Home Up

Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bodedern 2017

 

Cynhaliwyd cyfarfod arferol Cymdeithas Ffynhonnau Cymru ym Mhabell y Cymdeithasau am 2:30 o’r gloch ddydd Llun y 7fed o Awst. Os cofiwch, bu’r diwrnod cynt yn wlyb ac yn wyntog, a chan fod y Maes wedi’i osod ar dir go gorsiog ar y gorau, yr oedd y rhannau hynny ohono nas boddwyd yn llwyr (a dyma’r tro cyntaf imi weld pwll nofio naturiol yn rhan o atyniadau’r ŵyl) yn eithaf soeglyd. Ond nid dynion eira mo’r Cymry, ac y mae’r mwyafrif ohonom wedi hen arfer â glaw.  Felly daeth criw mwy niferus nag arfer at ei gilydd i glywed darlith gan ein Cadeirydd, Eirlys Gruffydd-Evans, ar bwnc amserol ac addas tu hwnt, o gofio’r amgylchiadau, sef “Ffynhonnau Môn”. Cafwyd gwybodaeth ddiddorol am rai o’r ffynhonnau lleol, gan gynnwys eu hanesion a’r traddodiadau yn eu cylch, a chytunwyd y bu’n werth yr ymdrech i dreulio tri chwarter awr yn gwrando ar y fath draddodi graenus. Gallasem fod wedi gwrando ar lawer rhagor!

 H.H.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 43 Nadolig 2017

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff

 

Home Up