Romania
ANTUR FFYNNON THEODORA
Howard Huws
Dda gen i ddim mo mannau uchel: mae dringo ysgol yn ddigon o gamp gen i. Pan felly, yr oeddwn i’n ceisio sefyll ar ben maen enfawr yn Romania? Heb nemor droedle diogel, ac o fewn modfeddi i ddibyn ddegau o droedfeddi? Er mwyn tynnu llun ffynnon, wrth reswm.
Mae bryniau Moldafia yn eang a braf, yn las gan goedwigoedd ac ymhell o bob stŵr. Dyna pam y ceir ynddynt fynachlogydd gyda’r mwyafrif trawiadol a luniwyd erioed, eu waliau’n un o ddarluniau, y tu mewn a’r tu allan, a’r pererinion yn eu cyrchu heddiw fel ddoe. Ar wahân i’r sefydliadau mawrion, ceir rhai bychain sy’n gartref i ryw ddeg neu ddwsin o fynachod neu leianod, a rhai llai fyth, lle mae meudwyaid unig yn padereua’r bwlch rhwng y byd hwn a thragwyddoldeb. Meudwyes o’r fath oedd y Santes Theodora, a ganfu loches mewn ogof ger Sihla ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg.
Darllenais iddi godi’i dŵr yfed o ffynnon ar ben un o’r clogfeini ogylch ei hogof a bod y ffynnon honno bellach yn un santaidd, wedi’i chysegru, yn enw’r feudwyes. Gan i mi dreulio wythnos yn yr ardal honno llynedd, rhaid oedd imi alw heibio. Ond nid ar chwarae bach yr oedd gwneud hynny. Chwiliodd y feudwyes am fan anghysbell, ac er i’r byd newid y tu hwnt i bob dychymyg yn ystod y tair canrif ddilynol, mae gofyn bod yn benderfynol os am ymweld â’r lle heddiw. Y mae tua phum milltir o’r ffordd fawr agosaf, hyd lôn gerrig garw sy’n dringo tua mynachlog fechan Sihla. Toc cyn cyrraedd yno, gwelir arwyddion yn cyfeirio’r pererinion i ben llwybr tuag at ogof Theodora.
Lle braf i gerdded ynddo yw’r goedwig uchel, a buan y cyrhaeddir nifer o feini enfawr sydd fel petaent ar gychwyn i lawr y llethrau Mewn hollt o dan un ohonynt y treuliodd Theodora ran helaeth o’i hoes ac y mae’r gysegrfa fechan yno eto’n nod ymweliadau’r ffyddloniaid. O holi am y ffynnon cyfeiriwyd fi at glogfaen arall, ar ymyl dibyn, ac ysgol bren wedi’i hoelio wrthi. Wedi ei hoelio- ond nid ag unrhyw olwg ar reolau iechyd a diogelwch. Wrth imi’i hesgyn dechreuodd simsanu a symud ychydig o wyneb y garreg. Pe bawn gall, nis mentraswn: ond wedi ymdrechu cymaint i gyrraedd y lle, nid oeddwn am ddiffygio rŵan. Gan ofyn nawdd Theodora, dringais yn araf tua’r copa, heibio i dro yn yr ysgol a roddai imi gyfle da i weld cymaint o ffordd oedd rhyngof a’r llystyfiant islaw, a pha mor dila oedd y mymryn canllaw a ohiriai fy mynediad i’r tragwyddol leoedd.
Oedd, ’roedd yno ffynnon o fath ar ben y graig: twll petryal tua dwy droedfedd wrth dair wedi’i naddu o’r garreg heb ddiferyn ynddo. Mae’n amheus gennyf a fu yno erioed darddle: rhaid bod Theodora wedi dibynnu arno i gronni dŵr glaw, y dlawd. Yna’r rhan waethaf: ceisio sefyll ar ben y graig, er mwyn medru tynnu llun o’r ffynnon. Gan bwyll bach y ceisiais sefyll ac ymsythu, heb nemor droedle diogel, a’r dibyn fel petai’n ceisio fy nhynnu ato. Tynnais y llun, yna’n araf deg euthum i lawr, ar fy mhedwar, ac yna wysg fy nghefn yn ôl i lawr yr ysgol ansad. Da calon gennyf fu cyrraedd y gwaelod: gobeithiaf y cytunwch fod llun gwrthrych fy nhrafferth o ryw ddiddordeb.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 32 Haf 2012
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff
Ffynhonnau
Maramureș, Romania
Ddiwedd mis Awst diwethaf treuliais ychydig ddiwrnodau yn rhanbarth Maramureș yng ngogledd Romania, am y ffin â’r Wcráin. Nid af fi ddim i draethu yma am yr holl ryfeddodau a welais yno: cewch ddarllen rhagor am hynny yn rhifynnau nesaf “Llafar Gwlad”, os ydych â diddordeb. Digon dweud yma y deuthum ar draws dau fath o ffynnon ddiddorol.
“Aiasma”cwfaint Bârsana, ger Sighet ym Maramureș
Eicon “Y Ffynnon Fywiol”, ac arwydd “Dŵr
Sanctaidd”
Uchod mi welwch “aiasma”, sef
ffynhonnell dŵr sanctaidd sy’n gysylltiedig â safle o bwys crefyddol. Yn
yr achos hwn, cwfaint Bârsana ger dinas Sighet. Er mor hynafol yr olwg arnynt,
i’n golwg ni, yw’r adeiladau pren yno, fe’u codwyd oll er 1993, ac y maent
yn cynnwys math ar dabernacl pren uwchben ffynhonnell dŵr sanctaidd ar
gyfer defodau’r Eglwys Uniongred a’r miloedd pererinion sy’n ym
Arwydd ffynhonnell dŵr
yfadwy gerllaw pistyll.
Math arall ar ffynhonnell a welais
oedd y “tsiwrói”, sef tarddle dŵr yfed. Arwyddir safle’r darddell, a
bod y dŵr yn addas i’w yfed, trwy osod ffon yn y ddaear gerllaw, ac ar ei
phen, gwpan neu lestr â’i ben i waered.
Gwelais hwy ar fy nheithiau. Byddai yno bobl yn llenwi piseri a chaniau â’r dŵr, oherwydd er bod gan ardaloedd trefol Romania gyflenwadau dŵr go ddiogel a dibynadwy, mae llawer o’r farn nad yw dŵr tap i’w gymharu â dŵr yr hen ffynnonellau dibynadwy fu’n cyflenwi eu hynafiaid ers canrifoedd. Yn aml nid oes dŵr tap yng nghefn gwlad: mae’r trigolion yn dibynnu ar eu ffynhonnau eu hunain, a chodwyd eu tyddynnod gyda golwg ar leoliad y cyflenwad dŵr agosaf. Mae dŵr, wedi’r cwbl, yn drwm drybeilig i’w gario!
LLYGAD
Y FFYNNON Rhif 41 Nadolig
2016.
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff