NANHYFER
O GWMPAS Y FFYNHONNAU
FFYNHONNAU PERERINDOD
Yn ystod yr haf 2009 aeth nifer o bobl o ardal Llanelli, Sir Gaerfyrddin, ar bererindod o Ffald y Brenin i Dŷ Ddewi. Cymerodd y daith dri diwrnod ac ar flaen gorymdaith y pererinion wrth iddynt gerdded, roedd croes fawr yn cael ei chario a hyn yn tynnu sylw llawer o bobl ar y daith. Buont yn cysgu ar lawr dwy neuadd a Chanolfan Ieuenctid. Ymarfer oedd y daith hon ond yn 2010 bydd y bererindod ei hun yn digwydd. Mae’n eciwmenaidd a gallwch gerdded rhan o’r daith yn unig os dymunwch.
Ymwelwyd â’r eglwys yn Nanhyfer a gysegrwyd i Frynach Sant. Roedd mwy nag un ffynnon wedi ei chysegru i’r sant yma yn sir Benfro ond collwyd rhai ohonynt. Roedd un, fel y gellid disgwyl, yn Llanfrynach,(SO 0725) rhyw filltir a hanner i’r de o’r eglwys ac roedd hon yn ffynnon rinweddol. Mae wedi diflannu erbyn hyn. Ym mhlwyf Castellhenri (SN0427), ger Capel Brynach a rhyw dri chwarter milltir i’r gogledd ddwyrain o eglwys y plwyf roedd ffynnon arall a gysegrwyd i’r sant. Roedd y gwaith cerrig drosti yn debyg iawn i Ffynnon Gapan.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 27 NADOLIG 2009
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
S