Home Up

NANTGAREDIG

 

FFYNNON DEILO

Annwyl Olygydd,

Ar dir fy ffrind ym mhentref , Nantgaredig sir Gaerfyrddin, mae hen ffynnon a elwir yn Ffynnon Deilo. Dyma oedd enw tŷ fy nghyfaill tan y 1920au pan newidiwyd ef i Erw Lon. Gyferbyn mae bwthyn sy'n dal i gael ei alw yn Ffynnon Deilo. Ceir Ffynnon Deilo yn Llandeilo hefyd - efallai bod cysylltiad rhwng y ddwy. Ar hyn o bryd gwartheg sy'n defnyddio'r ffynnon. Mae'n tarddu o gerrig wrth ochr yr A40, ganllath a sgwâr Nantgaredig i gyfeiriad Llandeilo. Roedd Sôn amdani yn yr Archaeologia Cambrensis a gyhoeddwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. (Cyfeirnod Map - ardal Abertawe a Gŵyr 159: 496 / 217)

Rhobert ap Steffan, Llangadog.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 10 Haf 2001

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up