Home Up

PATRISW

 

 

YMWELD PHEDAIR FFYNNON

gan Howard Huws

 

Ffynnon Isw, Patrisw (SO 2777 2238)

Wrth i chi yrru hyd y ln i Batrisw, o gyfeiriad y Fenni, ceir tro sydyn ir dde yn union cyn dringor rhiw ir eglwys ei hun. Yng nghesail y tro hwnnw, ar ymyl coedlan gonwydd, ceir Fynnon Iws. Gellir gadael y car wrth y drofa, a chroesir ln at y darddell.

 

Dywedir mai yma y safai cell wreiddiol Isw Sant, ac y maen amlwg fod gan rywrai meddwl mawr or ffynnon hon. Mae yna waith cerrig yn ei hamgu ai thoi, ac addurnir yr adeiladwaith hwn ag amryw drugareddau: croesau wediu llunio o frigau; darnau arian (rhwng y cerrig, mewn potyn bach, ac yn y dŵr ei hun); mwclis a phaderau, a braich doli blastig. Gellir esbonior mwyafrif ohonynt. Hen arfer, er enghraifft, yw gadael wrth ffynnon lun neu fodel or rhan hwnnw or corff y dymunir ei hiachau: ond allwn i ddim esbonior pen ci tegan meddal syn syllu allan o gilfach rhwng y cerrig, onid y gobeithir bod Iswn barod i eiriol ar ran anifeiliaid anwes, hefyd.

Atgyweiriwyd y ffynnon yn o ddiweddar gan gybiaid lleol, tan arweiniad oedolion goleuedig. Byddain well oi glanhau drachefn, ond ni fyddai hynnyn waith mawr. Enwr ffrwd syn llifo or ffynnon yw Nant Mair. Dywedir fod y sant wedi ei ladd gan deithiwr oedd wedi derbyn croeso a chynhaliaeth ganddo yn ei gell syml. Ymwelodd Richard Fenton r ffynnon yn 1804 gan ddisgrifior mannau arbennig yn y muriau lle gadewid gwrthrychau oedd wedi eu hoffrymu ir sant. Diddorol yw sylwi bod yr arfer yn dal hyd heddiw.

Nododd Fenton hefyd bod yno gwpanau i godir dŵr or ffynnon er mwyn yfed ohoni. Roedd bri mawr ar y ffynnon yn y dyddiau a fu fel man lle gellid derbyn iachd o amrywiol afiechydon. Mae hefyd Ffynnon Fair ym mhlwyf Patrisw ond nid yw ei lleoliad yn hysbys ar hyn o bryd.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 29 Nadolig 2010

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up