Home Up

RHYD-Y-SARNAU

 

YMWELD Â PHEDAIR FFYNNON

gan Howard Huws

 

Ffynnon Sant/Saint

 (SO 0486 7423)

Dengys mapiau Ordnans safle’r ffynnon hon yn o eglur, ar y dde i’r llwybr o’r ffordd fawr i fferm Penbryn cenna. Yn anffodus, dyna’r cwbl y gallaf ei ddweud amdani, oherwydd y mae’r tir yno’n un trwch o redyn, dail poethion, mieri a llwyni, ac nid oes modd gweld dim. Dylai’r ymchwiliwr penderfynol sicrhau caniatâd y deiliad tir, ymarfogi â phladur, a gweddďo am nerth bôn braich.

Nid oes dim dirgelwch ynglŷn â bodolaeth ffynnon yno, ar un adeg, o leiaf. Gwelaf ar y rhyngrwyd fod yno drac rasio ceir o’r enw “Saints Well Racetrack”: ond ni ŵyr neb pa sant neu saint a goffeir yma. Saif ym mhlwyf Abaty Cwm Hir, sydd dan nawdd Mam Duw: ond cyn codi’r abaty, bu ym mhlwyf eang Llanbister. Cysegrwyd honno yn enw Cynllo Sant, ond cynhwysai gapeli Padarn, Anno, Mair a Mihangel hefyd, ar un adeg. Yr eglwys agosaf at y ffynnon yw Sant Harmon, tan nawdd Garmon Sant.

A dyna’r pedair. Darlun eithaf cynrychioladol o amryw gyflyrau ffynhonnau sanctaidd ein gwlad, mi gredwn.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 29 Nadolig 2010

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff

 

Home Up