Home Up

MYNYTHO

 

FFYNNON FYW

  (SH23 30913087) 

FFYNNON FYW, MYNYTHO, LLŶN.

Mae arwydd pwrpasol wedi ei osod i ddynodi safle'r ffynnon gan Gyngor Dwyfor. Diolch iddynt am fod mor ofalus o'r ffynhonnau hynafol yn yr ardal. Yn ddiweddar tynnwyd y mur oedd ar ochr orllewinol y ffynnon i lawr gan ei fod yn beryglus. Ond yn anffodus, bydd bellach yn haws i'r tyfiant o gwmpas y ffynnon ei chuddio ac i'r gwaith cerrig o'i chwmpas, ac yn wir y ffynnon ei hun, gael ei sathru dan draed ymwelwyr. Ar un adeg roedd y mur o gwmpas y ffynnon yn mesur tua phedair i bum troedfedd o uchder, a drws pwrpasol yn y mur i fynd iddi.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 10 Haf 2001

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFYNNON FYW

  (SH23 30913087)

Mae'r ffynnon arbennig hon wedi cael cryn sylw gennym yn Llygad y Ffynnon dros y blynyddoedd a hynny am ei bod yn ffynnon ddiddorol ei hanes a'i phensaernïaeth. Wrth ymweld â hi y llynedd, tristwch i ni oedd sylwi fod y muriau cerrig hynafol wedi eu dymchwel gan unigolion nad oeddynt yn sylweddoli eu gwerth hanesyddol na phensaernïol. Hawdd oedd darogan y byddai'r ffynnon hardd hon yn diflannu o dan y rhedyn ymhen dim amser. Eleni buom ar ymweliad â'r safle a chael nad oedd dim ond yr arwydd yn dynodi'r fan. Nid oedd modd gweld y ffynnon ei hun heb sôn am fynd ati. 

Mewn ymgais i geisio achub y ffynnon ysgrifennwyd at Brif Weithredwr Cyngor Dwyfor ddiwedd mis Awst i leisio ein pryder y byddai'r ffynnon yn cael ei difrodi ymhellach os na wneir rhywbeth sylweddol i'w diogelu, a hynny ar fyrder. (Mae tŷ yn cael ei adeiladu bron gyferbyn â'r ffynnon ac ofnwn y bydd y safle'n cael ei orchuddio â rwbel neu wastraff tebyg.) Gofynnwyd a oedd yn bosibl ailadeiladu'r muriau neu rhoi ffens neu relings i ddiogelu'r ffynnon. Byddai clirio'r tir o'i chwmpas er mwyn gweld ei phensaernïaeth yn gam mawr ymlaen.

 Derbyniwyd ateb gan Gyngor Gwynedd ar Hydref 13eg yn dweud fod y mater wedi ei anfon ymlaen at Gyngor Gwynedd. Yn y man daeth ateb yn ôl gan Gyfarwyddwr Strategol y Cyngor, Iwan T. Jones, yn dweud fod nifer o bobl wedi tynnu eu sylw at gyflwr ffynhonnau Llŷn, a chan fod yr ardal yn un o harddwch naturiol eithriadol roedd yn bosibl datblygu prosiect i edrych ar y posibilrwydd o adfer nifer o ffynhonnau.

 Dywedodd fod Ffynnon Fyw ar dir preifat ac y byddai agwedd y perchennog yn allweddol i lwyddiant unrhyw gynllun. Fe'n cyfeiriodd at Swyddog AHNE (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol), sef Bleddyn P. Jones. Gofynnodd inni a fedrem gynnig cefnogaeth a chyngor ymarferol a holodd a oedd gennym aelodau a fyddai â diddordeb mewn gweithio ar brosiect yn Llŷn.

 Yn y cyfamser roeddem wedi derbyn ateb gan Bleddyn P. Jones o Adran Cynllunio a Datblygiad Economaidd yngor Dwyfor ar Fedi'r 9ed. Roedd am ofyn ein barn ar y prosiect. Nododd yn ei lythyr:

 Mae rhan o Benrhyn Llŷn wedi ei dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Yn ddiweddar mae cyfrifoldeb ychwanegol ar Awdurdodau lleol i gynnal a gwarchod yr ardaloedd hyn. Yn sgil hyn mae Cronfa Datblygu Cynaladwy wedi ei sefydlu i gefnogi prosiectau amgylcheddol yn yr ardal ac mae arian hefyd ar gyfer prosiectau penodol yn yr AHNE. Mae nifer wedi tynnu fy sylw at y cyfoeth o ffynhonnau sydd yn Llŷn a chyflwr truenus rhai ohonynt.

 Fy nheimladau yw y gellir cael prosiect ymchwil fyddai'n cynnwys cofnodi enw, hanes, lleoliad, perchnogaeth a chyflwr ffynhonnau. Gallai hyn gynnwys barn arbenigol pensaer cadwraethol. Gellir dilyn hyn gyda rhaglen o adfer/gwella rhai ffynhonnau sydd ar dir cyhoeddus neu lle byddai'r tirfeddiannwr yn fodlon. Byddwn yn ddiolchgar o dderbyn unrhyw awgrymiadau neu gymorth y gallech ei roi.

 Yn ein hateb i Bleddyn Jones ddiwedd mis Medi dywedwyd fod ei gynllun cofnodi gwybodaeth am ffynhonnau wedi bod yn nod  gan y Gymdeithas o'r dechrau. Fe'i cyfeiriwyd at ffynonellau printiedig megis Llên Gwerin Sir Gaernarfon gan Myrddin Fardd, The Holy Wells of Wales gan Francis Jones a'r gyfrol Ffynhonnau'r Gogledd yn y gyfres Llyfrau Llafar Gwlad. Nodwyd fod potensial mawr i ddenu twristiaid i Ddwyfor drwy adfer y ffynhonnau gan eu bod o ddiddordeb i drawsdoriad eang o'r boblogaeth, yn gerddwyr, haneswyr a naturiaethwyr. Nodwyd hefyd y gallai llwybrau a ffynhonnau'r pererinion fod o ddiddordeb arbennig iawn.

 Mawr obeithiwn y bydd y prosiect hwn yn mynd yn ei flaen. Os gwyddoch am unrhyw un a fyddai â diddordeb mewn gweithio ar brosiect o'r fath, neu os ydych chi eich hun yn awyddus i wybod mwy am y prosiect, cysylltwch â Bleddyn P. Jones ar 01758 704155. Ei gyfeiriad yw swyddfa ardal Dwyfor, Ffordd y Cob, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5AA. Cofiwch ddweud eich bod yn aelod i Gymdeithas Ffynhonnau Cymru.

 LLYGAD Y FFYNNON Rhif 15 Nadolig 2003

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFILMIO’R FFYNHONNAU  

 Eirlys Gruffydd

Yn ystod mis Gorffennaf eleni gofynnwyd i Ken a minnau fynd gyda chwmni Teleg i ffilmio ffynhonnau ym Mon, Arfon, Llyn, Eifionydd, Powys, Ceredigion a Chaerfyrddin. Buom yn ymweld a ffynhonnau a oedd yn gyfarwydd i ni, yn edrych ar eu cyflwr ac yn digalonni o weld cyflwr truenus rhai ohonynt ond yn llawenhau wrth weld fod eraill yn amlwg yn cael gofal. Llwyddwyd hefyd i ymweld ag un ffynnon newydd. Mawr yw ein diolch i Michael Bailey Hughes a’i fab Sion am eu cwmni a’u caredigrwydd i ni yn ystod y dyddiau y buom yn ffilmio.  

Ar ol mwynhau cinio ym Mhwllheli aethom draw i Fynytho a sefyll mewn digalondid ar safle Ffynnon Fyw. (SH309308) Fel y gwyddom mae’r muriau oedd yn amddiffyn y ffynnon wedi eu dymchwel ac mae’r rhedyn wedi gorchuddio’r safle. Gall y ffynnon arbennig hon ddiflannu’n llwyr a hynny o fewn ychydig flynyddoedd os na wneir rhywbeth i ‘w diogelu. Er ei bod ar dir preifat y mae hi hefyd yn grair hanesyddol a rhaid ceisio argyhoeddi CADW fod yma drysor gwerth ei hachub.

Ffynnon Fyw Mynytho - (fel y gallai fod)

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 17 Nadolig 2004

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

ADFER FFYNNON FYW

MYNYTHO 

(SH23 30913087)

Fel rhan o’r gwaith adfer sy’n dilyn ymchwil Elfed penderfynwyd canolbwyntio ar rai ffynhonnau i’w hadfer. Yr un a oedd yn peri’r pryder mwyaf i’r Gymdeithas oedd Ffynnon Fyw, Mynytho a oedd wedi ei gorchuddio â thyfiant. Ychydig amser yn ôl daeth newyddion da o Benrhyn Llŷn fod y gwaith o adfer Ffynnon Fyw wedi dechrau. Dyma luniau sy’n cofnodi’r gwaith:

               Wedi clirio’r rhedyn,                                        

y drain a’r mieri oedd wedi tyfu dros y ffynnon.    

Enw’r ffynnon a’r adeiladwaith 

 i’w gweld unwaith eto.

Adwy i’r safle

Y baddon wedi tagu â thyfiant

Y ffynnon wedi ei glanhau

Y safle yn dangos y ffynnon a’r baddon

a seddau o gerrig mawrion yn y wal bellaf

 Y bwriad nawr yw ailgodi’r waliau i tua thair i bedair troedfedd o uchder a rhoi giât haearn ynddynt i alluogi ymwelwyr i fynd at y ffynnon. Diolch i Bleddyn Jones a chronfa’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol am weld yr angen a gwneud y gwaith. Mae’r ffynnon hon wedi cael ei hadfer a’i handwyo fwy nag unwaith yn ei hanes. Gobeithio nawr y bydd y gymuned leol yn sylweddoli fod ganddynt drysor yn eu meddiant a ddylai gael ei warchod yn barhaol. Diolch i Bleddyn am y lluniau hyn o’r gwaith. Gwahoddwyd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru i fod yn rhan o’r adfer.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 19 Nadolig 2005

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Y FFYNNON FYW YN BYRLYMU

Ym mis Ionawr bu aelodau o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru draw ym Mynytho yn ffilmio ar gyfer rhaglen deledu Saesneg am feddyginiaethau. Roedd y gweithwyr a fu’n adfer Ffynnon Fyw (SH23 30913087) yno i’n cyfarfod a hefyd Bleddyn Jones, y swyddog o Gyngor Dwyfor a fu’n gyfrifol am lywio’r cynllun adfer. Roedd cymaint o ddŵr yn y ffynnon nes gorfod cael dau bwmp i’w gwagio er mwyn trin y cerrig ar ei gwaelod. Lledwyd y gofer a’r sianel sy’n cludo’r dŵr ymaith er mwyn i’r llifeiriant gael llifo’n rhwydd. Codwyd ffens gref â giât o’i chwmpas a bellach mae’n ddiogel am flynyddoedd i ddod. Erbyn hyn mae Ffynnon Aelrhiw yn Rhiw (SH23392848) hefyd wedi ei glanhau. Diolch i Gyfeillion Llŷn am eu gwaith ac edrychwn ymlaen at weld mwy o ffynhonnau’r fro yn cael eu hadfer.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 20 Haf 2006

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFYNHONNAU LLŶN

Bu Bleddyn Prys Jones, sy’n gweithio i Gyfadran yr Amgylchedd yng Nghyngor Gwynedd, a’i dîm yn brysur yn adnewyddu nifer o ffynhonnau Llŷn sy’n ardal o harddwch naturiol eithriadol. Eisoes gwelsom y gwaith rhagorol a wnaed ar Ffynnon Fyw, Mynytho (SH30913087) mewn ôl rifynnau o Llygad y Ffynnon. Bellach mae bwriad i osod plac llechen a chreu llwybr ger y ffynnon honno.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 24 Haf 2008

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

PYTIAU DIFYR

Ffynhon Arian a Ffynnon Fyw

Dyma’r hyn sy gan y Parchedig J. Daniel i’w ddweud am ddwy ffynnon, Ffynnon Arian (SH 304309) a Ffynnon Fyw (SH 23309308) Mynytho, ar dudalennau 117 ac 118 yn ei gyfrol Hynafiaethau Llyn ( Nixon a Jarvis, Bangor, 1892). Cadwyd y sillafu gwreiddiol.

Ffynhon Arian 

Gwelir y Ffynhon hon islaw y ffordd, gerllaw Foel Gron. Ond cyn rhoddi desgrifiad o honi, efallai mai doeth fyddai i ni ddywedyd ychydig eiriau yng nghylch yr elfen a gynnwysa. Dywed Proffesor Rhys am “Deva” mai yr hên ffurf Gymreig yw “doiu,” neu “duiu” = “dwyw”= “dwywol”= “dwyfol”, oherwydd fod “dwfr” yn cael ei ystyried yn un o’r elfenau cyssegredig yn yr hên amseroedd. Yn unol â’r gred hon, rhai a farnant oddiwrth yr enw “arian” sydd yng nglyn â gwrthddrych ein pennawd, fod swynyddiaeth wedi cael ei harfer yma yn yr oesoedd ofergoelus a aethant heibio, ac y byddid yn taflu pinau, a darnau o arian i’r dwfr, gan feddwl y buasai hyny yn sicrhâu ei amcanion i’r sawl a fyddai yn ymwneyd â’r ddefod. Beth bynag am hyn, y mae y Ffynhon o wneuthuriad digon destlus, ac yn arddangos mwy o arwyddion gwasanaeth teuluaidd na dim arall yn y dyddiau diweddaf hyn. Adeiladwyd ei phedair ochr â phedair carreg, a gosodwyd carreg arall yn nenfwd iddi, er mwyn cadw ei dwfr yn lân.

Mor aml y gwelwyd plantos

Hen Ysgol dda Foel Gron

Yn rhedeg am y cyntaf

I yfed dyfroedd hon!

Ond llawer un fu’n chwareu

O’i deutu’n llon ei wêdd,

Sydd erbyn heddyw’n gorwedd,

Yn dawel yn ei fêdd.

 

Fynhon Fyw

I lawr ar fron y llechwedd, rhwng Ffynhon Arian ag Aberoch, ond ei bod ychydig yn fwy i’r aswy, ar dir Assheton Smith, y mae y ffynhon hon. Amlygir hi gan fur pedwar-onglog (square), tua llathen o drwch, a dwy lath o uchder, fel nas gellir myned i fewn iddi, ond trwy ddôr derw yn yr ystlys. Dosberthir ei baddon yn ddwy ran, gan ganolfur o feini wedi eu gweithio yn ofalus; ac y mae yr adran fwyaf ohono yn mesur pedair llathen o hyd a thair o led, a’r lleiaf tua llathen o led ac ychydig yn rhagor o hyd. Ffurfiwyd grisiau i fyned i lawr i’r dwfr, ac y mae seddau cerryg ar bwys y mur tu fewn yn yr ochr Orllewinol a’r ochr Ddwyreiniol. Fel y dengys trefniadau y Ffynhon, yr oedd rhan o honi i’r claf ymdrochi, a’r rhan arall iddo i yfed ei dwfr. Dywed Traddodiad mai yr achos cyntaf o’i sefydliad ydoedd ymweliad dyn dall, yr hwn, ar ol golchi ei lygaid yn ei dyfroedd oerion, a gafodd ei olwg. Hysbysir ni fod llawer yn ei mynychu yn y blynyddoedd a aethant heibio, ac wedi eu hiachâu. Gan ei bod yn tarddu mewn mangre mor dlawd, a llecyn mor ddiaddurn, a chan ein bod yn gweled yma ffrwyth llafur nid bychan, a chryn lawer o dreuliadau mewn arian yn yr holl gelfyddydwaith, tueddir ni i gredu fod rhyw sail i’r honiadau uchod, beth bynag sydd wir. Pa un ai yn gadarnhaol ynte yn nacäol y derbynir yr hyn a welwn â’n llygaid ac a glywwn â’n clustiau yng nghylch y Ffynhon Fyw, trueni mawr fod neb wedi caniatâu i blant chwarëus y lle i labyddio ei dyfroedd â meini, nes maent bron wedi ei llanw!

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 29 Nadolig 2010 

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

CLIRIO  FFYNHONNAU   LLŶN

Diolch i Bleddyn Prys Jones am ganiatáu i ni ddefnyddio’r wybodaeth yma o LLYGAD LLŶN.

 Clirio Ffynnon Aelrhiw (SH23392848)  MEHEFIN 1af 2014

Treuliwyd diwrnod difyr unwaith eto yn tacluso safle un o ffynhonnau hanesyddol Llŷn. Mynytho oedd y lleoliad y tro hwn a diolch i’r sawl ymunodd â ni i gynorthwyo. Dyma ffynnon  ddiddorol iawn gyda gwaith cerrig trawiadol o’i chwmpas. Fe’i lleolir i lawr heibio Capel Horeb a cheir golygfeydd arbennig iawn oddi yno i Fae Ceredigion a thu hwnt. Yn ôl traddodiad, mae dŵr y ffynnon yn llesol at anhwylderau’r llygaid ymhlith afiechydon eraill. Mae ffynhonnau Llŷn yn nodweddion hanesyddol diddorol ac yn rhan bwysig o’n treftadaeth. Gwaith pwysig felly yw ceisio gofalu amdanynt. Rydym yn gobeithio bydd cyfle eto yn y dyfodol i gydweithio gyda Chadwch Gymru’n Daclus i dacluso mwy o safleoedd. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan Llygad Llŷn ac yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno â ni.

Mae angen calon gref a chorff cryf i ddechrau ar y gwaith o glirio ffynnon. Yn anffodus nid yw’r mwyafrif o aelodau Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn ddigon tebol i wirfoddoli! Ugain mlynedd yn ôl hwyrach - ond nid nawr!(Gol.)

 

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 38 Haf 2015

 

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff

Croeso i Lŷn!

Cawsom ddiwrnod wrth ein boddau ddydd Sadwrn yr 16eg o Orffennaf, pryd y cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yng Nghanolfan Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr. Daeth criw go dda at ei gilydd, ac wedi’r Cyfarfod Cyffredinol ei hun yn y bore, aeth tua dwsin ohonom ymlaen ar wibdaith trwy Lŷn yn y pnawn, gan ymweld â thair ffynnon tan arweiniad brwdfrydig a gwybodus Gwynfor Ellis, Mynytho.

Gwynfor Ellis yn ei elfen wrth y Ffynnon Fyw.

Aethom ymlaen wedyn i Fynytho, lle ceir ffynnon nodedig a lwyr adferwyd yn ddiweddar, sef y Ffynnon Fyw. 

Mae hon yn darddell ddiddorol iawn, a gysegrwyd yn wreiddiol yn enw Curig Sant. Mae’i henw “Ffynnon Fyw”, braidd yn anarferol yng Nghymru, er fe’i ceir yn gyffredin yng Ngwlad Groeg megis symbol o’r Forwyn Fair, tarddle’r “dyfroedd bywiol”. Y mae o ddiddordeb neilltuol i aelodau’r Gymdeithas hon oherwydd y modd y’i llwyr adferwyd yn ddiweddar. Ar un adeg yr oedd agos wedi’i cholli yng nghanol drysni a llaid, ond trwy waith caled, penderfynol fe’i cliriwyd ac fe’i hatgyweiriwyd yn drylwyr iawn, fel ei bod bellach yn wirioneddol werth ei gweld. Os ydych am ymweld â hi, fe’i ceir y tu cefn o gapel Horeb, Mynytho, yng Nghyfeirnod Ordnans SH 30908 30876, Cod Post LL53 7RS.

 

Ffynnon Fyw, Mynytho, wedi ei hadfer.               

Ceir rhagor o hanes adfer y Ffynnon Fyw yn Rhifyn 15 (Nadolig 2003) Llygad y Ffynnon.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 41 Nadolig 2016.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff

 

Difrodi Ffynnon Fair, Llanfair-is-gaer

 

Er gwybodaeth, dyma ran o’r neges a yrrwyd at Ken Skates:

A ellir achub dim o Ffynnon Fair? Wn i ddim. Ar hyn o bryd nid oes yno ond pibell blastig hyll yn gollwng ychydig o’r llif a fu yno cyn y gwaith diweddar: mae’r gweddill, debyg yn llifo i’r ddaear rhywle o dan y llanastr. Y lleiaf y gellid ei wneud yw datgloddio yn ôl at y tarddiad fel yr oedd cyn y gwaith diweddar, a gosod, os oes modd, bibell gadarn i gludo’r holl lif allan i fan lle gellid ei weld unwaith yn rhagor. Gallai hynny fod yn gyfle i greu tarddle newydd a theilyngach ohoni, fel y gwnaed yn ddiweddar yn Ffynnon Wyddelan, Dolwyddelan, a Ffynnon Fyw, Mynytho: ond o weld eich gwaith hyd yn hyn, amheuaf a oes gennych chi, yr awdurdodau, unrhyw awydd gwneud dim o’r fath. ’Does dim cydymdeimlad lle ni fo cydwybod. 

LLYGAD Y FFYNNON   Rhif 46 Haf 2019

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

 

Home Up