Home Up

Llandeilo Bertholau 

 

FFYNHONNAU GWENT

Ffynhonnau ardal Llandeilo Bertholau 

(SO3116)

Eirlys Gruffydd 

Flynyddoedd yn ôl, y tro diwethaf y bu’r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghasnewydd, aethom fel teulu i ymweld â nifer o ffynhonnau’r fro. Eleni gobeithiwn fedru gwneud rhywbeth tebyg gan ei bod yn hen bryd bellach i’r drydedd gyfrol yn y gyfres Ffynhonnau Cymru – Ffynhonnau’r De ymddangos. Dyma hanes rhai o ffynhonnau’r fro a’r traddodiadau sy’n perthyn iddynt.  

Yn ardal Llandeilo Bertholau (SO3116) roedd nifer o ffynhonnau pwerus a rhinweddol yn ôl Edward Lhuyd. Roedd rhai ar y bryniau ac eraill ar y dolydd a gallent wella amrywiaeth o afiechydon ac anhwylderau megis clwyfau a doluriau crawnllyd a lludiog yn ogystal â symud defaid a brychni haul oddi ar y croen.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 16 Haf 2004

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up