LLANGYNNYDD
DWY
FFYNNON AR BENRHYN GŴYR
Dewi
E. Lewis
O fewn
chwarter milltir i bentref Llangynydd (Llangennith) ar Benrhyn Gŵyr ceir
dwy ffynnon. Saif y gyntaf ohonynt yng nghanol y pentref gyferbyn â'r eglwys.
Enw'r ffynnon yma yw Ffynnon Llangynydd.
Yma, yn ôl yr hanes, y daeth Cenydd Sant yn y chweched ganrif a sefydlu eglwys.
Oherwydd y nam corfforol oedd arno pan oedd yn fabi, rhoddwyd Cenydd mewn cawell
a'i daflu i afon Llwchwr. Yng nghanol storm chwythwyd y cawell i gyfeiriad Pen
Pyrod (Worm's Head), lle achubwyd
Cenydd, gan filoedd o wylanod, yn ôl yr hanes. Daeth carw i rhoi llaeth iddo ac
fe'i magwyd felly. Pan oedd yn ddeunaw oed, derbyniodd gyfarwyddyd gan Dduw i
adael Pen Pyrod am y tir mawr. Yn ôl yr hanes, yn ystod y daith i Langynydd
tarddodd ffynnon o'r ddaear lle bynnag y gorffwysodd. Gan fod Cenydd yn gloff
gorffwysai yn aml a dywedir bod pedair ar hugain o ffynhonnau ar y daith o Ben
Pyrod i Langynydd. Tybed pa un oedd yma gyntaf yr eglwys neu'r ffynnon?
Ffynnon
Llangynydd, Gŵyr
Ffynnon syml ydyw hon, wedi ei hamgylchynu â gwaith
cerrig gyda phibell fetel yn cyfeirio'r dŵr tua'r llawr. Ar un adeg roedd
carreg ar ben y ffynnon gyda chroes gerfiedig arni, ond gyda threigl amser ac
effaith y tywydd diflannodd y gwaith hwn. Yn ei gyfrol A
History of West Gower 1877-94 dywed D.J. Davies fod y ffynnon wedi ei
hamgylchynu gan gerrig mawr a bod capfaen drosti. Ar ddechrau'r bedwaredd ganrif
ar bymtheg bu'n rhaid gosod y maen dros y ffynnon er mwyn diogelu'r cyflenwad
rhag anifeiliaid. Mae merlod gwyllt yn gyffredin ar Benrhyn Gŵyr ac hawdd
yw dychmygu'r anifeiliaid yn cyrchu at y cyflenwad hwn. I'r chwith o'r ffynnon
ceir ffrwd arall o ddŵr sy'n cael ei chyfeirio gan bibell arall i mewn i
faddon carreg. Wrth droed y ffynnon mae berw'r dŵr yn tyfu. O fewn y pum
mlynedd diwethaf bu'n rhaid ailadeiladu'r gwaith cerrig o amgylch y ffynnon
oherwydd i fodurwr esgeulus ddymchwel yr adeiladwaith wrth barcio'i gar. Yr un
yw'r stori heddiw. Pan ymwelais â'r safle yn ddiweddar roedd rhywun wedi parcio
fan ddwy droedfedd oddi wrth y ffynnon gan ei gwneud yn amhosibl i mi ei gweld.
Ni ddeuthum ar draws unrhyw draddodiadau yn gysylltiedig â'r ffynnon ond heddiw
defnyddir y dŵr ar gyfer yr holl fedyddiadau yn yr eglwys. Yn sicr, mae'n
ffynnon sy'n werth ei diogelu a'i chadw i'r oesoedd a ddêl.
Ffynnon
y Gigfran, Gŵyr.
Tua chwarter
milltir i'r de o Ffynnon Llangynydd ceir
ffynnon arall sef Ffynnon y
Gigfran (Raven's Well). Nid
yw Francis Jones yn cyfeirio ati yn ei lyfr The
Holy Wells of Wales, ond yn ei gyfrol Historic
Gower cyfeiria Paul Davies ati fel 'Holy Well'. Yn A History of West Gower 1877-94 mae'r awdur yn tybio bod cysylltiad
agos rhwng y ffynnon a chyfnod y Llychlynwyr yn yr ardal ac mai dyma yw
arwyddocad ei henw. Saif Ffynnon y Gigfran
wrth droed Harding down sef safle sydd ag olion tair caer sy'n dyddio'n ôl i
Oes yr Haearn arni. Felly mae posibilrwydd fod y ffynnon wedi bod yn safle
bwysig ar un adeg, efallai am bod cyflenwad da o ddŵr ynddi. Yn anffodus,
ymddengys mai fel man dinod yr ystyrir y safle heddiw. Pan ymwelais â't ffynnon
flwyddyn yn ôl roedd ffrwd nerthol yn llifo ohoni a'r safle wedi ei hamgylchynu
a gwaith cerrig a'r dŵr grisialaidd yn cronni mewn pwll. Ond nid dyna'r
hanes heddiw. Mae'r safle wedi ei lenwi â phridd a'r gwaith cerrig wedi ei
wasgaru. Mae'r ffrwd bellach yn tarddu yn is i lawr ond mewn llecyn sy'n llawer
mwy lletwith i’w gyrraedd. Er bod y ffrwd yn un mor bwerus, teimlaf fod
rhywfaint o urddas y safle wedi ei golli.
Dyna hanes dwy ffynnon ar Benrhyn Gŵyr, dwy a fu'n gyrchfan i bererinion ar u adeg ond prin yw'r parch a roddir iddynt nawr fel y dengys tystiolaeth ddiweddar. Erbyn heddiw, adeilad o'r enw y King's Head sy'n diwallu anghenion pererinion sychedig Llangynydd!
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc