Y Prosiect Ffynhonnau Byw.
Ar y 15fed o Dachwedd eleni cymerais ran mewn gweithdy hynod ddiddorol a heriol ym Mhlas Glyn y Weddw ger Llanbedrog. Roedd y diwrnod yn rhan o’r Prosiect Ffynhonnau Byw”, sy’n cael ei arwain gan Cadw Cymru’n Daclus, gyda’r nod o adfer 25 o ffynhonnau cysegredig ledled Cymru. Mae Partneriaeth Ffynhonnau Byw yn chwilio am gyllid ar gyfer cyfres o weithgareddau prosiect, a’r gobaith yw y bydd yn denu cyllid Cronfa Dreftadaeth y Loteri ac arian cyfatebol arall. Bydd hynny’n eu galluogi i barhau i gyflwyno prosiect aml-haen a fydd o gymorth i sicrhau dyfodol ffynhonnau hanesyddol yng Nghymru, a’u gwarchod a’u hadfywio ar gyfer cenhedlaeth newydd o ddefnyddwyr.
Arweiniwyd y gweithdy gan Gareth Kiddie ac Angharad Wynne gyda chymorth Bronwen Thomas. Mae Gareth yn arbenigwr treftadaeth ac adfywio cymunedol, ac Angharad yn arbenigwraig marchnata a chyfathrebu, ac yn storïwraig gyda diddordeb byw mewn hynafiaethau a chwedlau. Mae Bronwen yn bensaer tirwedd a hefyd yn gadeirydd cymdeithas Wellsprings.
Roedd tua dwsin ohonom i gyd yn y gweithdy ac fe’n heriwyd i edrych ar nifer o faterion gan ofyn y cwestiynau canlynol:
2
Beth fydd yn heriol?
3
Beth yw’r cyfleoedd allweddol?
4
Pa fudiadau a phobl sy’n allweddol?
Gyda’r cwestiynau yma yn flaenllaw yn ein meddyliau
roeddem yn edrych ar nifer o faterion, sef sut y gellir cofnodi ffynhonnau yn
well, a sut y gellid eu hadfer a’u hadnewyddu. Edrychwyd ar sut y gellid
sicrhau bod cymunedau yn perchnogi ffynhonnau ac felly yn eu cynnal, ac yn
gwarchod nid yn unig y safleoedd, ond hefyd yr etifeddiaeth ehangach megis
hanesion am y seintiau: a thrwy hyn yn cadw’r etifeddiaeth yma’n fyw.
Edrychwyd ar sut i ddehongli, dathlu a hybu’r etifeddiaeth hon, a sut y gellid
marchnata a hyrwyddo treftadaeth ein ffynhonnau fel rhan o hybu ymwybyddiaeth
o’n treftadaeth ehangach.
Roedd y cyfarfod yn un o dri sydd i wyntyllu’r materion
hyn, gyda’r cyfarfodydd eraill i’w cynnal yn Aberhonddu a Thyddewi. Mae’r
hyn sydd o dan sylw yn uchelgeisiol iawn: ac os llwyddir, bydd proffil
ffynhonnau hanesyddol Cymru’n llawer uwch a bydd llawer rhagor o gymunedau yn
cymryd diddordeb byw yn eu hetifeddiaeth. Edrychaf ymlaen at weld pa gynnydd a
wneir dros y flwyddyn nesaf.
Gwyn Edwards
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 43 Nadolig 2017