LLANGELER A PHENBOYR
FFYNHONNAU'R PLWYFI
Dau blwyf yn sir Gaerfyrddin, ger y ffin â Cheredigion, yw Llangeler a Phenboyr. Yn 1899 ysgrifennwyd llyfr ar hanes y ddau blwyf gan David E. Jones. Dyma ddetholiad o'r hyn sydd ganddo i'w ddweud am ffynhonnau'r ardal ar dudalennau 11 -14.
Y mae'r ddau blwyf yn gyfoethog o ffynhonnau. Ceir ffynnon ragorol yn byrlymu yn ymyl pob pentref ac ni raid i bobl unrhyw ffermdy na bwthyn fynd ymhell, hyd yn oed yn yr haf, i chwilio am ddwfr at eu gwasanaeth. Y ffynhonnau mwyaf grymus ydynt Ffynnon yr Orfa a Ffynnon Christmas ar ros Llangeler. Byrlyma nentydd yn ffrydlif hoyw o'r ffynhonnau hyn. Mae ffynhonnau parhaol ar y rhai yr ymddibynir gan drigolion y pentrefi a'r cymdogaethau sydd nesaf atynt. Nid yw y nifer fwyaf ohonynt byth yn pallu. Saif Ffynnon Capel gerllaw Capel Bach neu Capel Drindod rhwng Drefach a Felindre. Mae Ffynnon Cybyddion yn allt y Goitre ac yn ôl traddodiad dywedir fod yr hen ffordd i Gaerfyrddin yn mynd heibio iddi yn yr amser gynt. Flynyddoedd yn ôl roedd Ffynnon Ffald ym mhentref Felindre ar safle ffald berthynol i Gwrt-Clyd, Maenor Emlyn Uwch Cuch. Arferai trigolion Llangeler dynnu dwfr o Ffynnon Dderw a Ffynnon Geler. Nid oes un o'r ddwy yn awr yn agored i'r cyhoedd. Mae y naill yn eiddo i berchennog Castell Geler a'r llall wedi ei chau i fyny i gyflenwi plas Llysnewydd a dwfr. Roedd Ffynnon Wichell ar odre rhiw Aberlleiniau yn ffynnon gryf iawn. Nid anaml y gwelwyd rhai o Gastellnewydd, ar dymhorau sychion, yn dod i gyrchu dwfr ohoni.
Mae rhai ffynhonnau yn y plwyfi a ystyrid yn gysegredig a cheir eraill sydd a'u henwau yn awgrymu eu bod, un amser, yn cael eu hystyried yn ffynhonnau o'r fath. Roedd Ffynnon Geler ar ddarn o dir oedd, un amser, yn perthyn i eglwys Llangeler. Yr oedd y ffynnon hon yn gysegredig i Geler Ferthyr a dywed traddodiad fod cleifion ac anafusion o bellterau yn talu ymweliad â hi ac yn ymolchi yn ei dyfroedd a chael iachad a llawer o weithredoedd nerthol a wnaud drwy rinwedd ei ffrydiau yn yr amser gynt. Mae Ffynnon Llawddog mewn gallt gerllaw eglwys Penboyr a elwid yn Bron Llawddog. Ffynnon gysegredig ydoedd hon i Lawddog, nawdd sant eglwys Penboyr. Y mae amryw o ffynhonnau yma a thraw yng Nghymru yn dwyn ei enw, a diamheu fod ei dyfroedd yn cael eu hystyried yn feddyginiaethol.
Mae Ffynnon Fair ar dir Llwynffynnon ac mae Capel Mair yn sefyll heb fod ymhellFfynnon Dudur o'r ffynnon yma. Yng ngallt Ffynnon-y-Forwyn ger Llysnewydd mae Ffynnon-y -Forwyn. Ceir Ffynnon Beder yng Ngwmpengraig. Enwa y prifathro John Rhys hefyd fel yn perthyn i'r dosbarth hon o ffynhonnau.
Mae rhai Ffynhonnau Metalaidd (Chalybeate Springs) i'w cael yn y plwyfi hyn i'r rhai y cyrchir gan lawer o ddieithriaid yn ystod misoedd yr haf. Nid yw y Cynghorau Plwyfol a Dosbarthol na'r plwyfolion hyd yn hyn wedi cymeryd y drafferth lleiaf i wneud y ffynhonnau hyn yn hysbys na'u haddurno mewn un modd er mwyn eu gwneud yn atyniadol, onide, diamheu y buasent yn gyrchfannau llawer rhagor o ddieithriaid. Y ffynhonnau metalaidd ydynt Ffynnon Beca gerllaw Felindre. Dywed Carlile yn ei Topographical Dictionary taw tua diwedd y ganrif ddiwethaf y darganfuwyd y ffynnon hon. Saif mewn dyffryn hynod o dlws a theg ond erys, o bosib, mor ddiaddurn os nad mwy felly, nag oedd bedwar ugain mlynedd yn ôl. Saif Ffynnon y Geulan (Goulan) Ddu ar ros Llangeler, gerllaw Brwynduon. rhad ei dwfr i afon Shedi. Yn y blynyddoedd diwethaf y darganfuwyd Ffynnon Llanwrtyd neu Ffynnon y Beca y Rhos. Mae hon yn ffynnon rhagorol a saif ar ochr y ffordd newydd sy'n croesi Rhos Llangeler o Bwlchygroes i Brwynduon, heb fod ymhell o'r Garn Wen. Llifa ei dwfr i Nant Einon.
Enwau meysydd yn Cwmtywyll a Phantyporthmon yw Cae Ffynnon Floiddast a Bron Ffynnon Floiddast. Mae ffynnon o'r enw ar y cae ar ben y bryn. Gall taw bloeddwest ydy'r ffurf cywir lle y canai y corn i giniaw.
Tybed a oes plwyfi eraill yng Nghymru a'r fath gyfoeth o ffynhonnau wedi eu cofnodi? Mae yma faes ymchwil bendigedig i rywun ifanc sydd am astudio daearyddiaeth a hanes lleol ei fro. Ganrif wedi i'r gyfrol gael ei chyhoeddi nid oes dim, hyd y gwyddom, wedi ei wneud gan gynghorau lleol i gadw i'r oesoedd a ddêl y ffynhonnau a fu.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 11 Nadolig 2001
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
O GWMPAS Y FFYNHONNAU
FFYNNON WICHELL, LLANGELER, SIR GAERFYRDDIN.
SN3739
Yn 1899 ysgrifennwyd cyfrol yn cynnwys hanes plwyfi Llangeler a Phenboyr yn Sir Gaerfyrddin gan David E Jones. Rhoddodd lawer o sylw i ffynhonnau’r ardal ac yn eu plith Ffynnon Wichell. Meddai- Mae Ffynnon Wichell ar odre rhiw Aberlleiniau yn ffynnon gryf iawn. Nid anaml y gwelwyd rhai o Gastellnewydd, ar dymhorau sychion, yn dod i gyrchu dwfr ohoni. Rhoddwyd gwybodaeth am y ffynnon hon yn ogystal â ffynhonnau eraill y fro yn Llygad y Ffynnon Rhif 11 2001. Yn ddiweddar daeth gwybodaeth am y ffynnon arbennig hon gan Bob Bright. Mae’r Cyngor Sir yn gwneud gwaith ar y ffordd gerllaw’r ffynnon. Meddai Bob:
FFYNNON WICHELL, LLANGELER
“Heddiw ( Calan Mai) cwrddais gyda’r clerc ac un aelod o Gyngor Bro Llangeler, Cynghorydd Sirol lleol a dau o bobl o’r Cyngor Sir, un oedd pennaeth adran priffyrdd yn ein hardal ni. Mae’n debyg eu bod nhw wedi gwneud difrod i’r ffynnon fel rhan o’r gwaith i wella’r ffordd. Doedd ganddyn nhw ddim gwybodaeth am y ffynnon nag unrhyw gynllun i’w hadfer. Wedi i ni gyfarfod heddiw cefais addewid y byddan nhw yn trwsio ac ailadeiladu Y Wichell dros y mis nesaf a gobeithio y bydd y ffynnon yn llifo’n iachus unwaith eto.”
Diolch i Bob. Mae’n siŵr ei fod wedi achub y ffynnon drwy ddangos diddordeb ac agor llygaid yr awdurdodau i bwysigrwydd y ffynnon.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 34 Haf 2013
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
PYTIAU
DIFYR
O
HANES PLWYFI LLANGELER A PHENBOYR
gan
Daniel E Jones (1899) Tud. 1 1-13
Ffynnon Geler
ar ddarn o dir oedd un
amser yn perchyn i eglwys Llangeler. Yr oedd y ffynnon hon yn gysegredig i Celer
Ferthyr; a dywed traddodiad fod cleifion ac anafusion o bellderau yn talu
ymweliad â hi, ac yn ymolchi yn ei dyfroedd, a chael iachad; a llawer o
weithredoedd nerthol a wnaed drwy rinwedd ei ffrydiau yn yr amser gynt.
Ffynnon Llawddog,
mewn gallt gerllaw eglwys
Penboyr a elwir yn Bron Llawddog. Ffynnon gysegredig ydoedd i Lawddog, nawdd
sant eglwys Penboyr. Y mae amryw ffynhonnau yma a thraw yng Nghymru yn dwyn ei
enw, a diamheu fod eu dyfioedd yn cael eu hystyried unwaith yn feddyginiaethol.
Ffynnon
Fair, at dir Llwynffynnon. Mae
Capel Mair yn sefyll heb fod ymhell o’r ffynnon hon.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 36 Haf 2014
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
Ffynnon
Wichell, Penboyr.
O “Baner ac Amserau Cymru”
8.11.1902, tud. 5.
“Cynghor Plwyfol Penboyr
Cynnigiodd Mr. Rees Jones fod y ffynnon
a elwir Ffynnon Wichell mewn gwir angen ei hadgyweirio, a bod y Cynghor Plwyfol
yn gwneyd y gwaith; ac y byddai y trigolion oedd yn defnyddio y dwfr yn dwyn
hanner y draul. Cynnygiwyd gwelliant gan Mr. Evan Evans, ac eiliwyd gan Mr. John
Evans, Esgair Villa, fod dau aelod o'r cynghor, ynghyd a Mr. Rees Jones, i ofyn
caniatad y rhai sydd yn dal y tir yn gyntaf, ac yna i'r gwaith gael ei wneyd. Yr
aelodau a ddewiswyd oeddynt y Mri. D. Hugh Lewis, a David Lewis.”
Ac o’r un papur, 7.2.1903, tud. 6.
“Darllenwyd gohebiaeth oddi wrth y
Cynghor Dosbarth, am roddi cynllun o waith a fwriedir ei wneyd ar Ffynnon
Wichell, a'i anfon iddynt, er mwyn ei osod ger bron goruchwyliwr ystad Dolhaidd.
Gohiriwyd hyny hyd y cyfarfod nesaf, yr hwn sydd i'w gynnal yn fuan.”
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 51 Nadolig 2021
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc