Home Up

Pendeulwyn

 

‘Heb Ddŵr, Heb Ddim’

 Ffynhonnau Caerdydd a’r Cylch

        Robin Gwyndaf

 

(Rhan o darlith a draddodwyd ym Mhabell y Cymdeithasau yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd,

7 Awst 2018. Cadeirydd: Eirlys Gruffydd-Evans; Trefnydd a Chyfieithydd: Howard Huws.)  

 

Ffynnon Deilo

Cyfeirir at y ffynnon hon, er enghraifft, gan Francis Jones yn ei gyfrol arloesol, The Holy Wells of Wales (1954, 1992). Ei lleoliad yw hanner milltir i’r de ddwyrain o bentref Pendeulwyn.10  

10.         Holy Wells of Wales, t. 181.  

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff

 

Ffynnon yr Hebog

Enw arall arni ydoedd ‘Ffynnon y gwalch glas’. Ni wn paham y gelwir y ffynnon hon yn Ffynnon yr Hebog. Cyfeirir ati, er enghraifft, gan Thelma a Barry Webb, Llanhiledd, Gwent, yn eu casgliad oes o dystiolaeth am ffynhonnau Cymru. Yr unig air a gofnodwyd ganddynt i’w disgrifio yw ‘healing’.9

9.      Gw. cardiau mynegai Thelma a Barry Webb, adran Sir Forgannwg. Cawsant yr wybodaeth

               gan ‘Mr Williams’, 1 Heol Sant Catwg, Pendeulwyn

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 48 HAF 2020

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff

 

Home Up