NARBERTH
FFYNNON YR OFFEIRIAD
ADDURNO
FFYNHONNAU
Eirlys Gruffydd
Mae rhannau o Loegr yn enwog am addurno’u ffynhonnau ac
mae sawl un wedi gofyn imi a oedd yn arferiad gwneud hyn yng Nghymru hefyd. Mae
peth tystiolaeth fod pobl yn taenu blodau a changhennau o goed, llwyni a cherrig
o gwmpas ffynhonnau yn siroedd Morgannwg, Penfro a Maesyfed pan ymwelid â hwy
ar adegau arbennig fel Dydd Calan, ar ddydd Llun y Pasg neu ar Galan Mai.
Roedd plant yn arfer addurno Ffynnon yr Offeiriad neu Priest’s
Well ger Red Cottages, Narberth, sir Benfro ar Galan Mai, gyda changhenau
o’r gerddinen neu’r griafolen (mountain
ash) neu cayer fel y’i gelwid yn
lleol. Roeddent hefyd yn addurno’r ffynnon a briallu Mair (cowslip)
er mwyn cadw gwrachod rhag witsio’r teuluoedd a ddeuai at y ffynnon i godi dŵr
Tybed a oes rhywun yn gwybod am enghreifftiau eraill yng
Nghymru? Byddai’n ddiddorol clywed amdanynt.
Yn ddiweddar cefais afael ar lyfryn bach o’r enw The
Well-Dressing Guide gan Crichton Porteous a gyhoeddwyd yn Derby yn 1962. Roedd
yr awdur eisoes wedi cyhoeddi llyfr ar addurno ffynhonnau yn 1949 o dan y teitl
The Beauty and Mystery of Well-Dressing ac felly yn gryn awdurdod ar y pwnc. Ei
eglurhad ef o’r awydd i addurno ffynhonnau yw fod pobl wedi teimlo’r angen i
dalu gwrogaeth i hen dduwiau’r dyfroedd gan fod dŵr yn hanfodol i fywyd.
Ofn oedd yn ein hysgogi i aberthu i lynnoedd, afonydd a ffynhonnau. Gall afonydd
sy’n gorlifo greu dinistr ofnadwy, fel y gwelsom adeg y Pasg eleni. Gwyddom
fod pethau gwerthfawr o aur wedi eu taflu i lynnoedd yma yng Nghymru gan ein
cyndadau Celtaidd. Roedd y Rhufeiniaid yn parchu’r ffynhonnau ac wedi iddynt
ymadael â’r wlad ac i Gristnogaeth ddod yn rym yn y tir daeth y ffynhonnau yn
fannau sanctaidd i’r seintiau. Ffordd o ddiolch iddynt oedd addurno’r
ffynnon â choed a blodau a chynnal gwasanaethau ar lan y dyfroedd tawel.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 4 Haf 1998