PYTIAU DIFYR
Diolch i Emrys Evans, Blaenau Ffestiniog, am y darn hwn o Baner ac Amserau Cymru, 14 Ionawr, 1874, tud 7. (Cadwyd at y sillafu gwreiddiol).
FFYNNON SANT GAWEN
Ar draeth de-orllewinol Sir Benfro, y mae capel a elwir yn ôl Sant Gawen, yr hwn, fe ddywedir, a'i hadeiladodd, ac a breswyliai mewn cell fechan a dorasid yn y graig yn y pen dwyreiniol o hono.
Rhwng y capel a'r môr, ac yn agos i derfyn llawn llanw, y
mae ffynnon o ddwfr croew, yr hon hefyd a ddwg enw Sant Gawen. At hon aml
gyrchai morwyr, ac yn ddieithriad derbynient groesaaw a chymorth gan y gŵr
da.
Ond perthynai i'r capel y pryd hynny y neilltiolrwydd o gloch arian; ac ar ryw brynhawngwaith tawel yn yr haf, daeth cychiad o ddynion a'u bryd ar ei thrawsfeddiannu. Yn ddiystyr o barchedigaeth y lle, ac o letygarwch y preswylydd, rhyddasant y gloch o'r tŵr, a chludasant hi i'r cwch. Ond nid cynt y gadawsant y lan nag y cyfododd tymestl gerth, yr hon a suddodd yr ysbeilwyr yn y fan; ac ar yr un ennyd, drwy foddion anweledig, y gloch a gymerwyd ymaith ac a gladdwyd oddi fewn i garreg fawr a orweddai ar fin y ffynnon. Hyd heddiw, pan darewir y garreg, clywir acenion ariannaidd a thyner gwynfan y gloch.
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff
PYTIAU DIFYR... PYTIAU DIFYR...PYTIAU DIFYR
Yn sir Benfro mae’n nodi’r ffynnon yn Bosherton a Ffynnon
Gofan.(SM 9692) Mae’r ffynnon mewn capel bychan
hanner ffordd i fyny’r clogwyn ger y môr. Dim ond rhywun ar ben ei dennyn ac
yn barod i wneud unrhyw beth i wella o’i anhwylder a fyddai’n barod i
fentro’r llwybr i’r ffynnon gerllaw’r capel a phenlinio yno mewn gweddi
i’r sant, meddai.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 27 Nadolig 2009
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff