Home Up

PEN-RHYS

RHONDDA  

FFYNNON FAIR, PEN-RHYS-

 Dewi E. Lewis

 

Saif Ffynnon Fair ar lethrau mynydd Pen-rhys, Cwm Rhondda. Dros y ffynnon saif adeilad carreg tua saith troedfedd o led, deuddeg troedfedd o hyd a deg troedfedd o uchder. Er mwyn mynd i mewn i'r ffynnon rhaid crymanu'ch cefn drwy fynedfa pedair troedfedd o uchder. Mae'r waliau y tu mewn wedi eu gwyngalchu ac yno ceir dau faddon. Yn y gornel bellaf ar y dde ceir baddon llaw, troedfedd sgwâr. I'r baddon yma mae dŵr y ffynnon yn llifo. Mae gorlif o'r baddon yma yn llifo i faddon llawer mwy sydd gyferbyn a wal chwith yr adeilad. Mae'r baddon yma tua thair troedfedd o led a phum troedfedd o hyd. Mae'n bosibl eistedd i mewn yn hwn. O gwmpas y baddon ceir y geiriau:

BAPTIZE

HOLY SPIRIT FIRE

Wrth droed y baddon ceir plac yn dwyn y geiriau

YOU ARE

STANDING ON THE

HOLY

GROUND

Tu allan i'r adeilad ceir baddon llaw arall ar ffurf croes sydd yn dal dŵr 'gofer' o'r baddon mawr y tu mewn. Dywedir i ddyfroedd y ffynnon ddechrau llifo'n wyrthiol o ochr mynydd Pen-rhys tua chanol y bymthegfed ganrif. Yr un mor wyrthiol ymddangosodd delw o'r Forwyn Fair a'r baban Iesu yn ei breichiau mewn cangen o dderwen gerllaw'r ffynnon, a daeth y ddelw yn enwog drwy'r wlad. Cyrchai tyrfaoedd at y ffynnon i geisio iachâd. Ceir nifer o gerddi a gyfansoddwyd yn y cyfnod oddeutu 1460 -1535 sy'n tystiolaethu i bwysigrwydd Ffynnon Fair, Pen-rhys. Mae'r cerddi yn dangos yn glir bwysigrwydd y ffynnon oherwydd honnid fod i'r dŵr y gallu i wella pob math o glefydau a gwendidau, yn rhai corfforol ac ysbrydol. Soniodd Gwilym Tew (c. 1470-80) am y ffynnon fel hyn:

Ym Mhen'rhys araul, mewn rhos irwydd,

Y dianafir pob fyn afiach,

a chanodd Llywelyn ap Hywel ab Ieuan ap Goronwy (c. 1460-70):

Rhoi clywed a dywedyd

Y mae i fyddar a mud.

Aet dall i gyty a hon,

O’i phlegid caiff olygon.

Canodd Lewys Morgannwg (c. 1520 - 35) amdano'i hun yn mynd i Ben-rhys:

Mawr yw 'maich, Mair, am iechyd, Mwy na baich mwya'n y byd:

Dyn a ddaliwyd dan ddolur

Fu' n dwyn poen wyf, yn dan pur.

Cyn y Diwygiad Protestannaidd roedd Pen-rhys yn eiddo i Abaty Llantarnam, ond yn 1537 trosglwyddwyd perchnogaeth yr abaty i'r Goron a daeth y tir yn eiddo i John Parker o'r Stablau Brenhinol. Roedd y ddelw enwog yn dal yno'r adeg honno. Ar 23 Awst, 1538, gorchmynnodd Thomas Cromwell i William Hirbarhaet symud y ddelw mewn modd mor gyfrinachol â phosib, gan yr ofnid y byddai gwrthdystiad cyhoeddus yn erbyn ei chludo o Ben-rhys. Ar 26 Medi cariwyd y ddelw a'r dillad a wisgai i Lundain i'w llosgi. Nid oedd modd cael gwared â'r ffynnon, fodd bynnag, a daliodd y dyfroedd sanctaidd i ddiwallu anghenion y werin am ganrifoedd wedi'r Diwygiad Protestannaidd.

Yn ystod cyfnod diweddarach bu'n arferiad i offrymu pin yn nŵr ffynnon Pen-rhys. Byddai'r offrymwr yn gweld o'r ffordd y newidiai'r pin ei liw yn y dŵr a fyddai ei gais yn llwyddiannus ai peidio. Yn ystod y ganrif ddiwethaf roedd ffermwyr yr ardal yn defnyddio dŵr y ffynnon i wneud menyn yn ystod yr haf. Yn 1947 adferwyd y ffynnon i statws swyddogol gan yr Eglwys Babyddol fel prif ysgrin y Forwyn Fair yng Nghymru. Ar yr achlysur hwnnw daeth tua 4,000 o Babyddion ar bererindod i Ben-rhys ac i brofi dŵr y ffynnon. Mae pobl yn parhau i gyrchu ati. Yn ddiweddar daeth merch ganol oed at ddrws gweinidog lleol i ofyn am botel o'r holy water: Roedd wedi cerdded o bentref cyfagos dan gyfarwyddyd ei mam a oedd yn ei nawdegau ac yn dioddef o gricymalau. Gobeithio mai hir y pery'r bobl i gyrchu at ddyfroedd y ffynnon.

Er mai hanes llewyrchus sydd i Ffynnon Fair Pen-rhys, mae gwir angen ei diogelu rhag bygythiadau dulliau modern o fyw. Pan ymwelais â'r ffynnon yn ddiweddar cefais gryn siom o'i gweld. Roedd y baddon mawr wedi ei lenwi â sbwriel; pren a cherrig. Ar hyd y llawr roedd chwistrellau ac arwyddion eraill bod cyffuriau yn cael eu defnyddio yno. Roedd graffiti hefyd wedi ymddangos ar y waliau. Dyma arwydd trist o gymhellion pobl yn ymweld â'r lle yn y dyddiau sydd ohoni. Fy mhryder mwyaf yw mai gwaethygu fydd y sefyllfa a chynyddu wnaiff yr amarch tuag at y crair hanesyddol ac ysbrydol arbennig yma. Ysgrifennais, fel unigolyn, at Gyngor Bwrdeistref y Rhondda i leisio fy siom, a gobeithio y bydd Y Cyngor, o dro i dro, yn mynd yno i lanhau'r llanastr. Cefais ateb ganddynt yn dweud "ni wyddys pwy sy'n gyfrifol am gadwraeth o'r tir hwn, naill ai'r Cyngor neu'r Eglwys Gatholig." Mae'r Prif Weithredwr am wneud ymholiadau pellach i geisio darganfod pwy sy'n gyfrifol am Ffynnon Fair. Os yw ffynnon mor enwog â hon o dan fygythiad fandaliaeth, a neb yn gwybod i sicrwydd pwy sy'n gyfrifol amdani, mae gwir angen cymdeithas fel Cymdeithas Ffynhonnau Cymru i ddiogelu'r ffynhonnau llai enwog a'u gwarchod heddiw ac i'r dyfodol.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 2 Haf 1997

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFYNNON FAIR

(Gweler Llygad y Ffynnon Rhif 2)

Bu Dewi Lewis, Cadeirydd y Gymdeithas, yn ymweld a Ffynnon Fair, Pen-rhys, yn ystod yr haf. Dyma adroddiad o’r hyn a ddarganfyddodd:

Es draw i weld Ffynnon Fair, Pen-rhys er mwyn cael gweld a oedd dirywiad yn ei chyflwr. Ces fy siomi ar yr ochr orau o weld bod y safle wedi ei dacluso. Nid i’r Cyngor nac i’r Eglwys Babyddol y mae’r diolch ond i aelodau Eglwys Llanfair, Pen-rhys. Cysylltodd y Parch John Morgan a’r Cyngor i geisio eu cael i lanhau’r safle ond ni chafwyd ymateb. Felly dyma gasglu mintai o blant a phobl ifanc at ei gilydd i ymgymryd a’r gwaith. Mae’r ddau faddon wedi eu glanhau a thu mewn i’r ffynnon wedi ei beintio o’r newydd. Gosodwyd tair mainc ar bwys y safle i nodi’r tri sant sy’n gysylltiedig a’r ardal sef Illtud, Gwynno a Tyfodwg. Maent wedi cael dwy bererindod at y ffynnon yn barod (mis Mehefin) ers y glanhau, a’r bwriad yw i bob pererindod blannu coeden yn agos i’r safle. Yn anffodus, oherwydd bod sbwriel wedi casglu yn y baddon am gyfnod, mae’r dwr wedi peidio a llifo i mewn i’r ffynnon, ac mae, yn hytrach, yn llifo allan ychydig yn is na’r ffynnon.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 5 Nadolig 1998

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Annwyl Olygydd

Mae yna gruglwyth o ddeunydd parthed hanes Ffynnon Fair, Pen-rhys, Rhondda. Ymysg rhai o'r coelion gwlad diweddar am y ffynnon hon y mae'r gred, a fu'n gryf yn meddwl y brodorion, mai gwyrthiol bron oedd y dŵr i wella anhwylderau'r stumog, hyd yn oed rhai difrifol megis canser. Diddorol hefyd yw'r ffaith y Thomas & Evans agor ffatri bop a fu'n defnyddio dŵr o'r un ffynhonnau â Ffynnon Fair, er nad oes dim tystiolaeth i ddangos bod y pop hwn yn amgenach na'r pop a wnaed â dŵr cyffredin.

John Evans, Tonpentre, Rhondda.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 10 Haf 2001

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

CYNHADLEDD I'W CHOFIO

Aeth Howard Huws a Ken ac Eirlys Gruffydd i’r gynhadledd ar ffynhonnau a gynhaliwyd ym mhrifysgol Llanbedr Pont Steffan dros benwythnos 11-12 o Fedi.

Yn dilyn clywyd am  ymweliad Well Springs yng nghwmni Dr Maddy Grey â Ffynnon y  Forwyn Fair Fendigaid, Crugwyllt (SS803869), ffynnon â chysylltiad agos gydag Abaty Margam yn sir Forgannwg.  Ceir cyfeiriad at y ffynnon mewn dogfen a ddyddiwyd 1470. Mae adeiladwaith y ffynnon yn awgrymu i’r gwaith cerrig gael ei greu ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae’n bosib mai to  gwellt oedd dros y ffynnon yn wreiddiol ond  yn ddiweddarach codwyd to o gerrig a’i doi a llechi mawr fel y ceir ar loriau tai. Baddon ar siâp llythyren L sydd gan y ffynnon ac mae nifer o risiau yn mynd i lawr at y dŵr. Gwyddom fod bedydd wedi ei gynnal yng nghapel y ffynnon yn 1891, y gwasanaeth yn y Gymraeg ac yn nhraddodiad yr eglwys Gatholig. Mae’n bosib mai ymgais i greu canolfan i bererindodau tebyg i’r hyn oedd yn digwydd wrth Ffynnon Fair, Pen-rhys, sydd yma.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 29 Nadolig 2010

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Crybwyllir FFYNNON FAIR, PEN-RHYS mewn erthygl gan Howard Huws dan y teitl

FFYNHONNAU SANCTAIDD CYMRU

Lluniodd yr Arglwydd Gymru’n wlad fryniog â’i hwyneb tuag awelon Iwerydd, gan ei bendithio â glaw a dyfroedd croywon lawer. Cynysgaeddwyd hi hefyd ag etifeddiaeth Gristnogol helaeth, felly ni ddylid synnu fod ffynhonnau sanctaidd mor amlwg yn y dirwedd ddaearol ac ysbrydol. Hyd yn oed o gyfyngu diffiniad “sanctaidd” i’r rhai y gwyddom y perchid ac y defnyddiwyd hwy yn enw Duw, Ei Fam a’i saint, mae yma sawl can ffynnon o’r fath, gydag ymchwil dyfal yn dwyn rhagor fyth i’r amlwg.1 Er eu dirmygu gynt yn wrthrychau ofergoeliaeth, maent bellach yn destunau diddordeb cynyddol. Rhaid wrth ddŵr croyw, ond y mae’n drwm ac yn anodd ei gludo. O’r herwydd, rhaid byw o fewn cyrraedd cyfleus i ffynhonnell ddigonol a dibynadwy, nad oes iddi flas neu aroglau annymunol, na thuedd i achosi salwch.

Y cysegriad mwyaf niferus, fodd bynnag, yw i’r Forwyn Fair. Ceir ei ffynhonnau hi ledled y wlad, ac yn arbennig yn y gogledd-ddwyrain a’r de-orllewin. Efallai’n wir y gallai hyn adlewyrchu cysegru neu ailgysegru tan ddylanwad Eingl-normanaidd, yn enwedig adeg y cynnydd mawr ym mhoblogrwydd Mam Duw yng ngorllewin Ewrop yn ystod y ddeuddegfed ganrif a’r drydedd ar ddeg. Ceir ei ffynhonnau, fodd bynnag, mewn ardaloedd tan reolaeth frodorol, fel yn achos yr enwocaf ohonynt, Pen-rhys yn y Rhondda. Mae Andrew Boorde, gan ysgrifennu yn yr unfed ganrif ar bymtheg, yn crybwyll cariad mawr y Cymry at y Fair Wyryf.21  

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 30 Haf 2011

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL

Cafwyd darlith arbennig iawn gan Angela Graham ar y testun Ffynnon Fair, Pen-rhys-Porth y Nefoedd.  Disgrifiodd beth sy i’w weld ym Mhen-rhys. Mae’r cerflun carreg o Fair o Ben-rhys yn amlwg i’w weld gerllaw’r ffynnon (ST4987) a’r adeilad carreg ddiaddurn sy drosti. Yn y Canol Oesoedd roedd y ffynnon yn fan pwysig iawn a llawer o gyrchu ati. Cofnodwyd ei hanes mewn corff o farddoniaeth sy wedi goroesi. Daeth y fan i enwogrwydd ar ôl i ddelw bren o Fair yn dal y plentyn Iesu ymddangos yn wyrthiol yng nghanghennau derwen ac nid oedd modd ei symud oddi yno. Adeiladwyd capel ar ei chyfer. Bu gwyrthiau’n digwydd ar ôl ymdrochi yn y ffynnon- y deillion, y mud a’r byddar, rhai wedi eu parlysu a’r rhai a chornwydon arnynt i gyd yn cael iachâd .Yna rhoddwyd y gorchymyn yn 1538,  gan Harri’r Wythfed, i ddinistrio’r gysegrfa fel man lle'r oedd arferion ofergoelus yn cael eu harfer. Aed a’r ddelw i Lundain i’w llosgi ynghyd â delwau eraill o brif gysegrleoedd Mair ym meili tŷ Thomas Cromwell yn Chelsea. Bu’r safle mewn dinodedd tan 1953 pryd y codwyd y cerflun Ein Harglwyddes o Ben-rhys, sy’n ddwy ar bymtheg troedfedd o uchder. Daeth miloedd ar bererindod i weld y cerflun a daeth yn fan sanctaidd unwaith eto. Adferwyd tŷ’r ffynnon gan Gyngor Bwrdeistref Rhondda ym 1977. Agorwyd eglwys rhyngenwadol  Llanfair ym 1989. Gerllaw’r ffynnon a’r cerflun mae stad enfawr o dai cyngor. Bu yma broblemau cymdeithasol dyrys, ond bellach, wrth i Ben-rhys ddatblygu yn safle o bwys ysbrydol unwaith eto magwyd hyder a hunan barch yn y trigolion. Gall Pen-rhys fod yn borth i’r dwyfol ac i’r gwirioneddol ddynol ar yr un pryd. Daeth y pererinion yn dwristiaid . Ym mis Mai 2010 cyhoeddwyd adroddiad gan Bartneriaid Pen-rhys ac mae’n argymell gwella’r mynediad at adeilad y ffynnon. Bydd hyn yn adfer y safle i'w briod le megis man iachau, man heddwch a man gwerth pererindota ato, man i’w drysori gan bobl o bob ffydd a rhai di-gred. Daw’r ffynnon felly yn Borth y Nefoedd unwaith eto.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 33 Nadolig 2012

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

PYTIAU DIFYR

Y FFYNHONNAU gan Rhydwen Williams

Gwrandewch:

Mae gorfoledd dyfroedd yn fy nghlustiau heno,

Yr Ynys-wen, Ynysfeiro, yr Ynys-hir,

Yr holl ffordd o Eglwysilan,

a’r ffynnon wylaidd ar Ben Rhys

mor hardd â gem ar ddwyfron

yn dal i foli Mair

Mae’r ffynhonnau’n fyw.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 34 Haf 2013

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up