Home Up

TYDDEWI

 

TAIR O FFYNHONNAU SIR BENFRO

Eirlys Gruffydd

  Ffynnon Non

Mae bro’r Eisteddfod Genedlaethol eleni yn un gyfoethog ei ffynhonnau. Yn anffodus nid wyf wedi cael cyfle i ymweld a mwy na dwy ohonynt a hynny yn haf 1986, pan aethom fel teulu i Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun. Y gyntaf ohonynt oedd Ffynnon Non yn Nhyddewi. Mae’n siŵr y bydd cryn ymweld â hi yr haf yma. Gellir gweld y ffynnon ger adfeilion Capel Non uwchben y môr. Byddai’r ffynnon yn gwella pob math o anhwylderau a dywedir ei bod yn llenwi ac yn gwagio gyda llanw a thrai’r môr. Pan lanhawyd y ffynnon yn 1825 daethpwyd o hyd i nifer o ddarnau arian ynddi. Cai hefyd ei defnyddio nid yn unig fel ffynnon rinweddol ond fel ffynnon swyn felly. Ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd yn arferiad i drochi plant yn y ffynnon er mwyn eu cadw’n iach. Yn 1951 adnewyddwyd y ffynnon gan Babyddion ac aed ar bererindodau ati. Pan oeddem yn ymweld â’r ffynnon roedd pererinion yno a gwasanaeth yn cael ei gynnal i geisio gwella golwg dyn oedrannus a oedd wedi cael ei arwain at y dŵr gan aelodau o’i deulu. Teimlem ein bod yn tresmasu ar ddefod sanctaidd a phreifat ac aethom draw at y capel. Ar y ffordd yn ôl cawsom ninnau ymweld â’r ffynnon arbennig hon.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 12 Haf 2002

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

GOHEBIAETH

Ffynnon Cwmwdig  

(SM7527)

Derbyniwyd llythyr oddi wrth Gareth Richards, perchennog tua phedair milltir i’r gogledd o Dyddewi yn sir Benfro. Yn y gyfrol The Holy Wells of Wales mae Francis Jones yn dweud fod capel dros y ffynnon a bod cyfeiriad mewn dogfennau o’r Oesoedd Canol at Eglwys Cwmwdig. Tan yr ail ganrif ar bymtheg roedd to bwaog dros y ffynnon. Dywedir bod dyn tua naw deg oed a oedd yn fyw yn 1715 yn cofio gweld drws yn ochr orllewinol y capel; bod gwraig dduwiol yn mynd at y ffynnon bob dydd Iau i gymryd y dŵr; a bod bwa hardd o gerrig yn cysgodi’r tarddiad.

Mae’n amlwg felly fod hon yn ffynnon sanctaidd ac mae cyfeiriad ati yng nghyfrol y Comisiwn Brenhinol ar henebion Penfro. Yn ôl Gareth, ‘Mae’r ffynnon mewn cyflwr truenus, fel y gwelwch o’r llun, ac fe hoffwn, yn y dyfodol, ei hailadeiladu. Mae gennyf ychydig wybodaeth ysgrifenedig amdani ond, yn anffodus, dim hen lun o unrhyw fath sy’n dangos ei ffurf gwreiddiol.’ Yr unig gymorth ychwanegol y gallem ei gynnig i Gareth oedd anfon lluniau o ddwy ffynnon arall o sir Benfro iddo – Ffynnon Non, Tyddewi (SM751243) a Ffynnon Gapan, Llanllawer, Cwm Gwaun, (SM987360), gan fod bwa o gerrig dros y ddwy ffynnon yma.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 22 Haf 2007 

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffccffccffccffccffccffccffccffc

 

PYTIAU DIFYR... PYTIAU DIFYR...PYTIAU DIFYR

Yn y gyfrol The County Coast Series – The South Wales Coast, gan Ernest Rhys a gyhoeddwyd yn 1911, ceir cyfeiriadau am nifer o ffynhonnau ardaloedd yr arfordir yn siroedd Mynyw, Morgannwg, Caerfyrddin a Phenfro. Mae ei sylwadau yn rhoi darlun i ni o gyflwr y ffynhonnau hyn ganrif yn ôl.

Tyddewi - Ffynnon Non (SM 7525)

Yn Nhyddewi mae’n ymweld â Ffynnon Non (SM 7525) Mae tua hanner canllath i’r chwith o’r llwybr cyn cyrraedd Capel Non. Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif roedd mur o gwmpas y ffynnon a rhaid oedd i’r awdur ddringo drosto i gael mynediad i’r ffynnon. Yfodd o’r dŵr gan ddweud ei fod yn felys a chlir a theimlodd wedi ei adnewyddu ar ôl ei yfed. Roedd y ffynnon yn dal mewn bri a phinnau yn cael eu taflu iddi er mwyn sicrhau dymuniad- ffynnon gofuned. Bydd arian a adewir mewn agen ar yr ochr chwith yn adeiladwaith y ffynnon yn siŵr o ddiflannu!

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 27 NADOLIG 2009

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Crybwyllir FFYNNON NON, mewn erthygl gan Howard Huws dan y teitl

FFYNHONNAU SANCTAIDD CYMRU

Ceir ffynhonnau y credir fod eu dyfroedd yn llesol ar gyfer da byw, hefyd, gan gynnwys gwartheg, defaid a cheffylau. Mae Gras Duw ar gyfer y Cread cyfan, nid bodau dynol yn unig.23 Ystyrir eraill yn “lwcus” neu’n llesol: ond heb gysegriad Cristnogol penodol, nid ystyrir hwy’n “sanctaidd”, bellach. Hwyrach y’u cysegrwyd yn y gorffennol, ond bod y traddodiad ysbrydol wedi’i ddileu neu’i anghofio ym mwrlwm y Diwygiad Protestannaidd, a chanrifoedd maith yr anghymeradwyaeth a’r esgeuluso.24

FFYNNON NON TYDDEW

Ymwelid â ffynhonnau ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, ond credid fod rhai’n neilltuol rinweddol ar wyliau, ddiwrnodau, neu adegau penodol o’r flwyddyn, neu ar adegau’r diwrnod. Digon oedd gweddïo ac yfed dŵr rhai, ond cyflawnid defodau wrth eraill. Rhai cyn symled â phigo dafad â phin, ei blygu, a’i daflu i’r dŵr: eraill yn gymhleth, ac yn cynnwys gweddïo, cerdded ogylch, offrymu arian, cysgu mewn man penodol, neu yfed o lestr arbennig. 

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 30 Haf 2011

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up