Home Up

Penrhosllugwy

 

FFYNNON PARC MAWR, 

(SH486871)

Yn y gyfrol ddiddorol Enwau Lleoedd Môn (1996, tudalennau 74-75) mae’r awduron Gwilym T. Jones a Tomos Roberts yn disgrifio Ffynnon Parc Mawr (SH486871) fel hyn:

Lleoliad: ym Mhenrhosllugwy, ar ochr orllewinol y ffordd sydd yn arwain i Amlwch, sef A5025.

  Ystyrid hon yn ffynnon iachusol a disgrifir ei dŵr fel ‘dŵr copor’ gan drigolion yr ardal. Fodd bynnag, cyfeirir ati ar hen fapiau Ordnans fel ‘Chalybeate Spring’ sef tarddell gyda lefel uchel o haearn yn ei dŵr. Ystyrid Ffynnon Parc Mawr hefyd yn un addas ar gyfer melltithio, ac fe honna E. Neil Baynes, mewn erthygl yn Nhrafodion Hynafiaethwyr Môn yn 1928, ei bod yn cael ei defnyddio i’r perwyl hwn hyd yn oed ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Dyma fel yr edrydd Baynes yr hanes:

Not long ago a man found a frog stuck full of pins or needles in this well. The ceremonial was to stick pins in a frog, place it between two stones and deposit it in a well with a piece of slate on which the name of the person to be bewitched was scratched. Sometimes the heart of a black cat was added. If the spell worked  the person whose name was written on the slate would be burnt between two bundles of faggots.

Codwyd gorchudd o ruddfaen dros y ffynnon ar ddechrau’r ganrif gan Arglwydd Boston. Er gwaethaf hyn mae’r ffynnon wedi’i hesgeuluso a does dim ynddi bellach ond merddwr drewllyd.

  Anfonwyd y lluniau o Ffynnon Parc Mawr at Lygad y Ffynnon gan John Price Evans o Benrhosllugwy, sydd newydd ymaelodi â Chymdeithas Ffynhonnau Cymru ac mae ef ac ambell un arall am fynd ati i adfer y ffynnon. Meddai, yn ei lythyr:

Rydym yn gobeithio gwneud gwaith ar Ffynnon Parc Mawr ym mhlwyf Penrhosllugwy. Mae’r ffynnon ar ochr orllewinol ffordd yr A5025 sy’n rhedeg o Bothaethwy i Amlwch, cyn cyrraedd pentref Brynrefail. Mae llwybr troed yn rhedeg ger ochr y ffynnon ac yn mynd ar draws y rhos. Yng nghanol y rhos mae pont a’i henw yw Pont Haearn. Gallwch weld o’r lluniau fod y ffynnon mewn cyflwr gweddol yn gyffredinol oddi allan o leiaf. Mae ambell i garreg wedi dechrau disgyn oddi ar y mannau uchel.

Rwyf wedi medru cysylltu â phobl sydd yn berchen y tir mae’r ffynnon arno ac meant yn berffaith hapus i waith trin a thacluso gael ei wneud ar y ffynnon. Rwyf hefyd wedi cysylltu â Chyngor Sir Môn ac wedi siarad gyda swyddog o’r enw Christian Branch o’r Adran Gwasanaeth Cynllunio a’r Amgylchedd.

Mae o wedi gyrru pecyn cronfa datblygu amgylchedd i ardal o harddwch eithriadol (AHNE) Ynys Môn i mi. Y cam nesaf fydd cael cyfarfod gyda Christian Branch wrth leoliad y ffynnon a chael clywed ei farn ar y prosiect. Rwyf wedi trafod y ffynnon gydag amryw o’r plwyf ac maent yn awyddus i roi cymorth i’r fenter. Rwyf eisiau cysylltu â’r Lord Boston presennol i weld a oes diddordeb ganddo mewn rhoi cymorth o unrhyw fath. Os gallwch fod o gymorth trwy roi cyngor i ni ar drin y ffynnon buaswn yn ddiolchgar iawn.  

Y mae gennym le i longyfarch John am yr holl waith y mae eisoes wedi ei wneud. Yn sicr, mae’n frwdfrydig iawn a byddwn fel cymdeithas yn barod i roi unrhyw gymorth posib iddo yn y dyfodol.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 16 Haf 2004  

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFILMIO’R FFYNHONNAU

 Eirlys Gruffydd  

Yn ystod mis Gorffennaf eleni gofynnwyd i Ken a minnau fynd gyda chwmni Teleg i ffilmio ffynhonnau ym Mon, Arfon, Llyn, Eifionydd, Powys, Ceredigion a Chaerfyrddin. Buom yn ymweld a ffynhonnau a oedd yn gyfarwydd i ni, yn edrych ar eu cyflwr ac yn digalonni o weld cyflwr truenus rhai ohonynt ond yn llawenhau wrth weld fod eraill yn amlwg yn cael gofal. Llwyddwyd hefyd i ymweld ag un ffynnon newydd. Mawr yw ein diolch i Michael Bailey Hughes a’i fab Sion am eu cwmni a’u caredigrwydd i ni yn ystod y dyddiau y buom yn ffilmio.

Paratoi i ffilmio ger Parc Mawr

John a Ken ger y ffynnon

I Fon yr aethom gyntaf ac i gyfarfod a John Price Evans ger Ffynnon Parc Mawr (SH486871) ym Mhenrhosllugwy. Cafwyd tipyn o hanes y ffynnon hon yn Rhifyn 16 o Llygad y Ffynnon. Wrth ddilyn cyfarwyddiadau John cawsom hyd i’r man cyfarfod a drefnwyd; yna roedd llwybr yn arwain dros dir agored at y ffynnon. Mae’n ardal o ddiddordeb naturiaethol arbennig ac felly roedd yn bwysig i ni gadw at y llwybr. Hawdd oedd gweld y ffynnon gan mai dyma’r unig adeilad ar y safle. Bellach mae CADW wedi ei chofrestru’n grair hanesyddol Graddfa II ac mae’n werth ei diogelu. Mae rhai o’r cerrig mawr o ben yr adeilad eisoes wedi syrthio ac wrth gerdded o gwmpas y waliau hawdd oedd dod o hyd iddynt yn y tyfiant. Mae’r ffynnon ei hun oddi mewn i’r adeilad ac mae angen cryn lanhau arni. Ffynnon fechan sgwar gyda muriau o’i chwmpas a chapan garreg drosti ydoedd yn wreiddiol ac mae’r dwr cochlyd  yn dal i lifo allan ohoni. Diolch i John am ei frwdfrydedd a’i barodrwydd i rhoi o’i amser i warchod a ddioglelu’r ffynnon.  

 LLYGAD Y FFYNNON Rhif 17 Nadolig 2004  

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Y FFYNNON GOCH NEU FFYNNON BOSTON

(SH4786)

Diolch i’r Dr Graham Loveluck, Marianglas, Sir Fôn am dynnu sylw at erthygl yn Yr Arwydd- Papur Bro Cylch Bodafon, am Y Ffynnon Goch. Meddai yn ei lythyr, “ Roedd yna erthyglau yn Llygad y Ffynnon rhifyn 16 ac 17 ar Ffynnon Lord Boston yn Mhenrhosllugwy, Môn. Felly ‘rydw i’n siwr fod gennych ddiddordeb yn yr erthygl amgauedig.” 

Awdur yr erthygl oedd Mair Tyddyn Main neu Mair y Wern ac wedi cael sgwrs ar y ffôn cafwyd caniatâd i adgynhyrchu cynnwys yr erthygl yn Llygad y Ffynnon:-

Dyma atgofion Eric Roberts, sy’n 91 oed, ac wedi ymgatrtrefu yn Hatton, Swydd Derby ers yn ŵr ifanc, am Ffynnon Lord Boston ar Ros Glytir.

 Pan oeddwn yn blentyn yn 1936 cofiaf fynd i nôl dŵr mewn bwced i mam; y dŵr gorau i drin menyn yn yr hen gorddwr pren. Roedd y menyn yn galed, gaeaf a haf, ac rwyf wedi yfed chwartiau o’r dŵr; dŵr perffaith glir wedi ei godi o’r ffynnon, ond ar ôl ei ferwi yn troi yn goch. Mae’n debyg mae’r sulphur oedd wedi achosi hyn. Mae’r adeilad wedi altro’n arw ers pan wyf fi’n ei gofio wrth gerdded bob dydd trwy Rhos Glytir i Ysgol Penrhos.”

Dyma erthygl Mair:

Yn sicr bu amryw o drigolion Penrhos yn yfed y dŵr llesol o’r Ffynnon Goch ar Ros Glytir ers cyn cof. Mae’n debyg bod fy nheulu wedi cario dŵr ohoni ymhell cyn i’r muriau gael eu codi. O’i hamgylch felly’r Ffynnon Goch oedd hi i ni yn Nhyddyn Main. Cariai fy nhaid, William Owen (1847-1932) ddŵr ohoni’n rheolaidd ac yn ôl bob sôn roedd yn hen ŵr prysur a sionc a fu farw’n sydyn yn 90 oed. Y diwrnod cynt dringodd i ben ystol yn ddidrafferth i lifio brigau coeden oedd yn taflu gormod o gysgod dros yr ardd.

Llwydiaid Llugwy oedd tirfeddianwyr y rhan helaethaf o blwyf Penrhosllugwy o’r canol oesoedd hyd nes i’r olaf o’r teulu, Thomas Lloyd, orfod gwerthu ei etifeddiaeth oherwydd trafferthion ariannol yn 1741. Prynwyd y stad gan yr Arglwydd Uxbridge, yr hwn a’i gadawodd i’w nai, Syr William Irby a gafodd ei urddo’n Arglwydd Boston y cyntaf.

Yn 1864 cododd George Ives Irby, y 4ydd Arglwydd Boston, furiau caerog o amgylch yr hen ffynnon gyda drws trwm a handlen fawr gron i godi’r clicied. Gosododd blac uwch ben y drws ac arno,

                                                SULPHUR WELL

                                                    “BOSTON”

                                                        1864

Dyddiau cyn Nadolig 1869 bu farw yn ei gartref yn Llundain yn 67 mlwydd oed ac ar ôl ei farwolaeth etifeddodd ei fab, Florence George Irby y teitl. Cafodd y 5ed  barwn yr enw ‘Florence’ am iddo gael ei eni yn y ddinas honno yn yr Eidal  a chariwyd yr enw ymlaen o genhedlaeth i genhedlaeth. Roedd y 6ed barwn, George Florence Irby, yn ŵr amryddawn, yn wleidydd ac yn wyddonydd a chymerai ddiddordeb mewn archaeoleg, natur a llawer mwy. Bu’n Llywydd Cymdeithas Hynafiaethwyr Naturiaethwyr Môn a’i sefydlu yn 1912 tan ychydig cyn ei farw yn 1941. Yn dilyn ei farwolaeth bu rhaid gwerthu’r rhan fwyaf o’r stad. Ar y cynllun arwerthiant yn 1945 nodir safle’r ffynnon fel chalybeate spring, a dyna ydyw, mae dŵr y ffynnon yn sicr yn cynnwys haearn. Yn ôl ei arogl efallai’n wir fod ynddo rhywfaint o swlffwr yn ogystal, a phwy a ŵyr beth arall.

Ar ddechrau’r Mileniwm aeth heibio darganfyddodd y Rhufeiniaid ddŵr iachusol yn Nhrefriw – dŵr chalybeate. Ar wahan i’r haearn sydd yn y dŵr hwnnw mae llawer iawn o fwynau ac elfennau hybrin sydd yn llesol i ngorff a meddwl dyn. Bellach mae’n cael ei ddefnyddio ym mhob cwr o’r byd.

Mae dŵr Ffynnon Boston yn gryfach o lawer ei flas ond nid yn gryfach ei arogl na dŵr Trefriw. Beth bynnag yw ei gynnwys mae’n amlwg bod ei yfed wedi cadw fy nhaid a fy ffrind bore oes, Eric Glytir, yn heini yn eu henaint.

Gresyn bod y ffynnon mewn cyflwr rhy ddrwg erbyn hyn i ddyn nag anifail yfed ohoni.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 40 Haf 2016 

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

  Home Up