Home Up

Penmon

 

Crybwyllir Ffynnon Seiriol, Penmon mewn erthygl gan Howard Huws dan y teitl

FFYNHONNAU SANCTAIDD CYMRU

Hyd yn oed pe bai’r pinnau a’r cerrig hyn yn weddillion hen draddodiadau paganaidd, nid yw parhad arfer yn golygu parhad cred. Gosodwch bwll dŵr yn unrhyw le cyhoeddus, ac ymhen pum munud bydd pobl yn dechrau taflu arian mân iddo: ond ni honnai neb fod hynny’n dystiolaeth eu bod yn addoli duw’r dyfroedd.12 Nid yw’r un o ffynhonnau sanctaidd Cymru’n tystio fod addoli wedi pontio’r agendor rhwng paganiaeth a Christnogaeth, ac ni chanfu archeolegwyr yr un dim i’r perwyl hwnnw.13 Nid na delw, nac arysgrif, nac offrymau, nac unrhyw dystiolaeth gadarn ynghylch cysylltiad “cwlt y pen” honedig â ffynhonnau.14 Gallai hyd yn oed taflu arian i ddŵr fod yn gymharol ddiweddar yma, yn arfer a ymledodd yma yn ystod y Canol Oesoedd.15 Hwyrach nad yw ond yn ffurf ar yr offrymau ariannol a gyflwynid i gysegrfeydd Cristnogol, gan gynnwys ffynhonnau, cyn i Brotestaniaeth ymsefydlu yma.16

FFYNNON SEIRIOL, PENMON EFO ARIAN YNDDI.

12. Teflir hwy i bwll pengwyniaid Sŵ Bryste, hyd yn oed. Diddorol fydd adroddiad archwiliad archeolegol i’r safle yn y dyfodol pell: “Pengwyn-addoliaeth yn Lloegr yr Unfed Ganrif ar       Hugain: Ymateb i Gynhesu Byd-eang?”.     

13. Ychydig ffynhonnau sanctaidd Cymru a archwiliwyd gan archeolegwyr, hyd yn hyn. O’r rhai hynny (Ffynnon Degla yn Llandegla; Ffynnon Seiriol ym Mhenmon, a Ffynnon Feuno yn Aberffraw), ni chanfuwyd dim ond haen o gerrig cwarts a chalsit gwynion yn  Llandegla.

14. Cynhwyswyd penglog ddynol yn fwriadol yn leinin ffynnon Rufeinig yn Odell, Swydd Rydychen, a chyrff pedwar baban, dau ohonynt heb bennau, yn adeiladwaith cysegrfa ffynnon Frythonaidd-rufeinig yn Springhead, Caint. Gw. Rattue, James: Holy Wells and Headless Saints, yn http://people.bath.ac.uk/liskmj/living-spring/sourcearchive/ns5/ns5jr1.htm Rhan anhepgor o’r ddefod iacháu yn Ffynnon Deilo, Llandeilo Llwydiarth, oedd yfed dŵr y ffynnon o benglog ddynol, sef yr eiddo Teilo Sant, yn ôl y gred. Gweler, fodd bynnag, erthygl T. G. Hulse, “St Teilo and the Head Cult”, yn Source, Cyfres Newydd 2, Gaeaf 1994. Gan wfftio’r “cwlt y pen” paganaidd honedig a gysylltir â ffynhonnau, trafoda Hulse adroddiad llygad-dyst cwbl Gristnogol, o Gymru’r Canol Oesoedd, ynghylch iacháu trwy yfed dŵr a gynhwysai bridd o’r union un benglog. Wedi cryn deithio (gan gynnwys cyfnod yn Awstralia), mae’r benglog, bellach, ymhlith creiriau Eglwys Gadeiriol Llandaf. Ni chyfyngid yr arfer hon i benglogau’r saint: gweler gwaith Francis Jones uchod am gyfeiriad at geisio gwella’r pâs yn       Nolgellau trwy yfed o benglog uchelwr canoloesol.

15. Am enghraifft arall o symudedd defodau, ystyried Ffynnon Drillo uchod, a nodyn 30 isod.  Mae cywydd o’r bymthegfed ganrif gan Hywel Rheinallt yn crybwyll offrymu darn arian  plygedig wrth fedd Cawrdaf Sant yn Aber-erch: ond fel y dywedwyd eisoes, gallai offrymu  arian mewn ffynhonnau fod yn arfer cymharol ddiweddar.

16. Fel yn Ffynnon Beris, Llanberis; Ffynnon Eilian, Llaneilian, ac ati.

 

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 30 Haf 2011

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up