Home Up

PWLLHELI

 

FFYNHONNAU PWLLHELI

(Detholiad yw'r hyn sy'n dilyn o wybodaeth a godwyd o gyfrol D. G. Lloyd Hughes, Hanes Tref Pwllheli.  

Gwneir hyn gyda chaniatad caredig y cyhoeddwyr, Gwasg Gomer, Llandysul.)

Bendithiwyd hen drigolion Pwllheli â chyflenwad da o ddŵr croyw i'w yfed ac agorwyd llawer o ffynhonnau, rhai yn yr awyr agored ac eraill yn y tai. Pan gynyddodd y boblogaeth o gwmpas 1740 derbyniodd y Gorfforaeth gyfrifoldeb dros gynnal a chadw'r ffynhonnau cyhoeddus fel Ffynnon Tan-y-clawdd (Stryd Moch), Ffynnon-y-bracty (Pentrepoeth, hwyrach), Ffynnon Penlan a Ffynnon-yr-Onnen (Stryd Kingshead a'r Gors). Gellid gweld o leoliad y ffynhonnau hynny eu bod mewn mannau hwylus i drwch y boblogaeth yn ystod y ddeunawfed ganrif.

Ffynhonnau agored oedd rhai ohonynt ond gwyddys fod pwmp wedi ei osod ar un yn gynnar iawn, oblegid, yn 1761 ceir sôn am drwsio'r pwmp ar Ffynnon Penlan ac yn 1766 gorchmynnwyd fod pwmp i'w osod ar Ffynnon-yr-Onnen. Daw adlais o broblemau glendid cyhoeddus o'r flwyddyn 1779 pan benderfynwyd gosod clo ar bwmp Ffynnon Penlan (un a adwaenid erbyn hynny yn Bwmp y Dref) a gwaharddwyd pobl rhag gadael casgenni a chelyndrau yng nghyffiniau'r ffynnon, a'r rheini'n llawn o ddŵr, ar boen dirwy o hanner coron. Yn 1797, wedyn, cyfeiriwyd at bobl mor ddi-hid o lendid y ffynhonnau fel y buont yn golchi clytiau, mopiau a bareli yn Ffynnon-yr-Onnen lle gellid, mae'n debyg, gyrraedd y dŵr heb ddefnyddio'r pwmp. Ni cheir cyfeiriad at olchi dillad yn y ffynhonnau, ond mae'n bosib fod rhai o'r ffynhonnau eraill wedi'u defnyddio i'r diben hwnnw.

Yn 1803 agorodd y Gorfforaeth ffynnon newydd ger Pwll George yn Stryd Penlan ac yn 1833 gosodwyd pwmp ar Ffynnon Stryd y Farchnad. Yr oedd y boblogaeth yn cynyddu a'r Gorfforaeth yn gorfod wynebu'r ffaith fod galw am fwy o ddŵr yn dwyshau'r sefyllfa, ond eto mae'n bwynt o bwys nad oes sôn am ddŵr yng nghofnodion cyngor y dref o'u dechreuad yn 1836 tan 1866 pan drefnwyd dadansoddiad gwyddonol o ddŵr y ffynhonnau am y tro cyntaf. Yr oedd yn hen bryd i rywbeth ddigwydd oblegid mewn llythyr yn y wasg yn 1861 datgelwyd fod un ddynes wedi troi ati ar ei liwt ei hun i lanhau ffynnon gerllaw Ysgol Penlleiniau ar ôl ei chael yn llawn o gerrig, ysbwriel a baw, heblaw fod rhan o gorff plentyn mewn cyflwr pydredig iawn ynddi hefyd.

Y mae'n glir, o'r cofnodion, fod y cyngor wedi ychwanegu ffynhonnau eraill at y rhai cyhoeddus, fel rhai Lôn Caernarfon (1866), Pentre'rwanc (1873) a'r Traeth (1874) a darparwyd Ffynnon Allt Salem (yngyd â phwmp) yn 1875 ar gyfer y tai newyddion a godwyd yno. Erbyn canol y saith-degau yr oedd y boblogaeth dros dair mil a'r sefyllfa yn galw am bolisi goleuedig. Tra bu'r cyngor yn trafod ymddangosodd adroddiad annibynnol ar gyflwr y dŵr ym Mhwllheli yn 1877. Dadansoddwyd samplau o ddŵr ffynnon a dŵr glaw a gronnwyd mewn celyndrau, heb ddarganfod dim a allai fod yn niweidiol i iechyd, ond yr oedd blas mawnog ar ddŵr y ffynnon ac arogl cas arno, cyflwr a ddengys fod y dŵr wedi ei hidlo drwy haenau llysieuol.

Yn y diwedd bu'r dref yn ffodus o gael cwmni o Fanceinion i weithredu cynllun i gael dŵr trwy bibau o Fur Cwymp, y tu draw i'r Ffôr, a chodi cronfa ailraddol ger Nantystigallt, ar yr Allt Fawr. Ond y dechreuad yn unig oedd hwnnw oblegid cymerodd flynyddoedd cyn i'r mwyafrif o'r tai gael eu cysylltu, a dibynnid ar y ffynhonnau i raddau helaeth am bron ugain mlynedd arall. Roedd yn well gan lawer o'r trigolion beryglu eu hiechyd drwy dynnu dŵr o'r ffynhonnau, ffynhonnau a lygrwyd yn achlysurol ar hyd yr amser, yn enwedig y rhai prysuraf fel Ffynnon Tan-y-clawdd a Ffynnon Stryd y Farchnad, na thalu am ddŵr gan y cwmni. Enwyd y pwysicaf o ffynhonnau'r dref eisoes ond wele restr o ffynhonnau eraill a ddefnyddid gan y cyhoedd yn y dref: Ffynnon y Berllan, Lôn yr Ala; Ffynnon y Winllan Yr Ala Uchaf; Ffynnon Sgifftan, Pentrepoeth; Ffynnon y Fedwnant, Lôn Caernarfon; Ffynnon Lôn'Berch, rhwng rhifau 13 ac 14 Lôn Aber-erch, Ffynnon Baxter ar gyffordd y Lôn Dywod a'r Stryd Fawr; Ffynnon Troed yr Allt; Ffynnon Tai Morfa, (o dan dai cyngor), a Ffynnon Talcymerau Bach.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 12 Haf 2002

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFYNHONNAU PERYGLUS SIR GAERNARFON

YN Y DDEUNAWFED GANRIF!

gan Ken Lloyd Gruffydd

 Yn ei astudiaeth fanwl o dref Pwllheli (SH3735), dengys Lloyd Hughes [1] fod corfforaeth y fwrdeistref wedi sylweddoli, cyn belled yn ôl ag 1742, fod diogelu purdeb dŵr ei ffynhonnau yn hanfodol bwysig ac ymhen tair blynedd roedd ganddynt bedair i'w goruchwylio. Yng nghwrt y Llys Chwarter am dymor y gaeaf 1756 dyfarnwyd bod y tarddiad dŵr ger y 'Gors' a elwid Ffynnon-yr-onnen yn berygl i'r cyhoedd ac mai cyfrifoldeb trigolion y dref oedd ei hatgyweirio [2], ond ni osodwyd pwmp arni am ddegawd arall [3]. Mae'n amlwg fod cafn o waith cerrig sylweddol ynghlwm â hi hefyd oherwydd yn 1797 soniwyd am wragedd lleol a oedd yn 'golchi clytiau, mopiau a bareli' ynddi [4].

 Tybed faint o drigolion sir Gaernarfon - a Chymru benbaladr o ran hynny - a wenwynwyd wrth iddynt dorri eu syched gyda dŵr o ffynnon lygredig? Nid oedd meicrobau na cholera yng ngeirfa'r werin bryd hynny!

 Ffynonellau:

          1.     D.G. Lloyd Hughes, Hanes Tref Pwllheli (Llandysul 1986), 46.

2.     Gwasanaeth Archifau Gwynedd, XQS/1756/5.

3.     Lloyd Hughes, op. cit.,48.

4.     Ibidem, 48.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 15 Nadolig 2003

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

FFYNNON IOCWS, PWLLHELI

Ar gyrion tref Pwllheli, ar y ffordd i gyfeiriad Caernarfon, mae plasdy hardd Iocws. Mae dwy ffynnon i’w gweld yno. Mae’r un ger y tŷ yn ddofn iawn a hon fyddai wedi cyflenwi angen y perchnogion a’r gweision am ddŵr yn y gorffennol.  Ffynnon gron yw hi wedi ei hadeiladu o frics coch a’i mur allanol, sy’n bedair troedfedd o uchder, wedi ei addurno â cherrig crwn.Ei diamedr yw tair troedfedd chwe modfedd. Mae caead haearn solet drosti a da yw hynny. O ben y ffynnon i’r dŵr mae’n ddeg troedfedd at hugain ac mae pymtheg troedfedd o ddŵr yn ei gwaelod.

Rhwng y gerddi a buarth y fferm mae ffynnon arbennig iawn. Ffynnon sgwar yw hon, yn agored i’r nefoedd, wedi ei hamgylchynu â muriau wyth troedfedd o uchder gyda mynedfa chwe throedfedd o uchder ar y wal flaen. Mae’r waliau allanol yn mesur un droedfedd ar ddeg eu hyd a’u lled ac maent bron yn ddwy droedfedd o drwch. Ni chafodd y ffynnon ei glanhau ers chwedegau’r ugeinfed ganrif ac mae’n llawn llaid. Mae’n amlwg fod dŵr wedi ei godi o’r ffynnon ar un amser am fod nifer o risiau yn mynd i lawr o dan y llaid ger y drws. Credir fod dŵr yn codi o’r ddaear ar safle’r ffynnon ond o bosib mae’n llifo iddi o darddiad arall. Mae olion gwyngalchu ar furiau mewnol y ffynnon. Tybed ai yma roedd aelodau ifanc y teulu bonheddig a fu’n byw yn Iocws ers talwm yn ymdrochi ar dywydd poeth yn yr haf? Pe bai drws pren ar y fynedfa yna byddent yn gallu mwynhau eu hunain heb fod y gweision yn gallu eu gweld. Gwyddom am enghreifftiau eraill o faddonau tebyg yng ngerddi plasdai neu’n weddol agos atynt lle arferai bonheddwyr ddod i fwynhau ymdrochi yn y dŵr yn hafau’r gorffennol. Mae un nodwedd ddiddorol iawn ym mhensaernïaeth y ffynnon. Ar ben y muriau gosodwyd cerrig wedi eu naddu ar batrwm o garreg fawr ac un llai bob yn ail. Disgrifir y defnydd yma o gerrig fel ‘iar a chyw’ ar lafar gwlad yn Llŷn. Gellir gweld cerrig tebyg uwchben Ffynnon Aelhaearn ( SH38414462) yn Llanaelhaearn. (Gweler Llygad y Ffynnon 24, tudalen 6) Ar hyn o bryd mae tyfiant yn cuddio’r gwaith cerrig. Da fyddai gallu glanhau’r ffynnon a’i hadfer ond bydd angen amser, arian ac egni i wneud hynny. Diolch i Mrs Annwen Hughes am ein harwain at y ddwy ffynnon ar noson braf o haf ym mis Mehefin 2008. Nid pawb sy mor ffodus â bod yn berchennog ar nid un ond dwy ffynnon.

 

 LLYGAD Y FFYNNON Rhif 25 Nadolig 2008

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

  Croeso i Lŷn!

Cawsom ddiwrnod wrth ein boddau ddydd Sadwrn yr 16eg o Orffennaf, pryd y cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yng Nghanolfan Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr. Daeth criw go dda at ei gilydd, ac wedi’r Cyfarfod Cyffredinol ei hun yn y bore, aeth tua dwsin ohonom ymlaen ar wibdaith trwy Lŷn yn y pnawn, gan ymweld â thair ffynnon tan arweiniad brwdfrydig a gwybodus Gwynfor Ellis, Mynytho.

Y ffynnon gyntaf yr ymwelwyd â hi oedd Ffynnon Felin Bach ar ffin orllewinol Pwllheli, tua chwarter milltir i’r dwyrain o Bont Pen-sarn (Cyfeirnod Ordnans SH 236429  335324; Cod Post LL53 5TF). Mae’n adeilad rhestredig Gradd II, ac fe’i crybwyllir ym mhryddest Cynan, “Mab y Bwthyn”:  

“’Does dim wna f’enaid blin yn iach

  Ond dŵr o Ffynnon Felin Bach.” 

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 41 Nadolig 2016.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up