Home Up

Pilleth

 

YMWELD Â PHEDAIR FFYNNON

gan Howard Huws

 

Ffynnon Fair, Pyllalai.

(SO 0486 7423)

Ffynnon Fair, 

Wrth deithio ym Mhowys a’r cyffiniau fis Awst eleni, achubais gyfle i ymweld â phedair ffynnon sanctaidd. Y cyntaf ohonynt oedd Ffynnon Fair Pyllalai yn sir Faesyfed. Wedi cyrraedd Cross Gates ar yr A483 rhwng Llandrindod a Llanelwedd drowch i’r chwith ar yr A44. Dilynwch y ffordd am ddwy filltir i Ben-y-bont. Yno cymrwch yr A488 i Drefyclo. Wedi mynd drwy Lanfihangel Rhydieithon a Bleddfa rhaid troi i’r B4356 am Lanandras i ddod o hyd i Byllalai. Dilynwch yr arwyddion tua’r eglwys, hyd lôn go gyfyng i fyny allt. Mae lle i dri neu bedwar o geir barcio ger Eglwys Fair. Ceir Ffynnon Fair y tu cefn i’r eglwys, ar ochr ogleddol tŵr yr eglwys. Wedi’i thyllu i’r graig, ar ffurf betryal, y mae mewn cyflwr da, ac wedi ei hadnewyddu’n ddiweddar. Gosodwyd rheilen o’i chwmpas, ond o ddadfachu cadwyn, gellir disgyn y grisiau at hynny o ddŵr sydd ynddi. Noda Francis Jones yn ei gyfrol The Holy Wells of Wales fod y ffynnon wedi ei hesgeuluso yn y gorffennol ond wrth ei hadnewyddu yn 1910 daethpwyd o hyd i’r grisiau. Saif arwydd Holy Well gerllaw. Dyma lecyn tawel a phrydferth. Rhyfedd meddwl mai yn yr union fan hon y bu brwydro rhwng Owain Glyndŵr a’r Mortimeriaid yn 1402. Ceir digon o wybodaeth ynglŷn â’r achlysur hwnnw ar hysbysfyrddau esboniadol yn y maes parcio. Gellir gweld y man y claddwyd y meirw wedi’r drin ar lethr bryn cyfagos gan fod coed wedi eu plannu i ddynodi’r fan. Byddin Glyndŵr fu’n fuddugol. Dywedir bod dŵr y ffynnon wedi disychedu’r milwyr. Yn ôl traddodiad arall roedd clwyfau'r rhai a anafwyd yn y frwydr wedi eu golchi yn y ffynnon. Roedd cred gyffredinol bod dŵr y ffynnon hon yn arbennig o dda at gryfhau’r golwg a rhoi esmwythder i lygaid poenus. Erbyn heddiw mae ymweld â’r fan yn llesol i’r enaid.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 29 Nadolig 2010

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff

 

Home Up