Mai 1748, nododd: ‘the men are   
carrying stones to new making the old well by the kiln both larger and   
handsomer’. Y mae’r gair ‘harddu’ yn ddiddorol yn y cyswllt yma ac yn   
awgrymu, mae’n debyg, y byddai peth balchder ynglyn a ffynnon y teulu a   
thebygol y ceid addurniadau yng ngwaith y seiri maen a adeiladai’r math hwn o   
ffynhonnau.
Ond     
er pwysiced y ffynhonnau hyn, heb os yr oedd ffynnon y pentref yn bwysicach. Yr     
oedd gan bob pentref ei ffynnon neu ddwy ar safleoedd cyhoeddus, yn weddol agos     
os oedd modd, i groes y pentref. Daeth y rhain yn fannau cyfarfod poblogaidd     
iawn lle rhoid y byd yn ei le – rhyw Ffynnon Jacob Gymreig. Bu achlysur pwysig     
ynglyn a Ffynnon Mechell, yn ôl y dyddiadurwr, ar 15 Mehefin 1736:
Today the Parson and others of the Inhabitants of the town of   
Llanfechell removed the Well – that lay betwixt Ann Warmingham’s house and   
the bridge (and just by the river) higher up and further from the river by 6 or   
7 yards.
Mae’n     
anodd iawn gwybod paham y bu’n rhaid symud y ffynnon o gwbl. Yn ddiddorol     
iawn, mae hi yno o hyd, rai llathenni i fyny oddi wrth y ffordd fawr sy’n     
arwain i’r Mynydd. Wrth y ffordd y mae’r pwmp o hyd ac mae amryw o’r     
trigolion yn cofio’n dda am ddyddiau cyrchu dwr ohono. Mae’n rhaid ei fod yn     
ddigwyddiad o gryn bwys gan fod Richard Bwcle, y person, wedi ymuno a’r     
plwyfolion, a phur anaml y cawn ni gyfeiriad ato ef y tu allan i gyffiniau’r     
eglwys,. Gan nad oes son fod William Bwcle ei hun wedi ymuno a hwy, tybed ai     
cysegru’r lleoliad newydd oedd swydd y person ac, os felly, ni fyddai gan y     
dyddiadurwr fawr o ddiddordeb  mewn     
rhyw ddefod felly.
Chwaraeai’r   
ffynhonnau ran bwysig iawn yn hanes y pentrefi. Yr oedd cryn wahaniaeth ynddynt   
ac amrywient yn eu nodweddion. Enillodd ambell ffynnon gryn enw ar sail dwr   
nodedig ei flas a cheid ambell un ac arni waith hardd a chelfydd o gerrig   
addurnol. Yr oedd gwaith celfydd iawn ar   
 Ffynnon Ty  
Hen, ym Mynydd Mechell. Yn   
wir, byddai’r plant, Richard a Huw, yn arfer reidio beic tair olwyn o gwmpas y   
ffynnon honno gan fod y wal mor llydan a chryf. Ond pennaf prawf unrhyw ffynnon   
fyddai cryfder ei ffrwd – y ffrydiau hynny a’i bwydai o eigion y ddaear. Yn   
wir, dyma fyddai sgwrs y trigolion ar blyciau o sychder – ‘Ydi’r ffynoon   
yn dal?’ Pryderai William Bwcle yn go arw yn haf 1741 gan fod y ffynhonnau yn   
sychu, a thestun siarad fu haf 1959 yn enwedig gan i Robert Owen, Ty Hen a   
Richard, y mab, fynd yn bur llechwraidd un bore o haf crasboeth i lawr i’r   
Llan i mofyn dwr o bwmp Mechell, ger Tal-y bont, gan i   
Ffynnon Ty Hen   
 fynd yn   
hesb.
Cyn   
troad y bedwaredd ganrif ar bymtheg rhoed pwmp o haearn bwrw i godi’r dwr.   
Daeth y rhain yn addurn gorchestol ym mhentrefi cefn gwlad er y bu cryn   
wrthwynebu’r fath syniad, yn arbennig cuddio’r ffynnon hefo rhyw sowldiwr   
du! Mae’r ddau bwmp ar bob cwr o bentref Llanfechell o hyd yn nodi’r fan lle   
gynt, yn oes William Bwcle, y ceid y ddwy ffynnon –   
 Ffynnon Mechell   
 a   
 Ffynnon  
Tal-y-bont. Canodd Ianto Soch – hen fardd gwlad gwreiddiol o Wlad Llyn – yn   
hiraethus i’r ffynnon pan bibellwyd y dwr i gartrefi Llyn:
                                                   
                  
’Rwy’n ofni mai dy bensiwn
                              
                       Fydd     
llond dy fol o ro.
                                                    
’Rol gwasanaethu’n ddistaw 
                                                   
    
Drigolion tlawd dy fro.
wrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrw
Dyma     
fanylion am y ffynhonnau a enwyd yn yr erthygl uchod fel eu ceir yn      
Enwau Lleoedd Môn gan
Gwilym   
T. Jones a Tomos Roberts. Rhifau cyfeirnod drwy garedigrwydd Ken Lloyd Gruffydd   
ac mor gywir ac sy’n bosib heb adnabod yr ardal:
Ffynnon    
Padric   
(Badrig) – yn Llanbadrig /Cemais.  Ymddengys     
fod yna ddwy ffynnon yn coffau Padrig, y naill gerllaw Eglwys Llanbadrig     
(SH3794) a’r llall yn nes i  Borthwen      
(SH4094) ar ochr ddwyreiniol y plwyf.      
Ffynnon     
Eilian –   
i’r gogledd orllewin o Eglwys Llaneilian ac o fewn chwarter milltir i Borth   
Newydd.(SH 466934)
Ffynnon    
Trinculo –   
Ar dir fferm yn dwyn yr enw Coeden ym mhlwyf Llanfechell.
Ffynnon    
Fechell –   
Llanfechell ar lecyn yn dwyn yr enw Waen fawr.( SH 369913) 
Ffynnon    
Tal–y-Bont,   
Llanfechell (SH3694)
Ffynnon    
Ty Hen,    
Mynydd Mechell (SH3689)
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 14 Haf 2004
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc