PEN DRAW LLŶN
HEL FFYNHONNAU
Eirlys Gruffydd
Yn ystod mis Awst eleni bu Ken a minnau yn ymweld â nifer o ffynhonnau ardal Mynydd y Rhiw, Llŷn, yng nghwmni Wil Williams, Ardd Las, Rhoshirwaun, un o selogion ein cymdeithas. Mae Wil yn adnabod ei filltir sgwâr yn arbennig o dda a braint i ni oedd ei gael i'n cyfarwyddo a'n haddysgu am ardal mor arbennig. Aeth â ni gyntaf i ymweld a FFYNNON SAINT, BRON LLWYD, MYNYDD Y RHIW. (Os cofiwch bu Wil yn sôn am y ffynnon hon yn y rhifyn blaenorol.) O fuarth Bron Llwyd mae'r llwybr yn codi'n serth i fyny ochr y mynydd. Yna, wedi cerdded drwy'r goedwig, daethom i ddarn agored lle oedd y tir wedi ei glirio a cherrig anferth ar y llethr uwchben yn edrych yn fygythiol o ansicr. Wrth ddilyn wal gerrig fendigedig, na welodd olau'r haul ers rhai degawdau, daethom yn nes at y ffynnon. Roedd Jac Codi Baw wrthi yn clirio'r coed o gwmpas y safle ac ofnais am funud ei bod yn rhy hwyr a bod rhan arall o'n hetifeddiaeth wedi syrthio'n ysglyfaeth i Famon ein dydd. Yn ffodus, roedd y gyrrwr yn gwybod am fodolaeth y ffynnon ac mae'n ddigon diogel. Yn wir, mae llwybr cyhoeddus yn arwain drwy'r goedwig i fyny o'r ffordd fawr ger traeth Porth Neigwl, heibio i Dy'n y Parc ac i fyny'r llethr at y ffynnon. Yna mae'r llwybr yn mynd ar hyd ochr y llethr cyn troi i lawr i fferm Bron Llwyd.
Roedd tipyn o dyfiant yn y ffynnon ei hun ac o'i chwmpas,
ond wedi awr neu ddwy o waith caled - Wil oedd yn gweithio galetaf - gallem weld
ei phensaernïaeth yn glir. Mae'r dŵr yn cronni ynddi wrth ddod i lawr y
llethr, yna mae'n goferu o'i gwaelod ac yn llifo i nant sy'n llithro'n dawel
drwy dywyllwch y coed pîn gydag ochr y llethr. Gellir mynd at y dŵr yn y
ffynnon i lawr grisiau cerrig o ddau gyfeiriad. Roedd y dŵr yn y ffynnon yn
fas am fod y gofer yn gwbl agored. Pe byddem wedi symud un garreg wrth geg y
gofer byddai'r ffynnon wedi llenwi a dwr yn fuan. Roedd yn amlwg bod lefel y dŵr
yn gyffredinol yn llawer uwch nag ydoedd y diwrnod hwnnw am fod llinell glir ar
y gwaith cerrig o amgylch y ffynnon yn dangos i lle y byddai'n arfer cyrraedd.
Mae'r muriau o gwmpas y ffynnon yn rhyfeddol ynddynt eu hunain am eu bod yn ddwy
droedfedd o drwch a phedair troedfedd o uchder, a'r ffynnon ei hun yn mesur naw
troedfedd sgwâr. Yn ôl Myrddin Fardd byddai merched yr ardal yn dod at y
ffynnon bob dydd Iau Dyrchafael i olchi eu llygaid ac i daflu pin i'r ffynnon
fel arwydd o ddiolchgarwch. Rhaid cyfaddef na fu neb yn chwilio yn y baw ar ei
gwaelod am binnau. Wrth adael y ffynnon teimlodd y tri ohonom mai da oedd i ni
fod yno a'n bod wedi gadael ein hôl ar y lle. Yn sicr, mae'n ffynnon gwerth
ymweld â hi. Diolch i Wil am ein harwain yno; ni fuasem byth wedi mentro
hebddo.
Wedi inni fwynhau'n cinio wrth edrych ar yr olygfa
fendigedig a dyfroedd Porth Neigwl o ben Mynydd y Rhiw, aeth Wil â ni i weld
nifer o ffynhonnau oedd wedi diwallu anghenion yr ardal dros y cenedlaethau. Mae
FFYNNON ROFYR ar y llechwedd islaw'r mast ar ben y mynydd a'i dŵr yn llifo
i lawr i Tyddyn. Oddi yno gellir edrych draw i gyfeiriad Rhoshirwaun a Rhydlios.
Ffynnon gwbl naturiol yw hon ond roedd arwyddion fed rhywun wedi ceisio glanhau
o'i chwmpas yn gymharol ddiweddar gan fod tyweirch wedi eu codi a'u gosod ger y
ffynnon. Roedd y cerrig ar un ochr iddi wedi dymchwel hefyd. Dyfnder y dŵr
ynddi oedd wyth modfedd ac roedd yn mesur tua thair troedfedd ar draws i bob
cyfeiriad.
Ar ôl gadael y mynydd gyda'i gwrlid grug ac eithin
bendigedig, aeth Wil â ni i weld FFYNNON
CONION. Ffynnon a fu unwaith yn
diwallu angen nifer o aneddau cyfagos oedd hon. Roedd llechi gleision wedi codi
o'i chwmpas a'i maint yn rhyw ddwy droedfedd sgwâr. Yn y gorffennol roedd caead
o lechen wedi bod dros y ffynnon ac roedd modd ei godi er mwyn cael dŵr
ohoni. Bellach mae'r ffynnon wedi ei llanw a cherrig ond mae'r dŵr yn dal i
lifo'n araf ohoni gan wneud y tir o'i hamgylch yn wlyb a chorsiog.
Rhaid oedd gadael y tir uchel a mynd i lawr i Lanfaelrhys i
weld FFYNNON NANT GADWAN. Roedd y ffynnon i'w gweld o dan yr inclên a godwyd
drosti gan y gwaith manganîs o ddeutu 1902-1903. Yna drwy Aberdaron heibio i
FFYNNON SARN Y FELIN a adnewyddwyd yn ddiweddar ac y cyfeiriwyd ati yn rhifyn yr
haf, ac i weld FFYNNON SAINT. Mae'r ffynnon ar groesffordd ar y lôn allan o
Aberdaron sy'n mynd i gyfeiriad Mynydd Anelog. Byddai wedi bod yn amhosib
darganfod union leoliad y ffynnon heblaw fod arwydd yn dynodi'r fan ar fin y
ffordd. Mae'r ffynnon ei hun i'w gweld wrth ddilyn llwybr drwy ganol tyfiant
uchel. Gosodwyd caead trwm dros y ffynnon er diogelwch ond mae'n bosib ei godi a
gweld ei phensaernïaeth. Mae ar ffurf llythyren D ac yn dair troedfedd o led.
Dros y blynyddoedd mae Wil wedi annog y Cyngor i warchod y ffynnon a bellach mae
wedi ei diogelu. Yn ôl traddodiad, yma y gorffwysai'r mynaich i dorri eu syched
am y tro olaf cyn croesi i Enlli ac mae'n ffynnon gwerth ymweld â hi.
Yn llawer rhy fuan daeth ein diwrnod ym Mhen Llŷn i
ben. Diolch i Wil Williams am ein tywys, a diolch iddo am ei holl waith yn nodi
a diogelu ffynhonnau ei fro. Byddai cael aelodau eraill tebyg iddo yn gaffaeliad
mawr i'n cymdeithas.
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc