Home Up

GOYTRE

 

MWY O HANES FFYNNON Y GOYTRE, GER PONT-Y-PŴL

Yn Llygad y Ffynnon 28 clywyd am yr hyn ddigwyddodd yn 1873 pan gaeodd Y Parchedig Thomas Evans, Rheithor y Goytre, Ffynnon y Cae Cul, ffynhonnell ddibynadwy a digonol o ddŵr pur a fu yn disychedu’r pentrefwyr am genedlaethau. Mae’n ymddangos ar ôl ymchwil pellach mai addysg i’r plant oedd asgwrn y gynnen a dyfodd yn gweryl sarrug rhwng y gŵr parchedig a’i blwyfolion. Roedd y Rheithor yn gefnogol iawn i’r National School - ysgol eglwys - ond roedd ymgais leol i sefydlu Board School - sef ysgol heb fod o dan reolaeth eglwysig. Anfonodd gwraig o’r enw Louisa Waite ei phlant i’r ysgol nad oedd y Rheithor yn ei ffafrio. Cyfarfu’r ddau pan oedd Mrs Waite yn mynd i’r ffynnon a derbyniodd gerydd gan y Rheithor a’i gorchymyn i symud ei phlant yn ôl i’r ysgol eglwys yn ddiymdroi. Gwrthododd Mrs Waite ac fel canlyniad aeth y Rheithor ati i gau’r ffynnon drwy ei llanw a charthion dynol, gwydr a thunelli o gerrig. Wedi ymchwil pellach yn nhudalennau’r Pontypool Free Press gwelwn fod y Rheithor wedi cynnig ffynnon arall iddynt- the Well in the Wood- ffynnon yn y goedwig nad oedd yn ddim mwy na phwll lleidiog o ddŵr a llysnafedd gwyrdd ar ei wyneb. Cytunodd y Rheithor i geisio dyfnhau’r ffynnon hon ond nid oedd tarddiad naturiol ynddi, dim ond lle i’r dŵr gronni. Roedd ffynnon arall ar gael iddynt - y Ffynnon Ddu - oedd ar dir dyn o’r enw Henry Mathews, ond roedd hwn yn gyfaill i’r Rheithor ac aeth ati i geisio cau pob llwybr a arweiniai at y ffynnon gyda drain a mieri. Roedd hon yn ffynnon ddibynadwy mewn tywydd sych. Aeth gwraig o’r enw Mrs Jenkins, Tydomen ati i glirio ffos ar ei thir lle'r oedd dŵr o Ffynnon Ddu yn goferu er mwyn i’r pentrefwyr gael mynediad at y dŵr.

Cynhaliwyd cyfarfod o Bwyllgor Iechyd Pont-y-pŵl ar Fedi 29ain a rhoddwyd deiseb gan nifer sylweddol o’r ardalwyr yn cwyno nad oedd ganddynt ddŵr glân i’w yfed. Nodwyd for y ffynnon a ddefnyddiwyd ganddynt a chan eu hynafiaid am genedlaethau wedi ei difwyno gan y Rheithor a’i chladdu o dan dunelli i gerrig. Roedd llwybrau cyhoeddus a fu’n fan tramwyo at y ffynhonnau ers cyn cof wedi eu cau’n fwriadol. Gofynnwyd i’r pwyllgor edrych i mewn i’r mater. Penderfyniad y pwyllgor oedd y dylai’r mater gael ei dynnu i sylw’r awdurdodau yn Llundain oedd yn arolygu gwaith y byrddau iechyd lleol. Aeth y Rheithor oddi cartref am dair neu bedair wythnos ond gofynnodd i’r heddlu anfon cwnstabliaid i gadw’r heddwch yn y fro. Roedd yn amlwg fod gan y Rheithor bobl oedd o’i blaid gan fod hanes am ei haelioni ar ei gost ei hun i blant y National School yn cael sylw yn y papur at Hydref yr 11eg. Tra roedd y Rheithor oddi cartref aeth y pentrefwyr ati i geisio cloddio drwy’r cerrig at y ffynnon a hynny ym mhresenoldeb aelodau o’r Pwyllgor Iechyd. Wedi pum awr o waith caled gwelwyd fod y ffynnon yn llawn carthion a gwydr er bod y Rheithor wedi gwadu hynny. Pan ddychwelodd y Rheithor caewyd y ffynnon a gosod ychwaneg o gerrig drosti.

Yn Ionawr 1874 ymddangosodd adroddiad cryf o blaid y Rheithor yn y papur. Dywedwyd ei fod wedi gwasanaethu’r fro am ddeng mlynedd ar hugain a rhoddwyd anrheg o ddysgl arian iddo gan y plwyfolion. Llofnododd cant a hanner ohonynt ddeiseb oedd yn dweud fod bywyd y Rheithor wedi bod yn ddilychwyn a’u bod yn gobeithio y cai ef a’i briod flynyddoedd llawr eto yn eu plith.

Ym mis Ebrill llosgodd tŷ Mrs Louisa Waite i lawr. Erbyn hyn roedd hi’n adnabyddus fel yr arwres a heriodd y Rheithor a chychwyn yr holl helynt am Ffynnon y Cae Cul. Ond nid oedd unrhyw amheuaeth mai damweiniol hollol oedd y tân. Roedd ei mab wyth oed wedi bod yn chwarae â brigyn oedd yn fud losgi y tu allan i’r tŷ ac aeth y to gwellt yn wenfflam. Llwyddwyd i achub peth o’r dodrefn ac ni anafwyd neb ond doedd dim ond y muriau duon ar ôl wedi’r digwyddiad.

Roedd haf 1874 yn un sych a phoeth a’r ardalwyr yn dioddef. Roedd dwy o’r tair ffynnon oedd ar gael iddynt bellach yn sych a nodwyd mai dim ond Ffynnon y Cae Cul oedd yn ddibynadwy yn ystod cyfnodau o sychder. Daeth yr achos o flaen Brawdlys Mynwy ar Awst 4ydd. Roedd y plwyfolion wedi llwyddo i godi digon o arian i dalu £150 i dwrnai i’w cynrychioli. Cafwyd adroddiad yn y papur am Awst 15fed. Yn ôl y Barnwr Piggott dylai’r mater gael ei ddatrys ar fyrder. Addawodd y cyfreithiwr oedd yn cynrychioli’r Rheithor y byddai’r gŵr parchedig, ar ei gost ei hun, yn sicrhau cyflenwad o ddŵr pur a digonol i’r pentrefwyr mewn man cyfleus ger y ffordd fawr yn y pentref. Ni ddylai’r pentrefwyr edrych ar yr addewid fel buddugoliaeth ond fel ymgais gan y Rheithor i gael heddwch a chytgord yn y fro unwaith eto. Dwedodd y barnwr bod rhaid parchu hawl sylfaenol pobl i gael dŵr yfed ac y dylid gadael i’r dŵr lifo i’r pentref lle gallai’r bobl ei ddefnyddio. Awgrymodd y dylai’r Rheithor dalu am bwmp i godi’r dŵr pe bai angen hynny. Roedd y mater i fynd ymlaen i gael ei gynnwys mewn dogfen gyfreithiol yng Nghaerwrangon.

Ymddangosodd adroddiad pellach ym mhapur Awst 29. Mewn cyfnod o sychder mae’r awdur yn cwyno fod dŵr glân a phur Ffynnon y Cae Cul yn llifo drwy bibellau i’r ddaear lle gall neb ei gael a phobl yn dihoeni oherwydd diffyg dŵr. Roedd y Barnwr yn disgwyl y byddai’r Rheithor wedi mynd ati ar unwaith i gael dŵr i’r pentrefwyr ond nid felly y bu. Dylai’r Rheithor fod wedi ail-agor Ffynnon y Cae Cul ac adfer y cyflenwad i’r pentrefwyr. Ddechrau Hydref ymddangosodd llythyr wedi ei arwyddo gan Un o’r Goytre. Roedd y Rheithor wedi gorchymyn i dwll gael ei gloddio ar ochr y ffordd fawr i gronni dŵr oedd yn llifo ar wyneb y tir. Tir Syr Joseph Bailey oedd yn ffinio ar Goedwig Bailey oedd hwn ac nid oedd yn eiddo i’r Rheithor. Sut felly yr oedd ganddo’r hawl i wneud y fath beth? Ai cyfrifoldeb Syr Joseph fyddai cynnal a chadw’r cyflenwad dŵr i’r dyfodol? Roedd y Rheithor wedi llwyddo i osgoi’r cyfrifoldeb mewn modd anghyfrifol. Nid oedd tarddiad naturiol lle cloddiwyd y pydew ac ni allai hyn wneud iawn am golli’r dŵr pur o’r ffynnon oedd wedi ei chau. Os nad oedd pethau’n newid byddai’n rhaid i’r pentrefwyr weithredu eto. Fyddai’r Barnwr yn cymeradwyo’r dull sarhaus yma o gyflawni ei orchymyn?

Er chwilio yn nhudalennau’r papur am weddill y flwyddyn a thrwy 1875 ni welwyd cyfeiriad pellach at y ffynnon yn Goytre. Tybed a ddaw mwy o wybodaeth i’r golwg yn y dyfodol?

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 29 Nadolig 2010

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff

 

Home Up