Llan-arth Fawr
FFYNHONNAU
GWENT
Ffynnon Bedr
(SO3909)
Eirlys Gruffydd
Flynyddoedd
yn ôl, y tro diwethaf y bu’r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghasnewydd, aethom
fel teulu i ymweld â nifer o ffynhonnau’r fro. Eleni gobeithiwn fedru gwneud
rhywbeth tebyg gan ei bod yn hen bryd bellach i’r drydedd gyfrol yn y gyfres Ffynhonnau
Cymru – Ffynhonnau’r De ymddangos. Dyma hanes rhai o ffynhonnau’r fro
a’r traddodiadau sy’n perthyn iddynt.
Mae llawer o
ffynhonnau diddorol yng Ngwent megis Ffynnon Bedr rhyw dri chan llath i’r
de-ddwyrain o eglwys Bryngwyn, ardal ym mhlwyf Llan-arth Fawr (SO3909).
Gobeithiwn gael cyfle i ymweld â rhai ohonynt yn ystod mis Awst a dod i wybod
mwy am ffynhonnau Gwent.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 16 Haf 2004
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc