Home Up

PYTIAU DIFYR

LLYGAD Y FFYNNON 26 Haf 2009

Ofergoelion yr Hen Gymry gan y Parch. T. Frimston (Tudur Clwyd) Bae Colwyn, 1905.

(Detholiad o’r hyn sy’n ymddangos o dudalen 48 hyd dudalen 67.Cadwyd y sillafu gwreiddiol)

FFYNNON-DDEWINIATH

‘Dyma wedd ar ofergoeledd yr hen Gymry a fu mewn bri mawr am ganrifoedd... Dyddia y Ffynhonnau Sanctaidd i hynafiaeth dirfawr, ac ymhell cyn y cyfnod Cristionogol. Roedd rhai o honynt yn iachaol, y lleill yn broffwydol ond yr oll yn ddewinol. Gwaith llawer i Ffynnon Fair oedd gwella llygaid. Dyna hefyd briodolid i Ffynnon Goblyn. Hanfod hanes honno yw, fod rhyw Sant rhyw dro wedi cael mendio ei lygaid ynddi; a phwy bynnag a fynnai gael ei rhinwedd, byddai raid iddo fyned yn y boreu cyn i’r haul godi i olchi ei lygaid yn nwfr y ffynnon.

Dweud ansawdd calon cariadau y merched oedd gwaith Ffynnon Cybi.( SH 42744126) Pan y byddai merched yn yr hen amser mewn pryder mawr yn nghylch cywirdeb eu cariadau, ac eisiau gwybod amdanynt pa un a wnaent ai priodi ai peidio, dywedai Ffynnon Cybi wrthynt yn lled fuan. Byddai raid i’r ferch fyned at y ffynnon, a thaenu ei chadach poced yn berffaith gywir dros wyneb y ffynnon; ac i ba gongl bynnag o’r ffynnon y gweithiai tarddiad y ffynnon y cadach, yn ôl hynny y byddai'r dynged i fod. Os i gongl y De y gweithiau y cadach, byddai pob peth yn dda; ond os i gongl y Gogledd y gweithiau hi, yn y gwrthwyneb y byddai pethau i fod. Beth bynnag a ddywedai y ffynnon ai y ferch adref ac ymddygai at ei chariad yn ôl y dystiolaeth a dderbyniasai. Peth naturiol, ar ôl i’r ferch dderbyn rhywbeth fel hyn i’w mynwes, oedd iddo ddyfod allan trwy ei hwyneb a’i thafod ac felly ddylanwadu ar feddwl y llanc.

Gwella defaid oddi ar ddwylaw oedd gwaith Ffynnon Asa.(SJ 065775) Rhinwedd Ffynnon Beuno ( SH 41324945)oedd gweinyddu bendith ar y gwartheg. Rhinwedd rhyfeddol Ffynnon Llan San Siôr ger Abergele(SH977757) am wella ceffylau, ac am y lliaws anifeiliaid ac afiach yno am wellhad. Gwellid rhai drwy yfed y dŵr, y lleill drwy eu golchi ag ef; bryd arall, taenellid dwfr yn unig arnynt, gan weddïo y mendith “Rhad Duw a Sant Siôr arnat”.

Yr oedd, ac y mae eto yn Nheirtref Meifod, Maldwyn, ffynnon a lecha oddeutu milltir i ogledd Dolobran Hall a elwir yn Ffynnon Darogan.(SJ 119135 Un arall y sydd yn Clawdd Llesg ar derfyn Meifod a Guilsfield, yn nhref Trefedryd. I fyny hyd at ddiwedd y ganrif ddiwethaf, cyrchai tyrfaoedd i Ffynnon y Clawdd Llesg (SJ 159114) yn enwedig ar Sul Y Drindod, i yfed twr a siwgwr.

Prif ffynnon Cymru ag y mae mwyaf o swm ei hanes dewinol wedi dyfod i lawr i’n dyddiau ni ydyw Ffynnon Elian ger Croes-yn-eirias, Colwyn. Sir Ddinbych (SH 866774). Safai gynt yn nydd ei hynodrwydd yng nghwr cae o fewn ychydig lathenni i’r ffordd sydd yn arwain o Groes-yr-eirias i Lanelian. Ar lechwedd yr oedd a’i gofer a redai i’r De; a honnid hyd ddiwedd y ganrif ddiwethaf fod modd swyno gyda phob ffynnon y byddai “ei gofer yn arwain i’r De;” ac aneirif y cymwynasau er drwg a da a briodolid i’r ffynhonnau hynny. Y mae Ffynnon Elian wedi bod yn ddychryn i gannoedd na buasai dim arall bron yn cynhyrfu eu teimladau; ac y mae yn anhawdd i ni, pobl yr oes hon, gredu y dylanwad oedd ganddi ar bobl o bob oed, gradd a sefyllfa. Y mae yn ymddangos fod rhywun arbennig yn sefyll yn Offeiriad i’r ffynnon ym mhob oes, trwy y rhai yn unig yr oedd modd cael gan y ffynnon weithredu. Rhoddir yr hanesion a ganlyn gan yr hwn a weinyddai y swydd o Offeiriad y Ffynnon:

“Daeth gwraig i siopwr o Abergele ataf yn y dybiaeth bod ei henw yn y ffynnon . Perswadiais hi nad oedd y fath beth yn bod a chefais ganddi fyned adref. Ymhen wythnos gwelwn hi yn dyfod wedyn ac erbyn hyn gwelwn na wnâi y tro ond y ffynnon. Gosodais ei henw yng nghwr fy llawes ac es gyda hi at y ffynnon. Rhoddais fy llaw dan y dorlan ac wedi slipio yr enw i fy llaw, codais ef i fyny yn ei gwydd. Credodd hithau a gwellaodd yn ebrwydd. Cafodd hi heddwch gan y selni a chefais innau heddwch ganddi hi.

Daeth amaethwr parchus ataf yn achos ei wraig yr hwn a ddywedai ei bod yn glaf, yn orweddiog ac heb fwyta un tamaid o fara ers wythnosau a chredai ei bod wedi cael ei rhoi yn y ffynnon. Holais ef mor fanwl ag y gallwn a deallais mai yn ei meddwl yr oedd yr afiechyd yn cartrefu yn bennaf a dywedais wrtho nas gallwn wneyd dim o honni heb iddi ddyfod yma am ychydig amser. Felly y bu: anfonwyd hi yma yn ddi-oed a rhoddwyd hi yn y gwely yn fy nhŷ. Yna gwneuthum i fy hen wraig olchi ei phen a rhannau uchaf o’i chorff, â dwfr o’r ffynnon. Yn fuan ar ôl hyn, dywedai ei bod yn llawer gwell, a’i bod yn teimlo ei hun yn adfywio yn anghyffredin. Drannoeth cefais ganddi godi, a dyfod i olwg y ffynnon, a chymmeryd ychydig luniaeth. Y trydydd dydd, cerddodd gyda mi i lan y môr, oddeutu tair milltir o ffordd, yn ôl ac ym mlaen, a bwytaodd y hearty. Ym mhen naw diwrnod, anfonodd at ei gŵr am iddo ddyfod i’w nôl, onide y deuai gartref ar ei thread bob cam! Nid rhyfedd i feddygon pennaf ein gwlad, yn ngwyneb llawer math o afiechyd, wneud eu gore i godi meddwl y claf; oblegyd gwyddant fod hyn yn un o brif foddion i gryfhau y cyfansoddiad.”

Ymddengys i’r rhysedd yma gyda y Ffynnon hon, gyda rhywun arall, gynyddu i’r fath raddau, nes peri i’r awdurdodau gwladol ymyrryd. Ym Mrawdlys Fflint, 1818, cyhuddid twyllweithredwr o hawlio arian trwy dwyll. Yr oedd wedi llwyddo i gael pymtheg swllt oddiar ffermwr, trwy beri iddo gredu fod ei enw wedi “cael ei roi yn y ffynnon,” yr hyn a ystyrid yn fath o uffern o fewn y plwyf, ac nas gallai mewn un modd, tra byddai ei enw ynddo lwyddo. Ymgymerodd yr honwr â “thynnu enw y dyn allan o’r pydew diwaelod” am bymtheg swllt, yn nghyda gweddïau, ac erfyniadau, a Salmau i’r perwyl. Dedfrydwyd ef i flwyddyn o garchariad.’

Y GWAITH DWFR

Allan o Nodion O Gaergybi gan R.T. Williams (Trebor Môn) , Caergybi, a gyhoeddwyd yn 1877.

(Detholiad o dudalen 95 a 96. Cadwyd y sillafu gwreiddiol)

‘Diwallir trigolion Caergybi â digonedd o’r “elfen denau ysplenydd” â phibellau haiarn tanddaearol, yn a cherllaw eu handedd-dai o “ffynon y Wrach,” ger amaethdy’r Twr, ac o’r Gronfa Newydd helaeth a gwerthfawr a geir cydrhwng y Twr a Phen-y-bonc, am y swm isel o ddwy geiniog yn wythnosol. “Ffynon Cybi” (sugnedydd yn awr) yn Nghybi Place, a fu’n” ystên Duw i estyn dŵr” i bobl Cybi am lawer oes, ac yn hynod ar gyfrif ei theithi cyfareddol fel ereill o hen fynonau Cymru. Prysurai dyn ati i ddial ar ei gyd-ddyn, a chredai’r bobl pan roddid dernyn o bapyr ag enw y sawl a ddymunid ei felldithio arno o dan un o’i cheulennydd, y cai ei felldigeiddio yn y fan! Hyhi hefyd a wasanaethai gleifion cariad, a hi oedd Falentine ieuengctyd y gymdogaeth!!’

Dyma sydd gan Gwilym T. Roberts a Tomos Jones i’w ddweud am Ffynnon Gybi, Caergybi (SH2 47829) yn eu cyfrol Enwau Lleoedd Môn (1996). Tudalen 72. Lleoliad: rhyw chwarter milltir i’r gogledd o Eglwys Cybi Sant, Caergybi.

‘Dengys map (1873) lecyn yn dwyn yr enw Cae Ffynnon Cybi wedi ei leoli y tu cefn i Swyddfa Bost y dref heddiw. Defnyddid ei dŵr yn yr hen ddyddiau gan gleifion yn dioddef o afiechydon megis ‘scrofula’ a chryd cymalau. Cartrefai llysywen ddwyfol yn nyfroedd y ffynnon a chanddi’r gallu yn ôl traddodiad i eiriol tros y claf gyda Sant Cybi ei hun. Myn traddodiad hefyd fod grym iachusol y dŵr yn gallu sicrhau gwellhad mor gyflym a disymwth i’r anabl fel y gwelid, ar adegau, gasgliad helaeth o eitemau megis berfâu a baglau wedi eu bwrw ymaith gerllaw y ffynnon. Yn ogystal, câi’r ffynnon ei hystyried yn un addas ar gyfer dial a melltith a hefyd yn un a allai gynnig swcr a chymorth i gleifion cariad. Ymddengys ei bod hefyd yn ffynnon gref a dibynadwy, gyda chyflenwad helaeth a sicr o ddŵr croyw ynddi ar bob achlysur, bu’n gwasanaethu trigolion yr ardal am rai canrifoedd. Datblygodd rhwydwaith o strydoedd yng nghyffiniau’r ffynnon yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Safai’r ffynnon ei hun ar gyffordd Stryd Cybi. Dynodwyd un stryd a arweiniai ati yn Stryd-y-Ffynnon (Well Street) ac ym 1908 gosodwyd pwmp trosti (‘Ystên Duw i estyn dŵr’ yn ôl un o drigolion y dref), a rhoddwyd yr enw ‘Pump Street’ ar un o’r ffyrdd eraill a arweinia at y ffynnon.’

DYDDIAU’R FFYNHONNAU

Allan o Cysgodau’r Palmwydd gan Y Canon W. Dewi Thomas - tudalen 10-11a 69. Cyhoeddwyd yn1988.

‘Ganed fi ar Brynhawn Ffair Crymych, sef Mai 30ain, 1917. Arferwn ddweud wrth fy mam mai dyna’r ffeiryn gorau a gafodd hi erioed. Digon cyntefig oedd bywyd ar lawer cyfrif yn ardal Llanfrynach (SN 2231) pan oeddwn yn blentyn. Rwy’n siŵr fy mod wedi hen gyrraedd fy arddegau pan dywyswyd y dŵr o ffynnon Cwm-glas drwy bibellau i bentref Llanfrynach , ac y gosodwyd gwrthrych mawr o haearn -bwrw, â chnapan mawr o’i droi i ollwng dŵr yn rhan o’i gyfansoddiad. Dal i gario’r dŵr oddi yno i’w ddefnyddio at bob diben mewn stenau a wnâi’r trigolion ar y cyntaf. O dipyn i beth, arweiniwyd y dŵr i’r cartrefi, er mai eithriadau am hir amser oedd y tai a allai ymffrostio mewn dŵr-twym pibellog a hynny mewn ystafell ymolchi... Cyn i’r dŵr o Gwm-glas gyrraedd y pentref, byddai pentrefwyr Llanfyrnach yn ei gario o ffynnon fach a darddai yn y graig ar lan afonig Llinos, yn ymyl Mispa. Byddai’n sychu weithiau, ac yna rhaid cario dŵr o Bistyll Brynach ar y llethr islaw Eglwys y Plwyf.

Y mae Eglwys Caeo yn eglwys fawr. Ei hynodrwydd pennaf yw ei chawg-dŵr-sanctaidd, a saif ryw dair troedfedd a hanner o’r llawr yn ei chyntedd. Honnid ei fod bob amser yn llawn o ddŵr ond nad oedd byth yn gorlifo, er na wyddid beth oedd cyfrinach ei gyflenwad. Er gwaetha’r honiad a minnau wedi fy ngwahodd i bregethu yn yr Ŵyl Ddiolchgarwch am y Cynhaeaf yn Llansewyl ym 1993, wedi galw heibio i adnewyddu’r hen gysylltiad â Chaeo, cefais y cawg yn sych. Canlyniad sychder eithafol y flwyddyn honno oedd yr anghaffael hwnnw, ac o holi’r ficer- Y Parchedig Cyril Jones, yn ddiweddarach, dywedodd fod y dŵr wedi dychwelyd.’

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

PYTIAU DIFYR  
- LLYGAD Y FFYNNON Rhif 18 Haf 2005

 Dyma wybodaeth am FFYNHONNAU SIR GAERFYRDDIN o gyfrol CASGLIAD O LÊN GWERIN SIR GAERFYRDDIN gan y Parch D.G. Williams. Cyhoeddwyd y gwaith am y tro cyntaf yn 1895 gan Gymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyhoeddwyd copi argraffedig o’r gyfrol yn 1996 gan Gyngor Sir Gaerfyrddin. Gwelir yr wybodaeth ganlynol ar dudalennau 83 i 85. (Cadwyd at y sillafu fel y’i ceir yn y gwreiddiol.)

FFYNNON ST. ANTWN

Yn Llanstephan y mae Ffynnon St. Antwn neu fel y gelwir hi’n gyffredin, Ffynnon Shon Antwn. Nodai Mr. T.L.D. Jones-Parry yn gywir am dani yn “Y Genhinen” yn ddiweddar, ei bod “wedi ei hadeiladu â cherryg a chymrwd; ac uwch ei phen y mae eilunfa, neu le ceuol, y tybid y cedwid delw y sant. Yr oedd yn enwog yn yr amser gynt am ei rhinwedd i iachau clefydau.” Pobl ieuainc sy’n glaf o gariad yn bennaf a ymwelant â’r ffynnon hon yn awr; wishing well yw. Os dymuna dyn ieuanc yn galonnog wrth Ffynnon St Antwn i gael calon rhyw ferch ieuanc wedi ei throi ato ni bydd hynny yn hir cyn dod i ben; ond rhaid cyflwyno pin cam yn offrwm i dduw neu sant y ffynnon. Y mae miloedd o binnau yng ngwaelod Ffynnon St Antwn, wedi eu dwyn yn offrymau gan ewyllyswyr pryderus o bob cwr o’r wlad.

FFYNNON BECA

Mewn gwaun fechan yn agos i Dre-fach y mae Ffynnon Beca. Bu hon yn enwog iawn gynt. Gwnaeth wyrthiau rhyfedd yn ei dydd. Gwna llawer ddefnydd o’i dŵr o hyd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn y mae aml i gwmni bychan wedi bod ar eu taith drwy’r nos er mwyn yfed o ddwfr Ffynnon Beca cyn dydd. Cyfrifir fod ei dŵr lawer yn gryfach yn y bore cyn codiad haul. Y mae golwg digon gwylaidd arni heddyw. Nid yw ond ffrwd fechan ar waun ag ychydig gerryg o’i chylch. Ymwelais â hi yr haf diweddaf ac yfais o honi. Baich go drwm y cyfrifai fy nghylla i a’m cwmni ei dŵr. Defnyddir dwfr y ffynnon yma fel dwfr cyffredin ar wasanaeth y tŷ gan y trigolion pan y mae yn sych iawn a’r ffynhonnau ereill yn sychu. Cefais ymddiddan maith gan hen wraig hynaf y lle am y ffynnon. Ni chyfrifai hi fod fawr gwahaniaeth rhwng ei dŵr ag eiddo ffynhonnau cyffredin ond meddyliau “pobl dierth” fod y ffynnon yn rhinweddol dros ben, yn neillduol i wella’r “grafel”. Hefyd y mae y dwfr sydd yn aros ychydig droedfeddi nes lawr na llygad y ffynnon yn dda iawn i’r llygaid.

FFYNNON FRON LAS

Ffynnon fechan ar waun fferm o’r enw Bron Las, ym mhlwyf Trelech, yw hon. Nid yw y sôn am dani wedi mynd ymhell, ond credai’r hen bobl fod ynddi rinwedd iachaol rhyfedd, ond yfed o’i dŵr cyn codiad haul, yr un fath ag y nodais am Ffynnon Beca. Cyfetyb hyn i’r arferiad yn yr Alban gyda Loch Manaar.

FFOSANNA

Ym mhlwyf Cynwil y mae hon. A oes berthynas, fel y myn rhai, rhwng yr enw a’r geiriau Lladin fons sana – “ffynnon iach”? Bu hon yn enwog iawn ddegau o flynyddoedd yn ôl. Dywedai hen wraig wrthyf fod yma, yn gynnar yn y ganrif hon, hen ŵr go hynod yn byw yn agos i’r ffynnon: cadwai rywfath o ddelwau o’i chylch. Neu, fel y cefais yr hanes gan un arall, os byddai dyn ieuanc yn dyfod yn was o ryw ardal ddieithr i’r fferm y mae y ffynnon ar ei thir, rhoddai yr hen ŵr gart a cheffyl iddo ’mofyn cerryg o’i ardal enedigol, neu unrhyw ardal arall y gwyddai am dani os byddai yn gwybod am gerryg dipyn yn hynod o rhywle. Un yn neillduol a ai â’r cart i ’mofyn carreg fel yma, pan y dychwelai, sylwai ei feistr arno, ac edrychai ar y garreg; ystyriai ei bod yn rhagori ar ddim oedd yno eisoes, a dywedai y meistr wrth ei was newydd: “Was dierth, y mae bendith gyda thi os deli ymlaen.” Dyna’r esboniad traddodiadol ar y cylch mawr o gerryg sydd o gwmpas y ffynnon hyd heddiyw. A oes berthynas rhwng y traddodiad yma am ddod â cherryg ar Ffynnon Ffosanna a’r hen arferiad o daflu cerryg, yn fath o offrwm i’r gallu sy’n iachau, fel y gwneir gyda Ffynnon Yclaburn yn Ynysoedd Shetland? Y mae traddodiadau ar lafar gwlad am bobl yn cael eu hiachau yn rhyfedd gan ddwfr Ffynnon Ffosanna. Deuai pobl yno ar eu ffyn, ond taflent hwy ar ôl yfed y dŵr. Cawsai ymwelwyr lety mewn tŷ ffarm yn agos i’r ffynnon, ond un o amodau y llety oedd iddynt adael eu ffyn yno pan yn ymadael yn holliach.

FFYNNON FIL FEIBION

Y mae traddodiadau hen am hon. Saif yn agos i Gastell Dinefwr. Lladdwyd yma fil o feibion amser mawr yn ôl, medd traddodiad, a dyna darddiad ei henw.

NANT Y RHIBO

Dywed Giraldus fod yn ei amser ef Ffynnon ryfedd yn agos i Ddinefwr, ar yr ochr arall i’r Towi, yng Nghantref Bychan, ffynnon oedd fel llanw’r môr yn codi ac yn gostwng ddwy waith mewn 24 awr. Dywed Thomas Wright mewn nodiad, fod ffynnon yn agos i ochr ogleddol mur Parc Dinefwr, a elwir Nant y Rhibo (rheibio), ac mai at hon, efallai, y cyfeiriai Giraldus. Y mae y ffynnon honno’n adnabyddus ddigon.

FFYNNON Y PISTYLL

Yng nghantref Llandyfeilog, ar dir o’r enw Pistyll, yn agos i Gydweli, y mae ffynnon a fu yn enwog unwaith. Yr oedd ei dyfroedd yn gwella’r llygaid o bob math o ddolur y teimlent oddiwrtho.

FFYNNON SUL

Y mae hon yn hen ffynnon enwog, a thraddodiadau ynglŷn â hi. Yn agos i Gydweli y mae. Lladdwyd yma dywysog o’r enw Benisel. Y traddodiad yw i ffynnon darddu yn y man y lladdwyd Benisel, ac iddi gael ei galw ar ei enw. Yn nhreigliad amser, llygrwyd y gair; gadwyd Ben allan ac ni arosai ond Sel. Yn derfynol, trodd y Sel yn Sul.

LLAN-NON

Pwyntir allan yma heddyw y ffynnon y cawsai Non, mam Dewi Sant, ddŵr ohoni.

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

Dyma gyfeirnod map y ffynhonnau o’r dyfyniad hwn mor agos ag sy’n bosib:

Ffynnon Antwn Llanstephan -SN 347098; Ffynnon Beca, Dre-fach- Mae sawl Drefach yn Sir Gaerfyrddin!; Ffynnon Fron Las, Tre-lech- SN295287; Ffynnon Ffosana, Cynwil Elfed- SN 357324; Ffynnon Fil Feibion, Castell Dinefwr-SN615225; Ffynnon Nant y Rhibo, Dinefwr- SN623233; Ffynnon Pistyll, Llandyfaelog SN4111; Ffynnon Sul, Cydweli-SN 4006; Ffynnon Non, Llannon- SN5408.

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

PYTIAU  DIFYR   

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 24 Haf 2008

FFYNNON OER, LLANDDONA (Allan o Coelion Cymru, gan Evan Isaac)

‘Mae hanes diddorol am Rheibesau Llanddona ym Môn. Y traddodiad ydyw, ddarfod alltudio’r rheibesau a’u teuluoedd o’u gwlad- ni wyddys pa wlad- oherwydd y dinistr a achosent wrth reibio. Gyrrwyd hwy i’r môr mewn cychod heb na hwyl na rhwyf, Glaniasant ar draeth Môn. Cododd y brodorion i’w herbyn a cheisio eu gwthio o’r tir. A hwythau ar fin marw o newyn a syched, parasant i ffynnon o ddwfr croyw darddu o’r traeth. O weled gwneuthr y fath wyrth, caniatawyd iddynt dario yn y wlad. Bu eu cynnydd yn gyflym, ac ni fuont yn hir heb ddechrau ar eu gwaith o reibio. Ymwelai’r rheibesau hyn â thai ffermydd y plwyf, ac ni feiddiai neb wrthod eu ceisiadau. O’u gwrthod a’u tramgwyddo dialent yn greulon. Wele enghraifft o’u melltithion. Traddodwyd hi ger y Ffynnon Oer ar druan a’u digiodd.’

                                          Crwydro y byddo, am oesoedd lawer:  
                                           Ac ym mhob cam, camfa;  
                                           Ym mhob camfa, codwm;  
                                          Ym mhob codwm, torri asgwrn;  
                                          Nid yr asgwrn mwyaf na’r lleiaf,  
                                          Ond asgwrn chwil corn ei wddw bob tro.  

(Tybed a oes rhywun yn gwybod lle mae union leoliad Ffynnon Oer, Llanddona?

FFYNHONNAU TREFRIW ( Allan o Rhys Lewis gan Daniel Owen.)

‘Yr oeddwn yn gwanychu. Euthum i Drefriw a derbyniais lawer o les yno, a chyn ymadael mwynhawn ychydig ar y difyrwch diniwed wrth y ffynhonnau, a thybiais fy mod ar droi i wella, ac nis gallaf fynegu fy llawenydd, a’r dedwyddwch dwys a dwfn a deimlwn yn fy mynwes. Pan ddeuthum yn ol adref yr oedd y cyfeillion yn synu at y cyfnewidiad ynof ac yr oeddynt yn llawen.’

FFYNNON CEGIN ARTHUR

 Dyfyniad o Y BRYTHON Gorffennaf 30ain, 1858.  (Cadwyd at y sillafu gwreiddiol)

Newyddion Cymreig  - GWYNEDD

 LLANDDEINIOLEN – FFYNON CEGIN ARTHUR – gan deiniol bach

Yr ydoedd hyd yn nod enw y ffynnon hon dan gudd hyd yn ddiweddar, ond yn awr wele y “byd wedi myned ar ei hol” a holl Gymry a lluaws o Loegr yn cyrchu at ei dyfroedd a’i rhinweddau yn fwy amlwg, a’r cleifion yn cael eu hadferu wrth y degau. Ei dwfr harianaidd a maethol; yn cryfhau oddi mewn, ac yn ireiddio oddi allan; a lles yn deilliaw, pa un bynag a’i dychymyg, a’i gwirioneddol a fyddo’r dolur.

Y mae yn y dwfr hwn rinwedd mwnol cryfhaol, nid oes dal. Y mae amryw brofiadau fferyllaidd wedi ei wneud arno . Hyd yn nod i ddyn cyffredin heb fod yn fferyllydd, ymddengys gosodiad y ffynnon, lliw a blad y dwfr, y lava neu brasder ar ei wyneb, ei fod yn rhywbeth. Wrth ei yfed ceir blas cryf glynedig ar y genau, a theimlad syfrdanllyd yn y pen. Y mae rhai yn gysglyd ac ymrous ar ol ei yfed, ereill yn teimlo cynnesrwydd a bywioccad. Mae yn ymddangos mai ar ddioddefwyr o dan y gewynwst, ac mewn gwaeledd, a gwendid ar ol clefydau yr efeithia’r dwfr iachusaf, eithr y mae rhai o bob anhwylderau yn derbyn lles. Wrth ddyfod i fyny o’r gors lle mae’r ffynnon, wedi drachtio o’r dyfroedd, ac i hwn gyffwrdd ag un o dannau yr awen, dywedais,

                                                      Mae Ffynnon Cegin Arthur

                                                      Yn gosod i mi gysur,  
                                                      A’i dyfroedd pur dan bob rhyw boen  
                                                      Yn gwella poen a dolur;  
                                                      Ei dyfroedd tra iachusol  
                                                      A ennill glod yn hollol,  
                                                      Drwy iachau pob llesg a gwael  
                                                      Hwy haeddant gael eu canmol.  
                                                      Bydd Buxton, Chelt’nam hefyd  
                                                      A’r Bath a’i dyfroedd hyfryd,  
                                                       A Malvern Wells yn ddim i hon  
                                                      Er adfer llon ar iechyd.  
                                                       Am hon mae son yn rhyfedd  
                                                      Dros Gymru yn gyfannedd,  
                                                      Dos yno, yf ei dwr yn rhad  
                                                      Os gelli, gwad ei rhinwedd.  

  (Diolch i  Geraint Jones, Trefor am sylwi ar y wybodaeth uchod a’i anfon at y Golygydd)  

FFYNHONNAU  LLANFAIR-PWLL , YNYS MÔN.

LLYFFANT  YN  Y  FFYNNON

‘Roeddem yn deulu o bedwar o blant ar ddiwrnod mawr y symud o Harlech i Lanfair-pwll  yn croesi Pont Menai ar hwyrddydd oer o Ionawr, 1932 i dŷ deulawr ac iddo ardd gefn ac ynddi goed afalau, a chors chwe cyfer led ffordd o flaen y tŷ. Roedd dwy ffynnon ‘dŵr glân’ yn y gors , a safent ychydig is na’r llwybr. Roedd iddynt dair llechen fawr yn ffurfio muriau, ac un arall drwchus yn do, a llidiart bach i rwystro anifeiliaid rhag yfed ohonynt. Yn y gors fach ar bwys y capel roedd ffynnon arall debyg, a hon oedd y fwyaf cyfleus i ni. Ond os na fyddai llyffant neu ddau ynddi, rhaid oedd cyrchu’r dŵr yfed yn foreuol o un o’r ffynhonnau eraill. Dyna’r rheol – rhaid bod llyffant yn y ffynnon cyn y caem dynnu dŵr yfed oddi wrthi, a’i dywallt wedyn i’r potyn coch priodol yn y pantri.’

Allan o Traeth o Feini Llyfnion gan Cadwaladr J. Lewis

(Cofiaf weld llyffant yn y ffynnon lle caem ninnau ein dŵr yfed yn ardal Llanddarog, Sir Gaerfyrddin yn y pedwardegau. Nid oedd arnaf awydd yfed y dŵr wedi gweld y creadur ynddo ond dywedodd Nhad wrthyf mai arwydd fod y dŵr yn bur oedd fod y llyffant yn hapus i nofio ynddo. Tybed a oes gan eraill atgofion tebyg. Os oes, anfonwch air atom. Gol.)  

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

PYTIAU DIFYR...PYTIAU DIFYR...PYTIAU DIFYR  

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 25 Nadolig 2008

Dyma ddyfyniad hynod ddiddorol o gyfrol  hunangofiannol Dr. Aled Lloyd Davies:

Pwyso ar y Giât (gwasg y Bwthyn, Caernarfon 2008) tudalen 19:  

Pan fyddem yn ymweld â Phenbryn, Bethel, byddai Mam a f’ewythr Dafydd yn hel atgofion am y dyddiau gynt, pan oedd yr aelwyd yn llawn prysurdeb a bwrlwm, gyda saith o blant parablus yn byw yno.... Yn ystod un ymweliad, cofiaf fy mam a minnau’n mynd ar draws y caeau hyd at ffynnon bach y Cwm. Oddi yno y byddent yn mofyn eu dŵr yfed, ac fe honnai fy mam mai dyna’r dŵr gorau yn y byd. Erbyn heddiw, mae elfen o dristwch yn dod i mi wrth sôn am y ffynnon, oherwydd yn ystod gwaeledd olaf fy mam ym 1958, fe ofynnodd am gael llymed o ddŵr o ffynnon fach y Cwm, a bûm innau yno’n mofyn llond fflasg thermos ohono. ‘Bendigedig’ oedd ei hymateb wrth iddi ei yfed.

eageageageageageageageageageagaeagea

Dyma gyfieithiad o’r hyn welwyd yn y Flintshire Standard ar Ddydd Iau Ebrill 10fed, 2008:

DŴR O FANGRE CYSEGREDIG NODEDIG AR WERTH AR eBAY

Mae dŵr sanctaidd o un o fannau enwocaf a mwyaf cysegredig Sir Y Fflint ar werth ar eBay. Am ganrifoedd bu pererinion yn teithio i Ffynnon Santes Gwenfrewi yn Nhreffynnon i ymweld â chreirfa’r santes y dywedir iddi gael ei dienyddio yn y seithfed ganrif. Yn ôl yr hanes gwrthododd gael cyfathrach rywiol gyda Charadog, pendefig lleol, ac yn ei ddig torrodd ei phen i ffwrdd gyda’i gleddyf. Ond lle syrthiodd y pen tarddodd ffynnon gref o’r ddaear. Cafodd Gwenfrewi ei hadfer i lawn iechyd gan ei hewythr Beuno Sant a daeth y ffynnon yn enwog ac yn fagned i Gristnogion o bedwar ban byd. Dywedir mai’r fangre hon yw Lourdes Cymru oherwydd grym iachusol a bwrlwm y dyfroedd. Nawr mae technoleg fodern yn chwarae rhan yn yr hanes a pherson o’r Alban yn ceisio gwerthu potelaid o’r dŵr ar safle ocsiwn ar y we. Mae llawer o ymwelwyr yn defnyddio poteli i gario dŵr o’r ffynnon adre efo nhw. Mae’r dŵr ar  y we ar werth i’r un sy’n cynnig y pris uchaf.  Yr isafswm y gellid ei gynnig oedd 50 ceiniog a £3 am y cludiant neu gellid prynu’r botel ar unwaith am £4.99. Nid oes sicrwydd a gafodd y dŵr ei werthu ai peidio.

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff

PYTIAU DIFYR

Ofergoelion yr Hen Gymry gan y Parch. T. Frimston (Tudur Clwyd) Bae Colwyn, 1905.

(Detholiad o’r hyn sy’n ymddangos o dudalen 48 hyd dudalen 67.Cadwyd y sillafu gwreiddiol)

FFYNNON-DDEWINIATH

‘Dyma wedd ar ofergoeledd yr hen Gymry a fu mewn bri mawr am ganrifoedd... Dyddia y Ffynhonnau Sanctaidd i hynafiaeth dirfawr, ac ymhell cyn y cyfnod Cristionogol. Roedd rhai o honynt yn iachaol, y lleill yn broffwydol ond yr oll yn ddewinol. Gwaith llawer i Ffynnon Fair oedd gwella llygaid. Dyna hefyd briodolid i Ffynnon Goblyn. Hanfod hanes honno yw, fod rhyw Sant rhyw dro  wedi cael mendio ei lygaid ynddi; a phwy bynnag a fynnai gael ei rhinwedd, byddai raid iddo fyned yn y boreu cyn i’r haul godi i olchi ei lygaid yn nwfr y ffynnon.

Dweud ansawdd calon cariadau y merched oedd gwaith Ffynnon Cybi.( SH 42744126) Pan y byddai merched yn yr hen amser mewn pryder mawr yn nghylch cywirdeb eu cariadau, ac eisiau gwybod amdanynt pa un a wnaent ai priodi ai peidio, dywedai Ffynnon Cybi wrthynt yn lled fuan. Byddai raid i’r ferch fyned at y ffynnon, a thaenu ei chadach poced yn berffaith gywir dros wyneb y ffynnon; ac i ba gongl bynnag o’r ffynnon y gweithiai tarddiad y ffynnon y cadach, yn ôl hynny y byddai'r dynged i fod. Os i gongl y De y gweithiau y cadach, byddai pob peth yn dda; ond os i gongl y Gogledd y gweithiau hi, yn y gwrthwyneb y byddai pethau i fod. Beth bynnag a ddywedai y ffynnon ai y ferch adref ac ymddygai at ei chariad yn ôl y dystiolaeth a dderbyniasai. Peth naturiol, ar ôl i’r ferch dderbyn rhywbeth fel hyn i’w mynwes, oedd iddo ddyfod allan trwy ei hwyneb a’i thafod ac felly ddylanwadu ar feddwl y llanc.

Gwella defaid oddi ar ddwylaw oedd gwaith Ffynnon Asa.(SJ 065775) Rhinwedd Ffynnon Beuno ( SH 41324945)oedd gweinyddu bendith ar y gwartheg. Rhinwedd rhyfeddol Ffynnon Llan San Siôr ger Abergele(SH977757) am wella ceffylau, ac am y lliaws anifeiliaid ac afiach yno am wellhad. Gwellid rhai drwy yfed y dŵr, y lleill drwy eu golchi ag ef; bryd arall, taenellid dwfr yn unig arnynt, gan weddïo y mendith “Rhad Duw a Sant Siôr arnat”.

Yr oedd, ac y mae eto yn Nheirtref Meifod, Maldwyn, ffynnon a lecha oddeutu milltir i ogledd Dolobran Hall a elwir yn Ffynnon Darogan.(SJ 119135 Un arall y sydd yn Clawdd Llesg ar derfyn Meifod a Guilsfield, yn nhref Trefedryd. I fyny hyd at ddiwedd y ganrif ddiwethaf, cyrchai tyrfaoedd i Ffynnon y Clawdd Llesg (SJ 159114) yn enwedig ar Sul Y Drindod, i yfed twr a siwgwr.

Prif ffynnon Cymru ag y mae mwyaf o swm ei hanes dewinol wedi dyfod i lawr i’n dyddiau ni ydyw Ffynnon Elian ger Croes-yn-eirias, Colwyn. Sir Ddinbych (SH 866774). Safai gynt yn nydd ei hynodrwydd yng nghwr cae o fewn ychydig lathenni i’r ffordd sydd yn arwain o Groes-yr-eirias i Lanelian. Ar lechwedd yr oedd a’i gofer a redai i’r De; a honnid hyd ddiwedd y ganrif ddiwethaf fod modd swyno gyda phob ffynnon y byddai “ei gofer yn arwain i’r De;” ac aneirif y cymwynasau er drwg a da a briodolid i’r ffynhonnau hynny. Y mae Ffynnon Elian wedi bod yn ddychryn i gannoedd na buasai dim arall bron yn cynhyrfu eu teimladau; ac  y mae yn anhawdd i ni, pobl yr oes hon, gredu y dylanwad oedd ganddi ar bobl o bob oed, gradd a sefyllfa. Y mae yn ymddangos fod rhywun arbennig yn sefyll yn Offeiriad i’r ffynnon ym mhob oes, trwy y rhai yn unig yr oedd modd cael gan y ffynnon weithredu. Rhoddir yr hanesion a ganlyn gan yr hwn a weinyddai y swydd o Offeiriad y Ffynnon:

“Daeth gwraig i siopwr o Abergele ataf yn y dybiaeth bod ei henw yn y ffynnon . Perswadiais hi nad oedd y fath beth yn bod a chefais ganddi fyned adref. Ymhen wythnos gwelwn hi yn dyfod wedyn ac erbyn hyn gwelwn na wnâi y tro ond y ffynnon. Gosodais ei henw yng nghwr fy llawes ac es gyda hi at y ffynnon. Rhoddais fy llaw dan y dorlan ac wedi slipio yr enw i fy llaw, codais ef i fyny yn ei gwydd. Credodd hithau a gwellaodd yn ebrwydd. Cafodd hi heddwch gan y selni a chefais innau heddwch ganddi hi.

Daeth amaethwr parchus ataf yn achos ei wraig yr hwn a ddywedai ei bod yn glaf, yn orweddiog ac heb fwyta un tamaid o fara ers wythnosau a chredai ei bod wedi cael ei rhoi yn y ffynnon. Holais ef mor fanwl ag y gallwn a deallais mai yn ei meddwl yr oedd yr afiechyd yn cartrefu yn bennaf a dywedais wrtho nas gallwn wneyd dim o honni heb iddi ddyfod yma am ychydig amser.  Felly y bu: anfonwyd hi yma yn ddi-oed a rhoddwyd hi yn y gwely yn fy nhŷ. Yna gwneuthum i fy hen wraig olchi ei phen a rhannau uchaf o’i chorff, â dwfr o’r ffynnon. Yn fuan ar ôl hyn, dywedai ei bod yn llawer gwell, a’i bod yn teimlo ei hun yn adfywio yn anghyffredin. Drannoeth cefais ganddi godi, a dyfod i olwg y ffynnon, a chymmeryd ychydig luniaeth. Y trydydd dydd, cerddodd gyda mi i lan y môr, oddeutu tair milltir o ffordd, yn ôl ac ym mlaen, a bwytaodd y hearty. Ym mhen naw diwrnod, anfonodd at ei gŵr am iddo ddyfod i’w nôl, onide y deuai gartref ar ei thread bob cam! Nid rhyfedd i feddygon pennaf ein gwlad, yn ngwyneb llawer math o afiechyd, wneud eu gore i godi meddwl y claf; oblegyd gwyddant fod hyn yn un o brif foddion i gryfhau y cyfansoddiad.”

Ymddengys i’r rhysedd yma gyda y Ffynnon hon, gyda rhywun arall, gynyddu i’r fath raddau, nes peri i’r awdurdodau gwladol ymyrryd. Ym Mrawdlys Fflint, 1818, cyhuddid twyllweithredwr o hawlio arian trwy dwyll. Yr oedd wedi llwyddo i gael pymtheg swllt oddiar ffermwr, trwy beri iddo gredu fod ei enw wedi “cael ei roi yn y ffynnon,” yr hyn a ystyrid yn fath o uffern o fewn y plwyf, ac nas gallai mewn un modd, tra byddai ei enw ynddo lwyddo. Ymgymerodd yr honwr â “thynnu enw y dyn allan o’r pydew diwaelod” am bymtheg swllt, yn nghyda gweddïau, ac erfyniadau, a Salmau i’r perwyl. Dedfrydwyd ef i flwyddyn o garchariad.’

  ffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcffc  

Y GWAITH DWFR

Allan o Nodion O Gaergybi gan R.T. Williams (Trebor Môn) , Caergybi, a gyhoeddwyd yn 1877.

(Detholiad o dudalen 95 a 96. Cadwyd y sillafu gwreiddiol)

‘Diwallir trigolion Caergybi â digonedd o’r “elfen denau ysplenydd” â phibellau haiarn tanddaearol,  yn a cherllaw eu handedd-dai o “ffynon y Wrach,” ger amaethdy’r Twr, ac o’r Gronfa Newydd helaeth a gwerthfawr a geir cydrhwng y Twr a Phen-y-bonc, am y swm isel o ddwy geiniog yn wythnosol. “Ffynon Cybi” (sugnedydd yn awr) yn Nghybi Place, a fu’n” ystên Duw i estyn dŵr” i bobl Cybi am lawer oes, ac yn hynod ar gyfrif ei theithi cyfareddol fel ereill o hen fynonau Cymru. Prysurai dyn ati i ddial ar ei gyd-ddyn, a chredai’r bobl pan roddid dernyn o bapyr ag enw y sawl a ddymunid ei felldithio arno o dan un o’i cheulennydd, y cai ei felldigeiddio yn y fan! Hyhi hefyd a wasanaethai gleifion cariad, a hi oedd Falentine ieuengctyd y gymdogaeth!!’

Dyma sydd gan Gwilym T. Roberts a Tomos Jones i’w ddweud am Ffynnon Gybi, Caergybi (SH2 47829) yn eu cyfrol  Enwau Lleoedd Môn (1996). Tudalen 72.  Lleoliad: rhyw chwarter milltir i’r gogledd o Eglwys Cybi Sant, Caergybi.  

‘Dengys map (1873) lecyn yn dwyn yr enw Cae Ffynnon Cybi wedi ei leoli y tu cefn i Swyddfa Bost y dref heddiw. Defnyddid ei dŵr yn yr hen ddyddiau gan gleifion yn dioddef o afiechydon megis ‘scrofula’ a chryd cymalau. Cartrefai llysywen ddwyfol yn nyfroedd y ffynnon a chanddi’r gallu yn ôl traddodiad i eiriol tros y claf gyda Sant Cybi ei hun. Myn traddodiad hefyd fod grym iachusol y dŵr yn gallu sicrhau gwellhad mor gyflym a disymwth i’r anabl fel y gwelid, ar adegau, gasgliad helaeth o eitemau megis berfâu a baglau wedi eu bwrw ymaith gerllaw y ffynnon. Yn ogystal, câi’r ffynnon ei hystyried yn un addas ar gyfer dial a melltith a hefyd  yn un a allai gynnig swcr a chymorth i gleifion cariad. Ymddengys ei bod hefyd yn ffynnon gref a dibynadwy, gyda chyflenwad helaeth a sicr o ddŵr croyw ynddi ar bob achlysur, bu’n gwasanaethu trigolion yr ardal am rai canrifoedd. Datblygodd rhwydwaith o strydoedd yng nghyffiniau’r ffynnon yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Safai’r ffynnon ei hun ar gyffordd Stryd Cybi. Dynodwyd un stryd a arweiniai ati yn Stryd-y-Ffynnon (Well Street) ac ym 1908 gosodwyd pwmp trosti (‘Ystên Duw i estyn dŵr’ yn ôl un o drigolion y dref), a rhoddwyd yr enw ‘Pump Street’ ar un o’r ffyrdd eraill a arweinia at y ffynnon.’  

DYDDIAU’R  FFYNHONNAU

Allan o Cysgodau’r Palmwydd gan Y Canon W. Dewi Thomas - tudalen 10-11a 69. Cyhoeddwyd yn1988.

‘Ganed fi ar Brynhawn Ffair Crymych, sef Mai 30ain, 1917. Arferwn ddweud wrth fy mam mai dyna’r ffeiryn gorau a gafodd hi erioed. Digon cyntefig oedd bywyd ar lawer cyfrif yn ardal Llanfrynach (SN 2231) pan oeddwn yn blentyn. Rwy’n siŵr fy mod wedi hen gyrraedd fy arddegau pan dywyswyd y dŵr o ffynnon Cwm-glas drwy bibellau i bentref Llanfrynach , ac y gosodwyd gwrthrych mawr o haearn -bwrw, â chnapan mawr o’i droi i ollwng dŵr yn rhan o’i gyfansoddiad. Dal i gario’r dŵr oddi yno i’w ddefnyddio at bob diben mewn stenau a wnâi’r trigolion ar y cyntaf. O dipyn i beth, arweiniwyd y dŵr i’r cartrefi, er mai eithriadau am hir amser oedd y tai a allai ymffrostio mewn dŵr-twym pibellog a hynny mewn ystafell ymolchi... Cyn i’r dŵr o Gwm-glas gyrraedd y pentref, byddai pentrefwyr Llanfyrnach yn ei gario o ffynnon fach a darddai yn y graig ar lan afonig Llinos, yn ymyl Mispa. Byddai’n sychu weithiau, ac yna rhaid cario dŵr o Bistyll Brynach ar y llethr islaw Eglwys y Plwyf.

Y mae Eglwys Caeo yn eglwys fawr. Ei hynodrwydd pennaf yw ei chawg-dŵr-sanctaidd, a saif ryw dair troedfedd a hanner o’r llawr yn ei chyntedd. Honnid ei fod bob amser yn llawn o ddŵr ond nad oedd byth yn gorlifo, er na wyddid beth oedd cyfrinach ei gyflenwad. Er gwaetha’r honiad  a minnau wedi fy ngwahodd i bregethu yn yr Ŵyl Ddiolchgarwch am y Cynhaeaf yn Llansewyl ym 1993, wedi galw heibio i adnewyddu’r hen gysylltiad â Chaeo, cefais y cawg yn sych. Canlyniad sychder eithafol y flwyddyn honno oedd yr anghaffael hwnnw, ac o holi’r ficer- Y Parchedig Cyril Jones, yn ddiweddarach, dywedodd fod y dŵr wedi dychwelyd.’

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 26 Haf 2009

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

PYTIAU DIFYR

Yn y gyfrol The County Coast Series – The South Wales Coast, gan Ernest Rhys a gyhoeddwyd yn 1911, ceir cyfeiriadau am nifer o ffynhonnau ardaloedd yr arfordir yn siroedd Mynyw, Morgannwg, Caerfyrddin a Phenfro. Mae ei sylwadau yn rhoi darlun i ni o gyflwr y ffynhonnau hyn ganrif yn ôl.

Ar dudalen 41 mae’n disgrifio’r dirwedd goediog lle y dywed fod Dafydd ap Gwilym wedi crwydro wrth aros yng nghartref Ifor Hael, Gwern -y-Cleppa ger Maesaleg neu Bassaleg fel ei gelwir heddiw. Wedi mynd heibio’r orsaf croesodd y bont dros yr afon Ebwy a cherdded ar hyd llwybr oedd yn arwain at fferm Ffynnon Oer. (ST 2785) Tybed a yfodd Dafydd o ddŵr y ffynnon ar ei daith i ymweld â llys Ifor Hael?

Cyfeiria at ddwy ffynnon lle y gadawyd carpiau ar goed gerllaw, un ger Pen-y-bont ar Ogwr (SS 9079) a’r llall ger Marcroes (SS 9268) yn agos i Nash Point. Roedd hon yn enwog am wella llygaid poenus a chryfhau’r golwg. Dywed yr awdur fod pererinion at y ffynnon yn arfer sefyll yn y dŵr gan olchi eu llygaid neu ran arall clwyfedig o’r corff gyda cherpyn wedi ei wlychu yn nŵr y ffynnon. Wedyn crogwyd y cerpyn ar ddraenen gerllaw a theflid darn o arian neu bin i’r dŵr fel offrwm i ysbryd y ffynnon. Roedd yr anhwylder wedi ei drosglwyddo i’r cerpyn ac wrth i hwnnw bydru byddai’r gwendid yn lleihau cyn diflannu’n gyfan gwbl. Roedd nifer fawr o garpiau ger y ffynnon yn 1911 a hyn yn tystio i gred yr ardalwyr yn effeithiolrwydd y dŵr.

Yn y Drenewydd yn Notais (Newton Nottage) mae Ffynnon Sant Ioan (SS 8377) lle mae’r dŵr yn felys. Mae traddodiad fod lefel y dŵr yn codi ac yn gostwng gyda’r llanw. Gerllaw iddi, i gyfeiriad y de-orllewin mae olion cylch cerrig hynafol. Tua 1820 roedd yn arferiad i fynd i’r cylch ar Alban Hefin- Mehefin 21- a chynnau coelcerth yn y cylch, taflu cosyn bychan o gaws dros y tân ac yna neidio dros y llwch wedi i’r tân ddiffodd.

Ar Benrhyn Gwyr, ar Gefn y Bryn mae ffynnon sanctaidd gerllaw cromlech o’r enw Coetan Arthur (SS 4990) hynny galwyd y garreg yn Faen Ceti ar ôl Ceti Sant. Mae’n bosib felly fod y ffynnon hefyd wedi ei chysegru iddo.

Wrth ymweld â Llanelli (SN 50000) noda bod enwogrwydd Elli Sant wedi cynyddu’n fawr ar ôl ei farwolaeth a bod Ffynhonnau Elli yn fwy enwog yn eu dydd na rhai Llandrindod a Llanfair-ym-muallt. Dwedodd un gŵr lleol wrth Richard Fenton, y teithiwr o’r ddeunawfed ganrif, iddo weld saith plwy yn cyfarfod yn Llanelli ar gyfer gŵyl Fabsant Elli ar Ionawr 17eg.

Yn Llansteffan, ar lan aber yr afon Tywi mae Ffynnon Antwn (SN 3410) . Gellir mynd ati, meddai, wrth ddilyn llwybr sy’n mynd islaw’r castell ond uwchlaw’r traeth. Synna fod y ffynnon wedi ei chadw mewn cyflwr da gyda’r gwaith cerrig yn gywrain a’r agen yn y mur lle y gosodid delw o’r sant yno o hyd. Roedd cred bendant yn effeithiolrwydd y dŵr i wella nifer o anhwylderau, ond yn enwedig rhai oedd yn effeithio’r golwg. Roedd dŵr y ffynnon yn cael ei ddefnyddio gan y bobl leol ddechrau’r ugeinfed ganrif ac roedd rhaid taflu pin i’r ffynnon ar ôl ymweld â hi. Meddai’r awdur. “Nid yw pin yn ddim i ni, ond yn y gorffennol roedd yn eiddo gwerthfawr i wragedd tlawd. Hawdd yw dychmygu’r pererinion yn penlinio mewn gweddi ger y ffynnon gan ddeisyf am wellhad.”

Yn sir Benfro mae’n nodi’r ffynnon yn Bosherton a Ffynnon Gofan.(SM 9692) Mae’r ffynnon mewn capel bychan hanner ffordd i fyny’r clogwyn ger y môr. Dim ond rhywun ar ben ei dennyn ac yn barod i wneud unrhyw beth i wella o’i anhwylder a fyddai’n barod i fentro’r llwybr i’r ffynnon gerllaw’r capel a phenlinio yno mewn gweddi i’r sant, meddai.

Yn Nhyddewi mae’n ymweld â Ffynnon Non (SM 7525) Mae tua hanner canllath i’r chwith o’r llwybr cyn cyrraedd Capel Non. Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif roedd mur o gwmpas y ffynnon a rhaid oedd i’r awdur ddringo drosto i gael mynediad i’r ffynnon. Yfodd o’r dŵr gan ddweud ei fod yn felys a chlir a theimlodd wedi ei adnewyddu ar ôl ei yfed. Roedd y ffynnon yn dal mewn bri a phinnau yn cael eu taflu iddi er mwyn sicrhau dymuniad- ffynnon gofuned. Bydd arian a adewir mewn agen ar yr ochr chwith yn adeiladwaith y ffynnon yn siŵr o ddiflannu!

Yng Ngheredigion mae’n nodi Ffynnon Ddewi (SN 3852) rhwng y bedwaredd ar ddeg a’r bymthegfed garreg filltir ar ochr y ffordd rhwng Aberteifi ac Aberaeron. Dywedir bod Dewi ar ei ffordd o Dŷ Ddewi i Henfynyw ger Aberaeron. Arhosodd i fwyta ei grystyn sych a daeth daeth syched arno. Wrth iddo fendithio’r bara cododd tarddiad i ddŵr pur o’r ddaear wrth ei draed er mwyn ei ddisychedu.

Wedi cyrraedd Aberaeron (SN 4562) (ymwelodd â’r ffynnon iachusol yno. Dywed fod hon yn un o’r ffynhonnau haearn (chalybeate) g orau yn y Deyrnas Unedig. Mae’r ffynhonnau hyn yn arferol yn cynnwys swllfed o galsiwm a magnesiwm ac nid yw’r rhain yn hwyluso mynediad yr haearn i’r corff. Mae dŵr ffynnon Aberaeron ar y llaw arall, yn cynnwys ‘carbonate of the proxide of iron’wedi ei doddi mewn dŵr eithriadol o bur. Fel canlyniad mae blas y dŵr yn fwy melys ac effaith yr haearn ar y corff yn fwy llesol ac yn gweithio yng nghynt na dŵr y ffynhonnau haearn arferol.

BEDD GELERT- ITS FACTS, FAIRIES & FOLK-LORE gan D.E. Jenkins 1899

Mae’r awdur yn sôn am Ffynnon y Priordy (SH 5948) ym Meddgelert ar dudalen105.Cysegrwyd y priordy i’r Santes Fair a nepell o’r pentref roedd ffynnon wedi ei neilltuo i ddefnydd y mynachod, a thrwy ei dŵr byddent yn gwneud gwyrthiau o iachau.

Wrth ddisgrifio Cwm Diffwys ar dudalen 133 mae’n disgrifio Ffynnon Owain Glyndŵr:

Nepell o’r fan lle mae dŵr yn tarddu o’r ddaear mae pwll bychan a elwir yn Ffynnon Owain Glyndŵr. Dywedir mai dyma’r fan lle cafodd Owain ddŵr i’w yfed yn ddyddiol yn ystod y chwe mis y bu’n cuddio yn yr ardal hon.

Ar dudalen 225 ceir hanes am drysor mewn ffynnon ar Ddinas Emrys.

Roedd gweision Hafod y Porth yn cywain gwair ar Ddinas Emrys un prynhawn heulog braf. Aeth un ohonynt at y ffynnon a gwthio coes ei gribyn i mewn i’w gwaelod. Wrth daro’r graig gallai glywed sŵn fel darnau o arian yn tincian. Ceisiodd gael gafael ar yr arian a dechreuodd godi cerrig o’r ffynnon. Yr eiliad honno daeth corwynt i lawr o’r tir uchel a chenlli o law i’w ddilyn. Rhedodd pawb i lawr ochr ogleddol y mynydd ond erbyn iddynt gyrraedd Maes yr Efail roedd yn haul braf ac nid oedd diferyn o law i’w weld ar y ddaear. Cymaint oedd dychryn y gweithwyr fel y gwrthododd pawb fynd yn ôl i’r cae gwair a bu rhaid i’r ffermwr droi ei anifeiliaid iddo er mwyn bwyta’r gwair.

YNG NGWLAD EBEN FARDD allan o CYMRU Cyfrol IV Ebrill 15fed 1833 tud. 215

Cychwynasom o bentref Llangybi (SH 4241) drwy’r fynwent at droed y Garn. Yno ar fin y coed sydd ar y llethr, y mae Ffynnon Gybi. Ffynnon loyw’n codi o’r ddaear ydyw, a mur crwn o’i hamgylch, a sedd garreg o gylch y ffynnon y tu mewn i’r mur. Yn ymyl y mae tŷ, - a’i do erbyn hyn wedi syrthio iddo – lle y preswyliai ceidwad y ffynnon. Y mae’r lle’n unig ac adfeiliedig, ac ni welir un pererin pryderus yn cyrchu ato mwyach i holi am iechyd neu swyn.

COFIANT Y PARCH. DANIEL ROWLAND gan Y Parch D. Worthington(1905) tud.51(Cadwyd y sillafu gwreiddiol) (SN 6259)

Byddai yn fynych yng nghynulliadau a chymmundebau Llangeitho bobl o wahanol barthau o Gymru ar yr un pryd. Adroddir am y cannoedd pererinion hyn, y byddent yn cyfarfod wrth Ffynnongeitho, rhyw filltir o Langeitho: hon oedd yr orsaf olaf cyn iddynt gyrhaedd pen y daith. Gelwid y ffynnon gynt yn Ffynnon y Pererinion, Ffynnon y Cymmundeb, a Ffynnon y Saint. Ac wrth y ffynnon hon y byddent yn gorphwys ennyd tra yn cymeryd ychydig luniaeth, ac yn talu diolch am dano i Dad y trugareddau. Ac wrth gychwyn i fyny i olwg Dyffryn Aeron, byddent yn canu emynau... a byddai eu sŵn nefolaidd yn disgyn ar glust Rowland pan yn rhodio yn araf ar lan afon Aeron oedd yn ymdroellu tua’r môr o flaen y rheithordy.“Wel dyma nhw yn d’od â’r nefoedd gyda hwy,” meddai.

RHAG OFN YSBRYDION gan Y Parchedig J. Towyn Jones (2008) Tu.87

Ers ymhell yn ôl yn niwloedd amser, gwelwyd llaw lysnafeddog yn codi o Ffynnon Ddewi (SN 4461) ger Eglwys Henfynyw a llais gwrywaidd yn ceisio am help. Byddai’r sawl a geisiai ymateb trwy gydio yn y llaw, yn cael ei bod hi’n llithro’n ôl i ddŵr y ffynnon o’i afael bob tro gyda llais yn datgan, yn ôl un fersiwn Gymraeg, ei fod wedi ei ddal yno am fil i flynyddoedd, ac yn ôl fersiwn arall yn Saesneg, hanner can mlynedd .

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 27 Nadolig 2009

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

PYTIAU DIFYR

Meddai Syr Ifor - gan Syr Ifor Williams, Tregarth. Llyfrfa’r M.C. Caernarfon 1968

“Pa ryfedd i’r Methodistiaid Calfinaidd mor gynnar â 1801 gyhoeddi yn eu Rheolau Disgyblaeth nad oedd yr un o’u deiliaid ‘er dim i arfer swynion na swyn-gyfaredd mewn un achos perthynol, i ddyn nac anifail; na myned ar ôl dewiniaid; nac ymofyn â brudwyr, nac offrymu i ffynhonnau; na dilyn un arferiad llygredig o’r fath; y rhai nid ydynt wello nag ymgynghori â Chythreuliaid’. Mewn nodyn ‘chwanegir, ‘Swyno (neu fel y dywaid rhai cyfrif) y ddafad wyllt, neu ryw afiechyd arall, beth ydyw ond ymofyn am y Diafol yn feddyg; Offrymu i Ffynnon Elian (neu ryw ffynnon arall) ar ein lles ein hunain neu ein hanifeiliaid, neu i geisio ymddîal ar ryw-un, beth ydyw ond offrymu i Ddiafol a galw am ei gymorth Dieflig ef? Y mae’r arferion hyn yn gyffredin iawn mewn rhai parthau o’n gwlad, er mawr waradwydd i’w thrigolion tywyll, anwybodus, ac annuwiol.’ ”

(Diolch i Howard Huws am dynnu ein sylw at yr uchod.)

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 28 Haf 2010

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

PYTIAU DIFYR

 Dyma’r hyn sy gan y Parchedig J. Daniel i’w ddweud am ddwy ffynnon, Ffynnon Arian (SH 304309) a Ffynnon Fyw (SH 23309308) Mynytho, ar dudalennau 117 ac 118 yn ei gyfrol Hynafiaethau Llyn ( Nixon a Jarvis, Bangor, 1892). Cadwyd y sillafu gwreiddiol.

Ffynhon Arian

Gwelir y Ffynhon hon islaw y ffordd, gerllaw Foel Gron. Ond cyn rhoddi desgrifiad o honi, efallai mai doeth fyddai i ni ddywedyd ychydig eiriau yng nghylch yr elfen a gynnwysa. Dywed Proffesor Rhys am “Deva” mai yr hên ffurf Gymreig yw “doiu,” neu “duiu” = “dwyw”= “dwywol”= “dwyfol”, oherwydd fod “dwfr” yn cael ei ystyried yn un o’r elfenau cyssegredig yn yr hên amseroedd. Yn unol â’r gred hon, rhai a farnant oddiwrth yr enw “arian” sydd yng nglyn â gwrthddrych ein pennawd, fod swynyddiaeth wedi cael ei harfer yma yn yr oesoedd ofergoelus a aethant heibio, ac y byddid yn taflu pinau, a darnau o arian i’r dwfr, gan feddwl y buasai hyny yn sicrhâu ei amcanion i’r sawl a fyddai yn ymwneyd â’r ddefod. Beth bynag am hyn, y mae y Ffynhon o wneuthuriad digon destlus, ac yn arddangos mwy o arwyddion gwasanaeth teuluaidd na dim arall yn y dyddiau diweddaf hyn. Adeiladwyd ei phedair ochr â phedair carreg, a gosodwyd carreg arall yn nenfwd iddi, er mwyn cadw ei dwfr yn lân.

Mor aml y gwelwyd plantos

Hen Ysgol dda Foel Gron

Yn rhedeg am y cyntaf

I yfed dyfroedd hon!

Ond llawer un fu’n chwareu

O’i deutu’n llon ei wêdd,

Sydd erbyn heddyw’n gorwedd,

Yn dawel yn ei fêdd.

fccfccfcc

Fynhon Fyw

I lawr ar fron y llechwedd, rhwng Ffynhon Arian ag Aberoch, ond ei bod ychydig yn fwy i’r aswy, ar dir Assheton Smith, y mae y ffynhon hon. Amlygir hi gan fur pedwar-onglog (square), tua llathen o drwch, a dwy lath o uchder, fel nas gellir myned i fewn iddi, ond trwy ddôr derw yn yr ystlys. Dosberthir ei baddon yn ddwy ran, gan ganolfur o feini wedi eu gweithio yn ofalus; ac y mae yr adran fwyaf ohono yn mesur pedair llathen o hyd a thair o led, a’r lleiaf tua llathen o led ac ychydig yn rhagor o hyd. Ffurfiwyd grisiau i fyned i lawr i’r dwfr, ac y mae seddau cerryg ar bwys y mur tu fewn yn yr ochr Orllewinol a’r ochr Ddwyreiniol. Fel y dengys trefniadau y Ffynhon, yr oedd rhan o honi i’r claf ymdrochi, a’r rhan arall iddo i yfed ei dwfr. Dywed Traddodiad mai yr achos cyntaf o’i sefydliad ydoedd ymweliad dyn dall, yr hwn, ar ol golchi ei lygaid yn ei dyfroedd oerion, a gafodd ei olwg. Hysbysir ni fod llawer yn ei mynychu yn y blynyddoedd a aethant heibio, ac wedi eu hiachâu. Gan ei bod yn tarddu mewn mangre mor dlawd, a llecyn mor ddiaddurn, a chan ein bod yn gweled yma ffrwyth llafur nid bychan, a chryn lawer o dreuliadau mewn arian yn yr holl gelfyddydwaith, tueddir ni i gredu fod rhyw sail i’r honiadau uchod, beth bynag sydd wir. Pa un ai yn gadarnhaol ynte yn nacäol y derbynir yr hyn a welwn â’n llygaid ac a glywwn â’n clustiau yng nghylch y Ffynhon Fyw, trueni mawr fod neb wedi caniatâu i blant chwarëus y lle i labyddio ei dyfroedd â meini, nes maent bron wedi ei llanw!

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 29 Nadolig 2010

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

PIGION DIFYR

Dyfyniad allan o GYDA’R HWYR gan E. Tegla Davies. (Gwasg y Brython, 1957; tudalen 43-44)

Y mae ffermdy yn unigedd y mynyddoedd ar y ffordd i Bistyll Rhaeadr, a thu hwnt i’r ffermdy, mewn cwm, yn un o lecynnau mwyaf rhamantus mynyddoedd y Berwyn, y mae Ffynnon Sant Dogmael (ar lafar - Ffynnon Cwm Ffynnon). Y mae olion eglwys fach yn ei hymyl hefyd. Yn ei hymyl hi gwelais lygaeron (llygid eirin) yr unig dro imi eu gweld erioed. Tebyg i lus ydynt, ond yn gochion yn lle glas tywyll. Y traddodiad ynglŷn â’r ffynnon ydoedd bod ei dwr yn rhinweddol at wella crydcymalau, ac mor oer ag na ellid dal y troed ynddo ond am ychydig eiliadau hyd yn oed yn anterth haf gwresog. Aeth y fferyllydd, Williams Pandy Coed, Llanrhaeadr, yno a gwres -fesurydd ar ddiwrnod felly. Cymerodd wres y ffynnon, ac aeth ar ei union at y Pistyll, nad ystyrir bod ei ddŵr yn wahanol i ddŵr cyffredin, Cymerodd wres y Pistyll, ac yr oedd dwr y Pistyll raddau’n oerach na dŵr y ffynnon. Eithr ni chredai’r bobl ef, meddai, ond dal i fynd yno. Ni welais unrhyw arwydd fod y goel yn fyw yn fy nyddiau i yno.

Rhannau allan o MERCH MORFYDD gan Hafina Clwyd (Gwasg Gwynedd1987)

Adre oedd Cefnmaenllwyd ac yr oedd ar y ffin rhwng siroedd Dinbych a Meirion wrth giât y mynydd. Wrth feddwl am y caeau oedd ar y fferm byddaf yn cysylltu pob un â rhywbeth gwahanol neu nodweddiadol. Dyna’r Cae Bach lle'r oedd y ffynnon o ddŵr crisial a lle gofalem ei thenentu â llyffant i gadw’r dŵr yn bur bob amser. Yno hefyd y casglem y grifft a’r penbyliaid mewn jariau jam i fynd yn anrheg i’r athrawes. Edrychai Miss Roberts wrth ei bodd yn derby nein anrhegion: mae’n siŵr bod ganddi flys lluchio’r cwbl i ebargofiant a bod ganddi fynwent penbyliaid gyfrinachol rywle y tu ôl i Dŷ’r Ysgol. (Tudalen 45)

Teflais Helen, fy chwaer, i’r ffynnon un tro, nid pherwyd fod arnaf eisiau cael gwared ohoni ond am fod y pram wedi fy meistroli a methais â dal y dindres ar y goriwaered ar y buarth a charlamodd wysg ei drwyn yn bendramwnwgl i’r ffynnon. Daliai hithau i gysgu ar bentwr o ddillad pan redodd Mam yn wyllt tua’r danchwa. (Tudalen 56)

Ym mis Mehefin 1953 daeth tro ar fyd. Prynodd ‘Nhad fferm Rhydonnen ar lawr toreithiog Dyffryn Clwyd, hen fynachdy gerllaw eglwys Llanychan. Y tu allan yn y buarth yr oedd ffynnon ddofn iawn a chlywsom bod un perchennog unwaith wedi colli cryn dipyn o foch a ruthrodd megis rhai Gadarenia gynt i lawr y ffynnon un ar ôl y llall! Un o’r pethau cyntaf a wnaeth ‘Nhad oedd lleinw’r ffynnon â sbwriel rhag ofn trychineb debyg. (Tudalen 108)

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 33 Nadolig 2013

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

PYTIAU DIFYR

Y FFYNHONNAU gan Rhydwen Williams

Gwrandewch:

Mae gorfoledd dyfroedd yn fy nghlustiau heno,

Yr Ynys-wen, Ynysfeiro, yr Ynys-hir,

Yr holl ffordd o Eglwysilan,

a’r ffynnon wylaidd ar Ben Rhys

mor hardd â gem ar ddwyfron

yn dal i foli Mair

Mae’r ffynhonnau’n fyw.

O HEN LYFR BREUDDWYDION

Breuddwydio eich bod yn gweled ffynnon gymysglyd a arwydda dreialon.

Breuddwydio eich bod yn gweled ffynnon loew, lawn a rhedegog, a arwydda ddigonolrwydd a diogelwch rhag angen. Chwi a berchir ac a anrhydeddir yn fawr. Bydd i’r un a garwch, eich caru, a bydd eich cariad yn barhaol.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 34 Haf 2013

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

PYTIAU DIFYR 

Allan o Mi Glywais i. gan Acres Evans tud. 32-36 - Ffynhonnau Shir Gar (Sir Gaerfyrddin) - Priodolwyd i'r ffynhonnau rinwedd bendithiol i wella pob math o glefydau. Medrai rhai symud anhwylderau megis gwendid yn y llygaid, dafadennau ar y dwylo, cryd cymalau, cryfhau'r corff a’r meddwl yn ogystal â rhoi iachâd o holl ddoluriau bywyd, boddio a helpu cariadon a gwneud y tlawd yn gyfoethog a’r trist yn llawen. Does ryfedd, felly, fod cymaint o bererindota tua'r ffynhonnau er iachâd. Ar ôl dyfodiad Cristnogaeth i'n gwlad, cysylltwyd y mwyafrif o'n ffynhonnau ag enw sant neu santes arbennig a rhoddwyd iddynt barch crefyddol. Gwaith anodd fyddai nodi holl ffynhonnau Shir Gar. Digon yw rhestru rhai o'r mwyaf adnabyddus ohonynt - Ffynnon Ddewi, Fynnon Deilo, Ffynnon Elian, Ffynnon Dybie, Fynnon Leian, Ffynnon Weniais, Fynnon Ddyfan, Ffynnon Saint, Ffynnon Ddrain, Ffynnon Gollen, Ffynnon Goch, Ffynnon Grech, Ffynnon Lwyd, Ffynnon Las Fynnon Wen, Ffynnon Seiri, Ffynnon Obaith, a Ffynnon Carreg Cennen. Bron na ellid dweud bod i bob pentref yn y sir ryw ffynnon o ddyledus barch. Ac yn hyn o beth does ‘run pentref sy'n fwy nodedig am ei ffynhonnau na Llansteffan yn rhan moryd Tywi. Mae yno hyd heddiw bedair ffynnon, sef Ffynnon Rhosynnau, Ffynnon Sych, Ffynnon Dafolog, ac yn bennaf ohonynt Ffynnon Antwn (SN3410)yng nghysgod y castell hynafol. Ffynnon yn gweithredu er daioni yw Ffynnon Sant Antwn, a hynny, mae'n debyg, am mai ef oedd y mynach Cristnogol cyntaf a dreuliodd ei holl fywyd yn ymarfer duwioldeb ac yn ymladd yn erbyn holl alluoedd y fall. Ac onid difyrrwch i lawer ohonom ni’r rhai hyn heddiw oedd cael mynd yn blant ar drip Ysgol Sul i Lansteffan - yna plygu ein gloyw bin a'i daflu dros yr ysgwydd chwith i ddŵr y ffynnon? Ac wrth wneud, ddymuno, gan erfyn ar i Sant Antwn, roddi i ni yr hyn oll a ewyllysiem ei gael. Cymaint fu bri Ffynnon Sant Antwn yn y gorffennol fel y lluniwyd un gerdd hynod o ddigri iddi. Cadwyd hi mewn cof gan Dafydd Jones, Cwmtwrch, Nantgaredig, sef yr enwocaf o ofaint Felingwm. Ynddi clodforir rhin a bendith Trochle Llansteffan, sef, yn ein meddwl ni, Ffynnon Antwn.

Lle gorwych yw Llansteffan i wella dynion aflan;

Fe ylch y ffynnon hwy yn wyn, does le fel hyn yn unman.

Roedd Deio bach, Llandeilo a defed ar ei ddwylo,

Wrth fethu'n lân a'i gael yn iach roedd Deio bach yn wylo.

Cychwynnodd yn llawn lludded mewn gobaith am ymwared,

Ac yn y ffynnon ger y bae fe gollodd Dai y defed.

Roedd Bili bach o Brechfa â dolur yn ei gylla;

Roedd pob meddygon fawr a mân yn methu’n lân â'i wella.

A'i bwynt ar Lansteffan fe redodd y gŵr a neidio fel broga o gwmpas y dŵr;

Ac wedi dymuno, O, rhyfedd yw'r nod, roedd cylla rhen Bili mor iach ag eriôd.

 Daeth merch o Drefforest mewn cyflwr tra blin a gyn oedd ei chlefyd sef methu cael dyn;

Hi ddaeth i Lansteffan a'i golchi â’r dŵr ac wrth syllu i’r ffynnon hi welodd ‘i gwr.

Os bydd diffyg synnwyr yn perthyn i rai, mae'r ffynnon yn gweithio yn glyfar a chlau,

Mae’n gwella y ddannodd, y bendro a'r gowt, mae'n drochle rhyfeddol, am hyn does ‘run dowt.

Daeth Sioni y Cardi o Lundain or daith, a hyn oedd ei glefyd, sef colli ei iaith.

Pan ddaeth i'r gymdogaeth fe dd'wedai'r hen bais "Cymrag fi ddim stando, wath fi dim ond Sais"

Fe gredwyd fod twymyn ar Sioni'n ddiau, anfonwyd yn union am feddyg neu ddau;

Dywedai'r meddygon, ”Gwnewch frys, fynd a'r gŵr i lawr at y ffynnon a'i olchi â'r dŵr.

I lawr i Lansteffan fe awd gyda brys. Cadd Sioni ei stripio i gyd ond ei grys;

Fe'i rhoed ger y ffynnon mewn hen ffetan frag. o'i olchi daeth Sioni i goflo'i Gymrag!

Ac felly dowch chithau am dro yn yr haf i ffynnon Sant Antwn as ydych yn glaf;

Cewch wared o'ch clefyd, a bendith yn stôr yn y ffynnon ddymuno yn ymyl y môr.

Rhywbeth yn debyg i Ffynnon Antwn yw Ffynnon Carreg Cennen hithau. Ffynnon ddymuno ydyw. Yn ystod yr haf daw ymwelwyr o lawer rhan o'r byd yno i ollwng eu gloyw binnau i'r dŵr gan obeithio cael yr hyn oll a ddymunant. Am barhad y ffynnon, ni raid pryderu am hynny, herwydd yn ôl y goel cymysgwyd y morter a defnyddiwyd i adeiladu'r castell gan waed pobl y fro. Hyn felly'n sicrhau na ddiddymir fyth mohono.

Dywedir mai merched Brychan Brycheiniog oedd y tair santes Tybie, Lleian a Gwenlais. Mewn lleiandy o'r enw Gelliforynion y treuliai’r tair chwaer eu bywyd mewn myfyrdod sanctaidd. Yn ôl y goel, lladdwyd hwy gan haid baganaidd o Saeson neu Wyddelod, ac yn y mannau lle tywalltwyd eu gwaed tarddodd tair ffynnon â'u dwr yn meddu galluoedd meddyginiaethol.

Ffynnon feddyginiaethol ei dŵr hefyd oedd Ffynnon Ddyfan (SN6417) yn Llandyfân ger Llandeilo - sydd a'i dŵr yn dal i ffrydio o hyd. Slawer dydd roedd hon yn un o ffynhonnau enwocaf Cymru a hynny oherwydd ei rhin fendithiol. A'r hyn sy'n ddiddorol ynglŷn â’r ffynnon yw fod rhaid yfed ei dŵr allan o benglog yn lle cwpan. Rhin arbennig Ffynnon Llandyfân oedd gwella'r parlys a chlefydau tebyg. Ond dywed hen goel fod nifer o gyrff i'w gweld ar un adeg o'i chwmpas, hynny'n tystio nad anffaeledig Ffynnon Ddyfan mwy na ninnau hefyd.

O HANES PLWYFI LLANGELER A PHENBOYR

gan Daniel E Jones (1899) Tud. 1 1-13

Ffynnon Geler ar ddarn o dir oedd un amser yn perchyn i eglwys Llangeler. Yr oedd y ffynnon hon yn gysegredig i Celer Ferthyr; a dywed traddodiad fod cleifion ac anafusion o bellderau yn talu ymweliad â hi, ac yn ymolchi yn ei dyfroedd, a chael iachad; a llawer o weithredoedd nerthol a wnaed drwy rinwedd ei ffrydiau yn yr amser gynt.

Ffynnon Llawddog, mewn gallt gerllaw eglwys Penboyr a elwir yn Bron Llawddog. Ffynnon gysegredig ydoedd i Lawddog, nawdd sant eglwys Penboyr. Y mae amryw ffynhonnau yma a thraw yng Nghymru yn dwyn ei enw, a diamheu fod eu dyfioedd yn cael eu hystyried unwaith yn feddyginiaethol.

Ffynnon Fair, at dir Llwynffynnon. Mae Capel Mair yn sefyll heb fod ymhell o’r ffynnon hon.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 36 Haf 2014

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

PYTIAU DIFYR

Allan o Sul, Gŵyl a Gwaith gan Catrin Parri Huws (Tudalen 15) Yn ardal Clynnog mae Fferm Tŷ Isa, sydd a’i safiad ar ochr Allt Mur Sant ond mae hefyd yn ffinio â Bryscyni Uchaf. Ar un adeg bu Tŷ Isa yn rhan o fferm hynafol Maes Glas, a berthynai yn yr hen amser i’r hen fynachlog cyn i Beuno Sant ei throi’n eglwys yn y flwyddyn 616 O.C. Dyna’r pryd y cafodd yr hen ffynnon sydd ar ochr y ffordd fawr ar dir Maes Glas ei galw yn Ffynnon Beuno. Mor loyw a chlir oedd ei dŵr yn yr haf ar adeg ymwelwyr, a byddai arian yn frith ar ei gwaelod. Credid y byddai raid cerdded tair gwaith gyda’ch cefn at y dŵr a thaflu arian neu geiniogau dros ysgwydd i gael dymuniad.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 37 Nadolig 2014

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

MANION  DIFYR AM FFYNHONNAU

gan Howard Huws

CAS-MAEL, Sir Benfro (SN0029)

Ym 1696 ymatebodd y Parch Alexander Forde (1664-1723) i ymholiad Edward llwyd  ynghylch hynodion a hynafiaethau Cas-mael trwy yrru ato wybodaeth am y plwyf. Ymhlith manylion eraill ceir y canlynol:

Tomlyn well is good for Agues: another good for sore eyes, issuing out of

the earth close under a small rivulet called Nant-y-lake, and yet differing in

weight. Ffynnon fair also near Nant y lake . this Nant y lake is by Poncheston

town the North side  of it, and running out of a Moor.1

Ar fapiau Arolwg Ordnans 6 modfedd cynnar ceir “Puncheston Common” ar y tir corsiog i’r gogledd o Gas-mael. Dangosir, hefyd, nant yn draenio’r gors (sef “Nant y lake”), a ffynnon o’r enw “Ffynnon Wern”: a gellid tybio mai honno yw naill ai’r ffynnon golchi llygaid dolurus, ynteu Ffynnon Fair. Crybwyllwyd gwahaniaeth rhwng pwysau mesur o ddŵr y ffynnon lygaid a’r un mesur o ddŵr Ffynnon Tomlyn neu Nant y lake: rhywbeth a fyddai wedi ennyn chwilfrydedd gwyddonol Llwyd.

Ni chynhwyswyd Fynnon Fair Cas-mael yn Holy Wells of Wales, Francis Jones.

LLANPUMSAINT, Sir Gaerfyrddin ( SN 4129)

Y mae Francis Jones yn crybwyll ychydig fanylion ynghylch ffynhonnau Llanpumsaint, ond ceir darlun llawnach yn adroddiad yr Archddiacon Edward Tenison i gyflwr Archddiaconiaeth Caerfyrddin yn 1710. Dywed a ganlyn:

          There are five wells or pools in the River, which tradition says were made use of  by the five saints, & that each particular       Saint had his particular well. On S.Peter’s day yearly between two & three hundred people get together, some to wash in &            some to see these wells. In the summer time the people in the neighbourhood bathe themselves in these wells to cure aches. 2

Buasai’n ddiddorol gwybod pa bwll yn union a gysylltid â pha un o bum sant Llanpumsaint (Gwyn, Gwynoro, Gwynno, Ceitho a Chelynnin), ond os oedd yr wybodaeth honno wedi parhau hyd adeg ymweliad Tenison, ni chofnododd mohoni.

BANGOR, Gwynedd (SH5872)

Yn rhifyn Nadolig 2006  Llygad y Ffynnon bu imi grybwyll bod yn Archif Melville Richards gofnodi “Ffynnon Ddeiniol” ym Mhentir, ym mhen pellaf hen Faenol Bangor.  Daeth yr wybodaeth hon, yn ôl yr Archif, o LTA, sef Land Tax Assessments 1707. Tybio’r oeddwn y gallai’r ffynnon hon, yr honnid ei bod ym Mhentir, fod yn ychwanegol at y Ffynnon Ddeiniol yng Nglanadda, filltir i’r gorllewin o ganol Bangor.

Wedi bwrw golwg ar gofnodion y dreth, gwelaf fod yr asesiadau’n cynnwys trefgordd Pentir, Caerwedog a Thyllfaen yn un dosbarth. Ceir yno’n gyson gofnodion fel “The Right Revd. The Lord Bishop for Cae ffynnon daniel £0:2:9”3 Mae Pentir gryn ffordd o Fangor, ond daw Tyllfaen â ni llawer iawn agosach i gyffiniau gorllewinol y ddinas: felly mae’n amlwg mai Cae Ffynnon Ddeiniol yng Nglanadda sydd yma, nid Ffynnon Ddeiniol ychwanegol ym Mhentir ei hun.

Yn yr un rhifyn o Llygad y Ffynnon mae J. E. Williams o Lanrug yn dal mai ym Mhant Tan Dinas, yn ymyl Dinas Dinorwig, mae “Ffynnon Ddeiniol”. Mae’r hanesydd lleol, Dafydd Whiteside Thomas, fodd bynnag, yn dweud mai un o ddwy “Ffynnon Ddeiniolen” bosibl yw’r ffynnon “yn y pant islaw Dinas Dinorwig”.4

Dychwelwn i ddinas Bangor. Yn yr erthygl yn rhifyn Nadolig 2006, darfu imi grybwyll cyfeiriad at “St. John’s Well” yn Inventory of Ancient Monuments 1958. Mae erthygl ddiweddarach yn Nhrafodion  Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon yn datgan nad yw’r “ffynnon sanctaidd” honno namyn sỳmp ar gyfer draenio tir Parc y Coleg.5 Erys traddodiad llafar, fodd bynnag, am “Ffynnon Ddeiniol” arall eto ar waelod Allt Glanrafon, tua chanllath i’r gorllewin o “St. John’s Well, a’i bod wedi’i chladdu pan godwyd adeilad Undeb y Myfyrwyr ddechrau’r 1970au. Canolfan Pontio sydd yno rŵan.

Wrth ddisgrifio gweddillion plas Esgobion Bangor ym 1801, mae Thomas Evans yn dweud:

           “In the garden of this palace is a mineral spring of common chalybeate

            and at Aber-ceggen, about  half a mile from the former, is another.” 6

Yr oedd gerddi’r plas yn ymestyn i fyny at odre Allt Glanrafon a Pharc y Coleg, felly tybed ai’r ffynnon ddurllyd (chalybeate) a grybwyllir gan Evans yw’r “Ffynnon Ddeiniol” y mae cof amdani ar waelod yr allt? Mae’r ymchwil yn parhau, i honno ac i’r un yn Abercegin (Porth Penrhyn) hefyd.

 TROED NODIADAU

 1 Emery,F.V. A New Reply to Lhwyd’s Parochial Queries (1696): Puncheston, Pembrokeshire.

Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru X,4, Gaeaf 1958, t.401.

2 Griffiths, G.M.  A Visitation of the Archdeaconry of Carmarthen, 1710.

Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru XVIII, 3, Haf 1974, t. 296.

 3 Dogfen Archifdy Gwynedd, Caernarfon X/QA/LT 6/3

4 Thomas, Dafydd Whiteside. Chwedlau a Choelion Godre’r Wyddfa. Caernarfon: Gwasg Gwynedd 1988 t.45.

5 White, R.B. Rescue Excavation on the New Theatre Site, University College Park, Bangor.

Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon 33 (1971). tt. 246-247.

6 Evans, T, Cambrian Itinery: or Welsh Tourist.

London: C. Whittingham, 1801, Cyf.ll, t. 284

 LLYGAD Y FFYNNON Rhif 38 Haf 2015

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

PYTIAU DIFYR

HEN  FFYNHONNAU  TREF  ABERYSTWYTH

Casglwyd y wybodaeth ganlynol gan David Samuel, prifathro cyntaf Ysgol Ardwyn. Gwnaeth nodiadau ar gyfer erthyglau a ddyddiwyd Gorffennaf 27ain, 1892. Mae’r dogfennau i’w gweld yn y Llyfrgell Genedlaethol o dan y cyfeirnod NLW MS 2832B. Diolch i Jane Lloyd Francis. Abercregir ger Machynlleth, am anfon y wybodaeth ar gyfer Llygad y Ffynnon (Cadwyd y sillafu gwreiddiol)

Meddai David Samuel “Cefais yr hanesion canlynol oddi wrth Mr John Evans, Cabinet maker, un o hen ddinasyddion Aberystwyth, yr hwn sy’n gyfoethog o lawer hanes cysylltiedig â’n tref.”

FFYNNON TWLC YR HWCH

Flynyddodd yn ôl …nid oedd rhwng adeilad y Coleg a’r castell yr un wal yn y byd – peth cymharol ddiweddar yw’r ffordd sy’n arwain heibio i’r coleg at y castell, ac yn ddiweddar, wrth wneud y ffordd yr adeiladwyd y mur- ‘y sea wall.’ Yr oedd yn y fan hon, rhwng y môr a’r Eglwys, gae bychan, yr hwn a elwid ‘Cae Judith . Hen housekeeper-ni-charge i’t tŷ a adweinid y pryd hwnnw ac am flynyddoedd wedyn, ac a adwaenir eto gan hen bobl y dref wrth yr enw ‘Castle House’, sef y darn canol  o’r Coleg a thŷ y Prifathraw. Ystyrid yr hen Judith yn ddoctores o gryn fri yn enwog fel meddyg. Mae Judith wedi marw bellach ers 60 mlynedd. Ymddengys fod Cae Judith yn terfynu ar ochr y môr mewn dibyn serth, ac yng nghesail y dibyn llochesai Ffynnon Twlc yr Hwch. Elent at y ffynnon o Pier Street, drwy King Street (neu College Street fel y myn rhai ei galw yn awr) ac wedi myned heibio i’r Castle House, yr oedd yno lwybr yn arwain i’r traeth ac at y ffynnon. Yn y fan hon rhwng Craig y Castell a Chraig y Wig yr oedd yno draeth bychan yr hwn a elwid yn gyffredim wrth yr enw ‘Glan Môr Ladis’ am y reswm mai yn y fan hon yr arferai merched drochi yn yr amser gynt. Ymolchent ac ymdrochent yn y fan hon yn y drefn fwyaf cyntefig, yn hanner noethion neu yn gwbl noethion. Yn y traeth hwn hefyd y mae Pwll Padarn yr hwn y gellir ei weled yn ein hamser ni pan y bydd y trai ymhell allan. Arferai yr hen bobl drochi yn aml,aml ynddo. Pan adeiladwyd Eglwys Mihangel Sant ( y drydedd o’r enw hwnnw) cauwud y llwybr a arweiniai efo’r wal i fyny , a gwnaethpwyd y ‘sea-wall’ presennol. Yr adeg honno dinistriwyd yr hen ffynnon hefyd. Yr oedd ynddi ddigon o ddwfr bob amser, digon o ddwfr a’r math ragora, yr hwn oedd yn hynod ddymunol oblegid ei oerni adfywiol ym misoedd tesog yr haf. Ond ar brydiau, a’i y ffynnon yn hollol ddi-fudd, yn enwedig yn amser y ‘spring tides’ mawrion, pan y byddai’r môr yn codi i’r lan yn uchel, a’r llanw yn ddigon cyflawn I ddod at y ffynnon a’i llenwi â heli. Tybir mai llysenw o ryw fath oedd yr enw roed ar y ffynnon.

FFYNNON GRAIG GOCH

Ffynnon rinweddol iawn oedd hon-arferai pobl y dref fynd at ei dyfroedd bob bore i olchi eu llygaid os bydd ryw wst arnynt. Yr oedd y ffynnon yng nghardd Graig Coch, wrth gefn y tŷ, rhyngddo a’r môr. Yr oedd tua 10 troedfedd mewn dyfnder. Deuai’r dŵr i’r ffynnon o graig yn bistyll neu raeadr bach tlws iawn. Nid oedd y wal sy’ nawr yn rhedeg o gylch yr ardd wedi ei hadeiladu y pryd hwnnw. O’r pistyll bach byddai y rhai oeddynt am yfed y dwfr yn arfer ei sugno i mewn trwy welltyn tenau.

FFYNNON GYMMYRCH

Yr oedd y ffynnon hon hanner ffordd rhwng Trefechan a Felin y Môr, ac yr wyf yn lled hyderu mai hon yw’r ffynnon sy’n awr i’w gweled ar ymyl y ffordd sydd rhwng Trefechan a’r felin. Nid wyf yn gwybod fod dim neullduol wedi digwydd yn dwyn perthynas â’r ffynnon hon. Nid wyf yn sicr fy mod wedi sillebu ei henw yn iawn ac nid oes gennyf y syniad lleiaf beth yw meddwl ac ystyr y gair.

FFYNNON YR ANCR

Nid wyf yn berffaith sicr fy mod yn sillebu’r gair hwn yn gywir. Yn gyffredin ysgrifennir ef fel gair Saesneg ‘anchor’ ond nid angor yw’r enw priodol ar y ffynnon ond ‘ancr’ neu meudwy- ‘hermit’s well’. Ceir hefyd yn ‘Pen anchor- ‘hermit’s peak’. Ymddengys fod gynt ddwy ‘Ffynnon yr Ancr’- yr oeddynt yn llochesi dan y geulan ar y ffordd yr eloch o ‘Ben yr Ancr’  yng nghyfeiriad y pier cerrig. Yr oedd y ddwy yn agos iawn lle y gosodir y lamp  i fyny gyferbyn â’r fynedfaa i’r porthladd, i ddangos i’r llongau y modd i iawn gyfeirio eu cwrs pan yn gwneud eu ffordd i mewn drwy fynedfa gul ym mhen y bar. Mae’r ddwy ffynnon wedi eu cau i fyny ers 40 neu 50 mlynedd yn ôl. Cauwyd hwynt pan y cynlluniwyd y ffordd sydd yno i fyned yn ôl a blaen at y pier. Yn ymyl y fan lle’r oedd y ffynnon mae yno, fel y gwyddys, graig wedi ei thorri trwodd - êl y ffordd yn awr drwy fwlch yn y graig. Gwnaethpwyd hyn tua’r un adeg a phan y llanwyd y ffynhonnau. Gelwid y lle hwn yn ‘Pen Huwcyn’. Arferai’r hen forwyr ddweud am yr ‘Huwcyn ‘hwn, mae dyn ydoedd heb fod yn ei lawn synhwyrau, ac yn arfer mynychu fel gwallgofddyn ar ei ben ei hun i’r man unig neillduedig hwn. Ac yn y ffaith hon, yn y bywyd meudwyol yn ddiau y treuiliasai Huwcyn ei hoedl, y gwelaf esboniad ar y geiriau uchod,’Ffynnon yr Ancr’a ‘Phen yr Ancr’.

(Nid oes sicrwydd o leoliad y ffynhonnau hyn erbyn heddiw felly mae’n amhosibl rhoi cyfeirnod map cywir iddynt. Gol.)

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

FFYNHONNAU COLL RHUTHUN

  (O’r  BEDOL Chwefror 2013 tudalen 25. Gwybodaeth gan John Ormsby .

Diolch i’r Dr. Robin Gwyndaf am dynnu ein sylw at y wybodaeth hon.)

 Yn y flwyddyn 1304 adeiladwyd priody yn Rhuthun gan yr Arglwydd de Grey i’r Mynachod Carmelite. Yr un adeg rhoddodd De Gray gae i’r mynachod, y cae sydd rhwng y tai a Ffordd Corwen a’i alw yn Cae Gwynfynach. Yng nghornel bella’r cae, wrth yr afon Clwyd, roedd ffynnon , a bendithiwyd y dŵr am ei fod yn gwella cleifion. Roedd y mynachod yn dod i’r dŵr yma i ymolchi a mynd a’r dŵr yn ôl i olchi’r mynachdy. Pan adeiladwyd y tai roedd angen enw ar y ffordd yma, ac fel arfer roedd  y Cyngor  yn edrych ar hen hanes y dref, a dyna sut cafwyd yr enw Ffordd Gwynach wedi dod o Cae Gwynfynach. Pan ddaeth y rheilffordd i Rhuthun yn 1862, a chychwyn tyllu i’r tir i fynd a’r tren i gyfeiriad Corwen gwnaeth y tyllu ddrysu’r dŵr a diflannodd am byth. Digwyddodd yr un peth gyda Ffynnon Pump Cwrt wrth Awelon wrth adeiladu Stesion Rhuthun.

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

FFYNNON JIWBILI

Diolch i Helga Martin, Ysbyty Ifan am y llun a’r wybodaeth am y ffynnon hon.

 Mae Ffynnon Jiwbili Brenhines Ficytoria yn ymyl coedlan ar y ffordd rhwng Ysbyty Ifan a’r ffordd A5. Mae’n dal i lifo. Nid ffynnon sanctaidd mo hon ond mae wedi ei gosod i anifeiliaid allu cael diod.  Yn ôl y sôn roedd Ysbyty Ifan ers talwm yn lle roedd y porthmyn yn cysgu cyn gyrru’r gwartheg i Loegr.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 39 Nadolig 2015

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Home Up