Home Up

LLANDDEWIBREFI

 

FFYNHONNAU CEREDIGION

 (Addaswyd y detholiad canlynol o gyfrol Mary Jones, Ddoe, eto drwy caniatâd caredig y cyhoeddwr, Gwasg Gomer, Llandysul.)

Ffynnon Ddewi

Ceir amryw o ffynhonnau eraill yng Ngheredigion wedi eu henwi ar ôl Dewi; un gerllaw Gallt yr Odyn ym mhlwyf Llandysul, un tua milltir neu ddwy wedi gadael Synod ar y ffordd i Aberteifi ac un arall tua milltir o Landdewibrefi. Dywed traddodiad i'r olaf darddu yn wyrthiol pan adferodd Dewi fab y weddw adeg y Gymanfa Fawr yn Llanddewibrefi pryd y cododd y ddaear o dan ei draed. 

Ffynnon y Ddôl Gam

Ffynnon ryfeddol arall yn Llanddewi oedd Ffynnon y Ddôl Gam. Dŵr o hon fu'n llifo i dap y pentref am ugeiniau o flynyddoedd. Sefydlodd Bec, Esgob Tyddewi, goleg yma yn 1187 a chredir mai ffynnon y myneich oedd hon.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 12  Haf 2002

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up