Home Up

PENTREFELIN

 

FFYNHONNAU’R GEST YN EIFIONYDD

gan Alltud Eifion

(Mae’r erthygl gyfan i’w chael dan y pennawd uchod)

PENTREFELIN

FFYNNON DDUNAWD

 (SH51354009)

Dechreuwn gyda Ffynnon Dunawd ar ben tir y Gest sydd a gwaith ynddi ar derfyn Bach y Saint. Ffynnon Tyddyn Iolyn ac y bydd dwfr grisialaidd ynddi bob amser, yn gynnes yn y gaeaf ac yn oer yn yr haf. Byddai llawer yn dod iddi i olchi eu llygaid dolurus gyntFfynnon Eisteddfa: Y mae hon tu isaf i’r tŷ a dwfr ynddi bob amser. Un haf sych, 1826, yr roedd trigolion Pentre’r Felin yn gorfod cario dŵr o Ffynnon Eisteddfa a Tyddyn Iolyn gan fod y rhai eraill wedi sychu. Ffynnon Cefn y Meusydd Isa: Byddai yr hynafiaethudd Ellis Owen yn credu ei bod yn iach iawn i anifeiliaid rhag rhwymedd. Ffynnon Bron y Gadair: Y mae hon islaw i’r farmyard. Gwelwyd hi wedi sychu ar droeon. Y mae hefyd yn y coed ar dir Tyddyn Yscuboriau, tu cefn bron i’r Efail, Pentrefelin, ffynnon neu spring a ddarganfuwyd gan y diweddar Robert Evans, yr hynafiaethydd yn yr haf sych 1868. Yr oedd y pentrefwyr yn y trybini mwyaf gan brinder dwfr. Yr ydoedd yr hynafiaethydd adref ar y pryd, a throdd allan i gloddio yma ac acw yn y gors yn agos i derfyn Bronygadair, ger gardd yr Efail Bach tua chan llath oddi wrth y bont ac yr ydoedd tywod bras arianaidd ar ei gwaelod a’i dwfr yn byrlymi ohoni. Y mae ei weithred hon o’i eiddo yn foddion, ymhlith eraill o’i gymwynasau cenedlaethol er cadw iddo enw bendithiol. Geilw hi yn Ffynnon y Gadair ac yr ydoedd yn meddwl rhoi carreg ar ei phen a’r enw a’r flwyddyn ei darganfyddwyd arni.Gall fod yno ffynnon ers oesau ond wedi ei chladdu. Pwy wyr?

Ffynnon Carreg y Felin:Yr ydoedd yma ddwy ffynnon gerllaw, un y tu isaf i’r tŷ a’r llall y tu uchaf i’r tŷ. Galwodd y preswylwyr un yn Ffynnon Ddiog gan ei bod yn mynd yn hesp ar dywydd sych  a’r llall yn Ffynnon Fyw gan y byddai yn llawn o spring bob amser. Ffynnon Tŷ Coch gerllaw Cross Keys, Pentrefelin: gelwir hi yn Ffynnon Tan y Clogwyn lle mae digon o ddwfr bob amser.

Ffynnon Ynyscynhaearn: y mae hon y tu ôl i dŷ Ynystwywyn, gerllaw yr afon sydd yn mynd o dan bont y sluice.Gwnaeth y diweddar Dr. Roberts waith yno a chafodd ddytyniad (analyze) ohono. Dywedid ei fod yn feddyginiaethol (saline) ar y pryd. Ni wnaed fawr o brawf arni.

Pentre Felin - Gest-Uwch-y-Llyn

Ffynnon Bron y Gadair SH525395

Ffynnon Bron y Garth SH524396

Ffynnon Carreg y Felin  SH521402 & SH519404

Ffynnon Cefn y Meusydd Isaf SH531402

Ffynnon Ddunawd –SH514401

Ffynnon Eisteddfa SH518395

Ffynnon Tan y Clogwyn SH?

Ffynnon Ty Coch SH?

Ffynnon Tyddyn Iolyn SH518407

Ffynnon Ynyscynhaearn SH572386

 

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 19 Nadolig 2005

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFYNNON DDUNAWD

 (SH51354009)

 Diolch i Wil Williams am gyfieithu’r wybodaeth ganlynol i ni o’r gyfrol am henebion Sir Gaernarfon gan y Comisiwn Brenhinol.

Gorwedd Ffynnon Ddunawd i’r gogledd o’r ffordd dri chan llath i’r de-ddwyrain o Braich y Saint, ar bedwar cant pum deg o droedfeddi uwchl lefel y môr. Mae’n cynnwys siambr betryal wedi ei thorri i mewn i fryncyn serth gyda mur tair troedfedd a chwe modfedd i bedair troedfedd o uchder o adeilad hirsgwar wedi ei adeiladu yn erbyn y bryncyn. Saif y ffynnon yng nghornel ogledd-orllewinol yr adeilad. Syrth lefel y tir oddi mewn i’r adeilad, ac nid yw uchder y mur deheuol ond chwe modfedd ar yr ochr ddwyreinio a thair troedfedd a naw modfedd ar yr ochr orllewinol. Mae’r mur ar yr ochr ddwyreiniol wedi diflannu’n llwyr a dangosir ei safle gan ddwy garreg lefn yn wynebu ei gilydd yn y gornel dde-ddwyreiniol. Nid oes mynedfa yn syth o’r adeilad i’r ffynnon ond mae’n ymddangos fod mynedfa tua phedair troedfedd o led wedi ei chau yn y mur gorllewinol. Mae gordyfiant o blanhigion ar y muriau i gyd ac maent wedi cael eu defnyddio fel trefynnau waliau modern. Mae siambr y ffynnon wedi ei gorchuddio â cherrig llyfn i uchder o bum troedfedd yn y cefn ond mae’r adeiladwaith yn dirywio tuag at flaen y ffynnon. O dan y garreg astell mae dyfnder y dŵr yn ddwy droedfedd. Mae cyflwr y ffynnon yn weddol dda ond bod yr adeiladwaith wedi dirywio a’i orchuddio gan dyfiant o blanhigion.

 LLYGAD Y FFYNNON Rhif 20 Haf 2006

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 Home Up