Home Up

RHUDDLAN

(SJ0278)  

FFYNNON FAIR, RHUDDLAN, AC INIGO JONES

  Iorwerth Hughes

 

    Yng ngerddi Plas Bodrhyddan, Rhuddlan, mae ffynnon hynafol - Ffynnon Fair gyda'r adeiladwaith harddaf rwyf erioed wedi ei weld. Mae'r plasty a'r gerddi yn agored i'r cyhoedd ar ddau brynhawn yr wythnos yn ystod misoedd yr haf. Mae lleoliad y ffynnon yng nghanol y lawntiau a'r coed i'r gorllewin o'r plasty, sydd ryw filltir a hanner o Ruddlan i gyfeiriad Dyserth. Mae eglwys hynafol Rhuddlan hefyd wedi ei chysegru i Fair.

Mae siambr y ffynnon yn adeilad wyth ochr o garreg ddeniadol, gyda mynedfa fwaog a llidiart haearn arni. Mae'r to yn gogwyddo i big gyda thŵr bychan a phelican cerfiedig ar ei ben. Tu mewn i'r siambr mae seddau o gerrig wedi eu gosod i fewn i'r muriau ac yn amgylchynu'r ffynnon. Wrth ochr y ffynnon mae baddon hirsgwar gyda mur isel o'i amgylch a grisiau yn arwain i lawr i'r dŵr. Mae hyn yn awgrymu fod y ffynnon wedi cael ei defnyddio fel un iachusol. Hefyd mae sôn fod priodasau cyfrinachol wedi bod yn cael eu cynnal yma yn y gorffennol pell.

Yn gerfiedig ar fur y siambr mae'r canlynol:

St Mary's Well Indigo Jones

1612  

Ai'r pensaer enwog a gynlluniodd Pont Fawr Llanrwst sydd a'i waith i'w weld yma hefyd? Yn ei lyfr The Buildings of Wales - Clwyd mae'r awdur, Edwart Hebread, yn amau hyn er nad yw'n nodi'r rheswm pam. Mae'r Arglwydd Langford, perchennog Bodrhyddan, yn naturiol yn hoffi credu i'r gwrthwyneb, ond ni all brofi hyn yn bendant oherwydd yn anffodus mae hen gofnodion yr ystâd wedi eu difrodi gan dân. Cred fod y ffynnon hon yn un eithriadol o hen ac yn cael ei defnyddio ar gyfer defodau paganaidd cyn dyfodiad Cristnogaeth i'r wlad. Mae'r ffynnon mewn ardal a elwir 'The Grove' ac mae nifer o goed derw yn tyfu mewn rhesi yn arwain ati fel cadarnhad o hyn. Un peth y gallwn ddweud yn bur sicr yw bod yna hanes i'r Ffynnon Fair yma ganrifoedd cyn dyddiau Indigo Jones, ac mae'n hyfryd meddwl fod ei safle mewn man manteisiol iawn i'w chynnal a'i chadw i'r dyfodol.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 1 Nadolig 1996

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Annwyl Olygydd

Diamau eich bod yn gwybod am y ffynnon ger y moat pellaf yng nghastell Rhuddlan (SJ0278) a bod i'r dŵr rinwedd meddyginiaethol, dŵr oedd yn eithriadol o oer. Yr oedd fy hen nain, Ann Jones (1810-1885) yn cynghori ei chleifion ar adegau i fynd yno i olchi eu llygaid. Bu hi yn trin deifion o wahanol afiechydon. Bu i Syr Robert lonnes, Lerpwl, y meddyg enwog, gynnig £5 yr wythnos iddi os rhoddai prescriptions y gwahanol eli a wnâi.. Gwrthododd gan ddweud na chai neb hwy ond y ferch hynaf.

Trefor D. Jones, Penysarn, Amlwch.

(Diolch i Trefor lanes am dynnu ein sylw at y ffynnon arbennig hon. Nid oeddem yn ymwybodol ei bod erioed wedi cael ei defnyddio fel ffynnon feddyginiaethol.)

LLYGAD Y FFYNNON  Rhif 13, Nadolig  2002

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Home Up