Home Up

ARWYDDOCÂD FFYNHONNAU FEL MANNAU I NODI FFINIAU PLWYFI

(Codwyd yr wybodaeth ganlynol o erthygl gan Tristan Grey Hulse yn y cylchgrawn Living Springs, Tachwedd 2002)

Nid mannau i gael dŵr yn unig oedd ffynhonnau; byddai cymunedau yn ymweld â nhw wrth gerdded ffiniau’r plwyf yn flynyddol. Wrth i’r arfer hwnnw beidio collwyd lleoliad mwy nag un ffynnon, mae’n siwr. Ambell dro unig arwyddocâd ffynnon oedd ei bod yn nodi’r ffin rhwng un plwyf a’r plwyf nesaf a’i bod yn werthfawr fel tarddiad dŵr glân. Enghraifft o’r math yma o ffynnon yw Ffynnon Fedw, rhyw ddwy filltir i’r gogledd-orllewin o Gaerwys (SJ1272)yn sir y Fflint. Dyma sydd gan Edward Lhuyd i ddweud amdani yn Parochalia:

Ffynnon vedw y Tervyn ar bl[wyf] Dim herchion lhe bydhis ar darlhen yn amser Prosessiwn.

(Ffynnon Fedw ar derfyn plwyf Tremeirchion lle byddid yn darllen yn amser prosesiwn.)

     Ffynnon arall sydd ar y ffin rhwng plwyfi Caerwys a Bodfari yw Ffynnon Mihangel.(SJ124729) Hon yw ffynnon sanctaidd plwyf Caerwys gan fod yr eglwys wedi ei chysegru i Fihangel Sant. Llifa afon Mihangel o’r ffynnon ac yn ôl Lhuyd arferid offrymu pinnau yn y ffynnon fel modd o gael gwared â defaid ar ddwylo. Roedd ei dyfroedd hefyd yn effeithiol ar gyfer cryfhau’r golwg. Roedd pobl yn dal i gyrchu ati yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Arferid mynd at y ffynnon adeg y Pasg ac roedd unwaith gapel bach yn sefyll nid nepell oddi wrthi.

      Mae cofnod wedi goroesi sy’n disgrifo llwybr y daith o gwmpas ffiniau bwrdeistref Dinbych. Dechreuwyd cerdded ger ffynnon a elwid yn Ffynnon Ddu ym mhlwyf Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch,(SJ0863) i afon Clwyd, ar hyd nant Aberham (SJ090658) sy’n croesi’r ffordd dyrpeg o Ddinbych i Ruthun. Yna aed ar hyd afon Clwyd tua’r gogledd i’r man ble llifa nant o Ffynnon y Cneifiwr(SJ149685) i’r afon cyn dilyn y nant i’w tharddiad yn y ffynnon. Oddi yno aed i Blas Heaton a fferm o’r enw Hen Blas Heaton, heibio i Garn House i gae oedd gynt yn dir comin yn union y tu ôl i ficerdy Henllan. O’r fan honno aed i felin Henllan  (SJ0268)ac oddi yno ar hyd glan afonig Abermeirchion i’w tharddiad yn Ffynnon Meirchion . Yna aed i dŷ o’r enw Leger, ymlaen at dŷ a elwid Fach, i Bandy Ucha a Phandy Isa,( SJ035682) i dŷ o’r enw Pen-y-bryn, oddi yno i hen garreg ffin ar y ffordd o Ddinbych i Nantglyn yn Waen Twm Pi, ac oddi yno i Ffynnon Ddu o’r lle y cychwynnwyd y daith. Gwelwn mai dŵr oedd yn diffinio tua hanner ffiniau’r fwrdeistref.

     Hyd y gwyddom nid oes traddodiadau wedi goroesi am Ffynnon Ddu. Mae Ffynnon Meirchion yng Nglan Meirchion a dyma darddiad afon Meirchion sy’n llifo i’r gogledd o bentref Henllan, heibio i Lys Meirchion ar ei ffordd i ymuno ag afon Elwy. Yn ôl rhai gwybodusion, Meirchion oedd hen hen daid Gwenfrewi. Nid oes unrhyw draddodiadau wedi goroesi am Ffynnon y Cneifiwr ond roedd yn fan o bwys i nodi ffin y fwrdeistref. Yn aml bydd ffynhonnau fel hon yn colli eu statws wrth i’r arferiad o gerdded y ffiniau beidio. Hawdd iawn colli lleoliad ac enw ambell ffynnon wrth i gymdeithas anghofio’r hen draddodiadau a oedd mor bwysig i’n tadau gynt.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif  22 Haf 2007

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

 

Home Up