BOSHERSTON
PYTIAU DIFYR
Diolch i Emrys Evans, Blaenau Ffestiniog, am y darn hwn o Baner ac Amserau Cymru, 14 Ionawr, 1874, tud 7. (Cadwyd at y sillafu gwreiddiol).
FFYNNON SANT GAWEN
Ar draeth de-orllewinol Sir Benfro, y mae capel a elwir yn ôl Sant Gawen, yr hwn, fe ddywedir, a'i hadeiladodd, ac a breswyliai mewn cell fechan a dorasid yn y graig yn y pen dwyreiniol o hono.
Rhwng y capel a'r môr, ac yn agos i derfyn llawn llanw, y
mae ffynnon o ddwfr croew, yr hon hefyd a ddwg enw Sant Gawen. At hon aml
gyrchai morwyr, ac yn ddieithriad derbynient groesaaw a chymorth gan y gŵr
da.
Ond perthynai i'r capel y pryd hynny y neilltiolrwydd o gloch arian; ac ar ryw brynhawngwaith tawel yn yr haf, daeth cychiad o ddynion a'u bryd ar ei thrawsfeddiannu. Yn ddiystyr o barchedigaeth y lle, ac o letygarwch y preswylydd, rhyddasant y gloch o'r tŵr, a chludasant hi i'r cwch. Ond nid cynt y gadawsant y lan nag y cyfododd tymestl gerth, yr hon a suddodd yr ysbeilwyr yn y fan; ac ar yr un ennyd, drwy foddion anweledig, y gloch a gymerwyd ymaith ac a gladdwyd oddi fewn i garreg fawr a orweddai ar fin y ffynnon. Hyd heddiw, pan darewir y garreg, clywir acenion ariannaidd a thyner gwynfan y gloch.
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
PYTIAU DIFYR... PYTIAU DIFYR...PYTIAU DIFYR
Yn y gyfrol
The County Coast Series – The South Wales Coast, gan Ernest Rhys a gyhoeddwyd yn 1911, ceir cyfeiriadau am nifer o ffynhonnau ardaloedd yr arfordir yn siroedd Mynyw, Morgannwg, Caerfyrddin a Phenfro. Mae ei sylwadau yn rhoi darlun i ni o gyflwr y ffynhonnau hyn ganrif yn ôl.Bosherton - Ffynnon Gofan.(SM 9692)
Yn sir Benfro mae’n nodi’r ffynnon yn Bosherton a
Ffynnon Gofan.(SM 9692)Mae’r ffynnon mewn capel bychan hanner ffordd i fyny’r clogwyn ger y môr. Dim ond rhywun ar ben ei dennyn ac yn barod i wneud unrhyw beth i wella o’i anhwylder a fyddai’n barod i fentro’r llwybr i’r ffynnon gerllaw’r capel a phenlinio yno mewn gweddi i’r sant, meddai.LLYGAD Y FFYNNON Rhif 27 NADOLIG 2009
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
‘…yn
enwog am Iacháu pob Clefyd…’
Saint
Govan’s Well yn ystod 350 mlynedd
Janet
Bord
Er bod tua 700 ffynnon
sanctaidd yng Nghymru, bach o gofnod sydd o’r mwyafrif ohonynt. Nid oedd y
corff mawr ohonynt ond yn hysbys yn eu bro: bach iawn ohonynt oedd yn wybyddus y
tu hwnt i’w plwyf, ac fel arfer ni feddyliodd neb am eu cofnodi pan oedd
defnydd arnynt. O ganlyniad anghofiwyd a chollwyd llaweroedd, heb adael rhagor o
gof amdanynt na hen enw cae. Ar hyn o bryd rwyf yn ymchwilio i holl ffynhonnau
seintiau Cymru: ffynhonnau seintiau, yn hytrach na’r holl ffynhonnau sydd ag
enwau arnynt, o ba rai y dichon fod sawl mil. Nid yw pob ffynnon neu sba sy’n
dwyn enw yn ffynnon sanctaidd: rhaid i ffynnon o’r fath ddwyn enw sant, neu
fod â rhyw gysylltiad crefyddol penodol. Nid oedd llawer o ffynhonnau ond yn
gyflenwadau dŵr lleol, ag enw personol, efallai (enw’r perchen neu’r
defnyddiwr, fel arfer), ond yn aml heb unrhyw draddodiadau.
Ychydig iawn o ffynhonnau
sanctaidd oedd ar lwybr ymwelwyr y 18fed ganrif a’r 19eg, heblaw am y rhai
enwog am ryw reswm penodol, megis ffynnon fwyaf adnabyddus a thrawiadol Cymru,
Ffynnon Wenffrewi yn Nhreffynnon yn Sir y Fflint, sy’n parhau i ddenu’r
afiach yn y gobaith o gael gwellhad, yn ogystal â llawer o bererinion Catholig
ac ymwelwyr anghrefyddol. Ymwelid, hefyd, â ffynnon a ddaeth yn ddrwg-enwog
oherwydd ei henw fel ffynnon felltithio, sef Ffynnon Elian yn Llaneilian-yn-Rhos
yn Sir Ddinbych, gan lawer o dwristiaid y 19eg ganrif yn ogystal â chan bobl
leol a gredent yn ddiffuant y gallai gelyn eu melltithio a’u “rhoi yn y
ffynnon”.
Ysgrifennodd twristiaid hefyd am
ffynhonnau hynafol ar lwybrau pererinion awgrymedig neu’n agos at gysegrfannau
saint pwysig, megis Ffynnon Feuno yng Nghlynnog Fawr yn Sir Gaernarfon: ond ni
ddenodd y mwyafrif o ffynhonnau lleol bychain fawr o sylw’r byd mawr y tu
allan. Yn y de cynhwyswyd un ffynnon fechan a dinod yr olwg yn nheithiau
twristiaid, yn bennaf oherwydd ei lleoliad dramatig, ac o ganlyniad mae
disgrifiadau o’r hyn a ganfu teithwyr yno wedi rhoi inni olwg ar sut y gall
hanes ffynnon sanctaidd ddatblygu a newid gyda’r blynyddoedd. Darganfûm hyn
pan osodais yn nhrefn amser yr holl ddisgrifiadau y gallwn eu canfod o’r hon a
elwir yn awr yn Saint Govan’s Well, ym mhlwyf Bosherston nid nepell o
Ddinbych-y-pysgod yn ne Sir Benfro.
Pwy oedd “Saint Govan”?
Y dirgelwch cyntaf, fel yn fynych
yn achos ffynhonnau saint, yw pwy oedd “Saint Govan”. “Govan” yw’r
sillafiad a welir amlaf heddiw, ond y mae sillafiadau eraill o’i enw yn
cynnwys “Sct. Gouen” (y cynharaf y canfûm i, ar fap Sir Benfro 1578
Saxton); hefyd Gowan (ar fap Arolwg Ordnans 1868, e.e.), Gowen, Goven, Gofan a
Gobin. Efallai y’i ganed tua’r flwyddyn 500 ac y mae’n bosibl y
bu’n ddisgybl i Eilfyw, y sant o Sir Benfro a fedyddiodd Dewi Sant, ac y
dywedir (er yn anghywir) ei fod yn Wyddel, ac yn un â Sant Ailbe o Emly, esgob
Gwyddelig enwog. Mae’n bosibl ei fod yn nai i Ddewi hefyd, gan y dywed un
ffynhonnell mai chwaer Dewi oedd ei fam.
Bu Gobhan yn wael ar y cwch, gan
farw a byw drachefn, digwyddiad a ddangoswyd, fe ymddengys, ar un o’r
misericordiau yng nghadeirlan Tyddewi. Mae’n debygol, fodd bynnag, mai dau
ddyn cwbl wahanol oedd Govan/Gobin a Gobhan, ac y rhagdybiwyd yn ddiweddarach
mai’r un un oeddent oherwydd tebygrwydd eu henwau a chyfuno’r ffynonellau.1
(I’w pharhau.)
Nodiadau
[1] Trafodir hunaniaeth St Govan yn S. Baring-Gould a John Fisher, The Lives of the British Saints (London, 1907, 1908, 1911, 1913), III, 143-5; Elissa R. Henken, Traditions of the Welsh Saints (Cambridge, 1987), 258-9; Pádraig Ó Riain, A Dictionary of Irish Saints (Dublin, 2011), 58-60, 367
‘…yn
enwog am Iacháu pob Clefyd…’:
Saint
Govan’s Well yn ystod
350 mlynedd (parhad).
Er mwyn cymhlethu rhagor ar hyn,
awgrymwyd hefyd mai Gawain, un o farchogion enwog Bwrdd Crwn Arthur, oedd Gofan.
Ffurfiwyd y cysylltiad hwn dros ganrifoedd o amser, os yw crynodeb gan Cosmo
Innes yn y 19eg ganrif yn gywir: ond nid yw ei ymdriniaeth ef â’r chwedl ond
yn ymwneud â manylion claddu Gawain wedi’i farwolaeth, ac nid yw’n ystyried
y gallasai fod yn sant yn byw mewn cell unig ar lan môr Sir Benfro.
“Lladdwyd Syr Gawain, marchog
enwog y Bwrdd Crwn, gan Syr Lawnslot, a hawliodd llawer i fan anrhydedd cadw ei
weddillion: dywed Langtoft y’i claddwyd yn Wybre yng Nghymru; lleola
Caxton a Leland ei fedd yn Nofr; ac yn ôl y Brut, cludwyd ef i’w famwlad, Yr
Alban. Bu bod enw mor debyg â Govan, a gysylltir â man hynod, yn ddigon, i bob
golwg, i gyfiawnhau hawliad ar ran Sir Benfro. Nid yw’r honiad, er mor
rhyfedd, yn gyfoes, oherwydd edrydd William o Malmesbury am ganfod ar lan môr
rhanbarth Rhos yng Nghymru, yng nghyfnod Gwilym Goncwerwr, fedd Gawain, 14
troedfedd o hyd; a hefyd y llongddrylliwyd y marchog anafedig ar y lan, ac y’i
lladdwyd gan y brodorion. Gwrthyd Leland y chwedl, ond cofnoda fod adfeilion
castell ar y lan, ag arno enw Gawain; a dywed Syr F. Madden [hynafiaethydd,
1801-73] y daliai traddodiad y fro mai yn St. Govan’s Head y claddwyd nai’r
Brenin Arthur.”2
Hawliwyd hefyd mai Gawain oedd
Gwalchmai, cymeriad chwedlonol o’r traddodiad Cymreig, sydd a’i enw i’w
gael yn Sir Benfro. Mae Castell Gwalchmai (“Walwyn’s Castle”) tua 16
milltir i’r gogledd-orllewin o St Govan’s Head, ac y mae cysylltiadau lleol
eraill: dywedodd Lewis Morris fod bedd Gwalchmai rhwng ynysoedd Sgomer a Sgogwm,
nid nepell oddi wrth y lan tua’r gogledd-orllewin. Ymddengys yn ddichonol, gan
nad oes ond ychydig filltiroedd rhwng y lleoliadau Gwalchmai/Gawain a Govan, y
bu i’r tebygrwydd enwau achosi i’r traddodiad Syr Gawain ymledu i’r de i
diriogaeth St Govan, fel y dengys sylw o eiddo Syr Frederic Madden a nodwyd
uchod. Ymddengys mai ef oedd y cyntaf i gamleoli bedd Gawain o Gastell Gwalchmai
i St Govan’s Head, felly nid yw’r dybiaeth mai Gawain yw Govan ond yn dyddio
o hanner cyntaf y 19eg ganrif.3
Ymddengys fod pawb wedi rhoi cynnig
ar ganfod pwy yw “St Govan”, ac at feirniadu cynigion pobl eraill hefyd, a
nodweddiadol o hynny yw’r troednodyn canlynol o lyfr o ddiwedd y 19eg ganrif
ynghylch Dinbych-y-pysgod a’i chyffiniau:
“Y mae’r marchog dewr - y Syr
Gawain, o Fwrdd Crwn y Brenin Arthur da - wedi’i drawsffurfio, gan gamdybiaeth
gyffredin, yn sant. Nid oes diwedd ar y straeon ofergoelus y mae lleoliad
neilltuol adeilad cysegredig wedi’u hachosi.” - Malkin. [Mae Benjamin Heath
Malkin (1769-1843) yn ei ysgrifau ei hun wastad yn cyfeirio at “Sir
Gawaine’s Chapel” yn hytrach na St Govan’s Chapel.] Nid yw
Malkin yma, yn ogystal ag yn llawer o’i ragdybiaethau eraill, i’w bwyso
arno; dichon fod yr enw yn llygriad o Sant Giovanni, i ba un y cysegrwyd y
capel.”4
Nid oedd unrhyw obaith o gwbl
mai’r un oedd St Govan â Sant Giovanni Eidalaidd sydd, debyg, yn Sant Ioan
Efengylwr neu’n Sant Ioan Fedyddiwr, ac nid yn Sant Ioan Eidalaidd ar wahân.
Mae uniaethiad llawn mor annhebygol yn gwneud Govan yn ddynes, y Santes Cofen,
gwraig brenin Cymreig o’r 6ed ganrif: “Yr oedd y Santes Cofen, Govein,
neu Goven yn santes Gymreig gynnar, yn wraig Tewdrig ac yn fam Mewrig,
brenhinoedd De Cymru.”5 Cyfeiria Malkin hefyd at St Goven Brydeinig, ac
â ymlaen i ddweud: “Weithiau camgymerir St. Goven a St. Golwen hwy ill dwy am
Godwin”, ac yna crybwylla “a saint Golwin”6 : ymddengys fod pob
amrywiad sillafu wedi ymddangos yn rhywle er mwyn ceisio esbonio pwy oedd y sant
annirnad hwn. Cydsynnir heddiw, i bob golwg, mai’r Sant Gobhan Gwyddelig oedd
Govan - ond fel y sylwyd uchod, mae hynny’n debyg o fod yn anghywir, a’r
tebyg yw y bu’n sant brodorol o Sir Benfro am yr hwn ni wyddys dim.
Mae peth tystiolaeth go anhysbys na
chysylltir St Govan ond â’r capel clogwyn adnabyddus sydd heddiw’n dwyn ei
enw: mae’n bosibl y bu’n weithredol, hefyd, yn Arberth tua 12 milltir i’r
gogledd-ddwyrain o St Govan’s Chapel, ardal yn yr un ddeoniaeth wledig â
Bosherston. Mae Dosraniad Degwm Arberth yn cynnwys yr enwau caeau hanesyddol
“Upper Saint Gowens” a “Lower Saint Gowens”, gyda Gowen yn un o’r
ffurfiau eraill ar Govan. Dri chwarter milltir i’r gogledd-ogledd-orllewin
o’r ddau gae hyn mae St Owen’s Well yn Stoneditch Lane gyferbyn â thŷ
a enwir, bellach yn “The Valley”.
Mae’n annhebyg mai’r “Owen”
yw’r St Owen anhysbys sy’n ymddangos ym Muchedd y Santes Milburga (mae
ganddo ffynnon yng Ngweunllwg yn Swydd Amwythig), na Sant Ouen esgob Rouen sydd
â’i barch yn fawr yng ngogledd Ffrainc, na’r merthyr yr Iesüwr Sant
Nicholas Owen; ymddengys, yn hytrach, fod yr enw’n fersiwn o “Gowen”, yn
deillio (debyg) o’r modd y treiglir rhai enwau yn dilyn "ffynnon"
neu "llan". Felly byddai St Gowen’s Well yn Gymraeg yn Ffynnon Owen,
yn union fel yr oedd gan y sant a elwid Gallgo ym Môn ei Lanallgo a’i Ffynnon
Allgo.
(I’w pharhau)
2
Cosmo Innes, wedi’i ddyfynnu yn The Cambrian Journal (Tenby, 1860), 76;
William o Malmesbury, Gesta Regum Anglorum: General Introduction and Commentary
(Oxford, 1999), II, 261
3
Peter C. Bartrum, A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up
to about A.D. 1000 (Aberystwyth, 1993), 303-5
4
Mr a Mrs S.C. Hall, Tenby: Its History, Antiquities, Scenery, Traditions, and
Customs (Tenby, 2il arg., 1873), 45
5
Y Parch. James B. Johnston, The Place-Names of England and Wales (London, 1915),
428
6
Benjamin Heath Malkin, The Scenery, Antiquities, and Biography, of South Wales
(London, 2il arg., 1807), II, 381
7
Cofnodion Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed o St Owen’s Well: PRN 3756 a
PRN 3622. Gweler hefyd The Royal Commission on the Ancient and Historical
Monuments and Constructions in Wales and Monmouthshire, An Inventory of the
Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire, VII County of Pembroke (London,
1925), 249-50.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 43 Nadolig 2017
‘…yn
enwog am Iacháu pob Clefyd…’:
Saint
Govan’s Well yn ystod
350 mlynedd (parhad).
Lleoliad
Saint Govan’s Well
Adeilad carreg bychan yw, yn un siambr 18 troedfedd
wrth 12 troedfedd, gyda thri drws. Mae un ohonynt, yn y wal ogledd-ddwyreiniol,
yn arwain i gell naturiol yn y graig, y “cell y sant” honedig a grybwyllir
drachefn ymhellach ymlaen. Y tu mewn i’r capel gellir gweld allor garreg,
cawg, meinciau carreg a ffynnon. Mewn gwirionedd, mae dwy ffynnon yma, er nad yw
enw’r sant ond ar un ohonynt; mae’r llall yn ddienw, i bob golwg, ac y mae y
tu mewn i’r capel, ar y llawr i’r chwith o ddrws y wal ogleddol. Ceir
ffynnon y sant trwy adael y capel ar yr ochr ddeheuol a mynd i lawr grisiau
geirwon tua glan y môr; mae mynedfa’r ffynnon yn wynebu’r capel. Mae
ffynhondy carreg drosi, gyda tho corbelog a chapan drws carreg.8
Yr
ymweliadau cynharaf a gofnodwyd
Bu’r
capel a’r ffynhonnau’n enwog ers canrifoedd, ac wedi’u hir sefydlu ar y
llwybr twristiaid, yn enwedig yn y 19eg ganrif, felly erbyn hyn mae
gennym lawer o ddisgrifiadau ohonynt dros y 350 mlynedd diwethaf. Yr un
printiedig cynharaf y deuthum ar ei draws hyd yn hyn yw cofnod John Ray, yn
dilyn ei ymweliad ym 1662:
Oddi yno'r un Diwrnod i St. Gobin’s Well, wrth Lan y Môr,
lle, o dan y Clogwyn, y saif Capel bychan, wedi’i gysegru i’r Sant hwnnw, ac
ychydig islaw iddo Ffynnon, enwog am Iacháu pob Clefyd. Y mae, o Ben y Clogwyn
i’r Capel, Disgynfa o 52 Gris.9
Nid yw Ray yn crybwyll y ffynnon o fewn y capel, ond
crybwyllir y ddwy mewn cofnod ynghylch “Bosherstone” yn Parochialia Edward
Llwyd, y dyddio o tua 1700.
Capel hynafol o’r enw St Goveans ger glan y môr rhwng 2
graig fawr. O fewn y Capel mae tarddell ac un arall islaw’r Capel tua’r môr.
Ceir bod dŵr y tarddellau hyn yn dda ar gyfer llawer o anhwylderau. [i]0
Cynhwysodd dyddiadur Syr Thomas Gery Cullum ar gyfer
1775 ddisgrifiad o’i ymweliad ar y 27ain o Orffennaf â ffynnon
“St Gobin”, sy’n neilltuol o ddiddorol gan y bu modd iddo weld cleifion yn
defnyddio dŵr y ffynnon. Cyfeiria hefyd at “Offeiriades y Capel”, a âi
ati i gasglu rhoddion gan ymwelwyr, arfer a geir yn rhai ffynhonnau sanctaidd
neilltuol o boblogaidd lle y pwysid ar ymwelwyr, efallai, i offrymu arian i
warchodes, er yn yr achos hwn ni ddywedir a oedd hi, mewn gwirionedd, yn darparu
unrhyw wasanaethau ar gyfer cleifion a ddeuent yno i geisio iachâd. Efallai mai
hi oedd perchnoges neu ddeilyddes y tir, neu ddim ond rhywun a drigai gerllaw a
ganfu y gallai ennill ychydig arian gan bererinion, os oedd hi ar gael,
trwy eu cyfarwyddo yn y defodau.
[Y mae’r ffynnon] yn agos iawn at y môr, wedi’i
gorchuddio â rhyw waith cerrig bras. Mae’r dŵr yn glaear, heb unrhyw
flas neilltuol. Mae rhai eto’n credu ynddo. Roedd gwraig dlawd wrtho â’i gŵr
o Gaerfyrddin, agos i 40 milltir [i ffwrdd]; roedd ganddo Boen yn ei Glun;
golchodd y Rhan ac yfodd y Dŵr. Rydych yn disgyn iddi trwy Gapel bychan nad
yw’n hynafol iawn, 18 wrth 12. Yn un pen ceir rhywbeth tebyg i
Allor...efallai’r hen Allor. Ar yr Allor hon y rhoddir arian yr Ymwelwyr, os
digwydd nad yw Offeiriades y Capel yno. Felly pan oeddwn innau yno, a’r
Wybodaeth a gefais oedd gan y wraig dlawd a’i gŵr; pan ddychwelais [ar ei
ffordd allan, h.y.] fe’i gwelais i hi, a gofynnodd imi faint yr oeddwn
wedi’i adael iddi yn y Capel. Mae gan yr adeilad sedd garreg o’i amgylch i
gyd. Ynddo mae Pwllyn bychan a alwant yn darddell, yn dda ar gyfer y Llygaid.
Cymerir y dŵr allan â chragen Llygad Maharen...Nifer y grisiau i’r Capel
yw tua 70, oddi yno i’r Ffynnon, 30...
Mae ceudwll bychan yn y creigiau yn agos at y Capel, ym
mha un, y dywedir wrthych, y cafodd ein Gwaredwr loches rhag yr Iddewon; gallwch
eto weld ôl ei Gorff.
Gyda llaw, efallai nad anodd yw i’r Ffynnon hon gynnal
ei Henw, os ymwelir â hi gan Bobl a all gerdded agos i 40 milltir ac yn ôl
drachefn!11
Nodiadau
9 William Derham, D.D., Select
Remains of the Learned John Ray, M.A. and F.R.S. with his Life (London,
1760), 242
10
Edward Llwyd, Parochialia
– Being a Summary of Answers to “Parochial Queries in Order to a
Geographical Dictionary, etc., of Wales”, Part III – North Wales and South
Wales (continued) (London, 1911), 74
11 Herbert M. Vaughan, ‘A
Synopsis of Two Tours made in Wales in 1775 and in 1811’, yn Y
Cymmrodor, XXXVIII (1927), 46-7
Janet Bord (i’w pharhau)
‘…yn
enwog am Iacháu pob Clefyd…’:
Saint
Govan’s Well yn ystod
350 mlynedd (parhad).
Cell y
sant, y garreg gloch, a thraddodiadau eraill.
Mae cyfeiriad Syr Thomas at “geudwll bychan” yn cyfeirio at y siambr
fechan yn y graig a grybwyllwyd uchod - “cell” fechan y gellir ymwasgu iddi,
ac a allai fod, mewn gwirionedd, yn ganolbwynt anghofiedig holl gyfadeilad y
capel a’r ffynnon. Mae’n debyg mai hwn oedd ogof, cell neu wely penydiol y
sant, ac efallai yr adeiladwyd y capel megis atodiad iddo. Y mae’n arwyddocaol
fod allor y capel yn union wrth fynedfa’r gell. Mae sawl traddodiad wedi
datblygu: bod St Govan, neu’r Iesu, wedi cuddio yno rhag môr-ladron, er
enghraifft; ac mor gyfyngedig yw’r gofod, y mae ôl asennau’r sant eto i’w
gweld ar y graig. Credid pe bai rhywun yn ymwasgu i’r ceudwll ac yn gwneud
dymuniad, y gwireddid y dymuniad hwnnw pe gallai yntau neu hithau droi yn ei
unfan wrth ei wneud. Mae sawl amrywiad ar y thema hon, ac y mae’n amlwg fod y
gell yn boblogaidd iawn ag ymwelwyr gan y’i disgrifir, yn o drylwyr yn aml, ym
mwyafrif y cofnodion.
Nodwedd boblogaidd arall ar lên gwerin y safle yw’r “garreg gloch”
fondigrybwyll, er, fel yn achos y gell, mae sawl amrywiad ar yr hanes. Y fersiwn
fwyaf adnabyddus yw i fôr-ladron ddod i’r lan a dwyn cloch y capel. Wrth
iddynt ddychwelyd i’w cwch, darfu iddynt sefyll y gloch ar gerrig neilltuol, a
byth wedi hynny gwnâi’r cerrig hynny sain fel cloch pan drawyd hwy. Fersiwn
arall yw y dychwelwyd y gloch trwy wyrth, ac iddi gael ei hymgorffori y tu mewn
i garreg, sy’n canu fel cloch pan drewir hi. Fel traddodiad cell y sant y tu
mewn i’r capel, mae chwedl y gloch wedi ymddangos mewn amryw ffurfiau tros
amser.
Mae rhai traddodiadau eraill a allasent fod yn fyw yng nghyswllt y capel
a’r ffynnon, er mai prin y’u crybwyllir yn y llenyddiaeth, yn cynnwys y
“pridd taenellu” bondigrybwyll y cyfeirir ato yn llyfr 1909 Marie Trevelyan,
a geid o hafnau yn agos at y capel.12
Mae’n debyg y credid bod bendith y sant ar y pridd, ac y’i defnyddid
i’w daenellu ar bererinion afiach a obeithient am wellhad; efallai mai hwn
oedd yr un pridd a gymysgid â dŵr ac a roddwyd ar gyrff y cleifion. Ganrif
ynghynt, crybwyllodd B.H. Malkin wrth fynd heibio y byddai cyplau weithiau’n
ymbriodi yn y capel.13
Pwy, tybed, fuasai yn eu priodi? A yw’n bosibl fod hyn yn cyfeirio at
ddefnydd dirgel ar y capel gan rai o’r Hen Ffydd? Yn y 1830au cyfeiriodd Syr
Roderick Murchison at “y grisiau geirwon a naddwyd gan y gŵr
sanctaidd”, ond os oedd hon yn rhan gadarn o’r traddodiad, mae’n rhyfedd
nad yw neb arall yn ei chrybwyll.14
Canolbwyntiodd mwyafrif y sylwebyddion ar ailadrodd y traddodiadau
parthed cell y sant a’r garreg gloch, ynghyd â manion eraill, pe’u cofid -
efallai y bu rhagor na hynny’n gyfredol, ond nas ysgrifennwyd byth.
Dau
ymweliad Richard Fenton ddechrau’r 19eg ganrif
Ysgrifennodd Richard Fenton (1746-1821), yr hanesydd, topograffydd a’r
olrheiniwr achau o Gymru, ddau adroddiad ynghylch y capel a’r ffynnon.
Cyhoeddwyd hwy ill dau ym 1811, er y gellir dyddio un o’i ymweliadau i’r
flwyddyn 1807, ac ag ystyried sylw yn yr adroddiad arall, ymweliad 1807 oedd ei
gyntaf. Ar yr achlysur hwnnw daeth i’r lan o gwch, felly gwelodd ffynnon y
sant cyn dod at y capel. Ysgrifennodd yn gyntaf ynghylch y cerrig cloch a chwedl
y môr-ladron, yna ynghylch y ffynnon:
“…yng ngheudwll carreg wrth odre’r esgynfa tua hanner ffordd, [mae]
ychydig ddŵr, y cred yr ofergoelus ei fod yn ddihysbydd, ond a amheuir yn
graff gan y rhai a farnant yn ddiduedd ei fod yn digwydd ar hap. Tybir yr
iacheir llawer yma trwy olchi’r aelodau; ac yn yr haf daw llawer o dlodion y
berfeddwlad yma, sydd yn gadael eu baglau addunedol ar ôl yn wisg am furiau’r
capel, gan ddychwelyd yn iach eu haelodau, yr hyn y gellir ei briodoli, efallai,
gyda mwy o gyfiawnder, i newid awyr a gwynt y môr, nag i unrhyw rinweddau
cynhenid yn y gwlybaniaeth anwadal hwn, a geir yn y basn carreg ac yn llawr y
capel: ac yr wyf o’r farn y gallai’r un peth fod yn wir am bob ffynnon
boblogaidd, gan y credaf yn gadarn fod hanner y gwelliannau a briodolir iddynt
wedi’u hachosi’n amlach gan y gwahaniaeth mewn awyr, ymborth, ymarfer corff,
ymlacio meddyliol, a rheolau sy’n tueddu at fwy o gymedroldeb, nag i unrhyw
rinweddau iachusol yn y dyfroedd eu hunain.”
Mewn geiriau eraill, mae pobl sy’n credu yn effeithlonrwydd ffynhonnau
sanctaidd yn wael eu hymborth, yn ddiog, yn anwybodus ac yn feddw! Mae’n amlwg
na chredai Fenton fod unrhyw welliannau iechyd yn ganlyniad i ymyrraeth y sant;
ond y mae’r ffaith y gadewid baglau yn y capel yn awgrymu yr hawlid yr iacheid
pobl, pa fodd bynnag yr achosid hynny. Hefyd, buasai’r gwirioneddol fethedig
wedi cael trafferth fawr dringo’r grisiau i ben y clogwyn heb gymorth eu
baglau. Â Fenton ymlaen:
“Dywedodd y llongwyr wrthyf y bu cymaint o barch at hylif St. Govan
ychydig flynyddoedd yn ôl, fel y bu’n gyffredin i’r rhai cefnog, sy’n byw
yn rhannau Seisnig y sir hon, ddod â’u babanod yno i’w heneinio
(oherwydd ni ellir ei alw’n ymdrochi), gan dybio, a defnyddio eu hymadrodd eu
hunain, fod y dŵr yn eu gwneud yn fwy ciwt,
a chraff; ond os bu iddynt oll ymdebygu i olwg yr hylif, yr wyf yn sicr bod
rhaid iddo eu gwneud yn fwdlyd a thwp.”15
Dywed y disgrifiad hwn wrthym nad oedd y ffynnon, ym 1807, eto wedi’i
gorchuddio gan y ffynhondy bwa carreg sydd i’w weld yn awr: mae’r dŵr
“yng ngheudwll carreg”. Anodd penderfynu pa bryd yn union y codwyd y
ffynhondy presennol, ond mae’n debyg i hynafiaethwyr dwtio’r safle ddiwedd y
19eg ganrif, yn debyg i’r hyn a ddigwyddodd yn Ffynnon Non y tu
allan i Dyddewi nid
nepell i ffwrdd, a orchuddiwyd hefyd gan adeilad bwaog
crwm. Fodd bynnag, yr oedd yna ryw fath o orchudd ddiwedd y 18fed ganrif, a
barnu yn ôl adroddiad Syr Thomas Gery Cullum a ddyfynnwyd gynnau, gan iddo
ddweud bod y ffynnon “wedi’i gorchuddio â rhyw waith cerrig bras.” Roedd
hwn, yn ôl pob tebyg, wedi diflannu erbyn ymweliad Fenton ym 1807.
Awgryma adroddiad Fenton hefyd nad oedd llawer o ddŵr yn y ffynnon ddadorchuddiedig: siarada am “ychydig ddŵr” a sut y byddai’n gwneud unrhyw un a yfai ohono yn “fwdlyd a thwp”, gan awgrymu mwy o bwllyn mwdlyd na tharddell gref. Mae adroddiad arall yn ddiweddarach yn y 19eg ganrif yn cyfeirio at “y nant nad yw’n loyw iawn”.16 Ganol y 19eg ganrif, fodd bynnag, dywedodd Thomas Roscoe fod y ffynnon yn “darddell o ddŵr gloyw byrlymus, wedi’i hamgylchu â gwaith brics”, sy’n anghytuno â’r adroddiadau am ddŵr lleidiog - ac nid yw’n eglur iawn beth yr oedd Roscoe yn ei olygu wrth “wedi’i hamgylchu â gwaith brics”.17 Nid yw’n swnio fel petai’r ffynnon wedi’i gorchuddio. Hwyrach y bu nerth y llif yn ddibynnol ar y tywydd, pa faint o law a fu, a oedd y darddell yn llifo’n gyflym ac yn loyw.
Nodiadau
12
Marie Trevelyan, Folk-Lore
and Folk-Stories of Wales (London, 1909; Wakefield, 1973), 45
13 Benjamin Heath Malkin, The
Scenery, Antiquities, and Biography, of South Wales (London, 1804), 529
14 Roderick Impey Murchison, The
Silurian System (London, 1839), 382-3 troednodyn
15 A Barrister: Richard Fenton,
Esq., A Tour in
Quest of Genealogy, Through Several Parts of Wales, Somersetshire, and Wiltshire
(London, 1811), 88-90
16 Awdur nas enwyd, A
Handbook for Travellers in South Wales and its Borders, including the River Wye (London,
arg. newydd, 1870), 161
17 Thomas Roscoe, Wanderings
and Excursions in South Wales (London, 1854), 185
Janet
Bord (cyfieithwyd gan Howard Huws)
(i’w
pharhau)
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 45 Nadolig 2018
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
‘…yn enwog am Iacháu pob Clefyd…’:
Saint
Govan’s Well yn ystod 350 mlynedd
(parhad).
Clôdd Fenton ei adroddiad 1807 â disgrifiad o’r gell
yn y capel, gan grybwyll dim ond arfer gwneud addunedau tra wedi ymwasgu iddi.
Yn ei adroddiad nesaf, a ysgrifennwyd yn fuan wedyn, mae’n amlwg iddo
gyrchu’r capel o gyfeiriad y tir,
gan y tro hwn y dechreuodd â disgrifiad maith o’r “gell wyrthiol” a
fedrai guddio “sant a ymlidiwyd yn agos gan ei erlynwyr paganaidd” cyn symud
at y ffynnon yn y capel, ac yna at Saint Govan’s Well ei hun.
“Ar ochr ogleddol y capel ar y llawr mae ceudod bychan, yn arddangos peth
ôl gwlybaniaeth megis diferiad o ryw darddell ym mhen y clogwyn, a chan hidlo
trwyddo ffurfia waddodiad mwdlyd yno, a ddefnyddir ac y bernir ei fod yn
effeithiol tu hwnt ar gyfer anhwylderau’r llygaid, er y bernir yn graff fod y
Sibyl hynafol [sef ei ffordd ysmala ef o gyfeirio at “warchodes” y ffynnon,
yr hon y mae yntau’n amau ei bod yn gorliwio rhinweddau’r ffynnon] sy’n
goruchwylio’r dyfroedd gwyrthiol honedig, trwy ei halcemeg neilltuol hi ei
hun, yn cyfrannu fwyaf at eu rhinweddau. Gan adael y capel, parhaf i ddisgyn
sawl gris carreg hyd nes y cyrhaeddaf y ffynnon sancteiddiedig, lle mae cleifion
crupul yn golchi eu haelodau, llawer o ba rai a ddeuant o rannau mwyaf
anghysbell perfeddwlad y dywysogaeth i geisio esmwythâd yma, ac a adawant eu
baglau ar ôl yn offrwm addunedol ar yr allor, megis a welais wedi’u gosod yno
pan ymwelais ddiwethaf â’r feudwyfa hon.”18
Pererinion
afiach yn gobeithio cael eu hiacháu
Ar fordaith o amgylch Prydain Fawr ym 1813, ymwelodd dau
ddyn (Richard Ayton a William Daniell) â’r capel, gan ddisgrifio’r adeilad,
y gell a’r ffynnon yn fanwl iawn. Aeth eu tywysydd â hwy i mewn i’r capel i
ddangos iddynt yr arddangosfa faglau:
“Aeth ein tywysydd, yn awyddus i weld llwyr gadarnhau ein ffydd, â ni
i’r tu mewn, lle gwelsom, yn crogi o’r muriau, sawl bagl, a gynaliasant y
crupul a’r crediniol at y ffynnon, ac a grogwyd yma yn dystiolaeth i’w hiachâd,
ac yn offrymau diolch i’w gwaredwr graslon.”
Yna aethant ymlaen drwy’r capel a chyfarfuant â dau
blentyn a ddaethant i’r ffynnon er mwyn eu hiacháu. Mae’n werth dyfynnu
adroddiad Ayton yn llawn, gan y portreada yn ddiffuant gyfyngder enbyd cleifion
200 mlynedd yn ôl pan nid oedd gofal meddygol dibynadwy:
“Mae ychydig risiau’n arwain o’r capel i lawr at y ffynnon, ac wrth
inni ddisgyn cyfarfuom â geneth druenus, guriedig a oedd yn straffaglu i fyny
gyda’r drafferth a’r boen fwyaf, ac wedi’u chrymu tan bwysau piser mawr o
ddŵr, yr hwn y dywedodd hi wrthym ei bod hi am ei yfed. Bu’n wael ei
hiechyd am flynyddoedd lawer, a chynt bu iddi yfed y dŵr yn rheolaidd iawn
yn ystod deuddeng mis, ond gan fynd yn waeth, yr oedd wedi ymgynghori â meddyg,
a ddatganodd, wedi prawf maith, na allai liniaru dim arni, a’i bod yn awr wedi
dychwelyd eto, megis i’w noddfa olaf, at Saint Gowan. Roedd methiant y meddyg
wedi deffro ynddi ei holl hyder yn y sant, ac nid oedd ond yn ofni y gallai fod
wedi digio wrth ei diffyg amynedd blaenorol hi. Wrth inni esgyn o’r ffynnon,
gwelsom addunedwr arall nad oeddem wedi sylwi arno o’r blaen, bachgen tlawd yn
eistedd ar graig, a’i lygaid yn syllu’n ddiwyro ac yn dduwiol ar y capel.
Roedd yntau hefyd yn dioddef gan glefyd, a hir y bu’n yfed o’r dŵr swyn
heb unrhyw les i’w iechyd, a heb unrhyw niwed i’w ffydd: roedd yn rhy wan i
weithio, a threuliai llawer o’i amser ymysg y creigiau unig hyn, yn ei
ddiddanu’i hun â’i bensel, nas hyfforddwyd ef erioed sut i’w ddefnyddio,
ond a’i galluogai, rhyw ddiwrnod, fe obeithiai, i wneud llun cywir o’r
grisiau, y capel a’r ffynnon. Ymddangosai’r trueiniaid hyn yn gwbl anwybodus
o bob manylyn ynghylch genedigaeth a hanes Saint Gowan, ac fe’u cyflwynasant
eu hunain i’w ofal heb ymdrafferthu ynghylch ei gymwysterau. Nid yw
f’ymholiadau innau ynghylch y pwnc hwn (a gellir tybio bod fy nymuniadau yn y
mur [cyfeiria at wneud dymuniad tra wedi ymwasgu i’r gell yn y graig] wedi
peri imi ymholi â pheth taerineb,) wedi arwain at unrhyw gasgliadau boddhaol.
Ymddengys fod amheuaeth a oedd yn sant o waed coch cyfan a fewnforiwyd o
Iwerddon ym more Cristnogaeth, ynteu’n Sir Gawaine, nai’r Brenin Arthur, ac
yn batrwm o wrhydri a chwrteisi, wedi’i ganoneiddio ar ôl ei farwolaeth trwy
gamgymeriad ar ran y werin. Yn y naill achos a’r llall, ni wyddys ddim am ei
anturiaethau mewn cysylltiad â’r man garw hwn, ac efallai ni chaniateir inni
fyth wybod a fu fyw neu bu farw yma.”19
Dengys sylwadau Ayton fod cwlt personol y sant yn parhau i ffynnu hyd yn oed cyn ddiweddared â dechrau’r 19eg ganrif. Ni wyddai’r ferch a’r bachgen claf pwy oedd y sant, ond roedd ganddynt ffydd lwyr yn ei allu i’w hiacháu.
Nodiadau
18 Richard Fenton, A Historical Tour Through Pembrokeshire (London, 1811), 414-16
19 Richard Ayton, A
Voyage Round Great Britain (London, 1814), 91-2
Janet Bord (cyfieithwyd gan Howard Huws) (i’w pharhau)
LLYGAD Y FFYNNON Rhifyn 46, Haf 2019
‘…yn
enwog am Iacháu pob Clefyd…’:
Saint
Govan’s Well yn ystod
350 mlynedd (parhad).
Mae holl adroddiadau
dechrau’r 19eg ganrif yn tystio i boblogrwydd y ffynnon â phobl yn ceisio
adferiad iechyd; dywed arweinlyfr Dinbych-y-pysgod ym 1818 “y gellir gweld yn
agos i ugain o gleifion ar unwaith yn golchi eu haelodau ac yn taenu ar eu
cymalau chwyddedig a chrupul blastrau o’r clai coch yn llawn dŵr y
ffynnon.”20 (Cyfeiriaf eto yn hwyrach ymlaen at bwysigrwydd y clai coch.) O
ddechrau’r 19eg ganrif ymlaen cyhoeddwyd llawer i adroddiad ynghylch y
ffynnon, yn aml ar sail gwybodaeth o ffynonellau blaenorol. Mae llyfr C. F.
Cliffe, y Book of South Wales, er enghraifft, yn ailadrodd adroddiad Fenton bron
air am air, er lle mae Fenton yn defnyddio “Govan”, mae’n well gan Cliffe
“Gowan”.21 Mae
Samuel Lewis yn ei Topographical Dictionary, fodd bynnag, yn fodlon ar “Gawen”.
Mae’n amlwg nad oedd cytundeb ynghylch sillafu enw’r sant ar yr adeg
honno, ond ymddengys bod yna beth newid pwyslais yn datblygu tuag at enw tebyg i
Gawain.
Traddodiad
ymweliad Christ â St Govan’s
Dengys adroddiad o tua 1830 cymaint y perchid St Govan’s Chapel yn y
seice crefyddol lleol ar yr adeg honno. Gofynnodd ficer St Florence y tu allan i
Ddinbych-y-pysgod tua 10 milltir i ffwrdd i’w ddisgyblion Ysgol Sul ymhle y
gwelwyd yr Iachawdwr am y tro cyntaf wedi Ei atgyfodiad o’r meirw, a
dywedasant wrtho “At
St Govan’s.”
Gan holi eraill ynghylch achos yr ateb rhyfedd hwn, rhoddwyd gwybod iddo:
“Unwaith roedd amaethwr yn hau haidd ar y twyni uwchlaw St. Govan’s, pan
dynnwyd ei sylw gan olwg urddasol a thrawiadol dyn a oedd yn gwylio’r gwaith.
O weld ei fod yntau wedi’i weld, amneidiodd y dieithryn at yr amaethwr, yr hwn
o ddynesu ato, a chan ateb ei ymholiad ‘beth wyt ti’n ei wneud?’ a
atebodd, ‘hau haidd.’ ‘Ond,’ meddai’r dieithryn. ‘bydd yr had hwn yr
wyt ti’n ei gladdu yn pydru.’ ‘Bydd,’ meddai’r amaethwr, ‘bydd yn
pydru, ond bydd yn egino drachefn, ac ar adeg y cynhaeaf dof a chasglaf ef i’m
mynwes.’ ‘Wyt ti’n credu y gall yr hyn sydd farw fyw drachefn?’
‘Ydw,’ meddai’r amaethwr. ‘Yna,’ atebodd y dieithryn â rhyw fawredd
yn ei gylch, ‘Myfi yw’r Atgyfodiad a’r Bywyd; dos adref, cyrcha dy gryman
a lladda dy ŷd.’ Gwnaeth y gŵr da fel y gorchmynnwyd iddo, ac erbyn
iddo ddychwelyd roedd y dieithryn wedi diflannu, ond roedd yr haidd yn aeddfed
ac yn barod i’w gynaeafu ar yr un diwrnod y’i heuwyd.”22
Nid yw’r chwedl hwn yn unigryw i St Govan’s, ond ymddengys ym mannau
eraill ym Mhrydain, yn St Milburga’s Well yn Stoke St Milborough yn Swydd
Amwythig, er enghraifft. Pan ymlidiwyd y santes gan ei gelynion, syrthiodd oddi
ar ei cheffyl a daeth rhyw weithwyr i’w cynorthwyo. Gorchmynnodd i’w haidd
nhw dyfu’n gyflym, a dywedodd wrth y dynion, pe delai unrhyw un yn holi
amdani, iddynt ddweud yr aeth hi heibio wrth iddynt hau eu haidd. Y noson honno
roedd yr haidd, a heuwyd y bore hwnnw, yn barod i’w gynaeafu, ac felly cafodd
y Santes Milbwrga’r gorau ar ei herlidwyr.23 Ceir yr un thema yng ngwledydd eraill, ac y mae’n sylwebaeth leoledig
ar y Fföedigaeth i’r Aifft pan oedd y Teulu Sanctaidd yn dianc rhag y Brenin
Herod a oedd yn bwriadu lladd plant. Mae fersiwn Sir Benfro o’r chwedl
wedi’i addasu ar gyfer pregethu, ac nid oes iddo’r themâu ymlid ac osgoi.
Yn St Govan’s Chapel amnewidiwyd yr Iesu weithiau am St Govan megis yr
un a ymguddiodd yn y gell garreg er mwyn osgoi ei ymlidwyr. Dull y cuddio oedd y
bu’r Iesu (neu Govan) yn dianc rhag ei elynion a darfu i’r creigiau ymagor;
ymwasgodd i’r hafn, a gaeodd amdano wedyn, gan ei guddio hyd nes yr aeth y
perygl heibio, ar ba adeg yr ymagorodd drachefn - ac yr arhosodd ar agor, gan
adael yr agorfa a welwn heddiw, ynghyd ag olion asennau’r sant i brofi y bu
yno. Ymddengys y gwyddai mwyafrif yr ymwelwyr yr hanes y defnyddiwyd y gell yn
noddfa rhag ymlidwyr, ond ymddengys nad oedd gan ymwelydd anhysbys ym 1836 fawr o wybodaeth am y
traddodiad, gan iddo alw’r “gell” garreg yn lle tân: “ ymddengys y
bu’r lle tân yn un gornel, gan fod cilfach yn y graig gydag agen trwyddi, er
mwyn caniatáu i fwg ddianc, debyg”. Nododd yr ymwelydd hefyd “y mae yna
hefyd lechen garreg wedi’i gosod ar y mur, a allai fod yn weddillion allor, ac
ar y mur cyferbyn mae llechen yn dwyn y dyddiad 1176” - manylyn nas gwelais yn
unman arall. Disgrifiodd y ffynnon hefyd, er nas argyhoeddwyd gan yr honiadau a
wnaed ynghylch ei dŵr:
Gan fynd trwy’r capel, cyrhaeddir y ffynnon ryfeddol trwy ddisgyn un
gris ar bymtheg i’r dŵr, y dywedir y gall iacháu pob anhwylder a niwed!
Y mae o natur olewaidd, ond nid oes golwg atyniadol arno; y mae’r ffydd yn ei
effeithiolrwydd, fodd bynnag, yn wirioneddol syfrdanol; a diau, os oes iacháu,
y mae hynny i’w briodoli cymaint i effaith y teimlad hwnnw ag i unrhyw rinwedd
iachusol perthynol i’r hylif: mae holl werin y gymdogaeth yn gadarn eu cred yn
ei effeithiolrwydd.24
Yn ddiweddarach yn y 19eg ganrif, dywedwyd wrth ymwelydd â Dinbych-y-pysgod ym
1863 fod yr Iesu yn wir wedi ymweld â’r ffynnon: “Dywedodd rhai o’r hen
drigolion wrth fy ngwestywraig y daeth ein Hiachawdwr yno i’r ffynnon.”
Adroddodd hefyd fersiwn cwta a chymysglyd o chwedl y cynhaeaf disymwth, gan
ddangos fod y traddodiadau hyn yn cael eu traddodi o genhedlaeth i genhedlaeth.
25
Nodiadau
20
Awdur nas enwyd, An
Account of Tenby (Pembroke and Tenby, 1818), 138-9
21
Charles Frederick Cliffe, The
Book of South Wales, the Bristol Channel, Monmouthshire and the
Wye (London, 2il arg., 1848), 296-8
22
Edward Laws, The
History of Little England Beyond Wales (1888; Haverfordwest, 1995),
411
23
Janet Bord, Holy
Wells in Britain: A Guide (Wymeswold, 2008), 109
24
‘Extract from the Notes of a Tourist – Coast of Pembrokeshire, 1836’, yn The
Nautical Magazine
and Naval Chronicle, for 1837 (London, 1837), 613-15
25
Awdur nas enwyd, My
Summer Holiday; being a Tourist’s Jottings about Tenby (London, 1863),
Janet
Bord (cyfieithwyd gan Howard Huws)
(i’w pharhau)
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 47 Nadolig 2019
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
‘…yn
enwog am Iacháu pob Clefyd…’:
Saint
Govan’s Well yn ystod 350 mlynedd (parhad).
Eto’n
boblogaidd yn Oes Fictoria
Gan
symud i ail hanner y 19eg ganrif, dywed adroddiad o 1859 wrthym fod yna eto
geisio dŵr y ffynnon yr adeg honno ar gyfer ei rinweddau iachusol.
Dyma
feudwyfa (neu gapel) St Gawen, neu Goven, ym mha un y mae ffynnon, dŵr pa
un, a’r clai cyfagos, a ddefnyddir ar gyfer llygaid dolurus. Gerllaw hyn,
ychydig islaw’r capel, mae ffynnon arall, gyda grisiau’n arwain i lawr iddi,
yr ymwelir â hi gan bobl o bellafoedd y dywysogaeth, ar gyfer gwella manwynion,
parlys, dropsi, ac anhwylderau eraill. Nid y tlodion yn unig sy’n gwneud y
bererindod hon: daeth achos i’m sylw yn fuan, lle bu i wraig fonheddig, un o
gefnog, a fu ers peth amser yn dioddef yn arw gan y parlys, a’i hataliodd rhag
rhoi ei llaw yn ei phoced [gan olygu bod ei braich wedi’i pharlysu, nid yn
ystyr presennol yr ymadrodd!], i drigo mewn ffermdy ger y ffynnon, ac wedi
ymweld â hi’n feunyddiol am rai wythnosau, dychwelodd adref wedi’i llwyr
iacháu.26
Yr
oedd yn arfer i bererinion claf i ffynhonnau eraill, hefyd, aros yn y gymdogaeth
ac ymweld yn fynych â’r ffynnon; mae bwthyn, hyd yn oed, yn nesaf at Ffynnon
Gybi yn Llangybi (Sir Gaernarfon).
Â’r adroddiad hwn rhagddo â disgrifiad o chwedl y gloch ddygedig, a
disgrifiad maith o’r “Gornel Ddeisyf”, yr hafn garreg yn y capel lle’r
ymguddiodd yr Iesu rhag yr Iddewon oedd yn ei erlid, neu lle’r ymwasgodd St
Gawen yn feunyddiol “yn benyd am ei gamweddau, hyd onid adawyd ôl ei asennau
ar y graig”. Byddai pererinion yn ymdroi naw gwaith ac yn gwneud dymuniad, a
gyflawnid pe cymeradwyai’r sant. Mae hon yn ffurf ar gylchrodio, sef cylchu
defodol ar safle cysegredig, naw gwaith fel arfer. Wedi’i gofnodi’n aml yn
Iwerddon, digwydda ym mannau eraill yng Nghymru, hefyd: disgrifiodd Edward Llwyd
ym 1693 fel y gwelsai ddyn “yn gorymdeithio naw gwaith ogylch Gorffwysfa Beris
[yn Llanberis]… yn ailadrodd Gweddi’r Arglwydd, ac yn bwrw carreg ar bob
cylchyniad”.27
Diddorol
gweld sut y mae adroddiadau diweddarach yn tueddu i roi mwy o bwyslais ar y
“gornel”, y “gwely” neu’r “arch” yn hytrach nag ar ffynhonnau,
fel, er enghraifft, adroddiad ddiwedd y 1850au gan ymwelydd Albanaidd, Cosmo
Innes. Disgrifia’r ffynnon: “Ychydig lathenni ymhellach i lawr yr
hafn, [o’r capel] mae ffynnon sydd eto wedi’i orchuddio gan do o bensaernïaeth
fras, ac y mae’r brodorion yn parhau i’w pharchu’n fawr iawn, ac yn ymweld
â hi er mwyn iacháu amryw glefydau.” Yna â rhagddo i ddisgrifio “gwely”
St Govan a ddangoswyd iddo’n eglur gan rywun arall oedd yno’n bresennol:
“Mae’r garreg wedi’i gloywi gan nifer yr ymwelwyr sy’n eu gosod eu
hunain yng ngwely penyd y Sant, ac y mae’r brodorion yn peri i chi deimlo yn
yr wyneb mewnol yr olion a achoswyd gan asennau’r Sant!”28 Ceir olion
rhannau o gyrff saint mewn llawr o fannau eraill, ond fel arfer maent yn olion
traed neu bennau gluniau: ceir llawer rhagor o enghreifftiau yn fy llyfr
Footprints in Stone.29
Ysgrifenna
Innes fod pobl yn parhau i ymweld â’r ffynnon gan geisio eu hiacháu; ond mae
peth ansicrwydd ynghylch pa mor boblogaidd oedd y ffynnon ganol y 19eg
ganrif, gan i Mary Anne Bourne ddatgan yn ei llyfr dyddiedig 1843 fod “y parch
at y ffynnon sanctaidd yn llai nag y bu ers talwm”30, ond efallai
mai ei hagwedd bersonol hi a’i harweiniodd i ddweud hyn, yn hytrach na’i fod
yn adlewyrchu’r gwir sefyllfa. Mae’n debyg y byddai niferoedd cynyddol o
ymwelwyr wedi atal cleifion rhag dinoethi eu hanhwylderau i dwristiaid. Erbyn
diwedd y ganrif roedd ysgrifenwyr eraill yn adrodd bod y traddodiad iacháu wedi
darfod, i bob golwg. Yn ei lyfr a gyhoeddwyd ym 1895, ysgrifennodd, H. Thornhill
Timmins:
O’r capel
sgrialwn i lawr at y “ffynnon sanctaidd,” man diymwelwyr heb ddim o
ddiddordeb ynddo heblaw’r hyn a geir trwy draddodiad. Eto ymhell yn ôl roedd
pobl yn dueddol i ymgynnull yma o bell ac agos, gan ddisgwyl iachâd disymwth...31
Mae adroddiad
yn y Welshman ym 1905, fodd bynnag,
fel petai’n gwrth-ddweud honiad Timmins nad ymwelwyd â’r ffynnon bellach er
mwyn iacháu, er y mae’n awgrymu bod bri’r ffynnon yn wir ar ddarfod:
Dywed
‘County News’ Dinbych-y-pysgod… ‘…Yn
St. Govan’s roedd ffynnon sanctaidd i ba un, o fewn y deugain mlynedd
diwethaf, y dygid y claf a’r methedig i’w hiacháu.’…Y mae – nid yr
oedd – ffynnon sanctaidd yn St. Govan’s lle mae sawl un o frodorion Sir
Benfro wedi ceisio eu hiachâd, lai na deng mlynedd yn ôl, hyd y gwyddom
ninnau’n bendant. Amheuwn yn fawr nad yw rhai pobl hyd y dydd hwn yn taenu’r
‘clai’ gerllaw’r ffynnon ar eu llygaid.32
Erbyn 1922
roedd y ffynnon yn hesb, fel y mae heddiw, ac yn amlwg yn annefnyddiedig, fel yr
adroddwyd yng Nghofrestr y Comisiwn Brenhinol.
Amddiffynnir
y Ffynnon, sydd rhwng y capel a’r môr, gan gwfl o waith cerrig; mae’r
fynedfa ar yr ochr ogleddol. Bu’r darddell yn hesb ers sawl blwyddyn...
Ymwelwyd, Mehefin y 14eg, 1922.33
Mae’n
bosibl y bu i weithred gorchuddio’r ffynnon â gwaith cerrig ar ryw ddyddiad
anhysbys yn y 19eg ganrif (er y mae’n amlwg y’i gorchuddid i ryw
raddau cyn 1860, fel y dengys adroddiad Cosmo Innes) wedi ymyrryd â’r
cyflenwad dŵr. Ymddengys na fu’r cyflenwad erioed yn helaeth, o farnu yn
ôl sylw yn adroddiad 1807 Fenton, sef y credai’r “ofergoelus” fod yr
“ychydig ddŵr” yn ddihysbydd, ond “a amheuir yn graff gan y rhai a
farnant yn ddiduedd ei fod yn digwydd ar hap”, ac y mae’n bosibl yr ategwyd
tarddell naturiol gan ddŵr glaw, a beidiai cyn gynted ag y gorchuddid y
ffynnon. Mae adroddiad 1818, fodd
bynnag, yn crybwyll “yn agos i ugain o gleifion ar unwaith yn golchi eu
haelodau”, sy’n awgrymu cyflenwad helaeth o ddŵr. Erbyn 1870, fodd
bynnag, roedd y ffynnon “agos yn hesb erbyn hyn”, a chan yr ysgrifennwyd hyn
yn fuan wedi gorchuddio’r ffynnon, gallasai gadarnhau i’r weithred fod â
rhyw ran mewn lleihau’r cyflenwad dŵr. Ymddengys yn debyg, hefyd, y gallasai nifer gynyddol yr ymwelwyr wedi’i
heffeithio er gwaeth. Dywed C.F.
Cliffe yn amwys, yn ei Book of South Wales
(1848): “Y mae’r ffynnon wedi’i niweidio gan ddosbarth o ymwelwyr sydd ym
mhobman yn dwyn anfri ar enw Prydain.”34 Yn anffodus nid yw’n ymhelaethu, ond y mae’n swnio fel petai
twristiaid, hyd yn oed yn yr oes honno, yn difrodi’n ddi-hid y mannau yr
oeddent wedi ymdrafferthu i ymweld â hwy.
Nodiadau.
26. Robert J. Allen yn ‘Choice Notes
from Notes and Queries’, yn Folklore (1859),
t. 204.
27. Baring-Gould a Fisher, op.cit., IV,
t. 93.
28. Cosmo
Innes, ‘Notice of St Govane’s Hermitage, near Pembroke, South Wales’, yn Proceedings
of
the Society of Antiquaries of Scotland (Edinburgh,
1862) III, tt. 184-5; cyhoeddwyd
adroddiadau
am ei ymweliad yn The Cambrian Journal (Tenby, 1860), 76-7, a’r The Archaeological Journal
(London, 1859), tt. 198-9, 361 hefyd.
29. Janet Bord, Footprints in Stone (Wymeswold, 2004).
30. Mary Anne Bourne, A Guide to Tenby and its Neighbourhood (Carmarthen, 1843), t. 54.
3[1].
H. Thornhill Timmins, Nooks and Corners of
Pembrokeshire (
32. ‘Holy Wells in Wales’, yn Welshman,
7 Ebrill 1905.
33. Royal Commission Inventory:
Pembroke, op.cit., rhif 50, t. 22.
34. Cliffe, op.cit., t. 298
Janet
Bord (cyfieithwyd gan Howard Huws)
(i’w pharhau)
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 48 Haf 2020
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
‘…yn
enwog am Iacháu pob Clefyd…’:
Saint
Govan’s Well yn ystod 350 mlynedd (parhad).
Cyfeiriadau
cynyddol at glai iachusol
Mae’r
adroddiadau hyn yn olrhain hanes y ffynnon/ffynhonnau dros 350 o flynyddoedd,
tros ran helaeth o ba gyfnod y ceisiwyd iachâd rhag amrywiaeth eang o
anhwylderau. Ymddengys y defnyddid ffynnon y capel erioed ar gyfer iacháu
trafferthion llygaid yn unig, ond defnyddid dŵr ffynnon y sant ar gyfer
“pob clefyd”, “llawer o anhwylderau”, “cleifion crupul yn golchi eu
haelodau”, a “manwynion, parlys, dropsi, ac anhwylderau eraill”. Ychydig
o’r adroddiadau cynharach sy’n cynnwys unrhyw gyfeiriad at y clai iachusol a
geid wrth y ffynnon. Cyfeiria Fenton at “waddodiad mwdlyd” ond ceid
hwn wrth ffynnon y capel. Mae adroddiad 1859 hefyd yn cysylltu’r “clai”
iachusol â ffynnon y capel.35 Cyfeirir yn adroddiad 1905 at ddefnyddio
“clai” o gerllaw’r ffynnon i drin y llygaid, ond nid y corff cyfan.36
Cyfeiriodd y
daearegwr Syr Roderick Impey Murchison at glai iachusol St Govan mewn troednodyn
yn ei lyfr ar ddaeareg Cymru dyddiedig 1839:
“Preswyliai
Saint Gofen (neu St. Gawin) gell wedi’i naddu i wyneb y clogwyn serth a
phictiwrésg hwn. Ymysg ei weithredoedd da mae un sydd fel petai’n cysylltu ei
enw
â’r daearegwr. Bu i’w fendith roi rhinwedd iachusol ar y clai neu’r
garreg glai goch,
sy’n deillio o ddadelfeniad y garreg galch, sy’n ffurfio talws lle mae’r
clogwyn yn
cilio yn ôl. Cludir y pererinion cloff a dall eto gan eu cyfeillion i lawr y
grisiau
geirwon a naddwyd gan y gŵr sanctaidd, ac wedi eu heneinio â phowltis,
a wneir o’r clai gwlyb, fe’u gadewir yno am sawl awr i dorheulo tan haul yr
haf.
Mae’r dull iacháu yn gyffelyb i’r un a weithredir gan faddonau mwd Acqui
ac Abano yng ngogledd yr Eidal.
Mae llawer o gyrchu, hefyd at seintwar Saint Gofen, hafn yn y graig sydd ond
yn ddigon mawr i gynnwys unigolyn, megis “man deisyf.” Mae’r deisyfwr yn
sicr
o gael ei ddymuniad cyn diwedd y flwyddyn, os yw’n ei ailadrodd deirgwaith,
gan droi ei hun o gwmpas, pob un tro, yn y gilfach gul; ond nid fy maes
i yw’r straeon gwyrthiol hyn na rhai eraill a gysylltir â’r man gwyllt
hwn.”37
Ac yntau’n
ddaearegwr, roedd Murchison yn amlwg â diddordeb yn ffynhonnell a chyfansoddiad
y clai, felly gellir tybio mai ei ddisgrifiad ef ohono yw’r cywiraf. Mae
rhywun yn rhagdybio iddo ef ei hun ymweld â’r safle i weld y ffynhonnell, ac
iddo gasglu ar yr adeg honno ychydig fanion o draddodiad, ond nid yw’n eglur a
fu iddo weld ai peidio ddefnyddio’r clai gan bererinion afiach.
Gan fod
yna wahanol ddisgrifiadau o ddefnyddio mwd neu glai o ddwy ffynhonnell, y
ffynnon yn y capel a’r clai coch o’r clogwyn, efallai y bu peth dryswch yn
ystod y blynyddoedd. Mae’r cofnod cynharaf a ganfûm sy’n cyfeirio at
ddefnyddio’r clai coch yn dyddio o 1818: “yn taenu ar eu cymalau chwyddedig
a chrupul blastrau o’r clai coch yn llawn dŵr y ffynnon”.38 Ond
ni ddywed o ble y daw’r clai coch, dim ond y’i cymysgid â dŵr o’r
ffynnon, manylyn nas crybwyllir gan Murchison yn ei adroddiad ynghylch yr arfer
20 mlynedd yn ddiweddarach. Efallai, wrth i’r ffynnon ddechrau mynd yn hesb, y
rhoddwyd mwy o bwyslais ar ddefnyddio clai ar gyfer iacháu, ond i bobl anghofio
y dylasai’r mwd neu’r clai iachusol ddod o ffynnon y capel, ac iddynt
ddechrau defnyddio unrhyw glai y gallent ei ganfod. Nid yw’r dyfyniad o waith
Murchison yn eglur ynghylch ar ba rannau o’r corff, yn union, y rhoddid y
powltis glai, er y cyfeiria at “bererinion dall”. Yn ôl adroddiad Fenton o
ddechrau’r 19eg ganrif defnyddid y mwd o ffynnon y capel ynghylch y llygaid,39
a chan mlynedd yn ddiweddarach mae adroddiad 1905 hefyd yn crybwyll
defnyddio’r clai ar y llygaid yn unig.40 Eithr y mae’n debygol y
buasai bobl a geisient yn daer am iachâd wedi ei daenu ar rannau eraill o’r
corff.
Nodiadau.
35
Allen, op.cit., 204
36
‘Holy Wells in Wales’, op.cit.
37
Murchison, op.cit., 382-3 troednodyn
38
An Account of Tenby, op.cit., 139
39
Fenton, A Historical Tour…, op.cit., 415
40
‘Holy Wells in Wales’, op.cit.
Janet
Bord (cyfieithwyd
gan Howard Huws)
(i’w pharhau)
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 49 Nadolig 2020
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
‘…yn enwog am Iacháu pob Clefyd…’:
Saint
Govan’s Well yn ystod
350 mlynedd (parhad).
Ymhelaethiadau
cyfoes
Bu St Govan’s Chapel
yn atyniad twristaidd poblogaidd ers talwm, yr hyn y gellir ei ddeall o gofio ei
leoliad dramatig, a thros amser y mae manylion y straeon a’r chwedlau wedi
mynd yn fwyfwy helaeth. Mae hyn i’w weld yn neilltuol wrth gymharu’r
adroddiadau byrion gwreiddiol â’r fersiynau estynedig a gyhoeddir heddiw. Cyn
y 18fed ganrif nid oedd sôn am fedd y sant, cell y sant, y garreg gloch, ac
ati, sydd oll bellach rhan annatod o chwedl St Govan. Anodd gwybod pryd y daeth
y traddodiadau hyn i fod gyntaf. Mae bod bedd y sant o dan yr allor y tu mewn
i’r capel yn enghraifft ddiddorol. Ceir y gred hon yn fynych mewn disgrifiadau
o’r capel, bellach, ond yn rhyfedd ddigon nis ceir mewn llawer o adroddiadau
cyn y ganrif bresennol.
Ychwanegiad
diweddar arall yw “yr argraffwyd ôl dwylo’r sant ar lawr y capel.”
Cyfeiria un ffynhonnell at “olion yn y garreg a wnaed gan fysedd y sant pan
ymguddiodd yma” - ond y traddodiad, yn wastad, fu mai ôl asennau’r sant
ydynt, nid ei fysedd, felly efallai fod hwn yn newid arall sydd ar gynnydd, neu
efallai’n gymysgiad â’r traddodiad newydd arall, sef un olion dwylo’r
sant ar y llawr.43 Tuedd cyfoes yw gweld ffynhonnau sanctaidd yn
“ffynhonnau deisyf”, ac y mae disgrifiad diweddar o Saint Govan’s Well yn
dweud ei bod yn “ffynnon ddeisyf ac yn ffynnon iacháu” - er mai anodd
fyddai ei defnyddio at y naill ddiben na’r llall yn awr, gan ei bod yn hesb.44
Yn y ganrif
bresennol mae tuedd hefyd yn datblygu i Gymreigio enwau Seisnig rhai ffynhonnau
sanctaidd yng Nghymru. Mae rhai ffynhonnau, yn bennaf yn ardaloedd mwy Seisnig
Cymru, wastad wedi bod ag enwau Seisnig ac nid erioed rhai Cymraeg, ac y mae
Saint Govan’s Well yn un o’r cyfryw. Ar y sail mai gwell cadw’r arfer
traddodiadol, dylid galw’r ffynnon hon yn St Govan’s Well ac nid byth yn
Ffynnon Gofan. Byddai hynny’n anghywir beth bynnag, oherwydd pa bai’n
“Ffynnon Gofan”, yna enw’r sant, heb ei dreiglo wedi enw gwrthrych
benywaidd unigol fel “ffynnon”, fyddai Cofan. Os Gofan yw ei enw, yna
enw’r ffynnon fyddai Ffynnon Ofan.
Janet Bord
(cyfieithwyd gan Howard Huws) (i’w pharhau)
Nodiadau
41
Fenton, A Historical Tour…, op.cit., 414
42
‘By the author of “Proposals for Christian Union’ [a enwir yn ddiweddarach
yn E.S.A., sef Ernest Silvanus Appleyard], Welsh Sketches, Chiefly
Ecclesiastical, to the Close of the Twelfth Century (London, 2il arg., 1852),
129
43
Ceir enghreifftiau o lên gwein cyfoes yn: ‘St Govan’s Chapel,
Bosherston, Pembrokeshire, Wales’, The Journal of Antiquities, 18 Awst 2013
– mae hwn â chyfeiriadau at y bedd, y gloch, olion bysedd y sant, a Ffynnon
Govan (http://thejournalofantiquities.com/category/st-govans-holy-well-at-st-govans-head-in-pembrokeshire/);
Mae gan Pixyledpublications, ‘St Govan’s Well and Chapel’, gyfeiriadau at
y gloch a’r olion dwylo (https://insearchofholywells
andhealingsprings.wordpress.com/2013/06/14/st-govans-well-and-chapel/)
44
Mae gan Fywoliaeth Reithorol Cil-maen ddisgrifiad manwl o’r ffynnon a’i llên
gwerin, ac yn cynnwys crybwyll y ffynnonn megi ffynnon ddymuno
(http://www.revjones.fsnet.co.uk/govan/govan.html)
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 50 Haf 2021
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
‘…yn
enwog am Iacháu pob Clefyd…’:
Saint Govan’s Well yn ystod 350 mlynedd (parhad).
Mae’r
adroddiadau cynharaf o 1662 a thua 1700
yn fyrion, gan grybwyll dim ond capel a ffynnon iachaol y sant. Ond diau y bu
rhai o’r traddodiadau eraill eisoes yn fyw iawn, ac y buasai pererinion yn
ymwybodol o’r defodau y dylid eu cyflawni er mwyn ennill elw ysbrydol o ddod i
mewn i’r dirwedd gysegredig. Gydag amser ychwanegid at y traddodiadau, yn
benodol trwy’r chwedlau parthed cell St Govan a’r budd y gellid ei ennill
trwy ymwasgu i’r man lle y dywedid bod y sant ei hun wedi ymguddio, a thrwy
hynny ddod i gysylltiad personol â’r sant.
Magwyd traddodiadau eraill, megis y gloch a ddygwyd a’r garreg gloch a
ganai, ymweliad yr Iesu, claddu’r sant y tu mewn i’r capel, olion ei asennau
y tu mewn i’r gell, olion ei ddwylo ar lawr y capel...Ond wrth inni ddod i
mewn i’r 20fed ganrif, mae’r pwyslais wedi newid. Mae’r ffynnon
ar lan y môr eisoes wedi’i chadw a’i hategu trwy ychwanegiad gorchudd
carreg yn y 19eg ganrif; ond erbyn yr 20fed ganrif nid yw
ond yn gofeb segur coelion y gorffennol, gyda’i chyflenwad dŵr yn hesb
a’i diben iacháu wedi peidio. Yn wir, efallai mai’r diffyg dŵr a
arweiniodd at ragor o bwyslais ar ddefnyddio clai yn gyfrwng iacháu, o’r
ffynnon y tu mewn i’r capel i ddechrau, ond yn ddiweddarach o unrhyw le yn y
cyffiniau.
Wrth i
deithio ddod yn haws ac i ragor o bobl fedru ymweld â mannau mwy anghysbell,
daeth y capel bychan a gyrhaeddid trwy droedio’r grisiau serth tan glogwyni
dramatig yn brif atyniad, gyda llawer o ymwelwyr heb wybod dim am na’r sant
na’i ffynhonnau. Yn araf, gyda’r canrifoedd, mae pererinion duwiol wedi
troi’n dwristiaid bydol. Ond y mae eu hawydd parhaus i ymweld â St Govan’s
Chapel, ynghyd â bywiogrwydd y traddodiadau, yn dangos bod y man yn parhau i
gynhyrfu dychymyg pobl, hyd yn oed os ni sylweddolant eu bod wedi dod i mewn i
dirwedd sanctaidd 1,500 mlwydd oed.
Janet Bord .
(Cyfieithiad Howard Huws.)
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 51 Nadolig 2021
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc