Home Up

PENEGOES

ger MACHYNLLETH

 

 

FFYNHONNAU PENEGOES  

(SH767009)

Wrth deithio drwy bentref Penegoes tuag at Fachynlleth ar yr A489 dowch at yr eglwys ar fin y ffordd ar y dde a chyferbyn iddi mae blwch postlo a giat i fynd i mewn i'r cae. Yn y cae hwnnw, rhyw ganllath i gyfeiriad Machynlleth, gyferbyn ag adeilad a fu unwaith yn ysgol, mae dwy ffynnon. Cafodd y ddwy eu glanhau gan gymdeithas hanes leol yn ystod wythdegau'r ganrif ddiwethaf. Codwyd tua 24 tunnell o faw a phridd ohonynt a dechreuodd y dŵr lifo unwaith eto, Mae waliau isel o gwmpas y ffynhonnau ac mae'n bur debyg fod to o bren wedi eu cysgodi ar un adeg. Mae grisiau yn arwain i lawr at y dŵr. Bu cryn gyrchu atynt ar un adeg. Dywedir bod dŵr un ffynnon yn oerach na dŵr y llall. Tua dwy droedfedd yw dyfnder y dŵr.

Buom yn ymweld â'r ddwy ffynnon yn ystod yr haf a chael fod drain a mieri wedi eu gorchuddio'n llwyr. Maent yn hawdd i'w darganfod gan fod ffens o bren taclus wedi ei chodi o'u cwmpas. Unwaith roedd modd mynd atynt o'r ffordd fawr a'r man yn y clawdd lle bu'r adwy bellach wedi ei gau, ond yn weladwy o hyd. Mae'r ffordd sy'n mynd heibio iddynt yn un brysur a hawdd deall pam y caewyd yr adwy. Gallai'r ffynhonnau hyn fod yn fodd i ddenu twristiaid i'r ardal. Tybed a oes un o ddarllenwyr Llygad y Ffynnon yn gwybod â phwy ddylem gysylltu er mwyn ysgogi'r gymdeithas leol i adfer y ffynhonnau hyn?

 

Mae'r eglwys ym Mhenegoes wedi ei chysegru i Cadfarch Sant ac enw'r cae y tu ôl i'r ffynhonnau yw Erw Cadfarch. Yn ol Lives of the British Saints gan Baring­-Gould a Fisher, a gyhoeddwyd yn 1908, mewn dogfen o'r plwyf wedi ei dyddio 1687 ceir cyfeiriad at Ffynnon Gadfarch a dywedir ei bod yn dda am wella'r crudcymalau. Mae dirgelwch yma. A'i un o'r ddwy ffynnon ger y ffordd fawr yw Ffynnon Cadfarch, ynteu a'i ffynnon arall yw hi?

LLYGAD Y FFYNNON RHIF 13 NADOLIG 2002

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff

 

Home Up